12.07.2015 Views

Untitled - Literature Wales

Untitled - Literature Wales

Untitled - Literature Wales

SHOW MORE
SHOW LESS
  • No tags were found...

Create successful ePaper yourself

Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.

Digwyddiadau aDdarparwyd yn UniongyrcholYr Eisteddfod Genedlaethol - roeddpresenoldeb yr Academi yn yr EisteddfodGenedlaethol yn y Bala yn 2009 mor gryf agerioed. Mae uchafbwynt yr wythnos, y Stomp,yn dal i dorri pob record presenoldeb. Yn 2009mwynhaodd dros 650 o bobl noson aflafaryng nghwmni 16 o feirdd dan wyliadwriaethy Stompfeistr Arwel ‘Pod’ Roberts. Yn ogystalâ'r llwyddiant hwn, trefnodd yr Academi a TŷNewydd ar y cyd gyflwyniad llenyddol i'r ardalo'r enw Wrth Fynd Efo'r Beirdd i'r Bala. Ymhlithy cyfranogwyr yr oedd Bethan Gwanas,Andrea Parry, Dewi Prysor, Hâf Llewelynac Arwel Roberts. Roedd digwyddiadau'rAcademi o amgylch y maes yn ystod yrwythnos yn cynnwys gweithdy Sgwadiau`Sgwennu’r Ifainc gyda Penri Roberts; AndreaParry'n gweithio ar y prosiect traws ffurf argelfyddyd, Hadau, yn y Lle Celf; dathliad o Teyn y Grug ar y cyd â Chymdeithas Cae’r Gors;lansio Taliesin, a thrafodaeth grŵp gyntaf yflwyddyn ar y Cyfansoddiadaua Beirniadaethau.Llenyddiaeth yng Nghymru yn y Gelli -Yr Academi a arweiniodd y gwaith o greurhaglen o weithgaredd yn ystod GŵylLenyddiaeth (The Guardian) y Gelli. Menter ar ycyd oedd hon â Llywodraeth Cynulliad Cymru,Cyngor Llyfrau Cymru, Llyfrgell GenedlaetholCymru, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru aChyngor Celfyddydau Cymru. Ar hyd yr wythnosbu cyfres o lansiadau llyfrau, derbyniadau,darlleniadau a sgyrsiau ag ymwelwyr gangynnwys aelodau o Sgwadiau `Sgwennu’rIfainc. Roedd Scott Quinnell, Eurig Salisbury,Daniel Morden, John Davies, Twm Morys, GwynThomas, Jason Walford Davies ac M. WynnThomas ymhlith yr awduron a'r academyddiona fu'n siarad, yn darlithio, yn trafod ac aradegau'n dadlau ar hyd wythnos y Gelli.Stomp Farddoniaeth - unwaith eto, ymunoddyr Academi â BBC Radio 4 i drefnu rowndCymru Performance Poetry Slam y DeyrnasUnedig. Cymerodd deunaw o feirdd o Gymruran yn y digwyddiad yng nghanolfan Glan yrAfon yng Nghasnewydd. Dewiswyd SimoneMansell Broome o Landysul a Kit Lambert oGaerdydd gan y beirniaid i gynrychioli Cymruyn y rownd gynderfynol yn Reading.Perfformiadau - Ar ôl cyd-berfformiadaullwyddiannus yn Ewrop ac America,ymwelodd Owen Sheers a Fflur Dafydd âChanolfan Gelfyddydau Aberystwyth, Colegy Drindod, Caerfyrddin a Chanolfan DylanThomas, Abertawe ar nosweithiau olynol ymmis Hydref. Gyda'i gilydd buont yn perfformioeu gwaith mewn noson ddwyieithog unigrywo farddoniaeth, rhyddiaith a chân.Diwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth - ynogystal â pharhau i weithio gyda PhwyllgorLlywio Diwrnod Cenedlaethol Barddoniaethbu'r Academi hefyd yn dathlu digwyddiad 2009trwy gefnogi gweithgareddau barddoniaethyn Llyfrgell Ganolog Caerdydd a agorwydyn ddiweddar. Darllenodd Ifor Thomasddetholiad o'i waith ei hun a chynhalioddweithdai ar gelfyddyd ennill gwobrau ar y cydâ Chystadleuaeth Farddoniaeth RyngwladolCaerdydd 2010.Rhaglen Beirniaid Newydd - Mewnpartneriaeth â'r Academi, lansiodd NationalTheatre <strong>Wales</strong> fenter newydd i geisio hybuysgrifennu beirniadaeth yng Nghymru.Dewiswyd Ben Bryant, Dylan Moore, MeganJones ac Adam Somerset o blith nifer fawri fod yn Feirniaid Newydd y rhaglen. Cânteu mentora, un-ag-un, gan y beirniaidcelfyddydau Lyn Gardner ac ElisabethMahoney, wrth iddynt ddilyn ac adolygurhaglen blwyddyn gyntaf National Theatre<strong>Wales</strong> o ddeuddeg sioe mewn deuddeg mis.Mountains and Islands - Cynhaliwyd encilysgrifennu 2009 yr Academi yn y gyfresMountains and Islands yn Llangynidr ymMhowys. Y tiwtor oedd Chris Mereditha gymerodd ddeunaw o encilwyr trwybenwythnos hir o weithdai, darlleniadaua sesiynau tiwtorial unigol.America - Ymunodd nifer o lenorion Cymruâ'r ddirprwyaeth o artistiaid, ymarferwyr aswyddogion a gynrychiolodd Gymru yng NgŵylWerin y Smithsonian 2009 yn WashingtonDC, gŵyl a gyd-gysylltwyd ac a noddwydgan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Roedd yrAcademi wedi paratoi'r ffordd ym mis Mawrth2009 â dathliad wythnos o hyd o ysgrifennuCymru ym mhrifddinas UDA. Ochr yn ochr â'rBardd Cenedlaethol Gillian Clarke bu Iforap Glyn, Clare Potter, Gwyneth Glyn, MabJones, Aneirin Karadog a Ceri Wyn Jones ynperfformio yn ystod yr ŵyl bythefnos. Ymhlithuchafbwyntiau'r ŵyl gwelwyd Ceri Wyn Jonesac Ifor ap Glyn yn cymryd rhan mewn seremonigadeirio fyrfyfyr ynghyd â stomp farddoniaethrhwng Cymru ac America. I nodi'r achlysur yngNghymru, trefnodd yr Academi ddigwyddiadFrom Washington with Love ym mis Mawrth,gan ddod â Tom Anderson, Catrin Dafydd, FflurDafydd, Eurig Salisbury ac Owen Sheers yn ôlat ei gilydd yn y Fuwch Goch yng Nghaerdydd.Daeth 2009-2010 i ben â digwyddiad ygwerthwyd pob tocyn iddo yng NgwestyDewi Sant ym Mae Caerdydd, yng nghwmni'rBardd Llawryfog Carol Ann Duffy a'r BarddCenedlaethol Gillian Clarke. Yn y digwyddiadhwn dathlodd yr Academi hefyd ei1,000,000fed aelod o'r gynulleidfa.

Hooray! Your file is uploaded and ready to be published.

Saved successfully!

Ooh no, something went wrong!