21.07.2015 Views

3624 Kb - Gwerddon

3624 Kb - Gwerddon

3624 Kb - Gwerddon

SHOW MORE
SHOW LESS

Create successful ePaper yourself

Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.

TrafodaethY ddadl rhwng y cymdeithasol a’r cerddorolYmddengys o’r canlyniadau hyn nad cerddoriaeth yw’r prif ffactor sy’n denu pobl iganu mewn côr, ond fod ffactorau cymdeithasol hefyd yn allweddol. Dyma ffactor sy’nategu barn y beirniaid sy’n honni nad yw’r buddion cymdeithasol a geir drwy gyfrwngcerddoriaeth yn unigryw, ac y gellir cael yr un buddion o ddigwyddiadau cymdeithasoleraill. Er enghraifft, dywed Munira Mirza yng nghyhoeddiad Culture Vultures:Any number of sociable or educational activities, for instance, in sport oreducation or community work, might be more effective in building socialcapital or addressing social exclusion. 103Fodd bynnag, mae’r ffaith i gynifer nodi’r buddion cerddorol a geir wrth ymuno â chôryn gwrth-ddweud ei dadl. Nododd nifer eu bod yn mwynhau’r her gerddorol a geir wrthganu mewn côr, yn hytrach na’r gweithgaredd cymdeithasol yn unig. Adlewyrcha hynun o fuddion cyffredin canu corawl sy’n wybyddus ledled y byd:Being engaged in a valued, meaningful, worthwhile activity that gives asense of purpose and motivation. 104Crisielir yma un o brif fuddion canu corawl. Mae’r elfen gymdeithasol a’r elfen gerddorolyn mynd law yn llaw, ac nid yw’r gerddoriaeth yn eilradd i’r wedd gymdeithasol, nacychwaith yn elfen y gellid ei diystyrru, fel yr awgrymodd Mirza. Daeth i’r amlwg fod rhaibuddion yn unigryw i’r digwyddiad cerddorol. Nodwyd, er enghraifft, bwysigrwydd ybroses o berfformio, nid yn unig yn sgil y wefr a gaiff yr unigolyn, ond hefyd y wefr a gaiffy gynulleidfa – darganfyddiad a ddaeth i’r amlwg yn ymchwil Clift et al:A sense of contributing to the wider community through publicperformance. 105Ceir yma gadarnhad pellach fod canu corawl yn gyfrwng budd unigryw, na ellir ei gaelmewn gweithgareddau eraill sy’n enghreifftiau o gyfalaf cymdeithasol. 106Cyfalaf CymdeithasolAwgryma’r rhesymau cymdeithasol dros ganu mewn côr a welwyd yng nghanlyniadau’rbudd deublyg a geir i ganu corawl a drafodwyd gan Putnam, 107 sef ei fod yn fodd ogryfhau’r cysylltiadau cymdeithasol sydd eisoes yn bodoli (cyfalaf cymdeithasol unedig),ac o bontio rhwng gwahanol rannau o’r gymdeithas (cyfalaf cymdeithasol pontiog).Cydnabuwyd hyn hefyd yn ymchwil Clift et al:103Munira Mirza (2006), ‘The arts as painkiller’, yn Mirza (gol.), Culture Vultures: Is UK Arts PolicyDamaging the Arts? (London: Policy Exchange), t. 104.104Clift et al., Singing and Health, t. 106.105Ibid.106Poortigna, ‘Social relations or social capital?’, t. 259.107Putnam, Bowling Alone.<strong>Gwerddon</strong> • Rhif 10/11 Gorffennaf 201234

Hooray! Your file is uploaded and ready to be published.

Saved successfully!

Ooh no, something went wrong!