10.06.2015 Views

Glo - National Museum Wales

Glo - National Museum Wales

Glo - National Museum Wales

SHOW MORE
SHOW LESS

You also want an ePaper? Increase the reach of your titles

YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.

Cymorth cyntaf

First aid

Cefais fy ngeni yn Nhrefforest ym 1960. Nid

oedd gennyf unrhyw gysylltiadau

gwirioneddol â’r diwydiant glo er i ’nhad

weithio danddaear am saith mis cyn cael ei alw i’r

fyddin. Dechreuais weithio yng Ngwaith Golosg

Nantgarw yn syth o’r ysgol, dilynais gwrs peirianneg

fecanyddol yng Ngholeg Polytechnig Trefforest am

flwyddyn cyn gweithio dan hyfforddiant a chael

profiad ym mhopeth bron. Cwblheais fy

mhrentisiaeth ym 1980.

Roedd gen i ddiddordeb erioed mewn cymorth

cyntaf, a bues i’n ‘ddymi’ i’r criw cymorth cyntaf cyn

ymuno â nhw’n swyddogol. Roedd yr hyfforddiant

cymorth cyntaf yn y gwaith golosg (Coal Products

Limited neu CPL) yr un fath ag un y Bwrdd Glo

Cenedlaethol – does dim meddygon na nyrsys

danddaear, felly mae’n rhaid i’r glowyr helpu eu

hunain yn gyntaf pan fo rhywun yn cael ei anafu.

Nid oedd Gwaith Golosg Nantgarw erioed wedi

ennill cystadleuaeth cymorth cyntaf o fri’r CPL, felly

pan benodwyd rheolwr newydd yn y gwaith,

ymbiliodd capten ein tîm iddo am ragor o amser

hyfforddi er mwyn rhoi gwell cyfle i ni. Er iddo

gytuno, doedd neb yn meddwl bod gennym fawr o

obaith gan fod tîm Caerffili wedi ennill y

gystadleuaeth bob blwyddyn ers pedair blynedd.

Roedden nhw wedi cynrychioli Cymru a CPL y DU

a hyd yn oed yn fuddugol yng nghystadleuaeth UK

All Industries First Aid.

Cyrhaeddodd diwrnod y gystadleuaeth

ranbarthol, a chafodd Nantgarw ddiwrnod i’r brenin.

Enillais fy nghystadleuaeth unigol i ac, ar ôl cyfri’r

holl farciau ac er syndod i bawb, enillodd ein tîm ni’r

gystadleuaeth yn ei chyfanrwydd. Yn ogystal â chael

enw Nantgarw ar y gwpan am y tro cyntaf erioed,

roedd yn golygu y byddem yn cynrychioli Cymru yn

rowndiau terfynol CPL Prydain yn Scarborough ac

yn cynrychioli’r CPL yng nghystadleuaeth Cymru.

Gyda’r gwynt yn ein hwyliau, aeth Steve ein capten

i weld rheolwr y gwaith golosg a dweud wrtho fod gan

yr holl dimau eraill eu siacedi blaser a’u bathodynnau

arbennig eu hunain. O roi pwysau ar y bosus,

llwyddwyd i gael bathodyn i’r tîm, ond bu’n rhaid i deis

y cwmni wneud y tro. Fodd bynnag, daeth y rheolwr

gyda ni i siop deiliwr Burton’s a threfnu i bawb gael

siacedi blaser. Er na wnaethom ennill yr un o’r ddwy

gystadleuaeth, fe wnaethom waith da a chwrdd â llu o

ffrindiau newydd. Ymunais â’r gwaith Phurnacite yn

Aberaman wedyn, a chymryd rhan mewn

cystadlaethau CPL a chymorth cyntaf agored yno.

Gwaith Golosg Nantgarw – enillwyr cystadleuaeth

cymorth cyntaf, Ardal y De, Robert Watts gyda’r tlws.

