Create successful ePaper yourself
Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.
Addysg Gymuned i Oedolion

Croeso i’n llyfryn ar gyfer 2010 sy’n llawn cyfleoedd a phrofiadau

cyffrous ar eich cyfer chi. Unwaith yn rhagor, mae gyda ni ddewis o

gyrsiau newydd gan gynnwys Cymdeithaseg, Gwau, Diwylliant a

Thraddodiadau Cymru yn ogystal â rhai o’ch hen ffefrynnau.

Mawr obeithiwn y byddwch chi’n mwynhau darllen trwy’n llyfryn a

byddwch chi’n dod o hyd i gwrs (neu ddau) fydd yn gymorth ichi

ddysgu gydol oes.

Pwy ydyn ni a beth rydyn ni’n ei wneud

Croeso

Mae Addysg i Oedolion Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn darparu

cyfleoedd dysgu o safon yn eich cymuned leol.

Mae ein carfan sydd â chryn brofiad yn cynnig gwerth am arian i unigolion,

sefydliadau a chylchoedd proffesiynol ac yn cynnwys ystod eang o bynciau.

Mae ein cyrsiau yn amrywio o’r rheiny sydd o gymorth i chi feithrin medrau

newydd gan gynnwys Cyfrifiaduron ac Ieithoedd i feithrin diddordeb newydd, er

enghraifft Peintio â Dyfrlliwiau, Ysgrifennu Creadigol neu Fywlunio.

Yn ogystal â hynny, rydyn ni’n cynnig ystod o gyrsiau mwy anghyffredin ac sy’n

ddelfrydol ar gyfer y sawl sy’n edrych am rywbeth gwahanol, er enghraifft

Coginio Bwydydd o’r India, Gwydr Lliw a Thriniaethau Harddwch.

Beth am ddewis cwrs

yn anrheg unigryw a pharhaol

Efallai y byddai cyfaill neu aelod o’r teulu yn mwynhau un o gyrsiau

poblogaidd Hel Achau, Hanes Lleol, Diwylliant Cymru neu Fedrau

Cyfrifiadur. Ar gyfer eich cymar, beth am roi cynnig ar Ffrangeg,

iaith cariadon!

Os hoffech chi drafod unrhyw rhai o’r cyrsiau hynny sy wedi’u

cynnwys yn y llyfryn yma, neu os oes gyda chi awgrymiadau ar

gyfer cyrsiau i’w cynnal yn y dyfodol, cysylltwch â ni.

Rydyn ni’n croesawu’ch awgrymiadau.

I gael gwybodaeth gyffredinol ffoniwch: 01443 741332

Ebost: adulteducation@rhondda-cynon-taf.gov.uk

Dilynwch Gwrs yn Rhondda Cynon Taf 2010/11

5