You also want an ePaper? Increase the reach of your titles
YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.
Sefydliad lles

A welfare organisation

Roedd yna rywun yn ffugio rhyw salwch neu’i

gilydd ym mhob glofa, ond yn Oakdale, roedd

gennym gryn dipyn o bobl hynod ddidwyll a

barhaodd i weithio er gwaethaf anafiadau neu

anhwylderau eraill gan gynnwys clefyd coronaidd y

galon a phroblemau’r frest oherwydd y dwst. Cafodd

dynion ag anhwylderau’r frest eu cynghori i osgoi

parhau i weithio dan amodau llychlyd, ond roeddynt

am wella eu safon byw. Roedd ganddynt blant yn y

brifysgol ac ati felly bydden nhw’n parhau i weithio

yn yr amodau hyn. Wrth gwrs, bydden nhw’n gorfod

rhoi’r gorau iddi ar unwaith heddiw, ond nid felly’r

oedd hi'r dyddiau hynny. Roedden ni’n arfer clywed

hanes teuluoedd y dynion drwy’r adeg. Doedd y

dynion hŷn byth yn trafod eu pryderon, roedd rhaid

iddyn nhw fod yn wrol fel dynion go iawn, ond roedd

y dynion iau yn rhannu’u gofidiau, yn enwedig os

oedd eu gwragedd yn dost. Roedden nhw’n dod i

eistedd wrthych chi a bwrw’u calonnau. Rwy’n mynd

yn grac iawn pan fydd pobl yn dweud nad yw dynion

yn gofidio – maen nhw, dy’n nhw ddim yn gwybod

sut i ddangos hynny, dyna’r cwbl.

Roedd y ganolfan feddygol yn debycach i

sefydliad lles na dim arall. Os oedd dyn yn yr ysbyty

gyda salwch difrifol, roedden ni’n mynd i’w weld ar

ôl iddo ddod gartre. Byddwn i’n gofyn a oedd e’n falch

o fod gartre, a oedd yn teimlo’n well, ac yna byddai ei

wraig yn cerdded gyda chi at y gât a byddech yn

gofyn, ‘Sut ydych chi’n teimlo?’. A byddai hi’n dweud,

‘A dweud y gwir Sister, dwi ofn cysgu’. ‘Pam?’ ‘Achos

yn yr ysbyty mae’r holl offer a chyfarpar ar gael petai

rhywbeth yn mynd o’i le, a dwi ar ben fy hunan fan

hyn ac yn ofni y bydde rhywbeth yn digwydd.’ Felly,

roeddwn i’n gorfod bod yn gefn ac yn gysur i’r wraig

a’r teulu hefyd. Roedd rhai o’r dynion yn poeni’u

henaid am eu plant a oedd yn sâl iawn a bydden

nhw’n dod aton ni am sgwrs fach. Doedd y dynion

hŷn ddim eisiau gwybod, ond roedd y rhai iau wastad

eisiau gwybod beth oedd yn digwydd, a beth oedd

modd ei wneud i wella’r sefyllfa.

Roedd un dyn a ddoi i’r ganolfan feddygol yn

ffeiarman, ac wedi magu ei frawd iau gan fod eu rhieni

wedi marw. Roedd y ddau’n gweithio yn y pwll, a dyma’r

brawd hŷn yn cerdded i mewn un diwrnod gan ddweud,

‘Oeddech chi’n gwybod Sister fod Dai ni wedi ’whare

dros Gymru?’ ‘Dofe wir? Jiw, mae’n rhaid bod hynny

wedi bod yn brofiad gwych iddo fe’, atebais. ‘O, oedd,

bendigedig.’ Gofynnais, ‘Es ti i weld e?’. ‘Do’, atebodd, ‘es

i lawr i’w weld e’. A dyma fi’n gofyn, ‘Shwt deimlad o’dd

i weld e’n rhedeg mas ar y cae?’ ‘Dim syniad Sister’,

atebodd, ‘weles i mohono fe’. ‘Beth ti’n feddwl weles ti

mohono fe?’ Ac meddai, ‘R’on i mor browd, bues i’n

llefen reit drwyddo!’ Wel, am chwerthin!

