Create successful ePaper yourself
Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.
Chwefror 2020

AM DDIM!

fideo miwsig newydd

yr Urdd a Tg lurgan!

cyfreithiau

hywel dda

a’i bwysigrwydd yn hanes yr iaith gymraeg

RHESTR CHWARAE

CERDDORIAETH CYMRAEG

Cylchgrawn i ddysgwyr Cymraeg

a siaradwyr ail iaith

urdd.cymru/iaw
2

Croeso

Hawlfraint Urdd Gobaith Cymru yw’r holl gylchgrawn oni nodir yn wahanol.

Golygydd: Branwen Rhys Dafydd Dylunydd: Meilyr Gwynn

Cysyllta â ni: iaw@urdd.org neu beth am ymweld â gwefan urdd.cymru/iaw

Helo a chroeso i rifyn Chwefror/Mawrth o IAW!

Mae’r cylchgrawn yn llawn o bethau diddorol (interesting) i dy

helpu i ymarfer a gwella dy Gymraeg.

Wyt ti wedi gweld fideo miwsig newydd yr Urdd a TG Lurgan

o Iwerddon (Ireland)? Clicia ar y fideo isod i glywed fersiwn

Cymraeg a Gwyddeleg (Irish) o’r gân ‘Blinding Lights’ gan The

Weeknd. Mwynha!

Wyt ti wedi clywed am Ddydd Miwsig Cymru o’r blaen? Mae o’n

digwydd ar y 5ed o Chwefror eleni. Ymuna (join) yn yr hwyl! Mi

ydan ni wedi creu rhestr chwarae IAW ar Spotify yn arbennig

(specially) i’n darllenwyr (readers) – beth wyt ti’n ei feddwl?

Cofia gymryd cip ar sesiynau Yr Awr Fwy – gweithgareddau

(activities) ar-lein i bobl ifanc 12-16 oed, sy’n cael eu trefnu gan

yr Urdd. Ac mae yna 3 sianel YouTube newydd ar gael erbyn

hyn, hefyd... digon (plenty) i dy gadw’n brysur (keep you busy)!

Diolch i rai o ddisgyblion Ysgol Uwchradd y Drenewydd am eu

llythyrau. Beth am i chi yrru neges a llun ar gyfer y rhifyn (issue)

nesaf? Byddai’n braf clywed gennych chi!

Hwyl am y tro,

Criw IAW
Helo!

Imogen ydw i a dw i’n

12 oed ac mae fy mhenblwydd

ar Fedi 12. Dw i’n

byw mewn tŷ ar wahân

yn Bettws Cedewain gyda

mam, Neil a ci o’r enw

Lucy. Dw i’n mwynhau

byw yn Bettws achos

mae’n heddychlon. Dw i’n

mynd i Ysgol Uwchradd y

Drenewydd ac es i i Ysgol

Gynradd Hafren. Dw i’n

hoffi mynd i’r ysgol achos

mae’n hwyl a diddorol. Fy

hoff bwnc ydy dylunio a

thechnoleg achos mae’n

fendigedig ond dw i ddim

yn mwynhau mathemateg

achos mae’n ddiflas!

Hwyl.

S’mae!

Fy enw i ydy Mollie. Dw

i’n un deg un oed ac

mae fy mhen-blwydd

ar 2 Chwefror. Dw i’n

mynd i Ysgol Uwchradd

y Drenewydd, ac es i i

Ysgol Gynradd Hafren.

Yn yr ysgol, fy hoff bwnc

ydy Cymraeg achos mae

dysgu iaith newydd yn

hwyl! Hefyd, dw i’n hoffi

technoleg gwybodaeth

achos mae’n hwyl. Fodd

bynnag, dw i ddim yn hoffi

mathemateg achos mae’n

ddiflas!

Tra!

HELO!

Diolch i rai o ddisgyblion

Ysgol Uwchradd y Drenewydd

am eu llythyrau!

