12.07.2015 Views

Untitled - Literature Wales

Untitled - Literature Wales

Untitled - Literature Wales

SHOW MORE
SHOW LESS
  • No tags were found...

Create successful ePaper yourself

Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.

Yr Academi yw'r AsiantaethGenedlaethol er HyrwyddoLlenyddiaeth a ChymdeithasLlenorion Cymru.Prif Weithredwr: Peter FinchAcademiTŷ Mount StuartSgwâr Mount StuartCaerdydd CF10 5FQCanolfan Glyn JonesCanolfan Mileniwm CymruBae Caerdyddpost@academi.orgwww.academi.orgwww.sgwadiausgwennu.orghttp://taliesin.academi.org/029 2047 2266Elusen Gofrestredig Rhif 506402dylunio | design Hoffi.comhybu llênliterature promotion


Yr Academi GymreigAdroddiad Blynyddol1RhagairHarri Pritchard JonesJohn PikoulisDoes dim byd fel yr Academi. Dros ydeuddeng mlynedd diwethaf, y mae weditrawsnewid darpariaeth lenyddol Cymru,fel y dengys y tudalennau canlynol. Danarweiniad y Prif Weithredwr, Peter Finch, maewedi creu rhaglen sy'n hyrwyddo pob ffurfar lenyddiaeth - rhai ohonynt yn drawiadolo newydd, a hynny o ran cynnwys ac oran cyfraniad y gynulleidfa, yn enwedigpaffwragedd y Gelli-gaer.Un o ffigurau allweddol yr adroddiad yw'r1,000,000fed person i fod yn bresennol yn uno ddigwyddiadau'r Academi ers ei hailwampioym 1998. Mewn gwlad nad yw ei phoblogaethfawr mwy na phedair gwaith y nifer hwnnw,mae'n gamp ryfeddol. Ffigur allweddolarall: y llynedd noddodd yr Academi 1,000 oddigwyddiadau cyhoeddus a mynychwydy rheiny gan dros 80,000 o bobl. Heb fedr,dyfeisgarwch ac effeithlonrwydd rhyfeddol niellid bod wedi cyflawni dim o'r fath.Effeithlonrwydd yw ein harwyddair o hyd.Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wediaddo ail-drefnu trylwyr ar ei glientiaid, a'rllywodraeth newydd wedi addo lleihaunawdd o'r flwyddyn nesaf. Oherwydd hynny,bydd yn anodd iawn inni gynnal ein rhaglennicraidd. Mae'r angen am arian o ffynonellaueraill yn fwyfwy taer.Bydd darllenwyr yn gweld tabl yn yradroddiad hwn yn rhifo gweithgareddau'rAcademi yn ôl ardal, digwyddiad achyfanswm gwariant. Mae'n anorfod bod rhaiardaloedd yn gwneud yn well nag eraill ondbwriadwn sicrhau cyn deced cydbwysedd agy bo modd, gan gofio cyfraniad y ffactorauhanesyddol, ieithyddol a demograffig niferus.Cofnodir hefyd nad yw'r Academi'n gwariofawr ddim y tu allan i Gymru. Go brin mai fellyy dylai fod, ond adnoddau – ac angen – sy'ngorfodi hynny.John PikoulisCyd-gadeiryddMae ystod a rhychwant gweithgarwch yrAcademi Gymreig yn rhyfeddu rhywun:hybu llên ym mhob twll a chongl o’r wlad,er bod diffyg cyllid yn golygu nad yw’rddarpariaeth yn gyfwerth ym mhob man.Ond rhaid pwysleisio nad bwydo llwysy’n digwydd, gyda’r Academi yn gwthiogweithgarwch llenyddol ar unigolion achymdeithasau ac ati. Na, cynorthwyo pobla chymdeithasau i helpu’u hunain mae’rAcademi, ac mae hynny’n cael ei adlewyrchuyn y ffaith fod mwy o weithgareddau’ndigwydd mewn rhai ardaloedd nag mewnrhanbarthau eraill. Tristwch yw gorfodcofnodi fod llai o weithgareddau mewnardaloedd difreintiedig, a hynny yn yrhanbarthau diwydiannol yn bennaf. A’rrheswm am hynny bron yn ddieithriad ywdiffyg adnoddau, a bod hen draddodiadauo gynnal gweithgareddau celfyddydol wediedwino. Mae hyn yn cynnig her i ni yn yrAcademi i helpu pobl yn yr ardaloedd dansylw i allu gwerthfawrogi a chyfrannu i’r bydllenyddol, ac adeiladu ar hen draddodiadaua chyfraniadau awduron o’r llefydd hyn.Diolch i’r drefn, mae’r Academi hefydyn cynnig cymorth i aelodau difreintiedigarbennig megis carcharorion a chleifioni elwa ar y budd a ddaw wrth ymwneudâ llenyddiaeth, ac rydyn ni’n cael cefnogaethariannol i hyn oddi wrth y llywodraeth ynuniongyrchol y tro hwn, nid trwy’rCyngor Celfyddydau.Wrth i’r pwrs cyhoeddus grebachu yn yblynyddoedd nesaf hyn, onid oes lle i raio gyrff masnachol Cymru gynnig cymorth i’rcelfyddydau? Buasai’n lles i enaid ambellgyfoethogyn i wneud hynny.Ond, yn gyffredinol, rhaid inni ddal i ddibynnuar bwrs y wlad, a gobeithio y bydd pawbfel unigolion a chynrychiolwyr cymunedaua chymdeithasau yn pwyso ar y llywodraethyma ac yn San Steffan i ochel rhag troi’nPhilistiaid yn enw darbodaeth cyllid.Harri Pritchard JonesCyd-gadeirydd


