10.01.2013 Views

Llawlyfr Handbook 2010 - Hafan Pwllheli

Llawlyfr Handbook 2010 - Hafan Pwllheli

Llawlyfr Handbook 2010 - Hafan Pwllheli

SHOW MORE
SHOW LESS

You also want an ePaper? Increase the reach of your titles

YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.

12

Hysbysrwydd Yr Hafan

toiledau a Chawodydd

Ceir toiledau a chawodydd ar gyfer perchnogion angorfeydd yn yr adeilad mwynderau. Mae'r

rhain ar agor trwy gydol y flwyddyn, ac eithrio ar yr adegau pan fyddant ar gau i gael eu

glanhau'n feunyddiol. Ceir cyfleusterau ar wahân ar gyfer y cyhoedd ac ar gyfer pobl anabl.

golchdy

Mae golchdy ar gael at ddefnydd perchnogion angorfeydd trwy gydol y flwyddyn. Fe'i lleolir yn

y prif adeilad mwynderau. Mae'r peiriannau golchi a'r peiriannau sychu dillad yn gweithio drwy

rhoi arian parod ynddynt. Gellir cael rhif PIN ar gyfer y drws gan y dderbynfa.

trolïau

Darperir y rhain er hwylustod i'r holl berchnogion angorfeydd. Ewch â'r trolïau yn ôl i'r man lle

maent yn cael eu cadw, os gwelwch yn dda, fel y byddant yn barod ar gyfer y perchennog

angorfa nesaf. Petai troli yn cwympo i mewn i'r d ^wr am unrhyw reswm, rhowch wybod i staff y

marina yn ddiymdroi os gwelwch yn dda fel y gallwn ei gael allan. Ni ddylai plant gael ei cludo

yn y troliau ar unrhyw adeg.

d^wr ffres a thrydan

Ceir d ^wr ffres ar yr holl ysgraffau a cheir pwyntiau p^wer trydan hefyd ar y rhan fwyaf ohonynt.

Cofiwch, oherwydd deddfwriaeth iechyd a diogelwch, mae'n rhaid i gwsmeriaid ddod â'u

pibellau dwr a ceblau trydan eu hunain.

tanwydd, nwy a Rhew

Lleolir blwch tanwydd wrth ymyl y doc codi allan (gweler cynllun y marina). Rydym yn gwerthu

petrol premiwm, disel ac amryw o wahanol fathau o olew. Ni chaniateir llenwi â thanwydd ar

yr ysgraffau. Rhaid mynd â chychod i'r cei tanwydd. Ceir cyfleustra ar gyfer pwmpio toiledau

cemegol allan hefyd. Galwch sianel 80 os gwelwch yn dda i gael y gwasanaeth hwn. Gellir

prynu nwy calor a 'Camping Gaz' gan y dderbynfa. Mae rhew hefyd ar gael i'w ddefnyddio

mewn blychau oer.

offer Codi a golchydd Pwysedd

Mae gennym offer codi symudol Ascom ar gyfer codi cychod yn gyflym ac effeithiol. Gall godi

cychod sy'n pwyso hyd at 40 tunnell ac sydd â lled o hyd at 5.5m. Ceir hefyd graen symudol a

golchydd pwysedd. Galwch yn y dderbynfa i drefnu gwasanaeth. Ceir llawr caled mawr diogel

gyda phwyntiau p^wer ar gyfer cadw cychod yn y gaeaf.

ysbwriel

Darperir sgip fawr ar y safle ar gyfer cael gwared â phob ysbwriel. Ceir cynhwysydd arbennig

hefyd ar gyfer rhoi olew gwastraff, hen batris, tuniau baent a gwydr. Helpwch ni i gadw'r safle'n

lân ac yn daclus, os gwelwch yn dda. Os gwelwch unrhyw sbwriel neu hylif wedi’i golli, rhowch

wybod i staff y marina fel y gallant ddelio â'r mater.

Hooray! Your file is uploaded and ready to be published.

Saved successfully!

Ooh no, something went wrong!