You also want an ePaper? Increase the reach of your titles
YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.
11

CYNHADLEDD TY GWYN AR DAF

Cyn 942, roedd cyfreithiau

pob ardal yng Nghymru yn

wahanol. Penderfynodd

Hywel gael un gyfraith i

bawb - ond sut?

Galwodd Hywel arweinwyr

o bob ardal yng Nghymru i

gynhadledd yn Nhŷ Gwyn ar

Daf (Hendy-gwyn ar Daf

heddiw).

Dyma Olion Tŷ Gwyn ar Daf

Roedd yr arweinwyr yn:

• trafod yr hen

gyfreithiau.

• dewis pa rai i’w cadw a

pha rai i’w newid.

• trafod cyfreithiau newydd.

Ar ôl chwe wythnos o drafod, dyma Gyfreithiau

Hywel Dda yn gweld golau dydd am

y tro cyntaf. Cyfreithiau Hywel

oedd prif gyfreithiau Cymru

am flynyddoedd i ddod.

Dyma gopi Cymraeg o

Gyfreithiau Hywel Dda

WEL WEL…

Cymru oedd un o’r

gwledydd cyntaf yn

Ewrop i gael cyfreithiau yn

ei iaith ei hun. Lladin oedd iaith

swyddogol y rhan fwyaf o wledydd yn yr

oesoedd canol. Yn amser Hywel, Cymraeg

oedd iaith y gyfraith a Chymraeg oedd iaith

y llysoedd.

CYFRAITH HYWEL

Roedd Cyfreithiau Hywel yn fodern iawn. Roedd hawliau pobl, yn enwedig

pobl gyffredin yn bwysig i Hywel Dda.

Doedd dim llawer o gosb gorfforol am droseddu.

Yn lle cosb gorfforol, roedd y troseddwr yn talu iawndal neu ‘arian gwaed’ i’r

dioddefwr.

Dyma rai o’r cyfreithiau mwyaf diddorol:

Anafu - roedd faint yr iawndal am anafu rhywun yn dibynnu ar ba ran o’r corff roedd yr anaf a statws

y dioddefwr, er enghraifft:

• roedd bywyd dyn rhydd yn werth 3,780 ceiniog neu 63 buwch!!

• roedd tafod cyfreithiwr yn werth 100 buwch!

Dyma’r iawndal am dorri rhan

o gorff dyn rhydd i ffwrdd:

Clust

Llygaid

480 ceiniog

480 ceiniog Craith ar y wyneb

Gwefus

480 ceiniog

Trwyn

480 ceiniog

120 ceiniog

Dyma’r iawndal am anafu rhan

o gorff dyn rhydd:

‘teyr punt a geyf y nep a archoller y

gan y nep ay harchollo’

Craith sy’n agor y pen a

dangos yr ymennydd

tair punt

Bys Bawd

80 ceiniog

Llaw

480 ceiniog

Roedd y dannedd

blaen yn werth mwy

na’r dannedd ôl

Craith ar y llaw

chwe deg ceiniog

Bys

80 ceiniog

Pen y bys

26 a 2/3 ceiniog

WEL WEL…

Pe basai person yn colli clust ond ddim yn

colli clyw, yr iawndal oedd 160 ceiniog!!

Ewin

30 ceiniog

Troed

480 ceiniog

Torri troed neu fraich

tair punt

Craith ar y troed

tri deg ceiniog

Craith cudd

pedair ceiniog

Craith sy’n agor y

stumog a dangos

y perfeddion

tair punt

WEL WEL…

pe basai taeog yn taro

dyn rhydd, y gosb fasai

colli ei fraich!