21.07.2015 Views

3624 Kb - Gwerddon

3624 Kb - Gwerddon

3624 Kb - Gwerddon

SHOW MORE
SHOW LESS

Create successful ePaper yourself

Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.

Gan ddweud hynny, hoffwn fanteisio ar y cyfle i atgoffa ymchwilwyr bod sawl cyfle etoi gyhoeddi yn <strong>Gwerddon</strong> cyn y dyddiad cau gogyfer â’r asesiad ymchwil presennol,hynny yw, diwedd Tachwedd 2013. Cyhoeddir rhifyn 12 o’r cyfnodolyn erbyn Rhagfyr2012 a rhifyn 13 erbyn Awst 2013. Yn y cyfamser rydym yn cynllunio sawl rhifyn arbennigac y mae’n bosibl, pe bai’r deunydd mewn llaw yn ddigon cynnar, y gellid achub yblaen gyda rhifyn 14. Gan ddweud hynny, rhaid pwysleisio’r angen i ymchwilwyr gadwat y dyddiad cyflwyno a hefyd i roi cryn sylw i’r canllawiau cyflwyno perthnasol. Uno’r ffactorau sy’n arafu’r broses o gyhoeddi ar hyn o bryd yw diffyg cysondeb rhaicyfranwyr o ran cyflwyno troednodiadau a llyfryddiaethau. Rhaid ychwanegu, hefyd,nad yw’r ffaith ein bod ni wedi derbyn erthygl yn gynnar yn golygu y byddwn yn medruei chynnwys yn y rhifyn nesaf. Weithiau, oherwydd prinder arfarnwyr a’u prysurdeb, mae’rbroses arfarnu yn hwy nag arfer. Ac, wrth gwrs, er ein bod ni’n ymdrechu bob amseri gyhoeddi erthyglau ar y cyfle cyntaf, gall fod gwahanol ffactorau, fel amrywiaethdeunydd neu faint y rhifyn, yn ein gorfodi i gadw deunydd tan y rhifyn nesaf. Serchhynny, pan cyfyd ystyriaethau golygyddol fel hyn, byddwn yn sicrhau ein bod yn trafod ysefyllfa gydag awduron yr erthyglau sydd wedi eu heffeithio.Wrth gau pen y mwdwl, hoffwn gymryd mantais o’r achlysur i fynegi diolchgarwch ibawb sydd wedi cyfrannu at lwyddiant <strong>Gwerddon</strong> hyd yn hyn. Mae hynny, wrth gwrs,yn cynnwys cyfranwyr – ac i bawb a fynegodd ffydd yn y prosiect yn y dyddiau cynnar,yn cynnwys Gwilym Humphreys, Cadeirydd y Bwrdd Dysgu Drwy’r Gymraeg ac aelodaueraill y Bwrdd hwnnw – ac i bawb sydd wedi rhoi o’u hamser i weithio ar fyrddaugolygyddol dilynol ers y dechrau. Ond yn anad neb, hoffwn ddiolch i Dr Ioan Matthewsam ei gefnogaeth gyson, i Dr Mari Elin Jones ac i Dr Anwen Jones a weithiodd yn ddiflinoyn y dyddiau cynnar i sicrhau cyflenwad o ddeunydd ac o gyfranwyr, ac i Dr GethinRhys a Dr Gwenllian Lansdown Davies am adeiladu ar y gwaith hwnnw a sicrhau fod<strong>Gwerddon</strong> wedi parhau i ddatblygu nes cyrraedd carreg filltir bwysig y degfed rhifyn.<strong>Gwerddon</strong> • Rhif 10/11 Gorffennaf 20128

Hooray! Your file is uploaded and ready to be published.

Saved successfully!

Ooh no, something went wrong!