You also want an ePaper? Increase the reach of your titles
YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.
Cyfarfod yr Aelod

Luminous Media

Mae Luminous Media yn gwmni creadigol sy’n cynnig gwasanaethau

cysylltiadau cyhoeddus, fideo, hysbysebu, ysgrifennu copi, dylunio ac

argraffu. Yn ddiweddar, gwnaethom gynhyrchu fideo symud graffig ar

gyfer persawr Marilyn Monroe newydd, a rhedeg ymgyrch cysylltiadau

cyhoeddus i Age Cymru yng Ngorllewin Cymru a ymddangosodd ar

newyddion ITV Wales ac mewn llawer o bapurau newyddion.

Rydym yn gweithio gyda phob sector busnes, ac elusennau, ledled De

Cymru, a thros Bont Hafren hefyd. Ar ôl symud i Dorfaen yn 2016, rydym

yn gweithio gyda nifer o fusnesau lleol, yn eu helpu gyda gwaith dylunio,

argraffu, cysylltiadau cyhoeddus a gwefannau.

Ynghyd â chael sylw i gleientiaid ar y teledu a’r radio, rydym hefyd yn

cynnig hyfforddiant cyfryngau i’w helpu i wneud y mwyaf o’r cyfleoedd

sydd ar gael.

Mae Luminous Media yn cynnwys Martin Downes, Dan Hughes, a Katie

Holborn. Mae gan Martin gefndir mewn cyhoeddi ac mae’n gofalu am

gysylltiadau cyhoeddus. Mae Dan yn ddylunydd gyda 24 mlynedd o

brofiad ac wedi gweithio yn y byd argraffu. Mae’n arbenigo mewn

hysbysebu digidol. Ymunodd Katie â’r tîm yn ddiweddar fel Rheolwr

Cysylltiadau Cwsmer.

Yn galw holl ddylunwyr cynnyrch – Ffïoedd swyddogol is ar

gyfer cofrestru dyluniad

Gall amddiffyniad eiddo deallusol fod yn bwnc anodd i lawer o fusnesau,

a gyda ffocws cyffredin naill ai ar amddiffyniad patent ar gyfer arloesi

technolegol, neu gofrestru nod marchnad ar gyfer brandiau, yn aml

amddiffyniad dyluniad cynnyrch yw’r peth olaf i gael ei ystyried.

Ond gall hyn fod yn un o’r dulliau mwyaf effeithiol i gael amddiffyniad

cyflym gorfodadwy ar gyfer cynnyrch newydd, y gellir ei ddodi yn gyflym

ar gynnyrch neu ddeunydd pecynnu a rhoi ataliad effeithiol wrth lansio

cynnyrch newydd.

O’r 1af Hydref 2016 mae Swyddfa Eiddo Deallusol y DU wedi cyflwyno

gostyngiad arwyddocaol yn y ffïoedd swyddogol sy’n daladwy ar gyfer

amddiffyn dyluniad yn y DU. Ystyrir bod y diwydiant dylunio werth rhyw

£72 biliwn i economi’r DU, a gyda dyluniadau cofrestredig yn rhoi

amddiffyniad pwysig i asedau busnes gwerthfawr, mae nawr yn amser da

i ail-asesu sut i drin dyluniadau cynnyrch newydd.

I gael gwybod sut y gall yr hawliau pwysig hyn fod yn

berthnasol i’ch strategaeth twf busnes chi, cysylltwch ag

Indelible IP yn info@indelibleip.co.uk.

TUD 6