10.06.2015 Views

Glo - National Museum Wales

Glo - National Museum Wales

Glo - National Museum Wales

SHOW MORE
SHOW LESS

Create successful ePaper yourself

Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.

Fe wnes i sawl tirlun o byllau glo hefyd, weithiau’n

uniongyrchol ar gynfas, dro arall yn frasluniau i’w

datblygu’n ddiweddarach yn fy stiwdio. Un diwrnod,

roeddwn i’n gwneud braslun o Lofa Merthyr Vale ac

wedi ymgolli’n llwyr yn fy ngwaith, pan sylwais ar

ryw siâp petryal gwyn ar ochr y bryn gyferbyn.

Sylweddolais mai beddi’r plant a fu farw yn

nhrychineb Aber-fan oeddynt.

Yna, cefais wahoddiad gan British Coal Opencast

i wneud casgliad o luniau ar y testun; treuliais

flwyddyn yn ymweld â Ffos Las (maes rasio ceffylau

heddiw), East Pit Extension a Nant Helen. Tipyn o

olygfa oedd y lorïau dadlwytho’n mynd a dod yn ddibaid

a gweld y safle’n newid o ddydd i ddydd. Roedd

yr haf yn chwilboeth a’r gaeaf yn rhynllyd ar y safle

siâp powlen. Tra’r oeddwn i ar y safle, cefais set radio

symud a siarad (walkie-talkie) er mwyn gofyn am li

yn ôl i’r swyddfeydd, ond weithiau byddwn i’n cael

li gan lori ddadlwytho. Y tro cyntaf i mi weld

ffrwydrad ar y safle, roedd yna fwg oren yn codi a

meddyliais ei fod yn lliw gwych i’w ychwanegu at fy

lluniau – ond esboniodd rhywun gyda chywilydd mai

arwydd o danio gwael oedd hynny. Ond fe’i

defnyddiais yr un fath! Roedd croeso i mi weithio yn

lle mynnwn, gyda’r peiriannau’n mynd a dod o’m

cwmpas. Roeddwn i wedi ymgolli’n llwyr yn fy

ngwaith yng nghanol y sŵn byddarol pan deimlais

ryw hen wynt oer, a throis i weld bod y sied fawr ar

slediau a oedd union tu cefn i mi wedi’i symud –

doeddwn i fawr callach oherwydd y dwndwr!

Cacophony oedd yr enw a roddais ar y llun.

Dros y blynyddoedd, dwi wedi astudio pob math o

destunau gwahanol, o flwyddyn gyda’r Central School

of Ballet, Llundain, llwyfannau olew yn anialwch

Patagonia, dilyn Syrcas Wladol Moscow o amgylch y

wlad, chwe mis yng Ngharchar Abertawe, gwyliau jazz

ac, yn fwy diweddar, cerddorion clasurol. Ond roedd

y project gwaith glo, yn enwedig y flwyddyn a dreuliais

yn Six Bells, yn wych yn ogystal â’r cyfnod ym Mhwll

y Tŵr pan oedd yn nwylo’r gweithwyr. Dyna’r profiad

mwyaf gwerthfawr a gefais erioed, sef cipolwg go iawn

ar fyd mwyngloddio ac mae gan y pwnc apêl arbennig

i mi hyd heddiw. Mae gennyf tua 300 o lyfrau braslunio

sy’n llawn o luniau o’r holl brojectau y bues i’n

gysylltiedig â nhw, ac mae’n amlwg pa rai sy’n perthyn

i’r glofeydd – y rhai mwyaf brwnt!

Mae Cymunedau yn Gyntaf yn cymryd camau

breision wrth helpu i adfer Six Bells yn sgil y bwlch

anferthol a adawyd ers difodiant y diwydiant glo. Un

o’r camau mwyaf beiddgar a chyffrous oedd

comisiynu’r cerflun Gwarcheidwad, yn yr un modd â

chreu canolfan amlbwrpas ar gyfer addysg,

twristiaeth a hamdden sy’n prysur droi’n ganolbwynt

i ymwelwyr niferus Six Bells.

Valerie Ganz

Ewch i www.valerieganz.co.uk am ragor o wybodaeth

am Valerie Ganz.

e men were the usual crews of hardworking,

good-natured men with a bizarre sense of humour. I

was drawing one face worker, he was the butt of the

usual humour from passing crew, and one of them

said “don’t forget his earring, he has only been wearing

it since his wife found it on the back seat of the car”.

I also made several landscape paintings of mines,

sometimes direct onto canvas, at other times sketches to

be developed back at my studio. One particular day I was

sketching Merthyr Vale Colliery and was totally engrossed

in what I was doing, when I became aware of a white

oblong patch on the hillside opposite. I realised it was the

graves of the children killed in the Aberfan disaster.

I was then invited by British Coal Opencast to make

a collection of work on the subject; I spent a year

visiting Ffos Las (now a race course) East Pit Extension

and Nant Helen. It was fascinating to see the dumper

trucks constantly on the move and the way the site

changed from day to day. In summer it could be

sweltering in the site bowl and in winter absolutely

freezing. When I was on site I was given a walkie-talkie

so that I could tell them when I wanted a li to go back

to the offices, but sometimes I got a li on one of the

dumper trucks. e first time I saw blasting on a site,

I saw orange fumes coming up and thought it was great

colour and would add to the subject, but I was told with

some embarrassment, that that was a sign of a bad blast,

but I still used it! I was allowed to work wherever I liked

with the machinery moving all around me. e noise

was deafening, and I was engrossed in my work when

I became aware of a cold draught and turned around

to find that the big shed on sledges that had been

directly behind me, had been moved away, the noise

had been so loud I had not heard any extra activity. e

resulting painting I called “Cacophony”.

