03.09.2015 Views

Y Naturiaethwr

Gaeaf 2001 - Cymdeithas Edward Llwyd

Gaeaf 2001 - Cymdeithas Edward Llwyd

SHOW MORE
SHOW LESS
• No tags were found...

You also want an ePaper? Increase the reach of your titles

YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.

arferwn dorri eithin tair neu bedair oed -

roeddwn yn rhy fychan i wneud y baich, na’i

gario adra - baich o saith neu naw topan

fyddai’r arfer, ond os oeddach chi’n gawr o

was ffarm, gallech weld baich un-dopan-arddeg

hwyrach.

Er mai gof oedd fy nhaid, yn Efail Rhos,

Rhoshirwaun, a gof oedd o o ran ei

alwedigaeth ar hyd ei oes, cadwai fuwch a llo,

er cael llefrith, ’menyn a’r llaeth enwyn llesol

at fyw. Bu cadw dau fochyn yma hefyd, ond

roedd hyn cyn fy amser i, roedd un mochyn

ar gyfer talu’r rhent, a’r llall yn help i fwydo’r

teulu.

Yn y gaeaf yn enwedig, yr oedd angen

llond cawell o eithin wedi’i falu bob dydd i’r

fuwch, golygai hyn dorri baich bob dydd, a’i

falu efo’r felin eithin, ond ar y Sadwrn, roedd

angen dau lond cawell, gan nad oedd wiw

meddwl am falu ar y Sul; roedd fy nhaid

hefyd yn flaenor ac yn godwr canu, - ond yr

un fuasai’r rheol p’un bynnag, diwrnod i

addoli oedd y Sul i bawb.

Mae llun peiriant malu eithin, y ‘bach’,

neu’r cryman di-fin, a’r glocsen bwydo, yn

rhifyn 1 o Fferm a Thyddyn ag Ifor Roberts,

Ffordd Abererch, Pwllheli yn eu harddangos.

Bum yn troi peiriant cyffelyb ddegau o

weithiau. Roedd y bwydo yn gallu bod yn

waith go beryglus os na ddefnyddiech y

‘glocsen’, cofiaf weld dau neu dri o frodorion

yr ardal wedi colli dau neu dri bys, gan fod y

felin eithin yn tynnu ati ei hun ar ôl cael craff

ar yr eithin, ac os byddai bysedd ynghlwm yn

yr eithin, faliai’r felin yr un botwm beth oedd

yn ei safn.

Mae’r tir, rhosdir mewn gwirionedd, wedi’i

ddatblygu i raddau, ond mae’r ‘cefnau’ i’w

gweld o hyd ar y dalar. Dal, neu rentu rhan

o’r rhos wnâi fy nhaid, oddi ar gymydog da

dros y ffordd, gan fod dwy acer Efail Rhos yn

rhy fychan i gadw buwch a llo, a thyfu tatws,

moron, pys a ffa a hel rhywfaint o wair ar

gyfer y gaeaf.

Âi fy nhaid â’r fuwch ar benffrwyn ar hyd

y ffordd i bori’r ffosydd a’r cloddia’, eto i

helpu’i bwydo. Go brin y cawsai sêl bendith y

Cyngor na’r modurwyr gwallgo heddiw, fel

mae pethau wedi newid,

Cofion,

Wil Wililams

Sea and shore life of Britain and

north-west Europe

Ray Gibson, Benedict Hextall ac Alex

Rogers

Oxford University Press 2001

Pris £35 clawr caled, £16.50 clawr

meddal.

Bwriad awduron y llyfr hwn oedd creu

arweinlyfr i’n helpu i adnabod unrhyw

greadur neu blanhigyn morol y deuwn ar ei

draws. Eu gobaith oedd gwneud hyn heb

ddefnyddio termau sy’n rhy gymhleth na

chanolbwyntio gormod ar anatomi’r

gwrthrych. Ffotograffau yw’r prif gyfrwng a

ddefnyddir i ddisgrifio’r planhigyn neu’r

creadur i ni ond yn ogystal, cyflwynir

llinluniau hefyd lle bo’u hangen a phan

Adolygiadau

nad yw’r llun yn dangos nodweddion yn

ddigon eglur. Ger pob llun mae disgrifiad

ysgrifenedig ynghyd â phwt byr am ecoleg

a dosbarthiad, a brawddeg neu ddwy am

greaduriaid/planhigion eraill sy’n perthyn

yn agos i’r gwrthrych yn y llun.

Mae un cwestiwn sylfaenol sydd yn

rhaid ei ofyn yma. Ai ffotograff yw’r

cyfrwng gorau i ddisgrifio planhigyn neu

anifail i’r darllenydd? Yn y gorffennol mae’r

rhan fwyaf o lyfrau o’r fath, boed hwy’n

lyfrau adar, blodau neu greaduriaid yn

môr, wedi defnyddio lluniau lliw wedi eu

comisiynu gan arlunydd sy’n arbenigo yn y

maes. Mae rheswm da dros hyn. Gall yr

artist gyflwyno cymaint ag sy’n bosib o

nodweddion anifail mewn un llun trwy

ddewis yr osgo a’r ongl sy’n ei ddangos ar

ei orau. Ni all un ffotograff ar ei ben ei hun

35

Hooray! Your file is uploaded and ready to be published.

Saved successfully!

Ooh no, something went wrong!