Helo,

Aidan ydw i. Dw i’n 12 oed

a dw i’n byw mewn tŷ semi

yn y Drenewydd. Dw i’n

mynd i Ysgol Uwchradd y

Drenewydd ac es i i Ysgol

Penygloddfa. Yn yr ysgol,

dw i’n hoffi dylunio a

thechnoleg achos mae’n

hwyl. Ond, dw i ddim yn

hoffi mathemateg! Ar

ddydd Sadwrn a dydd Sul,

dw i’n hoffi bwyta achos

mae bwyd yn flasus – hefyd,

dw i’n hoffi cysgu achos dw

i’n ddiog!

Diolch.

Helo,

Rowan ydw i a dw i’n un deg un oed. Mae

fy mhen-blwydd i ar Chwefror un deg

wyth. Dw i’n byw mewn tŷ ar wahân yn

y Drenewydd gyda mam o’r enw Lynne,

dad o’r enw Adam ac un brawd o’r enw

Matthew. Mae Matthew yn un deg pump

oed ac yn hoffi chwarae ar y PlayStation.

Does gen i ddim anifail anwes ond dw i

eisiau ci selsig achos maen nhw’n ciwt.

Es i i Ysgol Penygloddfa ond rŵan, dw

i’n mynd i Ysgol Uwchradd y Drenewydd.

Fy hoff bwnc yn yr ysgol ydy celf achos

mae’n fendigedig ond dwi ddim yn hoffi

mathemateg achos mae’n ddiflas. Dw i

wedi mopio ar dechnoleg gwybodaeth

hefyd achos mae’n bwnc diddorol ond dw

i’n casáu reidio ceffylau achos mae’n rhy

araf.

Hwyl am y tro.

Helo, fy enw i ydy Cari ac rydw i’n un deg dau oed. Mae fy

mhen-blwydd i ar Fedi pedwar. Rydw i’n byw mewn tŷ ar wahân

yn Llanllwchaiarn. Rydw i’n byw gyda mam, dad, un chwaer, un

brawd a ci. Enw fy chwaer ydy Maddie ac mae hi’n un deg tri

oed. Mae hi’n mwynhau chwarae hoci. Mae Joey, y brawd, yn

naw oed. Mae o’n hoffi chwarae pêl-droed. Es i i Ysgol Gynradd

Penygloddfa ac rydw i’n mynd i Ysgol Uwchradd y Drenewydd.

Rydw i wedi mopio ar addysg gorfforol achos yn fy marn i, mae’n

hwyl. Ond, dw i ddim yn hoffi addysg grefyddol achos mae’n

ddiflas iawn.

Diolch am ddarllen!

Helo – fy enw i ydy Lexie. Rydw i’n un deg un oed ac mae fy

mhen-blwydd i ar Fai tri deg. Rydw i’n byw mewn tŷ semi

yn Ceri gyda mam, dad, un chwaer fach o’r enw Ruby ac un

brawd bach o’r enw Louis. Rydw i’n caru byw yn Ceri achos

mae’n hyfryd ac mae’r teulu a ffrindiau yn byw yn Ceri

hefyd. Es i i Ysgol Gynradd Penygloddfa ac rydw i’n mynd i

Ysgol Uwchradd y Drenewydd.

Yn yr ysgol, fy hoff bwnc ydy technoleg achos yn fy marn i,

mae o’n fendigedig. Hefyd rydw i’n caru cerddoriaeth achos

mae’n hwyl iawn. Ond, dydw i ddim yn hoffi hanes achos

mae’n ddiflas. Dydw i ddim yn mwynhau gwyddoniaeth

chwaith achos mae’n ofnadwy! Ar ôl ysgol, rydw i’n

caru mynd i wneud gymnasteg – rydw i’n mynd i Glwb

gymnasteg Maldwyn Dragons – mae’n anhygoel!

Hwyl!

Helo!

Fy enw i ydy Grace ac rydw i’n un deg

un oed. Rydw i’n byw gyda mam a dad

yn y Drenewydd. Does gen i ddim brawd

na chwaer. Roedd gen i gwningen o’r

enw Barney ond mae o wedi marw. Felly,

prynais i gwningen newydd o’r enw Rocky.

