Anti-Racist Allyship Toolkit
You also want an ePaper? Increase the reach of your titles
YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.
Cwestiynau Cyffredin

Beth sydd angen i mi ei wneud i fod yn gynghreiriad?

I fod yn gynghreiriad mae angen i chi fod yn wrth-hiliol yn weithredol ac yn

llafar yn gyson. Siaradwch yn erbyn anghyfiawnder a phwysleisiwch leisiau

grwpiau ymylol. Gyrrwch newid yn eich gweithle, cymuned leol a gyda theulu a

ffrindiau.

Sut mae cychwyn arni gyda bod yn gynghreiriad?

Mae bod yn gynghreiriad yn sgil: Rydych chi’n meithrin y gallu dros amser ac

mae’n rhaid i chi fod yn barod i wneud camgymeriadau. Yn gyntaf oll, rhaid

deall y problemau. Siaradwch â’ch cydweithwyr i ddeall yr heriau sy’n eu

hwynebu. Mae pobl yn aml yn ofni cymryd y cam hwn, oherwydd nad ydyn nhw

eisiau bod yn rhyfygus neu ddigio cydweithiwr. Gall hyn deimlo’n annaturiol

neu’n gyffyrddus; i helpu pobl i deimlo’n gyfforddus, ceisiwch gychwyn trwy

siarad am her rydych chi wedi’i hwynebu neu brofiad rydych chi wedi’i gael.

Yn ail, rhaid adnabod eich hun. Cysylltwch â’r problemau rydych chi wedi’u

gweld yn seiliedig ar eich profiadau personol eich hun a sicrhewch eich bod

chi’n deall eich rhagfarnau. Yn olaf, gweithredwch bryd bynnag a sut bynnag

y gallwch. Gall fod mor syml ag atal jôc amhriodol, annog cyfranogiad eang

mewn trafodaeth tîm, neu sicrhau cynhwysiant ar wahoddiadau cinio. Neu gall

fod yn fwy ymroddedig, fel ymuno a chymryd rhan mewn grŵp affinedd neu

weithredu fel mentor neu noddwr ar gyfer gweithiwr medrus o grŵp sydd heb

gynrychiolaeth ddigonol mewn swyddi arweinyddiaeth. (Forbes)

A ddylwn i rannu fideos o droseddau casineb i godi

ymwybyddiaeth?

Mae rhannu fideos graffig yn achosi mwy o niwed na lles. Mae’n drawmatig i

gymunedau o liw weld y fideos hyn. Dewis arall yw rhannu graffeg, ffeithiau a

deisebau i godi ymwybyddiaeth.