Ysgol Maes Garmon - Eteach
Ysgol Maes Garmon - Eteach
Ysgol Maes Garmon - Eteach
You also want an ePaper? Increase the reach of your titles
YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.
DISGYBLION NEWYDD

Mae’r ysgol yn perthyn i ddalgylch eang a derbynnir disgyblion o ysgolion gwledig a threfol sy’n amrywio o

ran eu maint. Ceir perthynas agos rhwng Ysgol Maes Garmon a’r ysgolion cynradd sy’n ein bwydo a threfnir

cyfarfodydd cyson rhwng yr athrawon i drafod addysg y disgyblion a sicrhau dilyniant rhwydd o’r cynradd i’r

uwchradd.

Ysgolion Cymraeg sy’n ein bwydo:

Ysgol Croes Atti, Y Fflint

Ysgol Glanrafon, Yr Wyddgrug

Ysgol Gwenffrwd, Treffynnon

Ysgol Mornant, Picton

Ysgol Terrig, Treuddyn

Dros y 5 mlynedd diwethaf mae disgyblion wedi ymuno â’r cynllun Trochi o dros 30 o ysgolion cynradd

Saesneg.

Trosglwyddo

Fe ddylai’r broses o drosglwyddo o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd fod yn un llyfn a phleserus i ddisgyblion

a rhieni. Yn Ysgol Maes Garmon mae trefniadau manwl yn eu lle er mwyn sicrhau fod y disgybl yn teimlo fel

aelod o’r ysgol erbyn iddo/i gyrraedd ym mis Medi.

Yn ystod tymor yr haf fe fydd athrawon Ysgol Maes Garmon yn ymweld â phob disgybl yn ei ysgol gynradd ac

yna fe fyddwn yn eu croesawu atom i dreulio amser yn yr ysgol hon. Hefyd, trefnir cyrsiau preswyl i osod

sylfaen gymdeithasol cyn mis Medi. Defnyddir canolfannau Cenedlaethol yr Urdd, sef Glan Llyn a

Llangrannog ar gyfer y cyrsiau hyn.

‘Mae cyswllt ardderchog rhwng yr ysgol ac ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg a chyfrwng Saesneg sy’n

bwydo’r ysgol a rhaglen anwytho’r ysgol sy’n sicrhau bod disgyblion B7 yn ymgartrefu’n gyflym. Mae

hyn yn gryfder ac fe gaiff hynny ei gadarnhau gan rieni a disgyblion. Mae’r cyfle a gaiff disgyblion B6 o’r

ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg sy’n bwydo’r ysgol i fynd i wersyll Llangrannog gyda disgyblion B7

yn llwyddiant amlwg.’

Arolwg Estyn 2006

Yn ogystal â’r trefniadau hyn ar gyfer y disgyblion, bydd cyfarfod croeso i rieni newydd ym mis Gorffennaf a

chyfarfod bugeiliol ym mis Hydref lle bydd rhieni’n cael y cyfle i gyfarfod â staff a thrafod cynnydd eu plentyn

ers dechrau’r flwyddyn. Mae croeso i rieni a disgyblion newydd ymweld a’r ysgol drwy drefnu apwyntiad

gyda’r swyddfa

4

Ni lwyddir heb lafur Ni lwyddir heb lafur