Mae Rocky yn hoffi moron. Fy hoff hobi ydy

beicio. Rydw i’n mwynhau beicio i’r ysgol

gyda fy ffrindiau.

Yn yr ysgol, rydw i’n hoffi gwyddoniaeth

achos rydw i’n caru ffrwydradau! Hefyd,

rydw i wrth fy modd efo Cymraeg achos

rydw i’n caru ieithoedd. Adref, rydw i’n hoffi

siarad Cymraeg gyda dad ond dydy mam

ddim yn gallu siarad Cymraeg. Es i i Ysgol

Hafren ond rŵan rydw i’n mynd i Ysgol

Uwchradd y Drenewydd.

Hwyl!

S’mae, fy enw i ydy Roxie.

Rydw i’n hoffi ffermio achos

mae’n hwyl. Rydw i’n un deg

un oed. Rydw i’n byw mewn

byngalo ym Mochdre. Rydw

i’n caru celf achos mae’n

fendigedig. Ond, dydw i

ddim yn hoffi Ffrangeg

achos mae’n sialens. Mae

gen i gi o’r enw Annie, mae

hi’n dair oed. Mae gen i

lawer o anifeiliaid ar y

fferm! Es i i Ysgol Hafren

ac rydw i’n mynd i Ysgol

Uwchradd y Drenewydd

rŵan.

Diolch.

Helo!

Charley ydw i. Rydw i’n

un deg dau oed. Rydw i’n

byw mewn byngalo gyda

mam, dad ac un chwaer

o’r enw Ella. Mae Ella yn

naw oed. Mae gen i gi

o’r enw Daisy. Es i i Ysgol

Gynradd Penygloddfa.

Rydw i’n mynd i Ysgol

Uwchradd y Drenewydd.

Rydw i’n hoffi celf achos

mae’n fendigedig – hefyd,

dwi’n mwynhau dylunio a

thechnoleg achos mae’n

ddiddorol. Dydw i ddim yn

hoffi Ffrangeg achos mae’n

ddiflas – na cherddoriaeth

chwaith.

Hwyl fawr!

Helo, James ydw i ac rydw

i’n un deg un oed. Rydw i’n

caru Saesneg yn yr ysgol

achos mae’n ddiddorol.

Dydw i ddim yn hoffi

mathemateg! Ond, rydw i

wrth fy modd efo addysg

gorfforol achos rydw i’n

caru rhedeg.

Rydw i’n byw mewn tŷ

mawr. Mae gen i dri brawd

ac un chwaer. Es i i Ysgol

Gynradd Croft yn Swindon.

Rydw i’n mynd i Ysgol

Uwchradd y Drenewydd.

Hwyl fawr!

3
Gweithlen

Defnyddio Miwsig

i Ddysgu Iaith

Pob blwyddyn, ym mis Chwefror,

mae cyfle i ymuno yn hwyl

#DyddMiwsigCymru ac

mae’n gyfle hefyd i fwynhau pob

math o fiwsig Cymraeg.

Dydd Gwener 05 Chwefror 2021

#DyddMiwsigCymru -

diwrnod pwysig, llawn hwyl.

Bwriad (intention) #DyddMiwsigCymru ydy helpu pobl

ddod o hyd i(find) fiwsig maen nhw’n ei fwynhau ac mae’r

cyfan (the whole lot) yn yr iaith Gymraeg.

Dim ots pa fath o fiwsig rydych chi’n fwynhau – indie, rock,

punk, funk, electronica, hip-hop … mae dewis anhygoel

(unbelievable choice) o gerddoriaeth yn yr iaith Gymraeg.

Dilynwch y ddolen:

gov.wales/Welsh-language-music-day

ac yna dewiswch yr opsiwn CYMRAEG ar ben y dudalen.

4
Ydych chi eisiau bod yn rhan o’r hwyl?

Ydych chi wedi bod yn rhan o’r paratoi?

Ydw, wir!

Ydw, heb os!

Ydw, wrth gwrs!

SUT? Wel, beth am...?

