21.07.2015 Views

3624 Kb - Gwerddon

3624 Kb - Gwerddon

3624 Kb - Gwerddon

SHOW MORE
SHOW LESS

Create successful ePaper yourself

Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.

ymaelodi â phleidiau gwleidyddol neu ymaelodi â chapel neu eglwys. 26Ar y llaw arall, ceir allbwn ymchwil sylweddol sy’n canolbwyntio ar ddylanwaduniongyrchol cerddoriaeth ar iechyd a lles. Mae canolfan ymchwil Sidney de Haan 27 ymMhrifysgol Caergaint yn adnabyddus fel uned flaenllaw sy’n arwain mewn ymchwil o’rfath, ac mewn cyhoeddiad sy’n dyddio o 2008, edrychir ar dri deg a phump o bapuraua chyhoeddiadau ymchwil rhyngwladol ar ddylanwad canu ar iechyd. 28 O blith y rhain,casglwyd y prif effeithiau y credir y caiff canu corawl ar iechyd a lles. Maent yn cynnwysdwy ar bymtheg o effeithiau cadarnhaol, sy’n cwmpasu effeithiau ffisegol, emosiynol achymdeithasol. 29Ni cheir yn y papurau ymchwil hyn unrhyw gyfeiriad at Gymru, er cryfed y traddodiadcorawl a geir yma. Yn wyneb y bwlch hwn yn yr ymchwil yn y maes, prif fwriad yr erthyglhon yw ystyried dylanwad canu corawl amatur yng Nghymru heddiw ar iechyd a llespersonol a chymdeithasol yr aelodau. Dewiswyd hyn yn benodol oherwydd y manteisionamlwg o adeiladu ar ymchwil sydd eisoes wedi ei gyflawni ar y pwnc yn rhyngwladol.Ond yn sgil cryfder y traddodiad canu corawl yng Nghymru, byddai astudiaeth o’r fathhefyd yn ennyn ymateb ehangach na’r hyn a gasglwyd eisoes.Cefndir a methodolegCasglwyd data meintiol ac ansoddol drwy gyfrwng holiaduron a oedd yn cynnwyscwestiynau caeedig ac agored. Roedd pedair adran i’r holiadur ac, yn y tair adrangyntaf, casglwyd data meintiol ynglŷn â chefndir yr unigolyn, eu teimladau am ganuyn y côr, a’u hiechyd a’u lles personol. Yn yr adran olaf, casglwyd data ansoddoldrwy gyfrwng cwestiynau agored sy’n archwilio sut y teimlai’r ymatebwyr y mae canucorawl yn dylanwadu ar eu hiechyd a’u lles, ar lefel bersonol a chymdeithasol. Dilyna’rholiadur batrwm a osodwyd gan ymchwilwyr yng nghanolfan Sidney de Haan 30 fel sailgychwynnol, er mwyn sicrhau fod yr holiadur yn archwilio nifer o agweddau amrywiol oddylanwad canu corawl ar iechyd a lles. Fodd bynnag, ychwanegwyd cwestiynau sy’narchwilio arwyddocâd canu corawl fel rhan o’r diwylliant Cymreig, er mwyn ystyried ayw hyn yn ffactor sy’n dylanwadu mewn unrhyw fodd ar les cymdeithasol neu bersonol.26Ibid., t. 259.27Sidney de Haan Research Centre for Arts and Health, Canterbury Christ Church University: www.canterbury.ac.uk/centres/sidney-de-haan-research [Cyrchwyd 5/3/2011].28Clift et al., Singing and Health.29Ibid., tt. 8-9; e.e. ‘physical relaxation, emotional release, a sense of happiness, a sense of greaterwellbeing, increased energy, stimulation of cognitive capacities, being absorbed by an activity,collective bonding, personal contact with others who are like-minded and development ofpersonal supportive friends, contributing to a product that is greater than the sum of its parts,personal transcendence, increased sense of self-confidence, a sense of therapeutic benefit,contributing to the wider community, exercising systems of the body, disciplining the skeletalmuscularsystem, being engaged in a worthwhile activity that gives a sense of purpose andmotivation.’30Stephen Clift, Grenville Hancox, Ian Morrison, Barbel Hess, Don Stewart & Gunter Kreutz (2008),Choral Singing, Wellbeing and Health: Findings from a Cross-national Survey (Canterbury:Canterbury Christ Church University College).<strong>Gwerddon</strong> • Rhif 10/11 Gorffennaf 201220

Hooray! Your file is uploaded and ready to be published.

Saved successfully!

Ooh no, something went wrong!