Pan gaeodd y glofeydd, aeth llawer o’r sisters

nyrsio i weithio mewn meddygfeydd, eraill i gartrefi

nyrsio preifat ac ati. Fe wnes i ymddeol. Roeddwn i’n

55 oed, ond cafodd fy ngŵr ei daro’n wael ac aethon

ni i fyw i’r Gorllewin. Ond merch y Cymoedd ydw i

o hyd! Roedd y diwydiant glo wedi ’nysgu i sefyll dros

yr hyn sy’n gyfiawn. Roeddwn i’n arfer mynd i’r

cyfarfodydd, a byddai’r dynion yn edrych arnoch chi

fel rhyw druan fach ddiniwed, ond roeddwn i’n

meddwl, ‘Meiddiwch chi bois, meiddiwch chi!’

Roeddwn i’n barod i sefyll yn gadarn yn erbyn y

rheolwyr a’r undebau.

Mrs Iris E. Evans

Sister O'Shea o Lofa St John’s (chwith), Harry

Harris, swyddog hyfforddi yn Oakdale a Mrs Iris

Evans ar fin mynd i lawr i Lofa Oakdale.

Sister O'Shea of St John’s Colliery (left), Harry

Harris training officer at Oakdale and Mrs Iris

Evans waiting to descend Oakdale Colliery.

Every colliery had people who put it on but in

Oakdale we had quite a few genuine people

who continued to work very hard in spite of

injuries or other ailments including coronaries and

chest problems due to working in dust. Men with

chest complaints were advised not to continue

working in dusty conditions but they wanted to

improve their standard of living. ey had

youngsters in university and things like that so they

would continue to work in these conditions.

Nowadays they would be stopped immediately but

they weren’t in those days. We used to hear all about

the men’s families. e older men never spoke about

their worries, they had to be very mannish, very

brave, but the younger generation did, especially if

their wives were ill. ey used to come and talk to

you about it and they’d just sit down and tell you their

worries. I get very angry when they say that men don’t

care, they care alright they just don’t know how to

express it.

e medical centre acted as a welfare organisation

as much as anything else. If a man was in hospital

with a serious illness we’d go to see him when he came

home. I’d ask him if he glad to be home, if he was

feeling better and then the wife would walk you to the

gate and you’d say, “How are you feeling?” And she’d

say, “To be honest Sister, I’m afraid to sleep.” “Why?”

“Because in hospital there’s all the equipment if

something goes wrong and now he’s home and I’m all

on my own and terrified that something will happen.”

So I would have to comfort the wife and family as

well. We had chaps who were very concerned about

their children who were very ill and they used to

come and chat about it. e older men didn’t want to

know but the younger ones wanted to know what was

going on and what could be done about it.

One chap who came into the medical centre was

a fireman and he had brought up his younger brother

because their parents had both died. e two of them

were working in the pit and the elder brother came

in one day and said to me, “Did you know Sister that

our Dai played for Wales?” “Did he? Well gosh that

must have been great for him” I answered. “Oh yes it

was wonderful.” I said, “Did you go and see him?”

“Yes” he said, “I went to see him”. I said, “How did

you feel like when you saw him running onto the

field?” “I don’t know Sister” he said, “I didn’t see him”.

“What do you mean you didn’t see him?” He said, “I

was so proud that I cried all the way through!” You’ve

got to laugh haven’t you?

When the collieries closed down a lot of nursing

sisters went into doctors’ surgeries, some of them

went into private nursing homes and things like that.

I just retired, I was 55 but my husband became ill and

we went to live in west Wales. However, you can take

the girl out of the Valleys but you can take the Valleys

out of the girl. Being in the mining industry taught

me to stand up for what I thought was right. I used

to go to meetings and the men there used to look at

you as a poor little woman coming in, but I used to

think “Try it boys, you try it!” I was willing to stand

up to both management and unions.

Mrs Iris E. Evans

28 29