• ddefnyddio’r hashnod #DyddMiwsigCymru

• dilyn ar Trydar neu Gweplyfr

• trefnu i rannu eich hoff fiwsig Cymraeg yn rithiol gyda’ch ffrindiau

• Gwrando ar y rhestrau chwarae ar Spotify

• rhannu tudalen we Dydd Miwsig Cymru gyda ffrindiau

yn rithiol - virtually

(Mae rhestr chwarae arbennig i

ddarllenwyr Iaw ar Spotify nawr!

Cer i dudalen 16 am fwy o

wybodaeth!)

Trafod miwsig pop – TASGAU i’ch helpu.

Fyddwch chi’n mwynhau gwrando ar fiwsig?

Bydda, weithiau

Na fydda, byth

Fyddwch chi’n gwrando ar fandiau Cymraeg, o gwbl?

Bydda, yn aml

Na fydda, ddim o gwbl

TASG 1

DARLLENWCH y cwestiynau canlynol gyda phartner.

HELPWCH eich gilydd i ddeall y cwestiynau.

DEFNYDDIWCH strategaethau deall iaith.

• Fyddwch chi’n mwynhau gwrando ar fiwsig?

• Pa fath o fiwsig fyddwch chi’n fwynhau?

• Pa fand / artist ydy eich ffefryn? Pam?

• Pa ganeuon gan y band / artist ydych chi’n hoffi fwyaf?

• Fyddwch chi’n gwrando ar fandiau/artistiaid Cymraeg? Pam?

• Hoffech chi wybod mwy am y bandiau Cymraeg?

ffefryn - favourite

5
6

TASG 2

DEFNYDDIWCH y cwestiynau yn TASG 1 i’ch helpu i ysgrifennu tua 10 brawddeg yn

mynegi eich barn am wrando ar fiwsig, i ddisgrifio’r math o fiwsig sy’n apelio atoch

chi ac yn y blaen.

Cofiwch!

• amrywio (vary) eich brawddegau (hoffi/mwynhau/fy hoff ... ydy ... /

dw i’n hoff iawn o .../ mae’n well gen i ... / dw i ddim yn or-hoff o ...)

• mynegi barn a dweud pam

• defnyddio geiriau fel: pob math/ambell waith/yn aml/weithiau/o dro i dro/byth

TASG 3

Defnyddiwch y cwestiynau yn TASG 1 eto - y tro yma i holi partner.

Gwnewch nodyn byr o ateb eich partner i bob cwestiwn.

TASG 4

Defnyddiwch eich nodiadau i ysgrifennu paragraff yn mynegi barn eich partner

am wrando ar fiwsig, i ddisgrifio’r math o gerddoriaeth sy’n apelio at eich partner

ac yn y blaen.

Cofiwch!

• amrywio (vary) eich brawddegau (hoffi/mwynhau/hoff gerddoriaeth ... ydy ... /

ei hoff ... ydy ... / mae ... yn hoff iawn o ... / mae’n well ganddo fe/fo/hi ... /

dydy ... ddim yn or-hoff o ...)

• mynegi barn a dweud pam

• defnyddio geiriau fel: pob math/ambell waith/ yn aml/weithiau/

o dro i dro/byth

TASG 5

DARLLENWCH eich gwaith ar goedd i weddill y grŵp/dosbarth.

Os ydych chi eisiau mynegi barn a chynnig rhesymau yn llawn ac yn

fwy ymestynnol mae help yn IAW mis Tachwedd 2019 (tud. 4 –6).

CLICIWCH YMA i weld y rhifyn yma ar ein gwefan!
Caneuon i ddysgu patrymau iaith defnyddiol

Oeddech chi’n gwybod bod Gwyneth Glyn a Ryland Teifi wedi recordio pedair cân i’ch helpu

chi i ddysgu patrymau iaith defnyddiol?

Mae’r caneuon ar gael ar wefan CBAC neu trwy glicio ar y ddolen (link).

Mae pob cân yn cynnwys ffocws iaith. (e.e. Mae gen i ...; Gwelais i ...; Cwestiynau;)

CLICIWCH YMA i

fynd i wefan CBAC

https://resources.wjec.co.uk/Pages/

ResourceSingle.aspx?rIid=506

Enghraifft o’r tasgau:

Y gân ‘Gwelais i’

(i) Tasg Ysgrifennu:

Defnyddiwch y gân i’ch helpu i ysgrifennu’r stori’n llawn.