Llenyddiaeth -Gwreichion, Goleunia Rhu TaranauA'r dirwasgiad yn brathu'n ddyfnach,byddech wedi disgwyl blwyddyn gynnil.Diflannodd cytundebau, caeodd busnesau,a chynyddodd nifer y di-waith. Maecyfraddau llog yn ffitio bellach ar flaen pin.Ers dros flwyddyn ni chamodd yr un gweithiwradeiladu ar fframiau concrid gwag y fflatiaunewydd sy'n wynebu Canolfan MileniwmCymru ym Mae Caerdydd. Mae geiriaueiconaidd Gwyneth Lewis yn rhythuar anghyfannedd. Arafodd camau Cymru.Dylai fod wedi bod yn flwyddyn wael iawduron hefyd. Dim cyhoeddi llyfrau;canslo darlleniadau. Ond ar adegauanodd, at ddiwylliant y try pobl yn amliawn. A bu hynny’n sicr yn wir yn achosllenyddiaeth. Yn hytrach nag arafu, bu'nflwyddyn o brysuro. Mae mwy o ddarllenwyr,gwrandawyr, defnyddwyr, sgriblwyr,crafwyr, gwneuthurwyr, ffugwyr, adeiladwyr,ysgrifenwyr, a chyfranwyr wedi ymwneud âllenyddiaeth yng Nghymru nag ar unrhywadeg o fewn cof. Mae’n amhosibl dilyn ycyfan, meddai rhywun. Rwy'n gwybod sutmae'n teimlo.Mae llawer yn dychmygu, wrth gwrs, ygall llenyddiaeth ffynnu heb ddim cymorthariannol o fath yn y byd. Daw llenorion iben â byw mewn garet. Dim ond iddynt gaelpapur a phensil. Caiff eu llyfrau eu cyhoeddi,rywsut neu'i gilydd, waeth beth fo'r amodaumasnachol yn Llundain. Os oes unrhyw werthynddynt, mi werthant. Diwedd y stori.Ond mae'r darlun hwnnw o'r byd mor henffasiwn bellach fel bod hyd yn oed eigoleddwyr yn dechrau amau y gallai fod ynanghywir. Hen hanes. Yng Nghymru heddiw,mae llenyddiaeth yn ganolog i'r diwylliantac yn rhan mor annatod o'n ffordd o fyw fely bydd hyd yn oed y mwyaf annarllengar yngwybod rhywbeth amdani.Yn y deuddeg mis diwethaf treiddioddysgrifennu i mewn i brosiectau’n ymwneudâ bocswyr benywaidd ifanc o'r Gelli-gaer,cleifion yn y system iechyd, i bum carcharCymru, i brosiectau ar y palmant y tu allani John Lewis, i lwybrau ar draws Ynys Môn, iglybiau, ysgolion, tafarndai a chanolfannaucymunedol ym mhobman o Fangor i'r Barri aco Wrecsam i Dyddewi.Yn ôl rhai, mae llenyddiaeth bellach wediymuno â'r diwydiant adloniant ac mewnmannau mae hynny'n sicr yn bosibl. Ond ambob pennill a noddir o gerdd dafarn hwyliogmae llinell o arysgrif ddiamser a nofel sy'ntroi'r byd ar ei ben. Mae llenyddiaeth ynrhywbeth i bawb.Mae tystiolaeth wedi dangos bod gwobrauLlyfr y Flwyddyn yn gwneud llawer i gynyddugwerthiant. Darllenwyd llyfrau arobryn 2009,sef cyfrol Deborah Kay Davies, Grace, Tamarand Laszlo the Beautiful a nofel WiliamOwen Roberts, Petrograd, gan filoedd,yng Nghymru a'r tu hwnt. Mae ein BarddCenedlaethol, Gillian Clarke wedi mynd âbarddoniaeth i fannau yr oeddwn i hyd ynoed yn amau y gallai eu cyrraedd. Hi bellachyw pennaf llysgennad barddoniaeth Cymru:mae'n teithio'n ddiddiwedd ar draws yDeyrnas Unedig a'r byd, yn ei fersiwn ei huno'r Rolling Thunder Revue.O'n blaenau yn 2010-2011, sef ‘Blwyddyn Un’yn ôl enw creadigol Cyngor CelfyddydauCymru (CCC) arni, y mae deubeth a allainewid wyneb popeth ym myd celfyddydolCymru. Y cyntaf fydd y toriadau trwy'rDeyrnas Unedig ar wariant cyhoeddus, tonddisgwyliedig o newid a fydd yn treiddioi bopeth a wnawn. Yr ail yw canlyniadauadolygiad Cyngor y Celfyddydau ei hun o'iholl fuddsoddi. Diau y bydd y rhain yn newidtirwedd gelfyddydol Cymru mewn ffyrddnad oedd neb hyd yma wedi'u dychmygu;byddant hefyd yn gwneud hynny yn erbyncefndir o leihad sylweddol mewn cronfeyddcanolog ac adnoddau cyfatebol.Blwyddyn dau – honno fydd yr un i gadwllygad arni.


