You also want an ePaper? Increase the reach of your titles
YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.
Gŵr a

gwraig

y Betws

Fe’m ganwyd ym mis Gorffennaf 1929 a

dechreuais weithio’n bedair ar ddeg oed. Roedd

fy ewythr yn gweithio yn swyddfeydd y lofa, a

cheisiodd gael swydd i mi yn y lamprwm, ond mae’n

debyg fy mod yn rhy ifanc i ysgwyddo’r fath

gyfrifoldeb, felly gwas colier yng Nglofa Saron fues i.

Roedden ni’n cloddio’r ffas ar y system dalcen, a

byddwn i’n llenwi pump neu chwe dram y dydd ar

gyfer y glöwr. Byddwn i’n defnyddio rhaw pan oedd

y dram yn ddigon agos at y ffas lo, ond bocs cwrlo

oedd hi fel arall. Er mai crwtyn bach oeddwn i, roedd

hi’n anodd llusgo bocs cwrlo llawn glo gan mai dim

ond dwy droedfedd chwe modfedd o uchder oedd y

wythïen.

Fe wnes i hyn tan oeddwn i’n ddigon da i fod yn

löwr am ychydig flynyddoedd, cyn symud i Lofa

Rhydaman ac yna i’r ffas lo yng Nglofa’r Betws tan i

mi gael emffysema yn 55 oed. Bues i’n gweithio ar

wyneb y pwll am ychydig cyn cael gwaith yn y

lamprwm. Roeddwn i’n mwynhau bod yn ddyn

lampau gan fod y gwaith yn fwy amrywiol nag ar y

ffas lo. Ond ar ôl streic 1984-85, doedd hi ddim yn

swydd mor bleserus gan fod y rheolwr yn amau ein

bod ni’n ochri gyda’r dynion, a’r dynion yn eich

ystyried yn un o’r rheolwyr. Dyn lampau cynorthwyol

oeddwn i, a byddwn i’n llenwi lampau cap trydan â

dŵr distyll (roedd tua 250 o lampau cap yn cael eu

defnyddio ym mhob si), glanhau’r lampau

diogelwch â fflam, pwyso a gwirio’r offer achub

personol (offer yr oedd pob glöwr yn ei gario ar ei felt

er mwyn iddo anadlu pan fo prinder ocsigen neu

nwyon gwenwynig o’i gwmpas), a glanhau’r

lamprwm. Roedden ni hefyd yn carco a gofalu am bâr

o ganeris a oedd yn cael eu cadw yn y lamprwm, ac a

fyddai’n cael eu defnyddio gan y Frigâd Achub

Glofeydd er mwyn profi am nwyon wedi ffrwydrad

danddaear.

Felly, fe ges i’r union swydd yr oeddwn ei heisiau’n

14 oed, ond roedd rhaid i mi ddisgwyl tan i mi fod

yn 56 oed i’w chael hi! Roedd Eirlys fy ngwraig yn

gweithio yn ffreutur y Betws, tua 60 llath o’r

lamprwm, a chan ein bod ni’n gweithio siiau,

roedden ni’n gweld ein gilydd yn amlach yn y ffreutur

na gartre!

George Batsford

Husband

and wife

at Betws

Iwas born in July 1929 and started work when I

was 14 years old. I had an uncle working in the

colliery offices and he tried to get me a job in the

lamp room, however I was considered too young to

have that sort of responsibility so I had to go

underground at Saron Colliery to work as a collier’s

boy instead. We worked the face on the stall system

and I used to fill five or six drams a day for the collier.

When the dram was close to the coal face I used to fill

it with a shovel, otherwise I used the curling box.

Although I was quite small I used to find dragging the

curling box full of coal hard work as the seam was

about two feet six inches in height.

I did this until I become good enough to work as

a collier for a few years until I transferred to

Ammanford Colliery and later Betws Colliery where

I worked on the coal face until I contracted

emphysema at the age of fiy five. I did a brief spell

as a surface worker before I got a job in the lamp

room. I enjoyed my work as a lamp man as it offered

more variety than working on the coal face. However,

aer the 1984˗85 strike, being a lamp man wasn’t such

a happy job as the manager thought we were on the

men’s side and the men regarded you as being

management. I was the assistant lamp man, I used to

top up the electric cap lamps with distilled water

(there were about 250 cap lamps in use for each shi),

clean the flame safety lamps, weigh and check the self

rescuers (a piece of equipment that every mine worker

carried on his belt to enable him to breathe when the

surrounding atmosphere lacks oxygen or is

contaminated with toxic gases), and clean the lamp

room. We also looked aer a pair of canaries which

were kept in the lamp room which would be used to

test for gas by the Mines Rescue Brigade if an

explosion occurred underground.

So I got the job that I wanted when I was fourteen

but had to wait until I was fiy six to get it! My wife

Eirlys was working in Betws canteen which was about

sixty yards away from the lamp room, because we

were both working shis we met more oen in the

canteen than we did at home!

