Y Naturiaethwr
Gaeaf 2001 - Cymdeithas Edward Llwyd
Gaeaf 2001 - Cymdeithas Edward Llwyd
- No tags were found...
Create successful ePaper yourself
Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.
dychwelsant a byw mewn tŷ ar fin y ffordd

o’r enw ‘The Wakes’

Ar ôl graddio yn Rhydychen, ordeiniwyd

Gilbert White yn y flwyddyn 1747 ac fe fu’n

gurad mewn sawl eglwys yn Hampshire a

Wiltshire.Yn y diwedd, cafodd ddyrchafiad i

fywoliaeth Abaty Moreton Pinkney, ond ni

weithiodd yno ei hun er mawr siom i goleg

Oriel a gynigiodd y swydd iddo yn y lle

cyntaf.Yn lle gweinidogaethu yno,

cyflogodd gurad yn ei le, a pharhau i

weithio fel curad yn Hampshire. Drwy

wneud hynny, nid oedd yn rhaid iddo

sŵolegydd. Ar y llaw arall, mae’r rhai at

Barrington yn llawer mwy cartrefol.

Cyfreithiwr oedd Barrington gyda

diddordeb arbennig ym myd natur.

Cychwynnodd y dyddiadur ‘The Naturalist’s

Journal’ a fu o help mawr i Gilbert White i

gadw cofnodion manwl yn drefnus.

Yn ystod wythnos o wyliau ym mis Awst

eleni, cefais gyfle i ymweld â hen gartref y

gŵr enwog. Dywedir nad yw pentref

Selborne wedi newid llawer er ei ddyddiau

ef. Mae ei gartref ‘The Wakes’, lle bu’n byw

fel hen lanc, yn dal yno ar ochr y

ffordd.Mae’r pentref mewn llecyn cysgodol

iawn gyda bryn serth, coediog, rhyw led cae

go dda oddi wrtho, yn ei gysgodi rhag

gwyntoedd gwlyb y gaeaf. Dyma’r ‘Hanger’

Stydi Gilbert White wedi ei dodrefnu’n chwaethus.

Ffenestr goffa Gilbert White yn Eglwys Selbourne.

symud allan o’i filltir sgwâr yn Selborne, ac

felly, câi ddigon o amser hamdden i ddilyn

ei brif ddiddordeb, sef byd natur.

Diddorol yw sylwi fod yna gryn

wahaniaeth yn arddull y ddwy set o lythyrau

a gyhoeddwyd yn y llyfr. Mae’r rhai at

Pennant yn ffurfiol ac yn adlewyrchu statws

cydnabyddedig y gŵr bonheddig hwnnw fel

y sonia Gilbert amdano yn fynych yn ei

lythyrau. Maehanger yn air eithaf cyffredin

mewn sawl ardal yn Lloegr am fryn coediog

tebyg i’n ‘gallt’ ni. Ffawydd yw’r rhan fwyaf

o’r coed yno.

Dywedodd Harold Macmillan unwaith

fod addysg glasurol yn galluogi rhywun i

droi ei law at unrhyw waith.Yn sicr, roedd

hynny’n wir am Gilbert. Gwelwyd y sylfaen

glasurol yn dod i’r amlwg yn y ffordd

ddisgybledig yr âi ati i astudio popeth yn ei

ardal. Cymerai sylw i raddau o’r henebion

a’r holl fywyd gwyllt, ond mae’n amlwg mai

adar oedd ei brif ddiddordeb. Astudiodd

hwy’n fanwl a chyson drwy gydol ei oes.

Nodai pa bryd oedd y gwahanol adar yn

14