Yr Academi GymreigAdroddiad Blynyddol 3Rhywbeth y mae ar lenorion ei angen bobamser. Gwreichion, disgleirdeb, heulwen. Acmae i'w weld yn awr mi gredaf, yn llewyrchar y gorwel. Ddiwedd Mawrth 2010, roeddarwyddion o amgylch Cymru bod gwaithadeiladu'n ailgychwyn. Yn araf. Ond roeddy craeniau wedi dychwelyd. Roedd dwygynhadledd yr Academi yn nyfnder gaeaf- Dydd y Farn a New Narratives - yn orlawn.Menter ddewr oedd cynnal digwyddiad ynystod y dydd, digwyddiad yn cynnwys beirdd,yr un pryd â gêm Cymru a'r Eidal. Ond i bobgolwg mi weithiodd. Gwerthwyd pob tocyni’r darlleniadau amser cinio gyda'r BeirddCenedlaethol - Carol Ann Duffy a GillianClarke - o fewn ychydig ddyddiau. A minnau'nysgrifennu hwn, mae'n ymddangos y bydd yrEisteddfod Genedlaethol, Gŵyl Lenyddiaeth(The Guardian) y Gelli a PhenwythnosTalacharn yn llawn i'r ymylon.Yn y dinasoedd mae mwy o ddigwyddiadaullenyddol amlgyfrwng nag erioed. MaeBlast House yng Nghaerfyrddin, Balloon, InChapters, Jam Bones a Poetry on Tap yngNghaerdydd, Word Up! yn Aberteifi, POETicaym Mangor a The Absurd yn Wrecsam ynffynnu fel pe baem yn ôl yn y chwedegauac Allen Ginsberg newydd gamu ar lwyfanNeuadd Albert.Mae llenyddiaeth wedi cael hyd i le adeiladola buddiol yn ein cyfundrefnau iechyd, llesac addysg, ac yn ein carchardai. Maeymyriadau'n ffynnu. Mae Sgiliau SylfaenolCymru wedi recriwtio gwir lenorion i'w helpu iwella ein safonau llythrennedd. Mae'r cynllunQuick Reads bellach yn cynnwys RachelTrezise, Roger Granelli, Caryl Lewis, BethanGwanas, Chris Corcoran a Niall Griffiths ochryn ochr â Scott Quinnell, Colin Jackson aTanni Grey Thompson.Mae'n dal yn arbennig o wir bod llenorionCymru'n cael llawer llai o arian am eu gwaithna'u cyd-lenorion yn Iwerddon, yr Alban aLloegr, a go brin y bydd y sefyllfa'n gwellayn y dyfodol agos. Er hynny, mae Cymruwedi llwyddo i gerdded yn llawer mwytalsyth ar y llwyfan llenyddol rhyngwladol.Yn y flwyddyn a aeth heibio sefydlwyd TŷCyfieithu, partneriaeth ffyniannus rhwng TŷNewydd, Cyfnewidfa Lên Cymru a'r Academi.Cynrychiolwyd Cymru gan Catrin Dafyddyn y prosiect Scritture Giovani. EnilloddSiân Melangell Dafydd a Tristan Hughesysgoloriaethau rhyngwladol Halma. Bu EurigSalisbury a Hywel Griffiths yn darllen ynyr Eidal.Cyrhaeddodd cynnyrch cyhoeddedig Cymruy lefelau uchaf erioed yn 2009. Er pan fu'rAcademi'n rheoli Llyfr y Flwyddyn mae nifery teitlau dan ystyriaeth wedi mwy na dyblu.Nid print yw'r unig gyfrwng bellach. Maetechnoleg newydd a modelau economaiddcwbl wahanol wedi newid hynny.Mae mwy nag erioed o lenorion. Mae ugainmlynedd o adrannau ysgrifennu creadigolprifysgolion a dosbarthiadau nos wedidwyn ffrwyth. Ceir cryn dipyn mwy o alw amYsgoloriaethau'r Academi i Awduron nag ygellir ei ddiwallu. Prin yr arferai gwerthiantllyfr Cymraeg newydd fod yn uwch na thriffigur, ond nid felly y mae bellach. Maeysgrifennu yng Nghymru bellach yn un o'rnwyddau hir-oes. Mae degawd neu fwyo ymyrryd, hyrwyddo a brolio gan GyngorLlyfrau Cymru, yr Eisteddfod Genedlaethol,awdurdodau lleol, Cyngor y Celfyddydau a'rAcademi, asiantaeth hyrwyddo llenyddiaethCymru, wedi newid cryn dipyn ar y fforddy mae Cymru'n gweld ei diwylliant, eillenyddiaeth ac, yn y pen draw, y ffordd ymae'n ei gweld ei hun. Nid oes troi'n ôl.


Alan Llwyd a Ceri Wyn JonesFfotograffydd: Celf CalonCarol Ann Duffy, Gillian Clarke a miliynfed cwsmer yr Academi, Euthalia AntippasFfotograffydd: John Briggs


