10.01.2013 Views

Llawlyfr Handbook 2010 - Hafan Pwllheli

Llawlyfr Handbook 2010 - Hafan Pwllheli

Llawlyfr Handbook 2010 - Hafan Pwllheli

SHOW MORE
SHOW LESS

You also want an ePaper? Increase the reach of your titles

YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.

8

Hysbysrwydd Yr Hafan

Rheolau'r Marina

Mae Hafan Pwllheli yn dilyn y canllawiau a gyhoeddir gan Gymdeithas yr Harbyrau Cychod

Hwylio a Ffederasiwn Diwydiannau Morol Prydain, sydd yn argymell y dylai pawb sy'n

defnyddio marina gael yswiriant trydydd parti o £3,000,000 o leiaf. Gellir cael copi o'r rheolau

a'r rheoliadau gan y dderbynfa.

Os byddwch yn cyflogi contractwr annibynnol i weithio ar eich cwch, rhowch wybod i ni

ymlaen llaw os gwelwch yn dda fel y gallwn sicrhau y gwneir popeth sydd ei angen a phopeth

sy'n ofynnol o safbwynt yswiriant yn y modd cywir.

Dylai perchnogion angorfeydd fodloni eu hunain eu bod wedi cymryd pob rhagofal rhesymol i

rwystro lladrad neu ddifrod. Mae ceir ac ôl-gerbydau'n cael eu parcio ar risg y perchennog.

Dylai pob ôl-gerbyd a chawell sy'n cael ei storio ar safle'r cwmni fod wedi eu marcio'n glir

gydag enw'r cwch neu enw'r perchennog.

Côd ymddygiad amgylcheddol

Amcan Hafan Pwllheli yw cynnal y cydbwysedd rhwng cychod hamdden a buddiannau

amgylcheddol. Rydym wedi ymrwymo i ddal i wella’n perfformiad amgylcheddol drwy

gyflawni ein dyletswyddau ynghylch cadwraeth a rheoli a gwella’r Hafan a’i chyffiniau.

Mae Hafan Pwllheli’n gweithredu côd glendid llym ac mae’n ystyried fod materion

amgylcheddol yn holl bwysig. Rydym felly’n mynnu y cedwir at y rheolau canlynol bob amser.

• Peidiwch â gollwng dwr budur o waelod y cwch na dwr budur arall e.e. o’r toiledau i’r

hafan nac i’r harbwr. Mae darpariaeth “pwmpio allan” ar gyfer tanciau cadw ar y cei

tanwydd a hefyd uned waredu gemegol.

• Darperir dwy sgip ar gyfer gwaredu gwastraff domestig. Mae hefyd gynwysyddion

arbennig ar gyfer gwaredu hen fatris, olew a hidlyddion o beiriannau a biniau ail gylchu ar

gael ar gyfer gwydr.

• Cofiwch osod cynfasau ar lawr pan fyddwch yn crafu paent gwrthffowlio oddi ar y cwch,

rhowch y crafiadau mewn bagiau a'u rhoi yn y bin gwastraff peryglus.

• Gofalwch nad ydych yn colli tanwydd wrth lenwi tanc y cwch.

• Gwaherddir llenwi tanciau tanwydd ar yr angorfeydd, defnyddiwch y cei tanwydd.

• Ni chaniateir chwythu graean neu dywod, llifanu na gwaith poeth heb ganiatâd penodol,

ysgrifenedig, Rheolwyr yr Hafan.

• Nid ydym yn caniatáu barbiciws nac unrhyw fath arall o dân agored ar yr angorfeydd nac

ar safle’r Hafan.

• Os yn bosibl, golchwch y cychod gan ddefnyddio pwysau d r yn unig, defnyddiwch

lanhawyr ysgafn dim ond pan fo wirioneddol raid. Peidiwch â defnyddio glanhawyr rhy

gawstig yn yr Hafan.

• Dylid ymarfer anifeiliaid anwes oddi ar safle’r Hafan. Mae man addas ar y penrhyn y tu

hwnt i'r parc cychod. Rhaid cadw c n ar dennyn ar yr angorfeydd bob amser. Peidiwch â

gadael i anifeiliaid anwes faeddu safle’r Hafan nac unrhyw dir cyfagos na gadael iddyn

nhw boeni perchnogion cychod eraill.

• Er mwyn hylendid cyhoeddus ac er mwyn cadw’r safle’n lân, peidiwch â bwydo’r bywyd

gwyllt o amgylch adeilad yr Hafan nac ar yr angorfeydd.

• Peidiwch â chwarae cerddoriaeth yn rhy uchel, byddwch yn ystyriol o bobl eraill.

Hooray! Your file is uploaded and ready to be published.

Saved successfully!

Ooh no, something went wrong!