You also want an ePaper? Increase the reach of your titles
YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.
2

Croeso

Hawlfraint Urdd Gobaith Cymru yw’r holl gylchgrawn oni nodir yn wahanol.

Golygydd: Branwen Rhys Dafydd Dylunydd: Meilyr Gwynn

Cysyllta â ni: iaw@urdd.org neu beth am ymweld â gwefan urdd.cymru/iaw

Helo a chroeso i rifyn Chwefror/Mawrth o IAW!

Mae’r cylchgrawn yn llawn o bethau diddorol (interesting) i dy

helpu i ymarfer a gwella dy Gymraeg.

Wyt ti wedi gweld fideo miwsig newydd yr Urdd a TG Lurgan

o Iwerddon (Ireland)? Clicia ar y fideo isod i glywed fersiwn

Cymraeg a Gwyddeleg (Irish) o’r gân ‘Blinding Lights’ gan The

Weeknd. Mwynha!

Wyt ti wedi clywed am Ddydd Miwsig Cymru o’r blaen? Mae o’n

digwydd ar y 5ed o Chwefror eleni. Ymuna (join) yn yr hwyl! Mi

ydan ni wedi creu rhestr chwarae IAW ar Spotify yn arbennig

(specially) i’n darllenwyr (readers) – beth wyt ti’n ei feddwl?

Cofia gymryd cip ar sesiynau Yr Awr Fwy – gweithgareddau

(activities) ar-lein i bobl ifanc 12-16 oed, sy’n cael eu trefnu gan

yr Urdd. Ac mae yna 3 sianel YouTube newydd ar gael erbyn

hyn, hefyd... digon (plenty) i dy gadw’n brysur (keep you busy)!

Diolch i rai o ddisgyblion Ysgol Uwchradd y Drenewydd am eu

llythyrau. Beth am i chi yrru neges a llun ar gyfer y rhifyn (issue)

nesaf? Byddai’n braf clywed gennych chi!

Hwyl am y tro,

Criw IAW