Yr Academi GymreigAdroddiad Blynyddol 5Y gwir yw mai trwy weithgarwch unigol y caiffy rhan fwyaf o lenyddiaeth ei chreu neu eidefnyddio. Byddwch yn eistedd ar fainc acyn ysgrifennu. Yn darllen ar y bws ar y fforddi'r gwaith. Ond mae rhai pethau'n pefriodan y golau. Bob blwyddyn bydd cynllunAwduron ar Daith yr Academi, y cynllunmwyaf adnabyddus a'r symlaf i'w ddefnyddioi gynorthwyo llenorion a darllenwyr, yntrafod miloedd o geisiadau. Ym mis Mawrth2010 mewn digwyddiad tra chyhoeddus,croesawodd yr Academi ei miliynfed cwsmer.Euthalia Antippas oedd y 1,000,000fed personi ymuno â chynulleidfa lenyddol dan nawddyr Academi er pan ailwampiwyd y Gymdeithasym 1998.Bu Gwobr Cwmni Disglair Cyngor yCelfyddydau i'r Academi yn fodd i hyrwyddomudiad Sgwadiau `Sgwennu’r Ifaincymhellach ar draws Cymru. Erbyn hyn mae42 o sgwadiau sy'n dod â grwpiau o boblifanc dalentog ac awduron proffesiynol atei gilydd. Cynhelir cyfarfodydd ym mhobsir bron yng Nghymru. Y llynedd cafwydcynadleddau, digwyddiadau undydd igrwpiau a chyhoeddiadau, ac fe lansiwydgwefan broffesiynol addas i blant ynwww.sgwadiausgwennu.org.Wrth hyrwyddo twristiaeth lenyddol trefnoddyr Academi deithiau bws llenyddol i SirBenfro, Tal-y-bont ar Wysg, Ceredigion, aChwm Clydach, taith gerdded lenyddol arYnys Môn ac, ar y cyd ag YmddiriedolaethRhys Davies, helpodd i ariannu amryfalblaciau i nodi safleoedd arwyddocaol ymmywydau creadigol rhai o'n hawduron mwyafadnabyddus. Mae gwefan ryngweithiol lawngwybodaeth yn www.academi.org/placiau/cy/ yn arwain ymwelwyr i'r union fannau.Penododd Taliesin, cylchgrawn Cymraeg 49oed yr Academi, ddau olygydd newydd, sefSiân Melangell Dafydd ac Angharad Elen.Disgwylier cryn newid a chynnwys llachar yflwyddyn nesaf. Cynhaliwyd cynadleddau arysgrifennu am drosedd, naratifau newydd,ysgrifennu ar gyfer pobl ifanc, llenorionMerthyr a'r ffordd y rheolwn ein beirniadaeth,a chafwyd cynulleidfaoedd da.Roedd digwyddiadau pen-blwydd nodedigyn cynnwys pumed pen-blwydd CanolfanMileniwm Cymru pan ddarllenodd y BarddCenedlaethol gerdd a gomisiynwyd ynarbennig ar gyfer yr achlysur, a hannercanfed pen-blwydd yr Academi, a nodwydâ chinio dathlu ym mhresenoldeb llywydd yrAcademi Gymreig, Bobi Jones, yn Aberystwyth.Denodd Cystadleuaeth FarddoniaethRyngwladol Caerdydd fwy o ymgeiswyr nagerioed ac fe'i henillwyd gan Jane Routh.Enillwyd cystadleuaeth Rhys Davies argyfer ffuglen fer, a gynigiai lai o wobr ond ydenodd hithau fwy o ymgeiswyr nag erioedo'r blaen, gan Siân Preece. Darlledwyd ystorïau buddugol gan y BBC.Yn fyw ar Radio Four, bu tîm Cymru'r Academiyn cystadlu yn stomp bencampwriaethau’rDeyrnas Unedig. Ar y cyd ag OperaCenedlaethol Cymru trodd yr Academileisiau llenyddol Gelli-gaer Louise Walshyn gynhyrchiad ar gân. Opera'n cyrraeddmannau llenyddol na fu ynddynt yn hollolo'r blaen.Datgelodd gwaith maes yr Academi yn ygogledd-orllewin a'r gogledd-ddwyrain acyng nghymoedd y De liaws o lenorion newydda chyrhaeddodd gynulleidfaoedd newyddyn llawer o wahanol ranbarthau daearyddolCymru a llawer o'i hardaloedd difreintiedig.Defnyddiodd Awduron ar Daith adnoddaudeuddeg mis mewn naw a chafwyd tair gwaithcymaint o geisiadau am ysgoloriaethau'rAcademi ag y gellid eu cyflenwi.Mae rhagor, llawer rhagor. Bu'n brysurachblwyddyn nag y gall neb ei chofio ac mae'rgalw'n parhau'n anniwall. A da o bethyw hynny.Peter Finch


AdroddiadBlynyddol yrAcademi: 2009-2010Crynodeb yw'r canlynol o'r gweithgarwchllenyddol a reolwyd ac a noddwyd gan yrAcademi yn y flwyddyn ariannol o Ebrill 2009hyd fis Mawrth 2010.Prif Swyddogaethau a Chynlluniau• Awduron ar Daith - sy'n gweithredu i raddauhelaeth â chyllid cyfatebol gan bartneriaid.Mae'n cefnogi dros 900 o ddigwyddiadauy flwyddyn• Cefnogi Rhaglenni - sy'n cynnigcymorth i drefnwyr gwyliau a chyfresio ddigwyddiadau arbenigol• Sgwadiau `Sgwennu’r Ifainc - sy'n cefnogidros 42 o sgwadiau ar draws Cymru• Awduron Preswyl - sy'n cefnogi ymweliadauhirach gan awduron â sefydliadau addysgola sefydliadau eraill• Ysgoloriaethau i Awduron - sy'n cynnigcymorth ariannol i awduron i ddatblyguprosiectau penodol• Llyfr y Flwyddyn – gwobrau blynyddoli'r llyfrau gorau o Gymru• Cystadleuaeth FarddoniaethRyngwladol Caerdydd• Gwobr John Tripp am Farddoniaeth Lafar• Cystadleuaeth Stori Fer Rhys Davies• Cystadleuaeth Lingo i ddysgwyr y Gymraeg• Hyrwyddo Uniongyrchol gan yr Academi(gan gynnwys Gwyliau Llên y Lli,Dylan Thomas, Talacharn a Tŷ Newydd)• Gweithgareddau aelodau'r Academi• Gwasanaethau Gwybodaetha Chyngor i Awduron• Hyrwyddo a Marchnata Llenyddiaeth• Awduron mewn Carchardai –Prosiect Ysgrifennu mewn Carchardai• Gwaith maes yng ngorllewin Cymru,gogledd Cymru a de-ddwyrain Cymru• Datblygu Llenyddiaeth yng Ngwyneddac Ynys Môn• Cyhoeddiadau (Taliesin, GwyddoniadurCymru yr Academi Gymreig, A470)• Ymgyrchoedd Twristiaeth Ddiwylliannol• Cynlluniau Llenyddiaeth ac Iechyd• Cynrychioli Buddiannau Awduron• Gwybodaeth a Chyngor i Ddarllenwyr• Canolfan Glyn Jones• Gweithgareddau llenyddol a gwaithcydweithredol yng NghanolfanMileniwm Cymru• Gweithgareddau llenyddola gwaith cydweithredol yn yrEisteddfod Genedlaethol• Datblygu LlenyddiaethCymunedau Lleiafrifol• Y Bardd Cenedlaethol• Bardd Plant Cymru• Gŵyl Lenyddiaeth (The Guardian) y Gelli• Gwybodaeth a chyngor ar waithcydweithredol llenyddol rhyngwladol


