12.07.2015 Views

Untitled - Literature Wales

Untitled - Literature Wales

Untitled - Literature Wales

SHOW MORE
SHOW LESS
  • No tags were found...

Create successful ePaper yourself

Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.

Bardd Plant CymruTrosglwyddwyd mantell Bardd Plant Cymruoddi wrth Ifor ap Glyn i'r bardd a'r cerddorTwm Morys yn 2009 mewn seremoni ar briflwyfan Eisteddfod yr Urdd yng Nghaerdydd.Mae Bardd Plant Cymru yn brosiect ar y cydrhwng yr Academi, S4C, Cyngor Llyfrau Cymruac Urdd Gobaith Cymru.Ymwelodd Twm â thros 45 o ysgolion -record i'r prosiect - gan gynnwys niferyn y de-ddwyrain lle nad yw'r Gymraego anghenraid yn iaith gyntaf i'r plant.Defnyddiodd gerddoriaeth a gwybodaeth amhanes a diwylliant lleol i'w helpu i gyfathrebu.Cydweithiodd hefyd ag ysgolion ar brosiectgydag Opera Cymru, gan gyfieithu ac addasu'Carmen' Bizet i'r Gymraeg.Yn Eisteddfod yr Urdd yn Llanerchaeron ymmis Mehefin 2010 cyhoeddwyd mai'r comedïwr,y bardd a'r cerddor Dewi Pws Morris fyddaiolynydd Twm.CystadlaethauCystadleuaeth Farddoniaeth RyngwladolCaerdydd yr Academi - Cyhoeddwydcanlyniadau cystadleuaeth 2009, afeirniadwyd gan Ian McMillan a KurtHeinzelman, ym Mae Caerdydd ar fwrddy bad Seren-y-Bae. Darllenodd BarddCenedlaethol Cymru, Gillian Clarke,ddetholiad o'i gwaith ei hun o'i blwyddyngyntaf fel Bardd Cenedlaethol cyn cyhoeddi'renillwyr. Aeth y wobr gyntaf o £5000 i JaneRouth o Gaerhirfryn am ei cherdd The Giftof Boats. Aeth yr ail wobr (£500) i'r barddChristopher Simons o Brydain a Chanada, acEmily Berry o Lundain a enillodd y drydeddwobr (£250). Dyfarnwyd £50 yr un hefyd ibump arall: Marianne Burton o Lundain;Laila Farnes o Nittedal, Norwy; StephenMoore o Lerpwl; Philip Tomkins o Gaerdydda Pat Winslow o swydd Rydychen. Cafwyddiweddglo addas i'r digwyddiad wrth i'r barddIfor Thomas, wedi'i wisgo ar gyfer yr achlysurmewn siwt, tei a het wellt, ddiddanu'rgwahoddedigion â pherfformiad bywiogo beth o'i waith a ysbrydolwyd gan Gaerdydda'r Bae.Cystadleuaeth Stori Fer Rhys Davies -Siân Preece o Gaerdydd a ddewiswydgan y beirniaid, Niall Griffiths a StevieDavies yn enillydd 2009 am ei stori GettingUp. Derbyniodd y wobr gyntaf o £1000.Cyhoeddwyd enwau’r enillwyr mewn seremoniyn Bar One, Canolfan Mileniwm Cymru ym misChwefror 2010. Derbyniodd deg arall a ddaethyn agos i'r brig £100 yr un.Eu henwau oedd: Angela Graham oGaerdydd; Robert Hunt o Gaerffili; ClementineHollister o Newcastle Upon Tyne; Craig Haweso Gastell-nedd Port Talbot; Mike Jenkins oFerthyr Tudful; Samantha Kemp o Blackwood;Dave Lewis o Bontypridd; Joâo Morais oGaerdydd; Jeb Loy Nichols o'r Trallwng aSarah Wishart o Lundain.Yn ystod y seremoni, cyhoeddodd Kate McAll,Uwch Gynhyrchydd Drama Radio BBC <strong>Wales</strong>,y byddai tri o'r storïau arobryn, Getting Upgan Sian Preece, Dammed gan Sarah Wisharta Zeina gan Craig Hawes, yn cael eu darlleduar BBC Radio 4 ym mis Mawrth. Darllenwyd ystorïau gan seren Torchwood, Gareth DavidLloyd; yr actores, Caryl Morgan; a'r actor,Steffan Rhodri o Gavin and Stacey a ConPassionate. Cyhoeddir casgliad o'r storïauarobryn gan Leaf Books yn ddiweddarachyn 2010.Gwobr John Tripp am Farddoniaeth Lafar -Dychwelodd y wobr yn 2009 gyda phedairrownd ar draws Cymru yn Sefydliad yGlowyr Llanhiledd yng Ngwent, CanolfanGelfyddydau Pontardawe, The Gate yngNghaerdydd a Venue Cymru yn Llandudno.Dewiswyd pedwar bardd o bob rowndragbrofol i fynd i'r rownd derfynol ynThe Wharf ym Mae Caerdydd. O'r 16 hyn,dewiswyd Dafydd Wyn o Rydaman ynfuddugwr gan feirniaid y rownd derfynol,Deborah Kay Davies, Kathryn Gray a WiardSterk. Enillodd Dafydd £500, ac enillodd ymyfyriwr Liam Johnson yr ail wobr ynghydâ gwobr y gynulleidfa o £100 yr un.

Hooray! Your file is uploaded and ready to be published.

Saved successfully!

Ooh no, something went wrong!