You also want an ePaper? Increase the reach of your titles
YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.
Dwi wedi

colli ’nghoes!

Cefais fy ngeni ym 1936 a dechreuais weithio

ym Mhwll Glo Bargoed House ym 1952. Ar

ôl hyfforddi, es i weithio yn y pwll glo stêm,

fel gwas coed i ddechrau ac yna’n gynorthwyydd

colier. Fe ddes i’n löwr gyda fy stent fy hun pan

oeddwn i’n 18 oed, a oedd yn anghyffredin bryd

hynny gan nad oeddech fel arfer yn cael eich lle’ch

hun nes cyrraedd 21 oed. Bues i’n gweithio ar y ffas

lo am bedair blynedd ar ddeg, yn gwneud gwaith

‘cloddio cyffredin’ yn bennaf yn llwytho’r glo ar y

cludfelt, er i mi dreulio’r ychydig flynyddoedd olaf ar

sawl ffas lo lle’r oedd peiriannau torri a

llwytho.

Pan oeddwn i tua 17 oed,

diffoddodd fy lamp a dyma’r ffeiarman

yn fy anfon i’n ôl i waelod y pwll gyda

bachgen arall yn dal golau i mi. Wrth i

ni gerdded o’r ardal, rhedodd y bachgen

i ffwrdd i gael tipyn o ‘hwyl’ a ’ngadael

i yn y tywyllwch dudew. Bu’n rhaid i mi

deimlo fy ffordd mas gan ddilyn y

cledrau dan fy nhraed. Pan gyrhaeddais

i waelod y pwll, dyna lle'r oedd y

cythrel yn chwerthin ar fy mhen i!

Roedd dyn yn gweithio ar yr hewl

pan gafodd ei ddal yn sownd rhwng

dram lawn ac ochr yr hewl. Roedd

wedi anafu’i gefn yn ddrwg, a gwaed

yn pistyllu o’r briw. Gallai deimlo’r

gwaed yn llifo i lawr ei goes, ac roedd

yn gweiddi ‘Dwi wedi colli ’nghoes!’

Chafodd e fawr o gydymdeimlad fodd

bynnag, achos fe waeddodd rhywun

yn ôl, ‘Well i ti siapio hi a hercian o ’na

te, achos allwn ni ddim dy gael di

mas!’.

Un tro, cefais innau fy nal gan

gwymp am ryw dair awr. Wrthi’n agor

ffas newydd oedden ni, ac yn

defnyddio sled fawr newydd wedi’i

chysylltu â rhaff halio ddiddiwedd i

gludo’r deunyddiau i mewn. Roedd y

bachgen a reolai’r injan braidd yn

wyllt, a llwyddodd i fachu rhai o’r

props ac achosi i’r to gwympo. Lwcus

mai pibelli metel 4 modfedd oedd yn

dod â’r aer i mewn i’r sia, yn

hytrach na’r pibelli hyblyg

diweddaraf, neu byddai pob un

ohonom wedi’n llorio gan y cwymp

ac wedi mygu i farwolaeth. Soniais

i’r un gair wrth mam am hyn – fyddai hi ddim wedi

gadael i mi fynd i lawr y pwll byth eto!

Gadewais y diwydiant pan oeddwn i’n 32 oed, a

mynd i weithio i British Nylon Spinners ym Mhonty-pŵl;

a hynny am sawl rheswm, ond yn bennaf

oherwydd bod fy nhad a’m hewythrod wedi dal y

dwst ac roeddwn i’n poeni y byddwn i’n dioddef

hefyd. Sbardun arall oedd y ffaith fod Nylon Spinners

yn talu’r un faint o gyflog â’r pwll glo.

Ron omas

My leg’s off

Iwas born in 1936 and started work in Bargoed

House Coal Pit in 1952. Aer training I worked

in the Steam Coal Pit, first as a timber boy then

as a collier’s assistant. I became a collier with a stent

of my own at 18 years of age which was unusual then

as you normally didn’t get your own place until you

were 21. I did 14 years as a collier at the coal face,

mostly ‘conventional mining’ filling coal onto a

‘shaker’ or belt conveyor, although I worked the last

few years on ‘power loading’ (mechanised) faces.

When I was a lad of about 17 my lamp went out

and the fireman sent me back to pit bottom

Yr helmed gardbord gywasgedig a

ddefnyddiodd Ron Thomas gydol ei yrfa yn y lofa.

The compressed cardboard helmet which Ron Thomas used from

the time he started until the time he finished in the colliery.

accompanied by another boy to show light for me. As

we were walking out from the district the other boy

shot off in front of me as a ‘joke’ and le me in the

dark. I had to feel my way out by the rails under my

feet. When I got to pit bottom he was there laughing

at me!

A man was working in the roadway when he got

caught tightly between a full dram and the side of the

road. His backside was cut badly and there was blood

pouring out of him. He felt all the blood running

down his leg and shouted “My leg’s off!” He didn’t get

much sympathy though, someone shouted back

“You’d better ‘hec it’ (hop) out

of there then, ’cos we can’t get

you out!”

I was trapped by a fall for

about three hours one time.

We were opening up a new

face and were using a large

sledge attached to an endless

haulage rope to bring in

materials. e boy operating

the engine went a bit wild and

managed to pull some props

out and brought down a fall.

We were lucky because we had

4 inch metal pipes bringing in

the ventilation, if we had the

newer flexible ducting it would

have been flattened by the fall

and we would have all

suffocated. I never told my

mother that I had been trapped

– she would have never let me

go down the pit again!

When I was 32 I le the

industry and worked for British

Nylon Spinners in Pontypool;

there were a few reasons for this

but mainly it was because my

father and uncles had contracted

dust and it was starting to play

on my mind that I would end up

the same, also the money in

Nylon Spinners was about the

same as I was getting in the

colliery so I finished.

Ron omas

24 25