Yr Academi GymreigAdroddiad Blynyddol 7CyllidoRoedd trosiant yr Academi ar gyfer 2009-2010 dros filiwn o bunnau. Ariennir y trosianthwn trwy gyfuniad o grantiau refeniw aLoteri, a Gwobr Cwmni Disglair gan GyngorCelfyddydau Cymru (CCC), a ategir gangyllid uniongyrchol oddi wrth Lywodraeth yCynulliad (LlCC), cymorth gan awdurdodaulleol, Cyngor Llyfrau Cymru, gwaddoliadauelusennol, tanysgrifiadau aelodau agweithgareddau masnachu bychain yrAcademi ei hun.CyngorCelfyddydau CymruYm mis Mai 2009 cyhoeddodd CCC y byddentyn adolygu eu buddsoddiad yn sector ycelfyddydau ac yn gwahodd pob Corff CyllidRefeniw i gyflwyno cynllun busnes tairblynedd.Anogwyd y Cyrff Cyllid Refeniw iawgrymu sut y gallent elwa ar fwy o gyllida pha gynlluniau a oedd ganddynt ar gyfery dyfodol. Rhagfyr 2009 oedd y dyddiadcyflwyno a nodwyd gan Adolygiad BuddsoddiCCC ac roedd ynddo addewid mewnegwyddor i gyhoeddi'r canlyniadau ym misMehefin 2010 gan ychwanegu data ariannolerbyn mis Rhagfyr 2010. Cyflwynodd 116 o GyrffCyllid Refeniw ar draws Cymru gynlluniau.Bu cynhyrchu cynllun busnes yr Academi ynun o'r tasgau mwyaf a mwyaf cynhwysfawra wnaed ganddi er pan ailwampiwydy Gymdeithas ym 1998. Cyflwynwyd eincynllun gorffenedig yn brydlon.Disgwylir y bydd yr Adolygiad yn ceisio lleihaucyfanswm y Cyrff Cyllid Refeniw yng Nghymruac ailddosbarthu adnoddau i eraill. Mae'nbosibl y bydd setliadau cyllideb y DeyrnasUnedig a ddisgwylir yn hydref 2010yn tanseilio'r ailddosbarthu.Rheoli a StaffYm mis Awst 2009 gadawodd y SwyddogGweinyddol, Peter Hill, yr Academi i ymunoâ Llywodraeth Cynulliad Cymru felcyfieithydd. Cymerwyd ei le gan BethanLloyd. Gadawodd y Swyddog Llenyddiaeth,Gwennan Evans, ym mis Gorffennaf 2009 iastudio Ysgrifennu Creadigol a chymerwydei lle gan Meleri Thomas. Cymerodd SionedJones le Llio Huws fel Swyddog MaesGogledd Cymru ym mis Tachwedd 2009.Gadawodd Johanne Maggs ei swydd felrheolwr prosiect Ysgrifennu mewn Carchardaiyn yr Academi ar ddiwedd ei chontract ymmis Mawrth 2010.Roedd yr Academi'n dal i gael cymorth haeltuag at hyfforddi staff oddi wrth GO Cymru. chymorth Prifysgol Abertawe a Gyrfa Cymrucynigiodd yr Academi hefyd brofiad gwaitha chyfleoedd i hyfforddi i nifer o ddisgyblionysgol, israddedigion ac ôl-raddedigion.


