25.03.2021 Views

Iaw - 2020 02

You also want an ePaper? Increase the reach of your titles

YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.

Helo!

Imogen ydw i a dw i’n

12 oed ac mae fy mhenblwydd

ar Fedi 12. Dw i’n

byw mewn tŷ ar wahân

yn Bettws Cedewain gyda

mam, Neil a ci o’r enw

Lucy. Dw i’n mwynhau

byw yn Bettws achos

mae’n heddychlon. Dw i’n

mynd i Ysgol Uwchradd y

Drenewydd ac es i i Ysgol

Gynradd Hafren. Dw i’n

hoffi mynd i’r ysgol achos

mae’n hwyl a diddorol. Fy

hoff bwnc ydy dylunio a

thechnoleg achos mae’n

fendigedig ond dw i ddim

yn mwynhau mathemateg

achos mae’n ddiflas!

Hwyl.

S’mae!

Fy enw i ydy Mollie. Dw

i’n un deg un oed ac

mae fy mhen-blwydd

ar 2 Chwefror. Dw i’n

mynd i Ysgol Uwchradd

y Drenewydd, ac es i i

Ysgol Gynradd Hafren.

Yn yr ysgol, fy hoff bwnc

ydy Cymraeg achos mae

dysgu iaith newydd yn

hwyl! Hefyd, dw i’n hoffi

technoleg gwybodaeth

achos mae’n hwyl. Fodd

bynnag, dw i ddim yn hoffi

mathemateg achos mae’n

ddiflas!

Tra!

HELO!

Diolch i rai o ddisgyblion

Ysgol Uwchradd y Drenewydd

am eu llythyrau!

Helo,

Aidan ydw i. Dw i’n 12 oed

a dw i’n byw mewn tŷ semi

yn y Drenewydd. Dw i’n

mynd i Ysgol Uwchradd y

Drenewydd ac es i i Ysgol

Penygloddfa. Yn yr ysgol,

dw i’n hoffi dylunio a

thechnoleg achos mae’n

hwyl. Ond, dw i ddim yn

hoffi mathemateg! Ar

ddydd Sadwrn a dydd Sul,

dw i’n hoffi bwyta achos

mae bwyd yn flasus – hefyd,

dw i’n hoffi cysgu achos dw

i’n ddiog!

Diolch.

Helo,

Rowan ydw i a dw i’n un deg un oed. Mae

fy mhen-blwydd i ar Chwefror un deg

wyth. Dw i’n byw mewn tŷ ar wahân yn

y Drenewydd gyda mam o’r enw Lynne,

dad o’r enw Adam ac un brawd o’r enw

Matthew. Mae Matthew yn un deg pump

oed ac yn hoffi chwarae ar y PlayStation.

Does gen i ddim anifail anwes ond dw i

eisiau ci selsig achos maen nhw’n ciwt.

Es i i Ysgol Penygloddfa ond rŵan, dw

i’n mynd i Ysgol Uwchradd y Drenewydd.

Fy hoff bwnc yn yr ysgol ydy celf achos

mae’n fendigedig ond dwi ddim yn hoffi

mathemateg achos mae’n ddiflas. Dw i

wedi mopio ar dechnoleg gwybodaeth

hefyd achos mae’n bwnc diddorol ond dw

i’n casáu reidio ceffylau achos mae’n rhy

araf.

Hwyl am y tro.

Helo, fy enw i ydy Cari ac rydw i’n un deg dau oed. Mae fy

mhen-blwydd i ar Fedi pedwar. Rydw i’n byw mewn tŷ ar wahân

yn Llanllwchaiarn. Rydw i’n byw gyda mam, dad, un chwaer, un

brawd a ci. Enw fy chwaer ydy Maddie ac mae hi’n un deg tri

oed. Mae hi’n mwynhau chwarae hoci. Mae Joey, y brawd, yn

naw oed. Mae o’n hoffi chwarae pêl-droed. Es i i Ysgol Gynradd

Penygloddfa ac rydw i’n mynd i Ysgol Uwchradd y Drenewydd.

Rydw i wedi mopio ar addysg gorfforol achos yn fy marn i, mae’n

hwyl. Ond, dw i ddim yn hoffi addysg grefyddol achos mae’n

ddiflas iawn.

Diolch am ddarllen!