George Batsford

Merched ffreutur y

Betws a ddaeth yn ail

yng nghystadleuaeth

Diogelwch Ffreutur yr

NCB, 1982.

Chwith i’r dde:

Mair Lewis,

Eirlys Batsford,

Brenda O’Conor,

Eirlys Mathias,

Veronica Davies,

Eluned Davies.

Betws canteen staff who

came second in the 1982

NCB Canteen Safety

competition.

L – R: Mair Lewis,

Eirlys Batsford,

Brenda O’Conor,

Eirlys Mathias,

Veronica Davies,

Eluned Davies.

Bues i’n gweithio yn ffreutur y Betws am ryw

10-11 mlynedd. Byddwn i’n cyrraedd y gwaith

tua hanner awr wedi pump y bore a gorffen

am un ar ddeg, yna’n dod yn ôl am ddau tan hanner

awr wedi tri, ac yna o naw yr hwyr tan hanner awr

wedi un ar ddeg. Weithiau, roeddwn i awydd dweud

wrth y dynion a oedd yn aros yn y ffreutur ar

ddiwedd eu si, ‘Stopwch lapan ac ewch adre’ er

mwyn dyn, wy moyn mynd i ’ngwely!’

Roedd Mrs Evans y bos yn rheolwr da iawn, a’r

dynion i gyd yn ei pharchu. Doedden nhw byth yn

rhegi o’n blaenau ni, heblaw am un adeg pan oedd

bachgen ifanc eisiau potel o bop – ond roedd e’n rhegi

fel cath, a minnau’n gwrthod rhoi diod iddo. Dyma’i

ffrind yn ei gymryd i’r naill ochr, a dweud wrtho am

ymddiheuro. A dyna a wnaeth, a dweud nad oedd yn

sylweddoli ei fod yn rhegi. Dywedais wrtho ’mod i

bron iawn â hwpo’r botel o bop wysg ei hochr i’w geg!

Arferai’r Bwrdd Glo Cenedlaethol gynnal

cystadlaethau ar gyfer staff y ffreutur, ac ym 1982,

aethon ni i’r rownd derfynol yn Blackpool. Roedden

nhw wedi ail-greu cegin ffreutur yn dangos

camgymeriadau bwriadol fel gadael blodfresych mewn

sinc llawn dŵr brwnt, dalennau cardbord ar y llawr,

bocs cymorth cyntaf anodd ei gyrraedd ar ben y

rhewgell a pheryglon eraill. Roedden nhw hefyd wedi

gosod bwrdd yn cynnwys pob math o fwydydd

gwahanol, ac roeddech chi’n gorfod gwahaniaethu

rhwng siwgr a halen, blawd a phowdwr llaeth heb eu

cyffwrdd na’u blasu – gawson ni hwyl dda ar y prawf

hwnnw. Ond wnaethon ni ddim ennill, gan mai

enillwyr y llynedd oedd yn fuddugol eto. Roedden ni’n

tampan, ac yn credu taw twyll oedd y cyfan. Roedd

rhaid i ni rannu ystafell wely yn Blackpool, tair merch

mewn un ystafell, ond roedd yn brofiad da. Mwynheais

fy amser yn gweithio yn y ffreutur, ond roedd rhaid i

mi roi’r gorau iddi ar ôl cwympo ac anafu fy nghefn.

Iworked in Betws canteen for about ten or eleven

years all together. I used to come to work at half

past five in the morning, finish at about eleven,

then come back at two, finish at half past three, then

come back again from nine to half past eleven. On

times I used to feel like telling the men who hung

around the canteen aer their shis “Why don’t you go

home and stop wittering, I’ve got a bed to go home to!”

My boss Mrs. Evans was a really good manager and

all the men respected her, in fact the men never used

to swear in front of us except on one occasion when a

young boy wanted a bottle of pop and wouldn’t stop

swearing so I wouldn’t serve him. His friend took him

to one side and told him to apologise which he did and

said that he didn’t realise he was swearing. I told him

that he was only a couple of seconds from having the

bottle of pop put sideways into his mouth!

e National Coal Board used to hold

competitions for canteen staff and, in 1982, we went

up to Blackpool for the finals. ey had built a mock

up of a canteen kitchen with deliberate mistakes such

as having a cauliflower in a sink full of dirty water,

cardboard sheets on the floor, a first aid box out of

reach on top of the fridge freezer and other hazards.

ere was also a table set up with various food stuffs

and you had to differentiate between sugar and salt

and flour and dried milk without touching or tasting

them – we did very well in that test. But we didn’t win

as the team that had won the year before won again,

we felt it was a fix – we were tamping! We had to share

a bedroom in Blackpool, there were three girls in one

room but it was a really good experience. I enjoyed

working in the canteen but had to finish aer a fall

which knocked my back out of place.

Eirlys Batsford

Eirlys Batsford

34 35