Digwyddiadau aDdarparwyd yn UniongyrcholYr Eisteddfod Genedlaethol - roeddpresenoldeb yr Academi yn yr EisteddfodGenedlaethol yn y Bala yn 2009 mor gryf agerioed. Mae uchafbwynt yr wythnos, y Stomp,yn dal i dorri pob record presenoldeb. Yn 2009mwynhaodd dros 650 o bobl noson aflafaryng nghwmni 16 o feirdd dan wyliadwriaethy Stompfeistr Arwel ‘Pod’ Roberts. Yn ogystalâ'r llwyddiant hwn, trefnodd yr Academi a TŷNewydd ar y cyd gyflwyniad llenyddol i'r ardalo'r enw Wrth Fynd Efo'r Beirdd i'r Bala. Ymhlithy cyfranogwyr yr oedd Bethan Gwanas,Andrea Parry, Dewi Prysor, Hâf Llewelynac Arwel Roberts. Roedd digwyddiadau'rAcademi o amgylch y maes yn ystod yrwythnos yn cynnwys gweithdy Sgwadiau`Sgwennu’r Ifainc gyda Penri Roberts; AndreaParry'n gweithio ar y prosiect traws ffurf argelfyddyd, Hadau, yn y Lle Celf; dathliad o Teyn y Grug ar y cyd â Chymdeithas Cae’r Gors;lansio Taliesin, a thrafodaeth grŵp gyntaf yflwyddyn ar y Cyfansoddiadaua Beirniadaethau.Llenyddiaeth yng Nghymru yn y Gelli -Yr Academi a arweiniodd y gwaith o greurhaglen o weithgaredd yn ystod GŵylLenyddiaeth (The Guardian) y Gelli. Menter ar ycyd oedd hon â Llywodraeth Cynulliad Cymru,Cyngor Llyfrau Cymru, Llyfrgell GenedlaetholCymru, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru aChyngor Celfyddydau Cymru. Ar hyd yr wythnosbu cyfres o lansiadau llyfrau, derbyniadau,darlleniadau a sgyrsiau ag ymwelwyr gangynnwys aelodau o Sgwadiau `Sgwennu’rIfainc. Roedd Scott Quinnell, Eurig Salisbury,Daniel Morden, John Davies, Twm Morys, GwynThomas, Jason Walford Davies ac M. WynnThomas ymhlith yr awduron a'r academyddiona fu'n siarad, yn darlithio, yn trafod ac aradegau'n dadlau ar hyd wythnos y Gelli.Stomp Farddoniaeth - unwaith eto, ymunoddyr Academi â BBC Radio 4 i drefnu rowndCymru Performance Poetry Slam y DeyrnasUnedig. Cymerodd deunaw o feirdd o Gymruran yn y digwyddiad yng nghanolfan Glan yrAfon yng Nghasnewydd. Dewiswyd SimoneMansell Broome o Landysul a Kit Lambert oGaerdydd gan y beirniaid i gynrychioli Cymruyn y rownd gynderfynol yn Reading.Perfformiadau - Ar ôl cyd-berfformiadaullwyddiannus yn Ewrop ac America,ymwelodd Owen Sheers a Fflur Dafydd âChanolfan Gelfyddydau Aberystwyth, Colegy Drindod, Caerfyrddin a Chanolfan DylanThomas, Abertawe ar nosweithiau olynol ymmis Hydref. Gyda'i gilydd buont yn perfformioeu gwaith mewn noson ddwyieithog unigrywo farddoniaeth, rhyddiaith a chân.Diwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth - ynogystal â pharhau i weithio gyda PhwyllgorLlywio Diwrnod Cenedlaethol Barddoniaethbu'r Academi hefyd yn dathlu digwyddiad 2009trwy gefnogi gweithgareddau barddoniaethyn Llyfrgell Ganolog Caerdydd a agorwydyn ddiweddar. Darllenodd Ifor Thomasddetholiad o'i waith ei hun a chynhalioddweithdai ar gelfyddyd ennill gwobrau ar y cydâ Chystadleuaeth Farddoniaeth RyngwladolCaerdydd 2010.Rhaglen Beirniaid Newydd - Mewnpartneriaeth â'r Academi, lansiodd NationalTheatre <strong>Wales</strong> fenter newydd i geisio hybuysgrifennu beirniadaeth yng Nghymru.Dewiswyd Ben Bryant, Dylan Moore, MeganJones ac Adam Somerset o blith nifer fawri fod yn Feirniaid Newydd y rhaglen. Cânteu mentora, un-ag-un, gan y beirniaidcelfyddydau Lyn Gardner ac ElisabethMahoney, wrth iddynt ddilyn ac adolygurhaglen blwyddyn gyntaf National Theatre<strong>Wales</strong> o ddeuddeg sioe mewn deuddeg mis.Mountains and Islands - Cynhaliwyd encilysgrifennu 2009 yr Academi yn y gyfresMountains and Islands yn Llangynidr ymMhowys. Y tiwtor oedd Chris Mereditha gymerodd ddeunaw o encilwyr trwybenwythnos hir o weithdai, darlleniadaua sesiynau tiwtorial unigol.America - Ymunodd nifer o lenorion Cymruâ'r ddirprwyaeth o artistiaid, ymarferwyr aswyddogion a gynrychiolodd Gymru yng NgŵylWerin y Smithsonian 2009 yn WashingtonDC, gŵyl a gyd-gysylltwyd ac a noddwydgan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Roedd yrAcademi wedi paratoi'r ffordd ym mis Mawrth2009 â dathliad wythnos o hyd o ysgrifennuCymru ym mhrifddinas UDA. Ochr yn ochr â'rBardd Cenedlaethol Gillian Clarke bu Iforap Glyn, Clare Potter, Gwyneth Glyn, MabJones, Aneirin Karadog a Ceri Wyn Jones ynperfformio yn ystod yr ŵyl bythefnos. Ymhlithuchafbwyntiau'r ŵyl gwelwyd Ceri Wyn Jonesac Ifor ap Glyn yn cymryd rhan mewn seremonigadeirio fyrfyfyr ynghyd â stomp farddoniaethrhwng Cymru ac America. I nodi'r achlysur yngNghymru, trefnodd yr Academi ddigwyddiadFrom Washington with Love ym mis Mawrth,gan ddod â Tom Anderson, Catrin Dafydd, FflurDafydd, Eurig Salisbury ac Owen Sheers yn ôlat ei gilydd yn y Fuwch Goch yng Nghaerdydd.Daeth 2009-2010 i ben â digwyddiad ygwerthwyd pob tocyn iddo yng NgwestyDewi Sant ym Mae Caerdydd, yng nghwmni'rBardd Llawryfog Carol Ann Duffy a'r BarddCenedlaethol Gillian Clarke. Yn y digwyddiadhwn dathlodd yr Academi hefyd ei1,000,000fed aelod o'r gynulleidfa.


