Create successful ePaper yourself
Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.
Gair gan y Cadeirydd

Croeso i rifyn Tachwedd 2016 o Gylchlythyr Llais Busnes

Torfaen

Wel, mae’r Nadolig ar ddod unwaith eto. Ac mae hynny’n golygu

GWLEDD. Eleni mae’r wledd yn dod yn gynnar i aelodau Llais

Busnes Torfaen yn nigwyddiad rhwydweithio’r Nadolig. I’r rhai

ohonom sy’n hoffi rygbi, mae Lee Byrne a Nigel Meek (sêr rygbi

Cymru) yn dod atom. Rwy’n siŵr y byddant yn ein diddanu gyda

straeon am y gêm broffesiynol – mae llawer o bethau’n digwydd

nad ydynt yn ymddangos ar y teledu!

Bydd blwyddyn Aelodaeth 2017 yn cychwyn yn y man ac mae’r

dyddiadau wedi eu trefnu ar gyfer 2017. Felly sicrhewch eich bod

yn aelod i gael pecyn llawn o ddigwyddiadau trwy gydol y

flwyddyn. Gwahoddwch gydweithwyr a chwmnïau newydd i

ymaelodi â’r clwb busnes. Gyda’n gilydd medrwn wneud llawer

mwy ac mae hyn yn wir am Lais Busnes Torfaen hefyd.

Dyddiad i’ch dyddiadur

Dydd Iau 17eg Mawrth

Dydd Iau 22ain Mehefin

Dydd Iau 21ain Medi

Dydd Iau 7fed Rhagfyr

COFRESTRU AM 5:00PM ER MWYN CYCHWYN

Fel rhaglen o fanteision i aelodau rydym nawr yn cynnig cyfle i

aelodau gael arddangos eu logo a phroffil eu cwmni ar ein sgriniau

hysbysebu newydd, felly hyd yn oed os na fedrwch fynychu, bydd

gennych bresenoldeb ar y noson. Os oes gennych ddiddodeb,

siaradwch â Jo John i gael mwy o wybodaeth.

Gan edrych ymlaen at eich gweld ar y noson.

Dennis Ricketts,

Cadeirydd, Llais Busnes Torfaen

Peidiwch ag anghofio archebu lle ar gyfer y

digwyddiad nesaf

Dydd Iau 1 Rhagfyr 2016

COFRESTRU AM 5:00PM ER MWYN CYCHWYN

I archebu, defnyddiwch y ddolen ganlynol:

http://bit.ly/tbv-dec2016-cy

Greenmeadow Golf and Country Club,

Cwmbran

- CYNNIG I AELODAU NEWYDD! -

YMUNWCH NAWR AC DERBYN AELODAETH TAN DDIWEDD 2017!

http://bit.ly/tbv-appform-cy

Ein Digwyddiad Nesaf

Mae noson ddifyr iawn wedi ei threfnu ar gyfer digwyddiad olaf 2016!

Mae digwyddiad Llais Busnes y Nadolig ar ddydd Iau 1af Rhagfyr yn edrych

fel noson ddifyr dros ben, ac os ydych yn aelod eisoes ai peidio, ceisiwch

ddod draw!

Bydd enwau proffil uchel y byd rygbi yno – Lee Byrne a Nigel Meek.

Hefyd, bydd Elvis yn canu caneuon y Nadolig yn ystod y bwffe

rhwydweithio, er mwyn i ni ddechrau teimlo hwyl y Nadolig.

Mae gan aelodau hawl i 2 le am ddim yn y digwyddiad hwn, felly dewch â

chydweithiwr, cleient neu gyswllt busnes gyda chi, er mwyn i ni fedru

darparu cysylltiadau gwerthfawr i’n busnesau.

Cofiwch eich cardiau busnes ac unrhyw ddeunydd marchnata!

Gall aelodau Llais Busnes Torfaen hefyd ddod â baner Pop Up - nodwch os

ydych yn dod â’ch un chi ar y ffurflen archebu electronig.

http://bit.ly/tbv-dec2016-cy

TUD 2