Y Naturiaethwr
Gaeaf 2001 - Cymdeithas Edward Llwyd
Gaeaf 2001 - Cymdeithas Edward Llwyd
- No tags were found...
Create successful ePaper yourself
Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.
Bywyd Gwyllt ein Llynnoedd

dan Fygythiad

Cyngor Cefn Gwlad Cymru

Mae planhigion ac anifeiliaid sy’n byw yn

llynnoedd Cymru o dan fygythiad mawr gan

lygredd. Dyma gasgliad astudiaeth ar y cyd

rhwng Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Coleg

Prifysgol Llundain a Phrifysgol Manceinion.

Cafodd planhigion a phryfed mewn 25 o

lynnoedd ar hyd a lled Cymru eu hastudio

rhwng 1993 a 1997. Roedd sawl llyn yn Safle o

Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac yn

ddarpar Ardal Cadwraeth Arbennig. Dangosodd

yr astudiaeth fod glaw asid a llygredd o

faetholion o dir cyfagos a llefydd fel systemau

carthffosiaeth, yn effeithio’n arw ar fywyd ein

llynnoedd.

Wrth gymharu cannoedd o

algâu microsgopig yn haenau

uchaf gwaddodion mwdlyd y

llynnoedd gyda rhai ar y

gwaelod, roedd ecolegwyr yn

gallu gweld sut roedd cemeg y

llynnoedd wedi newid dros

amser. Dim ond chwe llyn

oedd heb newid. Roedd effaith

pobl, yn deillio o lygredd

maetholion neu law asid, wedi

Llyn Tegid,Y Bala. Llyn enwocaf

Cymru.

effeithio ar y gweddill. Gydag amser, bydd

newidiadau yng nghemeg llynnoedd yn effeithio

ar y creaduriaid sy’n byw yno.

“Er bod llawer o’r llynnoedd yn dal i gynnal

amrywiaeth o blanhigion ac anifeiliaid, mae eu

dyfodol yn ansicr. Awgryma’r arolwg fod

problemau amgylcheddol difrifol yn wynebu

llynnoedd ledled Cymru”, meddai Dr.

Catherine Duigan, uwch ecolegydd dŵr croyw y

Cyngor. “Rydyn ni’n pryderu’n arbennig am

lynnoedd sy’n cynnwys cryn dipyn o faetholion

yn naturiol. Rydyn ni’n galw’r rhain yn

lynnoedd ‘mesotroffig’. Mae effaith llygredd

maetholion a newidiadau mewn asidedd i’w

gweld ddwywaith mor ddrwg arnyn nhw. Mae

gwaith cadwraeth ar y gweill yn barod i

warchod y math yma o lyn fel rhan o ymateb y

llywodraeth i Gytundeb Bioamrywiaeth Rio.”

“Rydyn ni’n amau bod hyd at 60% o

lynnoedd Cymru wedi’u gwneud yn fwy asidig;

rhai ohonyn nhw i’r graddau fel na allan nhw

bellach gynnal poblogaethau brodorol o frithyll.

Mae’r ymchwil yma’n cryfhau’n cred ni y bydd

glaw asid yn parhau’n fygythiad i lynnoedd a’u

creaduriaid am flynyddoedd lawer”, meddai Dr.

Tim Allott, Prifysgol Manceinion.

Ond dydi’r sefyllfa ddim yn gwbl

anobeithiol. Mae rhai o’r safleoedd wedi

llwyddo i gadw eu planhigion a’u hanifeiliaid yn

wyneb llygredd, ac mae’n bosib

eu hadfer drwy eu rheoli nhw’n

iawn. Er enghraifft, mae Llyn

Idwal yn Eryri wedi gwrthsefyll

effeithiau asideiddio, er ei fod

mewn ardal lle mae yna lefelau

uchel o law asid. Ac mae cyflwr

Llyn Syfaddan ym Mannau

Brycheiniong wedi gwella’n arw

ar ôl i system garthffosiaeth gael

ei hailgyfeirio.

“Mae ymchwilwyr yng Ngholeg

Prifysgol Llundain wedi bod yn monitro

newidiadau amgylchedd yn Llyn Llagi ger

Beddgelert ers 1988. Roedden nhw’n gwneud

hyn fel rhan o Rwydwaith Monitro Dyfroedd

Asidig y DU. Mae’r gwaith yma wedi dangos

tystiolaeth gref o lyn yn adfer ar ôl asideiddio.

Rydyn ni’n meddwl bod cysylltiad rhwng hyn

â’r gostyngiadau diweddar mewn allyriadau

atmosfferig yn dilyn cytundebau llygredd aer

rhyngwladol”, meddai Don Monteith, UCL.

Mae’r Cyngor Cefn Gwlad yn gobeithio y

bydd ymrwymiadau’r Llywodraeth i ostwng

llygredd aer, gweithredu Cyfarwyddyd

Fframwaith Dŵr yr Undeb Ewropeaidd gafodd

ei gytuno’n ddiweddar yn helpu i adfer

llynnoedd Cymru.

20