Helo – fy enw i ydy Lexie. Rydw i’n un deg un oed ac mae fy

mhen-blwydd i ar Fai tri deg. Rydw i’n byw mewn tŷ semi

yn Ceri gyda mam, dad, un chwaer fach o’r enw Ruby ac un

brawd bach o’r enw Louis. Rydw i’n caru byw yn Ceri achos

mae’n hyfryd ac mae’r teulu a ffrindiau yn byw yn Ceri

hefyd. Es i i Ysgol Gynradd Penygloddfa ac rydw i’n mynd i

Ysgol Uwchradd y Drenewydd.

Yn yr ysgol, fy hoff bwnc ydy technoleg achos yn fy marn i,

mae o’n fendigedig. Hefyd rydw i’n caru cerddoriaeth achos

mae’n hwyl iawn. Ond, dydw i ddim yn hoffi hanes achos

mae’n ddiflas. Dydw i ddim yn mwynhau gwyddoniaeth

chwaith achos mae’n ofnadwy! Ar ôl ysgol, rydw i’n

caru mynd i wneud gymnasteg – rydw i’n mynd i Glwb

gymnasteg Maldwyn Dragons – mae’n anhygoel!

Hwyl!

Helo!

Fy enw i ydy Grace ac rydw i’n un deg

un oed. Rydw i’n byw gyda mam a dad

yn y Drenewydd. Does gen i ddim brawd

na chwaer. Roedd gen i gwningen o’r

enw Barney ond mae o wedi marw. Felly,

prynais i gwningen newydd o’r enw Rocky.

Mae Rocky yn hoffi moron. Fy hoff hobi ydy

beicio. Rydw i’n mwynhau beicio i’r ysgol

gyda fy ffrindiau.

Yn yr ysgol, rydw i’n hoffi gwyddoniaeth

achos rydw i’n caru ffrwydradau! Hefyd,

rydw i wrth fy modd efo Cymraeg achos

rydw i’n caru ieithoedd. Adref, rydw i’n hoffi

siarad Cymraeg gyda dad ond dydy mam

ddim yn gallu siarad Cymraeg. Es i i Ysgol

Hafren ond rŵan rydw i’n mynd i Ysgol

Uwchradd y Drenewydd.

Hwyl!

S’mae, fy enw i ydy Roxie.

Rydw i’n hoffi ffermio achos

mae’n hwyl. Rydw i’n un deg

un oed. Rydw i’n byw mewn

byngalo ym Mochdre. Rydw

i’n caru celf achos mae’n

fendigedig. Ond, dydw i

ddim yn hoffi Ffrangeg

achos mae’n sialens. Mae

gen i gi o’r enw Annie, mae

hi’n dair oed. Mae gen i

lawer o anifeiliaid ar y

fferm! Es i i Ysgol Hafren

ac rydw i’n mynd i Ysgol

Uwchradd y Drenewydd

rŵan.

Diolch.

Helo!

Charley ydw i. Rydw i’n

un deg dau oed. Rydw i’n

byw mewn byngalo gyda

mam, dad ac un chwaer

o’r enw Ella. Mae Ella yn

naw oed. Mae gen i gi

o’r enw Daisy. Es i i Ysgol

Gynradd Penygloddfa.

Rydw i’n mynd i Ysgol

Uwchradd y Drenewydd.

Rydw i’n hoffi celf achos

mae’n fendigedig – hefyd,

dwi’n mwynhau dylunio a

thechnoleg achos mae’n

ddiddorol. Dydw i ddim yn

hoffi Ffrangeg achos mae’n

ddiflas – na cherddoriaeth

chwaith.

Hwyl fawr!

Helo, James ydw i ac rydw

i’n un deg un oed. Rydw i’n

caru Saesneg yn yr ysgol

achos mae’n ddiddorol.

Dydw i ddim yn hoffi

mathemateg! Ond, rydw i

wrth fy modd efo addysg

gorfforol achos rydw i’n

caru rhedeg.

Rydw i’n byw mewn tŷ

mawr. Mae gen i dri brawd

ac un chwaer. Es i i Ysgol

Gynradd Croft yn Swindon.

Rydw i’n mynd i Ysgol

Uwchradd y Drenewydd.

Hwyl fawr!

3

Hooray! Your file is uploaded and ready to be published.

Saved successfully!

Ooh no, something went wrong!