Over the years I have studied various subjects, a

year in London at the Central School of Ballet, at oil

rigs in the Patagonian Desert, followed Moscow State

Circus around the country, six months at Swansea

Prison, Jazz festivals and more recently classical

musicians. But the coal-mining project especially the

year spent in Six Bells was fantastic then leading onto

to working in Tower colliery when it was owned by

the miners. is was a most rewarding experience that

gave me real insight into the world of mining and still

holds a special fascination for me. I have about three

hundred sketchbooks full of work from all the

projects I have been involved with, but you can always

see which the collieries ones are as they are so dirty.

e regeneration of Six Bells by Six Bells Communities

First is making amazing strides in developing the area to

replace the huge void le by the demise of the coal

industry. Commissioning the sculpture “Guardian” was a

bold move as is creating a multi purpose centre for

education, tourism and recreation, which is becoming a

focal point for the many visitors to Six Bells.

Valerie Ganz

For further details of the work of Valerie Ganz visit -

www.valerieganz.co.uk

Y Gof

The Blacksmith

Cefais fy ngeni yn Nhretomas ym 1930. Dwi’n

dod o deulu glofaol, a bu fy nhad, Idris

omas, yn oferman yng Nglofa Bedwas. Pan

adewais i’r ysgol ym 1944, roeddwn i am weithio ar

Ystâd Fasnachu Trefforest ond, er i mi gael gwaith fel

ffitiwr, ni fyddwn wedi dechrau tan fis Hydref, felly

cefais swydd yn y lofa yn lle hynny. Glywes i erioed y

fath iaith anweddus tan i mi gael cyfweliad gyda’r lofa

– roedd y fforman yn dweud, ‘If you can’t work

******* seven days every week, you’re no ******* good

to me!’. Wrth gwrs, rydych chi’n clywed pobl yn rhegi

yn gyson heddiw, ond yn y dyddiau hynny, roeddech

chi’n gadael y rhegi yn y pwll.

Dechreuais weithio fel morthwyliwr gyda’r gof, ac

ym Medwas y bues i am y deugain mlynedd nesaf –

roeddwn i’n nabod pob twll a chornel o’r lle!

Gweithiais am ddwy flynedd gyda gof o’r enw Frank

Cotrell a ddysgodd bopeth i mi – a’m cario mewn

gwirionedd, gan nad oeddwn i’n dal iawn, ac ni

fyddai byth yn gadael i mi godi unrhyw beth trwm.

Roedd yn gwneud ei dŵls ei hun, ac roedden nhw

mor dda nes bod rhai o’r gofaint eraill yn eu benthyca

nhw. Roedd cryn dipyn o waith rhybedu ym Medwas,

gyda’r holl dramiau a chaetsis wedi’u rhybedu at ei

gilydd bryd hynny, a dysgodd Frank fi i dwymo

rhybedion ar y tân. A dyna wnes i gydol fy nyddiau

gwaith.

Ar ôl dwy flynedd, gadawodd gwas y fforman

cynorthwyol a chefais innau fy newis yn ei le. Dyma’r

ychydig fisoedd mwyaf diflas a dreuliais erioed gan

mai gaeaf 1947 oedd hi, ac roeddwn i ar rewi yng

ngefail y gof. Roedd yr efail yn gynnes braf, wrth

gwrs, ond fel morthwyliwr, roeddwn i’n gweithio y tu

allan i’r efail ei hun. Hen fochyn o ddyn oedd y

Iwas born in Trethomas in 1930. I come from a

mining family, my father, Idris omas, was an

overman in Bedwas Colliery. When I le school

in 1944 I wanted to work in Treforest Trading Estate

but, although I got a job as a fitter, I wouldn’t have

started until October so I got a job in the colliery

instead. I had never heard bad language until I had

the interview for the colliery – the foreman said “If

you can’t work ******* seven days every week, you’re

no ******* good to me!” Today you hear swearing all

the time but in those days you le it behind in the pit.

I started in the blacksmiths’ shop as a striker and

spent the next 40-odd years in Bedwas – I knew every

nut and bolt in the place! I worked for two years with a

smith called Frank Cotrell and he taught me everything,

in fact he really carried me as I wasn’t very big and he

wouldn’t let me li anything heavy. He made all his own

tools and they were so good some of the other smiths

used to borrow them. ere was a lot of riveting work

in Bedwas, the trams and cages were all riveted together

then, and Frank taught me how to warm rivets on the

fire and I did that all my working life.

Aer two years the assistant foreman’s boy le and he

picked me in his place. is was the most miserable

couple of months I spent as it was the winter of 1947 and

I was freezing to death in the blacksmiths. e forge was

warm, of course, but I was the striker and worked away

from the actual forge. e foreman was a pig of a man

who had been a scab when the scab union was at Bedwas.

is particular fellow shouldn’t have been allowed to have

a dog let alone look aer a boy, he used to criticize me all

the time even though he didn’t take any pride in his own

work. I wanted to leave but my father persuaded me not

to as I would have been conscripted into the Army.

56 57

Hooray! Your file is uploaded and ready to be published.

Saved successfully!

Ooh no, something went wrong!