Yr Academi GymreigAdroddiad Blynyddol 9Catrin DafyddFfotograffydd: John BriggsEisteddfod Genedlaethol 2009Ffotograffydd: Marian Delyth


Canolfan MileniwmCymru a ChanolfanGlyn JonesMae bod â lleoedd yng Nghanolfan MileniwmCymru, yn ogystal â Chanolfan GlynJones yr Academi ei hun, yn rhoi cyfle inniweithio gyda chyhoeddwyr Cymru, grwpiaullenyddiaeth lleol, llenorion ar ymweliad achyd-sefydliadau preswyl. Mae rhaglen yrAcademi o waith rheolaidd yn y Ganolfanyn cynnwys lansiadau llyfrau, darlleniadau,perfformiadau, a gweithdai sydd am ddimac yn agored i bawb.Ymhlith rhai o uchafbwyntiau'r flwyddyn aaeth heibio yr oedd lansiadau llyfrau ganPhilip Gross, Terri Wiltshire, Holly Howitta Shelagh Weeks ynghyd â phedwaro awduron newydd a gyhoeddir ganHafan Books - Gemma June Howell, AiméKongolo, Alhaji Sheku Kamara a SteveShort. Cyflwynodd enillydd Llyfr y Flwyddyn2009, Wiliam Owen Roberts weithdy ar suti ysgrifennu nofel. Fel rhan o gyfres SgwrsCanolfan Mileniwm Cymru, hwylusoddyr Academi sesiwn ar ffuglen hoyw yngNghymru a oedd yn cynnwys Cris Dafis, JohnSam Jones ac Aled Islwyn.Dathlodd Canolfan Mileniwm Cymru eiphumed pen-blwydd ym mis Tachwedd gydaphenwythnos lawn o weithgareddau a oeddyn cynnwys pob un o'i sefydliadau preswyl.Gyda pherfformiad ar y pnawn Sul gan nifero feirdd ifanc gorau Cymru, cafodd ymwelwyrâ'r Ganolfan flas ar farddoniaeth fel y maeheddiw. Cyflwynodd Grahame Davies EurigSalisbury, Llŷr Gwyn Lewis, Tiffany Atkinson,Clare Potter a Samantha Wynne Rhydderch.Cydweithiodd yr Academi hefyd â chynllunMAX Opera Cenedlaethol Cymru a'r TŷCerdd ar brosiect ysgrifennu caneuon iysgolion. Gweithiodd Ceri Elen gydag YsgolLlangynwyd a Sgwad `Sgwennu BroMorgannwg a gweithiodd Clare Potter gydagYsgol Uwchradd Hartridge i greu cerddidathlu newydd a osodwyd i gerddoriaeth gany cyfansoddwr John Hardy. Perfformiodd ytri grŵp yn fyw ar lwyfan Glanfa i gynulleidfalawn. O'r un llwyfan darllenodd BarddCenedlaethol Cymru, Gillian Clarke gerddnewydd a gomisiynwyd yn arbennig wedi'iseilio ar y 'Caniad i Lawenydd'.Er pan agorodd Canolfan Mileniwm Cymruyn 2004, mae defnyddio rhannau ohoni wedigwella llawer ar allu'r Academi i gydweithreduâ phartneriaid er cyflwyno rhaglen amrywiolo lenyddiaeth yn y brifddinas. Cydweithioddâ'r Gymdeithas Ddiwylliant Arabaidd ar elfenlenyddiaeth eu gweithgareddau, y cynhelirllawer ohonynt yng Nghanolfan MileniwmCymru. Cydweithiodd hefyd â Gŵyl y Gelli idrefnu rownd Caerdydd o Bookfest Oxfam.Roedd hynny'n cynnwys trafodaeth gydaFflur Dafydd a lywiwyd gan Jon Gower.Yn Stiwdio Weston cyflwynodd yr Academia CMC rifyn arall o'r gyfres boblogaidd ahirhoedlog, Beirdd v Rapwyr. Y rapwyr aenillodd y tro hwn.Croesawyd dau ddigwyddiad arwyddocaolâ blas rhyngwladol iddynt hefyd i'r Ganolfan.Ar lwyfan Glanfa rhoddwyd cyflwyniadar brosiect Cadwyn Awduron y CyngorPrydeinig/Celfyddydau Rhyngwladol Cymru.Roedd hwnnw'n cynnwys Mererid Hopwoodac ymwelwyr o India, sef Kynpham SingNongkynrih ac Udaya Narayana Singh.Ym mis Rhagfyr croesawodd yr Academiddau awdur a chyfieithydd o'r Eidali'r Ganolfan. Cyflwynodd cyhoeddwyrMobydick, Silvana Siviero ac Andrea Bianchi,gyfieithiadau Eidaleg o waith Menna Elfyna Robert Minhinnick.


