You also want an ePaper? Increase the reach of your titles
YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.
Safonau Effeithiolrwydd Ynni Newydd mewn prydlesi

Os ydych yn bwriadu buddsoddi, prydlesu neu

werthu eiddo masnachol, dylech fod yn ymwybodol

bod bwriad i newid y cyfreithiau presennol ar

Safonau Effeithiolrwydd Ynni, a fydd yn ei gwneud

yn anghyfreithlon gwerthu neu osod adeiladau heb

safon effeithiolrwydd ynni o E neu uwch.

Bydd yn anghyfreithlon gwerthu neu osod adeiladau

nad ydynt yn cydymffurfio ar ôl mis Ebrill 2018 neu

barhau i osod adeiladau nad ydynt yn cydymffurfio

ar ôl mis Ebrill 2023.

Mae rhai eithriadau ar gyfer adeiladau a

thrafodion nad ydynt yn gofyn am y Dystysgrif

felly gofynnwch i gyfreithiwr eiddo masnachol

arbenigol am gyngor i wneud yn siŵr eich bod

yn cydymffurfio â’r newidiadau.

Yn ETLP mae gan ein harbenigwyr Eiddo

Masnachol brofiad eang o weithredu ar ran

cleientiaid, yn amrywio o brynu a gwerthu

ffatrïoedd a safleoedd datblygu, i dafarndai a

siopau cornel.

Ar y funud, yr unig beth sydd ei angen i chi ei

wneud yw darparu Tystysgrif Perfformiad Ynni ac

adroddiad argymell a’r radd (o A i G) felly os yw

eich eiddo yn llai eco-gyfeillgar, efallai y bydd angen

i chi ystyried y gost o gydymffurfio.

Rob Twigg,

Everett Tomlin Lloyd & Pratt

Mae telegyfathrebu yn newid – a yw eich busnes chi yn

barod?

Ydych chi’n cofio ffiasgo Byg y Mileniwn? Roedd pob cyfrifiadur

yn mynd i stopio gweithio, roedd gwareiddiad yn mynd i chwalu

ac roedd y byd am ddod i ben … ond fe ddaethom trwyddi.

Yn anffodus, yn wahanol i Fyg y Mileniwm, mae newidiadau

mewn gwasanaethau telegyfathrebu yn digwydd, a byddant yn

bendant yn effeithio cwmnïau sy’n dal i ddefnyddio llinellau ffôn

traddodiadol. O 2020 ymlaen, nad yw mor bell â hynny i

ffwrdd, ni fydd darparwyr telegyfathrebu yn darparu cysylltiadau

ISDN newydd ar gyfer systemau ffôn. Ar ôl 2025 bydd

cymorth ar gyfer y gwasanaethau hyn yn dod i ben.

Bydd y gwasanaethau teleffoni newydd yn defnyddio’r

rhyngrwyd i gysylltu, sy’n golygu y byddant yn cynnig ateb

di-dor, mwy effeithiol na llinellau ffôn traddodiadol. Wedi dweud

hynny, mae llawer i’w ystyried wrth ddewis yr ateb priodol i’ch

busnes chi, felly dylech roi trafodaeth fanwl gyda’ch arbenigwyr

teleffoni rhyngrwyd ar frig eich rhestr pan ddaw’n fater o newid

eich system.

Ron Griffiths, RPS

Rydym yn gwybod bod y newid hwn yn dod, felly pam aros? Uwchraddiwch i deleffoni rhyngrwyd nawr, a chamu i ddyfodol

cyfathrebu.

I gael mwy o wybodaeth ac asesiad am ddim o’ch system bresennol, cysylltwch ag RPS Technology Solutions – Darparwyr Gwasanaeth Teleffoni

Rhyngrwyd blaenaf Cymru yn rgriffiths@rpstechnologysolutions.co.uk neu ffoniwch 01633481424.

Arddangosfa Busnes Torfaen 2017

Busnesau lleol mewn lleoliad lleol

Cyfle i atgyfnerthu cysylltiadau yn y byd masnachu a chreu

llwybrau newydd

Cyfle i gwmnïau ddangos eu busnesau

Rhaglen lawn o ddigwyddiadau

Brecwast rhwydweithio rhad ac am ddim

Gweithgareddau rhwydweithio ffurfiol ac anffurfiol

Cyfle i glywed gan siaradwyr ysbrydoledig yn y maes busnes

Cymorthfeydd busnes gydag arbenigwyr

17 Mai 2017

Mwy o fanylion ar gael cyn bo hir!

TUD 5