‘Gwelais i y tân,’ meddai’r gân.

CLICIWCH YMA i glywed y

gân ‘Gwelais i’

https://resource.download.wjec.co.uk/vtc/2013-14/

mfl/int-cilt-09/welsh/Gwelais%20i.mp3

Ble roeddech chi’n mynd? Gyda phwy?

Pryd ?

Faint o’r gloch ?

Sut roeddech chi’n teithio?

Disgrifiwch y tywydd

Ble roedd y tân? (mewn tŷ, ysgol, siop …?)

Oedd injan dân, ambiwlans, yr heddlu, dyn papur newydd yno?

Oedd rhywun wedi anafu / wedi marw yn y tân?

Sut roeddech chi / pawb arall yn teimlo?

(ii) Gweithgaredd

a) Llenwi grid Gwelais i ...

Cwblhewch y grid isod amdanoch chi eich hun, eich teulu a’ch ffrindiau.

Mae’r cyntaf wedi ei gwblhau fel enghraifft.

PWY? BETH? BLE? PRYD? BARN?

Fi gêm rygbi –

Y Gamp Lawn

Fi a fy nheulu

Mam a Dad

Ffrind sy’n ferch

Ffrind sy’n

fachgen

Brawd

Chwaer

Stadiwm y Mileniwm Mis Mawrth Profiad anhygoel

b) Ysgrifennwch y brawddegau uchod yn llawn ac yna darllenwch eich brawddegau

ar goedd i weddill grŵp. Mae’r cyntaf wedi ei gwblhau fel enghraifft:

“Gwelais i gêm rygbi Y Gamp Lawn yn Stadiwm y Mileniwm fis Mawrth. Roedd yn

brofiad anhygoel!”

7
8

Y Lle Lliwio!

Mae lliwio yn gallu dy helpu i ymlacio (to relax).

Minia (sharpen) dy bensiliau a lliwia hwn!

Canolbwyntia (concentrate) ar beth wyt ti yn

wneud. Ydi o’n gwneud i ti deimlo’n well?
9

Bob dydd Llun mae meddwl.org a’r artist

Heledd Owen yn rhyddhau dyfyniad positif

Cymraeg, er mwyn gwneud i ti wenu.

Cadwa olwg ar y cyfryngau cymdeithasol (social

media) i weld y llun diweddaraf (most recent).

Gwefan yw meddwl.org sy’n cynnig lle i ti ddarllen a

siarad am iechyd meddwl (mental health). Mae’n llawn

o gyngor (advice), profiadau pobl eraill (other people’s

experiences) a lle i fynd am help.

Dos draw i wefan meddwl.org am gip. Gelli hefyd eu

dilyn ar Facebook, Twitter ac Instagram.
HANES YR IAITH TRWY

DDEG DARN O LENYDDIAETH

RHIF 3

CYFREITHIAU HYWEL DDA

Ers mai Mai 1999, mae Senedd yng Nghaerdydd. Mae’r

Senedd yn trafod ac yn pasio deddfau. Mae aelodau’r

Senedd yn cynrychioli pob rhan o Gymru. Mae’r Senedd

yn ddwyieithog. Mae aelodau’r Senedd yn gallu siarad

yn Gymraeg neu yn Saesneg.

Yn 2006, cafodd y Senedd adeilad newydd. (Llun uchod)

Adeilad y Senedd cyn 2006 oedd Tŷ Hywel. Nawr, mae

Tŷ Hywel yn croesawu grwpiau o ddisgyblion ysgol a

myfyrwyr coleg. Tybed ydych chi wedi bod ar drip ysgol

a defnyddio’r siambr yn Nhŷ Hywel?

Tŷ Hywel - Hen adeilad

Senedd Cymru o

1999 – 2006

PAM TY HYWEL?

Mae Tŷ Hywel wedi ei enwi ar ôl

y Brenin Hywel Dda.

