Llawlyfr Handbook 2010 - Hafan Pwllheli
Llawlyfr Handbook 2010 - Hafan Pwllheli
Llawlyfr Handbook 2010 - Hafan Pwllheli
Create successful ePaper yourself
Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.
16

Nodiadau Morio

Mae Hafan Pwllheli ar ochr ddeheuol Penrhyn Ll^yn ac oddi yma mae rhai o'r dyfroedd hwylio

gorau yn y DG o fewn cyrraedd, gan gynnwys Bae Ceredigion, Ynys Môn a'r porthlaoedd deniadol

ar arfordir dwyreiniol Iwerddon.

Wrth hwylio'r dyfroedd ger Penrhyn Ll^yn cewch brofi cyfuniad o amodau llanw a morwrol

cymedrol a phatrwm gwyntoedd amrywiol ac yn y cefndir mae golygfeydd ysblennydd o

fynyddoedd Eryri. Mae'r arfordir ysgythrog hefyd wedi ei ddynodi yn 'Ardal o Harddwch Naturiol

Eithriadol'.

Mae'r Cei Newydd, Aberdyfi, Abermaw, Porthmadog, Llwybrau Sant Tudwal a Phorthdinllaen i gyd

o fewn cyrraedd rhwydd i'r llongwr ar daith benwythnos neu undydd.

y tollau

Mae'r brif swyddfa agosaf yng Nghaergybi. Dylai cychod sydd angen gwasanaethau'r Tollau ffonio

(01407) 760626, neu swyddfa Lerpwl ar 0151 933 7075.

Porthmadog

Mae tref brysur Porthmadog o fewn cyrraedd rhwydd i'r llongwr sydd am aros dros nos yn ystod

taith benwythnos. Mae'r porthladd yn gysgodol iawn ac mae digon i'w weld ar y lan. Gellir cael

pob math o gyflenwadau yn y dref. Mae'n bosibl angori ar hyd cei'r sianel neu yng nghanol y llanw.

Efallai y gallwch gael lle i angori yn yr porthladd mewnol. Ger y fynedfa i'r sianel ceir bar a all

rwystro mynediad pan fydd gwynt cryf yn chwythu tua'r tir adeg y trai.

llwybrau sant tudwal

Mae ynysoedd Sant Tudwal o fewn cyrraedd rhwydd i'r llongwr sydd ar daith undydd. Hwyliwch o

amgylch yr ynysoedd ac angorwch yn y dyfroedd bas ger traeth Abersoch i gael cinio.

Efallai y bydd modd i chi hefyd fanteisio ar un o'r llu angorfeydd sy'n ymestyn allan o Glwb Hwylio

De Sir Gaernarfon. Mae gwasanaeth lansio ar gael. Gellir cael unrhyw gyflenwadau sydd arnoch

eu hangen ar y lan ym mhentref prydferth Abersoch a cheir yno hefyd iard gychod a gwasanaeth

siandler.

ynys enlli

Dylid bod yn ofalus iawn wrth hwylio'r Swnt rhwng Enlli a'r tir mawr. Gall llif y llanw ruthro trwy'r

Swnt ar gyflymdra o dros 5 milltir mor. Hyd yn oed pan fydd y gwynt yn gymedrol, gall y môr

droi'n arw yn sydyn.

Porthdinllaen

Mae'r gilfach hardd ym Mhorthdinllaen yn lle delfrydol i fynd ar daith benwythnos pan fydd y

tywydd yn sefydlog, ar yr amod nad yw'r gwynt yn chwythu o'r Gogledd Ddwyrain. Ceir ambell

angorfa ym mhen ucha'r gilfach ond fel rheol byddant yn cael eu defnyddio. Os felly, gallwch

angori ychydig ymhellach allan yn y bae. Ar y lan ceir traeth ardderchog a thafarn dda. Fe welir

morglawdd o gerrig mawr, sydd o dan y d ^wr adeg llanw uchel, ym mhwynt gogleddol y mynediad

i'r gilfach.