Y Naturiaethwr
Gaeaf 2001 - Cymdeithas Edward Llwyd
Gaeaf 2001 - Cymdeithas Edward Llwyd
- No tags were found...
You also want an ePaper? Increase the reach of your titles
YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.
gwaethaf yng Nghymru ar 7 a’r 8 Ionawr

1982, pan achoswyd trafferthion enbyd.

Gwelededd (visibility)

Ar y cyfan, y mae’r rhan fwyaf o Gymru

ymhell o’r ardaloedd poblog a diwydiannol,

ac felly’n mwynhau gwelededd ardderchog.

Mae’r ardaloedd diwydiannol sydd yng

Nghymru yn agos i’r môr ac felly yn

gymharol wyntog heb fawr o broblemau gan

fwg.

I mewn yn y wlad ac ar dir uchel gall niwl

fod yn drwchus, ac yn beryglus i gerddwyr yn

Eryri ac ar y Bannau.

Prif ffynhonnell:Y Swyddfa Feterolegol

G.W.

Llythyrau

Llys Helyg,

Pelcomb,

Hwlffordd,

SA62 6EB.

Annwyl Goronwy,

Tra’n cerdded ar Lwybr yr

Arfordir rhwng Sandy Haven a Sain Ismael

yng nghanol Mehefin des ar draws cnwd

cwbl ddieithr imi; llond cae o 20 erw neu fwy

o flodau glas sawrus.

Nid oeddwn wedi gweld y blodyn yma erioed

o’r blaen - Phacelia tanacetifolia,Tansy

Phacelia neu fiddleneck

yn Saesneg.

Tybed a oes eraill o’r darllenwyr wedi’i

weld mewn ardaloedd eraill o’r wlad a beth

yw ei werth economaidd? Byddwn yn

ddiolchgar iawn am unrhyw wybodaeth am y

cnwd yma a oedd yn amlwg yn enghraifft o

arall-gyfeirio yn y byd amaeth.

Cofion gorau,

John Lloyd Jones

Tyfir Ffaselia (Phacelia tanactifolia) fel

cnwd newid neu gnwd saib (break crop) neu

i’w aredig yn ôl i’r tir fel gwrtaith. Mae hefyd yn

boblogaidd ar ystadau sy’n cadw gwenyn gan fod

y blodau’n cynhyrchu llawer o neithdar.

Gol.

Bryn Catwg,

Pentyrch,

Caerdydd CF15 9QF.

Annwyl Duncan Brown,

Darllenais gyda chryn

ddiddordeb erthygl Elinor Gwynn ‘Llên y

Llysiau…’ yn y rhifyn cyfredol o’r

Naturiaethwr. Ers nifer o flynyddoedd bellach

bûm yn cadw nodiadau ar nifer o bynciau yn

ymwneud yn bennaf â hanes a datblygiad

maetheg a hwsmonaeth yng Nghymru.

Sylwais fod yn eu plith nodiadau a baratois

rywbryd ar hanes defnyddio eithin gan

ffermwyr Cymru. Rywbryd, os daw cyfle,

byddaf yn eu cyhoeddi’n llyfr - neu o leiaf

dyna’r bwriad a’r gobaith.

Ardd Las,

Rhoshirwaun,

Pwllheli,

Gwynedd

LL53 8HN

R. Elwyn Hughes

Annwyl Duncan,

Wrth ddarllen erthygl

Elinor Gwynn yn Y Naturiaethwr, Cyf.2,

Rhif 8 daeth cof yn ôl o’m plentyndod, fel yr

34