Ond pwy oedd Hywel Dda a

pham mae e mor bwysig?

Dyma stori’r Brenin Hywel

Dda a’i Gyfreithiau:

Roedd Hywel Dda yn byw

rhwng 880 a 948. Roedd e’n ddyn

deallus iawn. Roedd e’n gallu siarad

Cymraeg, Lladin a Saesneg.

Erbyn 920, roedd Hywel

yn frenin ar ardal

Seisyllwg.

Ydych chi’n gallu gweld

Seisyllwg ar y map?

Erbyn 942, roedd

Hywel yn frenin

ar Gymru gyfan ar

wahân i Forgannwg a

Gwent.

Mae’r lliw Glas

yn dangos

Brenhiniaeth

Hywel Dda

ar ôl 942

10
11

CYNHADLEDD TY GWYN AR DAF

Cyn 942, roedd cyfreithiau

pob ardal yng Nghymru yn

wahanol. Penderfynodd

Hywel gael un gyfraith i

bawb - ond sut?

Galwodd Hywel arweinwyr

o bob ardal yng Nghymru i

gynhadledd yn Nhŷ Gwyn ar

Daf (Hendy-gwyn ar Daf

heddiw).

Dyma Olion Tŷ Gwyn ar Daf

Roedd yr arweinwyr yn:

• trafod yr hen

gyfreithiau.

• dewis pa rai i’w cadw a

pha rai i’w newid.

• trafod cyfreithiau newydd.

Ar ôl chwe wythnos o drafod, dyma Gyfreithiau

Hywel Dda yn gweld golau dydd am

y tro cyntaf. Cyfreithiau Hywel

oedd prif gyfreithiau Cymru

am flynyddoedd i ddod.

Dyma gopi Cymraeg o

Gyfreithiau Hywel Dda

WEL WEL…

Cymru oedd un o’r

gwledydd cyntaf yn

Ewrop i gael cyfreithiau yn

ei iaith ei hun. Lladin oedd iaith

swyddogol y rhan fwyaf o wledydd yn yr

oesoedd canol. Yn amser Hywel, Cymraeg

oedd iaith y gyfraith a Chymraeg oedd iaith

y llysoedd.

CYFRAITH HYWEL

Roedd Cyfreithiau Hywel yn fodern iawn. Roedd hawliau pobl, yn enwedig

pobl gyffredin yn bwysig i Hywel Dda.

Doedd dim llawer o gosb gorfforol am droseddu.

Yn lle cosb gorfforol, roedd y troseddwr yn talu iawndal neu ‘arian gwaed’ i’r

dioddefwr.

Dyma rai o’r cyfreithiau mwyaf diddorol:

Anafu - roedd faint yr iawndal am anafu rhywun yn dibynnu ar ba ran o’r corff roedd yr anaf a statws

y dioddefwr, er enghraifft:

• roedd bywyd dyn rhydd yn werth 3,780 ceiniog neu 63 buwch!!

• roedd tafod cyfreithiwr yn werth 100 buwch!

Dyma’r iawndal am dorri rhan

o gorff dyn rhydd i ffwrdd:

Clust

Llygaid

480 ceiniog

480 ceiniog Craith ar y wyneb

Gwefus

480 ceiniog

Trwyn

480 ceiniog

120 ceiniog

Dyma’r iawndal am anafu rhan

o gorff dyn rhydd:

‘teyr punt a geyf y nep a archoller y

gan y nep ay harchollo’

Craith sy’n agor y pen a

dangos yr ymennydd

tair punt

Bys Bawd

80 ceiniog

Llaw

480 ceiniog

Roedd y dannedd

blaen yn werth mwy

na’r dannedd ôl

Craith ar y llaw

chwe deg ceiniog

Bys

80 ceiniog

Pen y bys

26 a 2/3 ceiniog

WEL WEL…

Pe basai person yn colli clust ond ddim yn

colli clyw, yr iawndal oedd 160 ceiniog!!

