Create successful ePaper yourself
Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.
12

Dwyn – doedd dwyn bwyd er mwyn byw ddim

yn drosedd. Beth bynnag, pe basai’r lleidr yn

dwyn yn gyson, y gosb fasai torri llaw’r lleidr i

ffwrdd.

Anifeiliaid – roedd gwerth ar fywydau pob

math o anifeiliaid hefyd, er enghraifft:

Cath fach – ceiniog

Cath fach cyn dal ei llygoden gyntaf – ceiniog

Cath fach ar ôl dal ei llygoden gyntaf – dwy

geiniog

Cath fawr – pedair ceiniog

Ci gwarchod – 24 ceiniog

CANOLFAN HYWEL DDA

Mae Canolfan Hywel Dda yn Hendy-gwyn ar

Daf. Mae’n lle gwych i fynd i ddarganfod mwy

am fywyd Hywel Dda a’i gyfreithiau. Yn y

ganolfan, mae:

• adeilad ble gallwch chi wneud

gweithgareddau diddorol

• enghreifftiau o’r cyfreithiau

• ystafell Peniarth gyda lluniau o’r gwahanol

fersiynau o’r cyfreithiau

• chwe gardd – pob gardd yn cynrychioli

cyfreithiau gwahanol

Achos Llys

Er mwyn penderfynu ar y gosb, roedd rhaid

cynnal achos llys. Roedd rhaid i’r cyhuddedig:

• roi tystiolaeth

• dod o hyd i bobl i gefnogi ei achos

Roedd nifer y cefnogwyr yn dibynnu ar yr

achos, er enghraifft:

• lladd – roedd rhaid cael 300 o gefnogwyr

• trais – roedd rhaid cael 50 o gefnogwyr

Cyfraith Merched

Roedd statws uchel gyda

merched yng Nghymru.

Roedd hawl gyda merched i

ddewis gŵr ac i ysgaru ar ôl

saith mlynedd o briodas.

LLAWYSGRIF BOSTON

Ym mis Gorffennaf 2012, prynodd Llyfrgell

Genedlaethol Cymru, Aberystwyth lyfr o’r 14eg

ganrif yn cofnodi Cyfreithiau Hywel Dda. Roedd

y llyfr yma ar goll am ganrifoedd yn yr Unol

Daleithiau. Roedd y llyfr yn costio dros hanner

miliwn o bunnoedd!! Mae’r llyfr yn

lliwgar iawn ac yn cynnwys llawer

o ddarluniau hyfryd.

Mae’r ganolfan

yn gofeb ardderchog i un o

arweinwyr mwyaf enwog ein

gwlad.

www.library.wales/discover/digital-gallery/manuscripts/the-middle-ages/

the-boston-manuscript-of-the-laws-of-hywel-dda

Gallwch chi weld y llyfr trwy

ddilyn y linc yma:

CLICIA YMA

i weld y llyfr!

Cofeb i Hywel Dda –

Neuadd y Ddinas,

Caerdydd