12.07.2015 Views

Untitled - Literature Wales

Untitled - Literature Wales

Untitled - Literature Wales

SHOW MORE
SHOW LESS
  • No tags were found...

You also want an ePaper? Increase the reach of your titles

YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.

Gweithgareddau'r AelodauAr 6 Mawrth 2010 cynhaliodd yr Academiginio yng Ngwesty'r Conrah yn Aberystwythi ddathlu hanner can mlwyddiant yGymdeithas yng nghwmni un o'i sylfaenwyr,Bobi Jones. Sefydlwyd yr Academi Gymreigym 1959 yn dilyn trafodaethau rhwng BobiJones a Waldo Williams. Cynhaliwyd ycyfarfod swyddogol cyntaf yng Nghaerdyddym 1960. Rhoddodd Bobi Jones anerchiadbywiog am ddechreuadau’r Gymdeithas.Croesawyd Bobi hefyd yn swyddogol ynLlywydd Anrhydeddus newydd y Gymdeithas.Yn ei anerchiad, talodd deyrnged i'wragflaenydd, y diweddar T. Llew Jones.Dydd y Farn - Cynhaliwyd ysgol undyddar feirniadaeth yng Ngwesty'r Cambria,Aberystwyth ym mis Mawrth. Roedd ypwnc yn amserol ac yn berthnasol i sawlprosiect a dadl sydd ar y gweill ar gyflwrbeirniadaeth gelfyddydol yng Nghymruheddiw. Traddododd Gareth Miles y brifddarlith, ar sail ei bapur ar gyfer yr adrandrafodaeth ar wefan Cyngor CelfyddydauCymru, a Jon Gower oedd cyflwynydd ydydd. Trafododd Karen Owen, Siân MelangellDafydd a Menna Machreth eu cyfraniad iGyfnewidfa Feirniaid Washington a Chymruy llynedd, a drefnwyd gan Visiting Arts igyd-fynd â phresenoldeb Cymru yng Ngŵyly Smithsonian. Trafododd Alan Llwyd a CeriWyn Jones y broses o feirniadu'r prif wobraullenyddol yn yr Eisteddfod Genedlaethol, aphoblogrwydd parhaus y Cyfansoddiadaua Beirniadaethau. Daeth y diwrnod i ben âchyflwyniadau gan dri beirniad ar ddetholiado weithiau diweddar: Dafydd Morgan Lewisar nofel Llwyd Owen, Mr Blaidd; adolygiadgan Sioned Williams o gynhyrchiad cyfredol yTheatr Genedlaethol, Y Gofalwr ac adolygiadgan Dr Kate Woodward o ddwy ddramaNadolig ar S4C, Ar y Tracs a Ryan a Ronnie.New Narratives - cynhaliodd yr Academigynhadledd 2010 yr Adran Saesneg yngNgwesty a Bythynnod Gelli-fawr yng NghwmGwaun yn Sir Benfro. Cyflwynwyd digwyddiadpreswyl un noson o'r enw New Narrativesgyda Tom Anderson yn archwilio byd lledffuglennolysgrifennu am deithio; sesiwn arlên meicro a ffurf y stori fer gyda DeborahKay Davies, Holly Howitt a Kathryn Gray;Joe Dunthorne ar addasu ei nofel gyntaf,Submarine, yn ffilm; trafododd MalcolmPryce a Niall Griffiths y newidiadau a weliryn Aberystwyth a chafwyd cwis llenyddolynghyd â barddoniaeth gan Kathryn Gray,Carrie Etter a Joe Dunthorne. Ar draethtrawiadol Parrog gerllaw cyflwynwyd sgwrsgan Damian Walford Davies ar fersiwnnewydd o chwedl Pwyll, Pendefig Dyfedgan Russell Celyn Jones.

Hooray! Your file is uploaded and ready to be published.

Saved successfully!

Ooh no, something went wrong!