Ewin

30 ceiniog

Troed

480 ceiniog

Torri troed neu fraich

tair punt

Craith ar y troed

tri deg ceiniog

Craith cudd

pedair ceiniog

Craith sy’n agor y

stumog a dangos

y perfeddion

tair punt

WEL WEL…

pe basai taeog yn taro

dyn rhydd, y gosb fasai

colli ei fraich!
12

Dwyn – doedd dwyn bwyd er mwyn byw ddim

yn drosedd. Beth bynnag, pe basai’r lleidr yn

dwyn yn gyson, y gosb fasai torri llaw’r lleidr i

ffwrdd.

Anifeiliaid – roedd gwerth ar fywydau pob

math o anifeiliaid hefyd, er enghraifft:

Cath fach – ceiniog

Cath fach cyn dal ei llygoden gyntaf – ceiniog

Cath fach ar ôl dal ei llygoden gyntaf – dwy

geiniog

Cath fawr – pedair ceiniog

Ci gwarchod – 24 ceiniog

CANOLFAN HYWEL DDA

Mae Canolfan Hywel Dda yn Hendy-gwyn ar

Daf. Mae’n lle gwych i fynd i ddarganfod mwy

am fywyd Hywel Dda a’i gyfreithiau. Yn y

ganolfan, mae:

• adeilad ble gallwch chi wneud

gweithgareddau diddorol

• enghreifftiau o’r cyfreithiau

• ystafell Peniarth gyda lluniau o’r gwahanol

fersiynau o’r cyfreithiau

• chwe gardd – pob gardd yn cynrychioli

cyfreithiau gwahanol

Achos Llys

Er mwyn penderfynu ar y gosb, roedd rhaid

cynnal achos llys. Roedd rhaid i’r cyhuddedig:

• roi tystiolaeth

• dod o hyd i bobl i gefnogi ei achos

Roedd nifer y cefnogwyr yn dibynnu ar yr

achos, er enghraifft:

• lladd – roedd rhaid cael 300 o gefnogwyr

• trais – roedd rhaid cael 50 o gefnogwyr

Cyfraith Merched

Roedd statws uchel gyda

merched yng Nghymru.

Roedd hawl gyda merched i

ddewis gŵr ac i ysgaru ar ôl

saith mlynedd o briodas.

LLAWYSGRIF BOSTON

Ym mis Gorffennaf 2012, prynodd Llyfrgell

Genedlaethol Cymru, Aberystwyth lyfr o’r 14eg

ganrif yn cofnodi Cyfreithiau Hywel Dda. Roedd

y llyfr yma ar goll am ganrifoedd yn yr Unol

Daleithiau. Roedd y llyfr yn costio dros hanner

miliwn o bunnoedd!! Mae’r llyfr yn

lliwgar iawn ac yn cynnwys llawer

o ddarluniau hyfryd.

Mae’r ganolfan

yn gofeb ardderchog i un o

arweinwyr mwyaf enwog ein

gwlad.

www.library.wales/discover/digital-gallery/manuscripts/the-middle-ages/

the-boston-manuscript-of-the-laws-of-hywel-dda

Gallwch chi weld y llyfr trwy

ddilyn y linc yma:

CLICIA YMA

i weld y llyfr!

