Y Naturiaethwr
Gaeaf 2001 - Cymdeithas Edward Llwyd
Gaeaf 2001 - Cymdeithas Edward Llwyd
- No tags were found...
Create successful ePaper yourself
Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.
Ymddangosiad yr Ellast yn ei hen

gynefin

Dewi Jones

‘Pennant’, Ffordd Llwyndu, Pen-y-groes, Gwynedd, LL54 6RE

Diwrnod o niwl trwchus oedd Sadwrn 7

Gorffennaf eleni a minnau’n dilyn yr afon:

lawr o Gwm Cennog am Fwlch Llanberis

wedi diwrnod digon diflas o chwilota yn y

Cwmglas. Wedi cyrraedd y ffordd

penderfynais gael golwg wrth odre’r

clogwyni gan alw i weld a oedd y rhedynen

groesryw brin Asplenium x alternifolium

wedi ail-ymddangos yn ei hen gartref, ond

nid oedd sôn amdani. Nid oedd wedi’i

gweld yno ers 80au’r ganrif ddiwethaf.

Fodd bynnag, wrth ddychwelyd o’r safle

deuais ar draws ysgallen a oedd yn debyg

Yr Ellast Carlina vulgaris

Ysgallen eilflwydd fer o liw melyn golau

yw’r Ellast, Carline thistle yn Saesneg a

gelwir hi hefyd yn Ysgallen Siarl, Ellast

cyffredin, Ellast y bryniau ac Ysgallen

ddrainwen.

Mae Hugh Davies yn ei Welsh

Botanology (1813) yn cofnodi’r planhigyn,

a hefyd J.E. Griffith yn ei Flora of Anglesey

& Carnarvonshire (1894/5) wedi’i gweld ger

Penmon a Bwrdd Arthur, Mion ac ar y tir

mawr yn Nantporth, Bangor, Pen y

Gogarth, Twyni Abersoch a Morfa Bychan,

ond nid ar dir mynyddig.

Roeddwn yn cofio gweld cofnodion gan

yr hen fotanegwyr eu bod wedi dod ar

draws yr Ellast ym Mwlch Llanberis a

dywed Norman Woodhead yn ei The Alpine

Plants of the Snowdon Range (1933) ei bod

i’w chael mewn pantiau gwelltog. Ond

cofnod J. Lloyd Williams yn ei nodiadau o’r

27 Gorffennaf 1889 yw’r mwyaf

cadarnhaol:

Had intended going up Snowdon but it was

raining and misty so we went down the Pass to

Llanberis.

Carline thistle plentiful in the Pass. Don’t

remember having noticed it in the mtns before.

Gallaf innau gytuno na welais yr Ellast

yn unman yn y mynyddoedd o’r blaen.

iawn i’r Ellast (Carlina vulgaris) a synnais

weld oddeutu 12 planhigyn, sydd fel arfer

ddim ond i’w cael ar diroedd calchog ac

ymysg twyni glannau môr, yn tyfu yma ar

ucheldir Eryri. Erbyn yr 22ain o’r mis

roedd wedi blodeuo’n llawn, a’r dail wedi

gwywo, ac o weld hyn roeddwn yn hollol

fodlon mai’r Ellast oedd y planhigyn.

21