Llawlyfr Handbook 2010 - Hafan Pwllheli
Llawlyfr Handbook 2010 - Hafan Pwllheli
Llawlyfr Handbook 2010 - Hafan Pwllheli
You also want an ePaper? Increase the reach of your titles
YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.
28

Gwybodaeth Cyffredin

Yr Arfordir Euraid

Ceir hafan hyfryd i hwylwyr ym Mhenrhyn Ll^yn - baeau diderfyn gyda thywod, clogwyni

ysgythrog a chilfachau cudd. Ceir digon o gyfle hefyd i chwarae golff a thennis, marchogaeth,

pysgota a cherdded.

Yn Abersoch ceir milltiroedd o draethau tywod gwych ac amodau delfrydol ar gyfer hwylio ac

mae llawer o bobl yn meddwl am y fan fel Rifiera Cymru. Mae'r dref lan môr draddodiadol hon

yn llawn swyn a phleser yw ymweld â hi.

Tref farchnad brysur yw Pwllheli, sydd bellach yn gartref i un o farinas gorau gwledydd Prydain.

Cofiwch ymweld â'r farchnad ar ddydd Mercher, a hefyd y ganolfan hamdden wych sydd yn y

dref hon. Ym Moduan mae hwyl i'w gael hefyd ym Mharc Antur Bodfel.

Ymhellach ar hyd yr arfordir yng Nghricieth mae castell gwych Llywelyn Fawr o'r drydedd ganrif

ar ddeg. Ym mhentref Llanystumdwy ger Cricieth ceir amgueddfa hynod ddiddorol a thaith

ganfod yn olrhain bywyd Lloyd George, un o'r areithwyr a'r gwladweinwyr mwyaf a gafodd

Prydain erioed.

Ym Mhorthmadog, mae'r Cob yn ffurfio harbwr hwylio deniadol. Tan yn gynharach yn y ganrif

hon, bu'r dref yn borthladd llongau prysur ar gyfer y fasnach lechi, gyda'r llechi'n cael eu cludo o

Flaenau Ffestiniog ar lein fach Ffestiniog, sydd bellach yn atyniad pwysig i dwristiaid. Adroddir

hanes morwrol yr ardal yn awr mewn amgueddfa yn hen warws llechi'r porthladd.

Ger Porthmadog, mae traeth braf Morfa Bychan, a phentrefi deniadol Borth y Gest a

Thremadog, pentref genedigol T.E. Lawrence, a ddaeth yn enwog fel Lawrence o Arabia.

Atyniadau lleol eraill yw Melin Wlân Bryncir yng Ngolan, Crochendy Porthmadog lle cewch roi

cynnig ar wneud eich crochenwaith eich hun, a phentref Portmeirion.

Eifionydd a Mynyddoedd Eryri

Mae ardal hardd Eifionydd a’i dyffrynnoedd ir, ei llynnoedd cudd a’i mynyddoedd creigiog

uchel. Beddgelert yw’r adwy i Eryri, ac mae’n ganolfan i ddringwyr ac i ymwelwyr sy’n dymuno

troedio’r llwybrau i gopa’r Wyddfa, Moel Hebog, Y Moelwyn a’r Cnicht. Ym Meddgelert, mae

Afon Glaslyn ac Afon Colwyn yn uno i lifo drwy Aberglaslyn gyda’i olygfeydd ysblennydd. Ceir

cyfoeth o ddyddodion mwynol yn llynnoedd a chreigiau rhewlifol yr ardal ac mae’n bosibl

ymweld â Gwaith Copr Fictoraidd Sygun.

© A Green