Ysgol Maes Garmon - Eteach
Ysgol Maes Garmon - Eteach
Ysgol Maes Garmon - Eteach
Create successful ePaper yourself
Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.
CWRS TROCHI

Mae penderfynu magu eich plant yn ddwyieithog yn benderfyniad pwysig ac yn un fydd yn cael effaith ar

weddill eu hoes ac ar eich bywyd chi fel rhieni. Mae yna lawer o fanteision o fod yn gallu siarad dwy iaith.

Bydd eich plant yn gallu mwynhau dau ddiwylliant a hefyd yn gallu pontio’r cenedlaethau wrth siarad yr un

iaith â’u teidiau a’u neiniau neu’r teulu estynedig.

Mae yna hefyd fanteision economaidd. Yng Nghymru heddiw, mae cyflogwyr yn chwilio am bobl sy’n gallu

siarad Cymraeg a Saesneg ac yn gallu gweithio trwy gyfrwng y ddwy iaith. Mae ymchwil yn dangos bod plant

sy’n deall mwy nag un iaith yn gallu meddwl yn fwy hyblyg a chreadigol.

Mae gan Ysgol Maes Garmon hanes llwyddiannus o groesawu disgyblion 11 oed nad oes ganddynt fawr o

Gymraeg a fynychodd ysgolion cynradd cyfrwng Saesneg drwy eu trochi’n llythrennol yn yr iaith Gymraeg.

Yn 2004, fe estynnwyd y cynllun oedd eisoes yn bodoli yn Ysgol Maes Garmon mewn partneriaeth â Bwrdd yr

Iaith Gymraeg i gynnig cwrs iaith dwys i holl ddisgyblion Blwyddyn 6 am 6 wythnos ar ddiwedd tymor yr haf.

Mae’r cwrs yma’n darparu cyfle i ddisgyblion ddechrau dysgu Cymraeg cyn iddynt ddechrau blwyddyn 7 ac yn

cynorthwyo’r broses pontio rhwng yr ysgol gynradd a’r ysgol uwchradd.

‘Mae cwrs dwys i drochi dysgwyr B6 yn y Gymraeg cyn iddynt ddod i Maes Garmon yn ffordd o sicrhau

eu bod yn ymgartrefu’n hapus, ac mae’r ddarpariaeth a gynigir i’r disgyblion yma, yn fugeiliol, yn

ieithyddol ac yn academaidd, yn nodwedd ragorol.’

Arolwg Estyn 2006

Mae cwricwlwm arbennig yn cael ei ddarparu ar gyfer disgyblion y cwrs trochi. Ym mlwyddyn 7, mae cwrs

iaith Gymraeg dwys yn cael ei ddarparu ar gyfer y rhai sy’n dod i Ysgol Maes Garmon yn ddi-gymraeg. Mae

staff sy’n arbenigo mewn ieithoedd a phynciau eraill yn canolbwyntio i ddechrau ar gyflwyno’r disgyblion i’r

iaith Gymraeg, a ddaw’n gyfrwng ar gyfer astudio pynciau eraill yn uwch o fyny’r ysgol. Y nod yw darparu

ystod eang o weithgareddau er mwyn rhoi profiad cyfoethog o ddysgu iddynt trwy gyfrwng y Gymraeg, yn

cynnwys cyrsiau preswyl.

Mae rhaglen gyfannol o astudiaeth yn darparu cwricwlwm llawn a chynhwysfawr yn cynnwys Hanes,

Daearyddiaeth a Drama sy’n cael eu hintegreiddio i’r sesiynau gweithgaredd. Mae Saesneg, Maths,

Gwyddoniaeth, Technoleg, Addysg Gorfforol, Addysg Grefyddol, Celf a Cherddoriaeth yn cwblhau’r rhaglen ar

gyfer y flwyddyn. Mae’r cyflwyniad o Ffrangeg yn cael ei gwtogi i un wers yr wythnos er mwyn rhoi amser i

ddisgyblion atgyfnerthu eu Cymraeg.

Nod yr ysgol yw galluogi disgyblion i ymdopi â bywyd trwy gyfrwng dwy iaith, ac rydym yn eu hannog i

ddefnyddio’r Gymraeg cymaint â phosib ar gyfer cymdeithasu yn ogystal â gwaith. Gofynnwch i’r ysgol am

gopi o’r DVD sy’n dweud mwy wrthych am y profiad o fod yn ddysgwr Cymraeg yn Ysgol Maes Garmon.

Erbyn dechrau blwyddyn 9, mae’r holl ddisgyblion cwrs trochi yn cael eu hintegreiddio’n llawn i’w grŵp

blwyddyn ym mhob maes cwricwlwm.

6

Ni lwyddir heb lafur Ni lwyddir heb lafur