Yn ystod streic 1984/85, es ar orymdaith yn

Mansfield. Dechreuodd pethau’n iawn, ond

digwyddodd rhywbeth ar ôl hynny ac anfonwyd heddlu

ar geffylau ar ein holau. Collais barch tuag at yr heddlu

wedyn – roedd hi’n flwyddyn anodd iawn, ac mae’r

creithiau meddyliol yma o hyd. Ar ôl y streic, aethom i

Nottingham lle arhosodd y gweithfeydd ar agor i raddau

helaeth gydol y streic, gan wisgo ein bathodynnau

‘Nottingham Coke Works – Scab Free’ gyda balchder.

Parhaodd hanes y bathodyn a’r tei ar ôl i’r gwaith

Phurnacite gau, ac fe es i weithio i’r Weinyddiaeth

Amddiffyn yn RAF Sain Tathan. Des i’n aelod o’r tîm

cymorth cyntaf cyn hir, a helpu’r hyfforddwr i gyflwyno

rhai o’r technegau a ddysgais gyda thimau cymorth

cyntaf CPL. Wrth gael tynnu’n lluniau, gwisgais fy

siaced a thei CPL gan nad oedd gennyf fathodyn y

Weinyddiaeth Amddiffyn – doedd cadlywydd yr orsaf

yn Sain Tathan ddim yn rhyw blês iawn!

Robert Watts

Nantgarw Coke Ovens - South Wales Region First Aid

Competition winners, Robert Watts with the trophy.

Iwas born in Trefforest in 1960. I had no real

connection with the mining industry although

my father worked underground for seven months

before being draed into the army. I started at

Nantgarw Coke Works straight from school, I did

mechanical engineering at Trefforest Polytechnic for

a year before doing my on the job training where I

got experience in just about everything. I completed

my apprenticeship in 1980.

I was always interested in first aid but I actually

acted as a ‘dummy’ for the first aid team before

joining the team properly. First aid training in the

coke works (Coal Products Limited or CPL) was the

same as in the National Coal Board – there are no

doctors or nurses underground so miners have to

help themselves initially when anybody gets hurt.

Nantgarw Coke Works had never won the coveted

CPL first aid competition, so when a new manager

was appointed at the coke works our team captain

pleaded with him to give us more time for training to

give us a fairer chance. He agreed but thought that we

had little chance because the Caerphilly team had

won it continuously for the past four years. ey had

represented Wales and the UK CPL and had even

gone on to win the Grand Prior winners of the UK

All Industries First Aid Competition.

e day of the regional competition came and

Nantgarw had a blue ribbon day. I won my individual

competition and, when the marks were totalled up

and to everyone’s surprise, our team had won the

overall event. is not only meant that Nantgarw’s

name went on the cup for the very first time but also

that we would represent Wales at the National CPL

finals at Scarborough and CPL at the Welsh Prior

competition.

With this ammunition Steve, our captain, collared

the coke works manager and told him that all the

other teams had team blazers and badges. By twisting

the bosses arm we got our team badges but had to be

satisfied with company ties. However the manager

accompanied us to Burton’s tailors and fitted us all

out with blazers. Unfortunately we did not win either

competition but acquitted ourselves very well and

made many friends. I later transferred to the

Phurnacite plant in Aberamman where I competed

in both CPL and open first aid competitions.

We were out on strike in 1984/85 and I went on a

march in Mansfield. e march went ok but

something happened aerwards and mounted police

were sent in against us. What happened then made

me lose my respect for the police – that year was a

very difficult one and I still bear the mental scars to

this day. Aer the strike we went up to Nottingham

which had largely worked during the strike and

proudly wore our ‘Nottingham Coke Works – Scab

Free’ badges.

e tale of the badge and tie continued aer the

Phurnacite closed and I went to work with the

Ministry of Defence (MOD) in RAF St Athan. I soon

became a member of the first aid team and assisted

the trainer in bringing in some of the techniques I

had learned in the CPL first aid teams. At the photo

call I wore my CPL blazer and tie as I had no MOD

insignia – the station commander at St Athan was not

amused!

Robert Watts

50 51

Hooray! Your file is uploaded and ready to be published.

Saved successfully!

Ooh no, something went wrong!