Y Naturiaethwr
Gaeaf 2001 - Cymdeithas Edward Llwyd
Gaeaf 2001 - Cymdeithas Edward Llwyd
- No tags were found...
You also want an ePaper? Increase the reach of your titles
YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.
Llun pwy?

Anfonwch eich atebion, ynghyd â brawddeg

neu ddwy amdano (dim mwy na rhyw 200 o

eiriau) i’r golygydd erbyn Mawrth 1, 2002.

Bydd gwobr i’r gorau.

Nid Cymro, ond bu yma droeon.

Cystadleuaeth Rhifyn 8

Yr ateb cywir oedd Evan Roberts,

a’r enillydd y tro hwn yw Dewi

Jones, Pen-y-groes.

Annwyl Olygydd,

Cyhoeddwyd y llun

hwn o Evan Roberts, y

botanegydd

hunan-addysgiedig o’r

Gelli, Capel Curig, ym

mhortread Llŷr

Gruffydd a Robin

Gwyndaf ohono, sef

Llyfr rhedyn ei daid (1987). Chwarelwr oedd

Evan pan enynnwyd ei ddiddordeb gyntaf yn y

planhigion Arctig-Alpaidd drwy ddod ar draws

y Tormaen Porffor ar Foel Siabod, a

chymhwysodd ei hun i ddod yn arbenigwr yn y

maes. Cyfrannodd i fotaneg-maes drwy gadw

cofnodion manwl o ddosbarthiad, niferoedd, ac

amser blodeuo planhigion fel Lili’r Wyddfa. Ef

a ddarganfu safle’r Derig ar y Carneddau, a

thrwy hynny gryfhau dilysrwydd hen safle’r

Derig ar y Glyder. Amheuid ar un adeg i’r

blodyn gael ei blannu yno gan Wil ‘boots’. Ef

hefyd a ail-ddarganfu’r Neidr-lys Mynyddig,

blodyn nas cofnodwyd yn Eryri ers dyddiau

Edward Llwyd. Drwy reddf aeth ati i chwilota i

hanes datblygiad botaneg yn Eryri drwy gasglu

brwd ar gyfrolau topograffig a Floras prin.

Penodwyd Evan Roberts gan y Cyngor

Gwarchod Natur yn Warden cyntaf Gwarchodfa

Natur Cwm Idwal, urddwyd ef yn M.Sc., yn

M.B.E. ac anrhydeddwyd ef gan yr Eisteddfod

Genedlaethol. Mewn oes a welodd ddisodli’r

vasculum gan y camera ymhyfrydai yn y sleidiau

a dynnodd o’r planhigion prin gan eu cynnwys

yn ei ddarlithoedd difyr. Roedd galw mawr am

ei wasanaeth fel tywysydd gan fotanegwyr

blaenllaw, a bu’n ysbrydoliaeth i sawl ‘prentis’

drwy rannu’n hael o’i wybodaeth arbennig.

Cofiaf fynd gydag ef at glogwyn ym Mwlch

Llanberis, ac er bod ei olwg erbyn hynny wedi

pylu cyfarwyddodd fi at safle rhedynen brin.

Cofiaf hefyd eistedd wrth danllwyth o dân yng

nghegin y Gelli ac yntau’n cadarnhau

rhywogaeth planhigyn i mi - drwy deimlo gyda’i

fysedd. Ia, ‘Coleg y Gelli’ a gefais i, ac i aralleirio’r

hen air: “disgybl oeddwn, ef am

dysgawdd”.

Dewi Jones

Pen-y-groes, Gwynedd

29