Llawlyfr Handbook 2010 - Hafan Pwllheli
Llawlyfr Handbook 2010 - Hafan Pwllheli
Llawlyfr Handbook 2010 - Hafan Pwllheli
Create successful ePaper yourself
Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.
6

Hysbysrwydd Yr Hafan

Isod rhoddir braslun o'r wybodaeth am y marina y bydd arnoch ei hangen i'ch helpu i gael y budd

gorau o'r cyfleusterau gwych sydd i'w cael yn Hafan Pwllheli.

Os oes arnoch angen unrhyw wybodaeth neu gyngor pellach, cofiwch fod croeso i chi holi un o

staff y marina.

y swyddfa a'r dderbynfa

Mae staff ar ddyletswydd yn y marina 24 awr y dydd ac fe ddefnyddir Sianel 80 VHF i wrando

trwy'r amser. Cadwch lygaid ar yr hysbysfyrdd mawr yn y cyntedd wrth ddod i mewn lle ceir

pob math o wybodaeth fuddiol, yn amrywio o rybuddion morwriaethol i rifau ffôn tacsis.

Cewch gasglu post sy'n cyrraedd ar eich cyfer o'r dderbynfa a gall staff y marina bostio unrhyw

bost sydd i'w anfon allan.

Mae cysylltiad rhyngrwyd di-dâl ar gael i gasglu e-bost ayb.

diogelwch

Mae patrôl nôs ar ddyletswydd rhwng 1900 a 0700, saith diwrnod yr wythnos. Gofynnir i chi

ein helpu os gwelwch yn dda trwy sicrhau bod pob eitem rydd yn cael ei rhoi dan glo neu ei

rhwymo'n dynn.

Rhoddir cardiau diogelwch gyda rhif unigol arnynt i'r rhai sy'n berchen angorfa dan gytundeb

blynyddol. Rhoddir rhif PIN i ymwelwyr, i'w ddefnyddio i ddod i mewn trwy adwy'r ysgraffau ac

mewn cyfleusterau eraill. Newidir y rhifau'n rheolaidd.

Ceir rhwystrau i amddiffyn maes parcio'r perchnogion angorfeydd parhaol a dim ond trwy

ddefnyddio cerdyn diogelwch dilys y gellir mynd i mewn yno. Rhaid i bob car arall ddefnyddio'r

maes parcio mawr cyffredinol. Peidiwch â gadael eich cerbyd yn y man dadlwytho y tu ôl i'r prif

adeilad.

© A Green