Cofeb i Hywel Dda –

Neuadd y Ddinas,

Caerdydd
HANES YR IAITH TRWY

DDEG DARN O LENYDDIAETH

GEIRFA

trafod – (to) discuss

deddf/au – law/s

cynrychioli – (to) represent

dwyieithog - bilingual

croesawu – (to) welcome

myfyrwyr - students

tybed – I wonder

brenin - king

cyfraith / cyfreithiau – law/s

canrif/oedd – century / centuries

deallus - intelligent

Cymru gyfan – the whole of Wales

ar wahân i – apart from

brenhiniaeth - kingdom

cynhadledd - conference

arweinydd / wyr – leader/s

Hendy-gwyn ar Daf - Whitland

olion - remains

pa rai – which ones

cadw – (to) keep

newid – (to) change

gweld golau dydd – (to) see the

light of day

blwyddyn / blynyddoedd – year/s

gwlad / gwledydd – country/ies

swyddogol - official

yr oesoedd canol – the middle

ages

llys/oedd – court/s

cosb gorfforol – physical

punishment

troseddu – (to) offend

yn lle – instead of

iawndal - compensation

dioddefwr - victim

hawl/iau – right/s

pobl gyffredin – ordinary people

anafu – (to) injure / wound

dyn rhydd – a free man

gwerth - worth

buwch - cow

tafod - tongue

cyfreithiwr - lawyer

torri i ffwrdd – (to) cut off

gwefus/au – lip/s

bys bawd - thumb

ewin – fingernail

clyw - hearing

craith - scar

ymennydd - brains

dannedd blaen / ôl – front / back

teeth

perfeddion – entrails / guts

cudd - hidden

taeog - serf

taro – (to) hit

dwyn – (to) steal

yn gyson - regularly

lleidr - thief

ci gwarchod – guard dog

achos llys – court case

cynnal – (to) hold (an event)

y cyhuddedig – the accused

tystiolaeth - evidence

dod o hyd i – (to) find

lladd – (to) kill

trais - violence

ysgaru – (to) divorce

llawysgrif - manuscript

Llyfrgell Genedlaethol Cymru –

National Library of Wales

cofnodi – (to) record

ar goll – lost / missing

Yr Unol Daleithiau – The USA

darganfod – (to) discover

cofeb – memorial

TASGAU

YR AMSER AMODOL

Darllenwch am ‘iawndal’ yn yr erthygl. Rydyn ni’n defnyddio ‘pe’ gyda’r

amser amodol e.e. Pe baswn i’n ennill y loteri – If I were to win the lottery

Beth am ysgrifennu brawddegau, e.e.

Pe basai person yn colli llygaid, basai’n cael 480 ceiniog o iawndal.

Pe basai person yn lladd cath fawr, basai’n talu pedair ceiniog o iawndal.

13
Rhestr

chwarae

cerddoriaeth

Cymraeg

Beth am fynd ati i wrando ar ein rhestr chwarae newydd ar Spotify?

14

https://open.spotify.com/playlist/0MRtxq1aEvWYeGMSSKTZCe
Yr Awr Fwy – dyma gyfle i bobl ifanc

ddod at ei gilydd mewn awyrgylch

diogel dros Zoom gyda staff cyfeillgar

yr Urdd, ac i gymryd rhan mewn

gweithgareddau hwyliog. Mae’r

sesiynau yn amrywio o gerddoriaeth i

gemau, colur i goginio!

Mae holl sesiynau Yr Awr Fwy am

ddim i aelodau’r Urdd.

Sut i gymryd rhan?

1. Cofrestrwch ar y sesiynau sydd o

ddiddordeb i chi.

2. Ar ddiwrnod y sesiwn gewch chi linc

a chyfrinair i gael mynediad.

3. O roi’r cyfrinair i mewn, fe fyddwch

yn mynd i ‘Ystafell Aros’, a byddwn

yn rhoi caniatâd i chi ymuno â’r

sesiwn.

Clicia yma i weld y rhestr o

gyrsiau ac i gofrestru!

Geirfa

cyfle - chance

at ei gilydd - together

awyrgylch - atmosphere

diogel - safe

cyfeillgar - friendly

cymryd rhan - take part

gweithgareddau - activities

hwyliog - fun

amrywio - vary

cerddoriaeth - music

gemau - games

colur - make-up

coginio - cooking

am ddim - free

aelodau’r urdd - urdd members

cofrestrwch - register

o ddiddordeb - of interest

cyfrinair - password

mynediad - access

ystafell aros - waiting room

caniatâd - permission

ymuno - join

15
Wyt ti’n stryglo gyda’r cyfnod clo?

Cofia – mae’n ocê i beidio bod yn ocê.

Paid dioddef (suffer) ar ben dy hun.

Meic yw'r gwasanaeth llinell gymorth

(helpline service) rhad ac am ddim i

bobl ifanc yng Nghymru.

Cysyllta gyda nhw yn y Gymraeg

neu’r Saesneg – gei di ddewis!

080880 23456

84001

16

http://meic.cymru
17