21.07.2015 Views

3624 Kb - Gwerddon

3624 Kb - Gwerddon

3624 Kb - Gwerddon

SHOW MORE
SHOW LESS

You also want an ePaper? Increase the reach of your titles

YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.

GolygyddolGyda chyhoeddi degfed rhifyn Gwerddon ar wefan newydd sbon, mae’n naturioloedi am foment i ystyried mor bell yr ydym wedi dod – ac mor bell, hefyd fydd y daitho’n blaenau, cyn i ni allu hawlio ein bod wedi cyrraedd yr amcanion y sefydlwyd ycyfnodolyn i’w gwireddu.Tarddodd y syniad o fanteisio ar dechnoleg cyhoeddi newydd i greu cyfnodolynelectronig lle gellid cyhoeddi erthyglau a fyddai’n cynrychioli’r holl ystod o ymchwilacademaidd yn nhrafodaethau’r Bwrdd Dysgu Drwy’r Gymraeg a sefydlwyd ganBrifysgol Cymru yn 1996. O’r un ffynhonnell daeth yr ymgyrch lwyddiannus i benodiSwyddog Datblygu a sefydlu swyddfa ganolog a arweiniodd yn y pen draw at sefydlu’rGanolfan Addysg Uwch Cyfrwng Cymraeg a’r Cynllun Ysgoloriaethau Ymchwil a’rCynllun Cymrodoriaethau i sicrhau cyflenwad o academyddion a fedrai ddysgu drwy’rGymraeg. Sefydlwyd Gwerddon yn wreiddiol yn Aberystwyth gyda chymorth cyllid addaeth drwy’r Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu, ond o fewn dim darparwydcefnogaeth ariannol a gweinyddol gan y Ganolfan Addysg Uwch Cyfrwng Cymraeg,a esblygodd yn ei dro ym mis Mawrth 2011 i fod y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.Caniataodd hynny ddatblygiad gwefan mwy soffistigedig a sicrhaodd hefyd gymorthgweinyddol. Y mae’n amlwg bod llwyddiant cynyddol y Cynllun Ysgoloriaethau Ymchwil,sydd yn golygu bod nifer sylweddol o ddarlithwyr yn gyflogedig ym mhob un o’rsefydliadau addysg uwch sydd yn derbyn cyfrifoldeb dros ddarparu yn y Gymraeg, ynpwysleisio fwyfwy yr angen am gyfnodolyn i gyhoeddi ffrwyth eu hymchwil.Penderfynwyd o’r dechrau y byddai Gwerddon yn cyhoeddi ymchwil ar draws yrholl ystod o ddisgyblaethau academaidd, a hynny nid oherwydd nad oeddem ynymwybodol o’r ffactorau oedd yn rhwystro hynny, ond oherwydd ystyriem hynny’nrhan annatod o genhadaeth y cyfnodolyn gan sicrhau bod pob math o ymddiddanacademaidd yn cael ei ddatblygu yn yr iaith Gymraeg. Erbyn y rhifyn dwbl cyfredol, ymae Gwerddon wedi cyhoeddi pymtheg erthygl ar hugain. Fel y gellid disgwyl, y maeerthyglau ar agweddau gwahanol o ieithyddiaeth ac addysg yn y mwyafrif, ond maeAstudiaethau Theatr, Cerdd a Therapi Cerdd, Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd,Y Gyfraith, Daearyddiaeth, Gwleidyddiaeth, Ffiseg, Diwinyddiaeth a Pheirianneg hefydwedi eu cynrychioli.Y ffyrdd gwahanol o ystyried ymchwil ar draws y disgyblaethau sy’n gyfrifol am natur ygefnogaeth y mae Gwerddon wedi ei derbyn gan y gwahanol feysydd academaidd.Heblaw am y rhagfarnau sylfaenol sydd mewn grym o hyd mewn rhai cylchoeddacademaidd, ceir disgwyliadau a chanllawiau gwahanol mewn rhai meysydd sydd yn eiGwerddon • Rhif 10/11 Gorffennaf 20126

Hooray! Your file is uploaded and ready to be published.

Saved successfully!

Ooh no, something went wrong!