Yr Academi GymreigAdroddiad Blynyddol 11Write For Life –Ysgrifennu mewn CarchardaiYm mis Chwefror 2009, dyfarnwyd arian i'rAcademi gan Lywodraeth Cynulliad Cymru,fel rhan o'i strategaeth genedlaethol, SgiliauSylfaenol Cymru, i ddatblygu'r prosiectpeilot, Ysgrifennu mewn Carchardai. Nody prosiect hwn yw gwella sgiliau sylfaenoltroseddwyr trwy ysgrifennu creadigol, a thrwywneud hynny wella eu cyfle o gael a chadwgwaith cyflogedig pan gânt eu rhyddhau.Bu'r prosiect peilot yn rhedeg tan ddiweddMawrth 2010.Ar y cyd â Gwasanaeth Cenedlaethol RheoliTroseddwyr Cymru, Rheolwyr Dysgu aSgiliau Carchardai, Llyfrgellwyr Carchardaia Swyddogion Llyfrgelloedd Cyhoeddus,darparodd yr Academi weithgareddaullenyddol a sicrhau mynediad at lenyddiaethgyfoes. Gwahoddwyd carcharorion i ddodi sesiynau rhagflas, gweithdai ysgrifennucreadigol a grwpiau darllen gyda'r llenorionLloyd Robson, Patrick Jones, Mab Jones,Michael Church, Tom Anderson, Bethan Marlow,Scott Quinnell, Rachel Trezise a Roger Granelli.Cafodd deg o garcharorion yng ngharcharCaerdydd gyfle hefyd i weithio gyda'rdramodydd proffesiynol Alan Harris iysgrifennu a pherfformio monologau o'r enwI Forgot to Tell You. Cafodd y rhain eurecordio, eu cynhyrchu fel CD a'u darlleduar orsaf carchar Caerdydd, Klink Radio.Cynhaliwyd digwyddiad i ddathlu'r prosiectyn y Senedd ym mis Tachwedd gyda'rDirprwy Weinidog dros Sgiliau, John Griffiths,a gymeradwyodd lwyddiant cynllunmor arloesol.Rhagorodd Ysgrifennu mewn Carchardai ary targedau trwy ymwneud â 168 o droseddwyrym mhum carchar Ei Mawrhydi yng Nghymru -Caerdydd, Abertawe, y Parc, Brunbugaa Phrescoed.Ddiwedd Mawrth 2010 cadarnhaodd LlCCy byddai cyllid ychwanegol i barhau'rprosiect yn 2010-2011.Mab JonesFfotograffydd: John Briggs


Ieithoedd eraillDaliodd yr Academi i weithio gyda grwpiaumewn ieithoedd ar wahân i'r Gymraega'r Saesneg. Bu rhaglen Bazm-e-Adab onosweithiau barddoniaeth Wrdw yn rhedegyn fisol am dros ugain mlynedd; mae'n myndati'n fwriadol i wahodd llenorion Cymraegamlwg i gyd-ddathlu barddoniaeth ynGymraeg ac Wrdw. Y darllenwyr gwaddeleni oedd Eurig Salisbury a Jon Gower.Cynrychiolwyd yr Academi gan Mian Majeed,sy'n aelod o Fwrdd yr Academi ac yn trefnuBazm-e-Adab, yn seremoni nodedig yGwobrau i Lenorion Mwslimaidd yn Llundain.Mae'r Gymdeithas Ddiwylliannol Arabaidddan arweiniad Dr Amer Jafar yn parhau igynnal rhaglen lawn o ddigwyddiadausy'n cynnwys seminarau a thrafodaethauynglŷn â llenyddiaeth Arabeg. ArweinioddSuhaib Hashim Al-Rajeb sesiwn arfarddoniaeth Arabeg a chyflwynodd Sa’adAl-Fattal seminar ar lenyddiaeth Baghdad.Mae'r grŵp yn datblygu gwefan ihyrwyddo ysgrifennu Arabeg.Bu Cymdeithas Addysg ac AdloniantHorne yn dathlu Eid â darlleniadau mewnSomalieg gan Halwad Hersi, Abi Chiye aHoodeyfi. Yn ystod y flwyddyn, cefnogodd yrAcademi hefyd ddwy noson o ddarlleniadaumewn Eidaleg, Cymraeg a Saesneg yngNghaerdydd ac yn y Fenni.Gwaith maesyn y GorllewinMae amrywiaeth o drefnwyr yng ngorllewinCymru - i'r gorllewin o linell ddychmygolo Abertawe i Aberystwyth – sy’n gweithiomewn lleoliadau cymunedol a chanolfannauawdurdodau lleol ledled y rhanbarth. Bu'rAcademi'n cynorthwyo â rhaglenni o waithmewn nifer o ganolfannau, er enghraifftCartref Dylan Thomas yn Nhalacharn, NeuaddTysul, Llandysul, Bar y Seler yn Aberteifi,Canolfan Ceridwen, Neuadd y Frenhinesyn Arberth a Theatr Mwldan. Cyflwynoddamrywiaeth o lenorion, yn cynnwys TiffanyAtkinson, Paul Henry, Damian Walford Davies,Caryl Lewis, Fflur Dafydd, Patrick Jones,Gillian Clarke a Gwyn Thomas, ddarlleniadaua chymryd rhan mewn digwyddiadau. DalioddGŵyl Talacharn i ehangu a chafodd nawddariannol gan Gyngor Celfyddydau Cymruyn 2009. Nodwyd marwolaeth merch DylanThomas, Aeronwy, a fu'n siarad ac yn darllenyn rheolaidd yng nghyfres y Boathouse,â thristwch.Swyddog MaesGogledd CymruDechreuodd Sioned Mair Jones ar ei swyddfel Swyddog Maes Gogledd Cymru ym misTachwedd gan olynu Llio Prydderch Huws.Mae Sioned yn gweithio bedwar diwrnodyr wythnos o swyddfa'r Academi yn NhŷNewydd. Caiff ei chyflogi hefyd am ddiwrnodyr wythnos fel Uwch Weinyddwr gan yGanolfan Ysgrifennu GenedlaetholRoedd uchafbwyntiau 2009-2010 yn cynnwystaith gerdded lenyddol ar Ynys Môn,stompiau barddoniaeth Cymraeg a Saesnegar y cyd â Gŵyl Canol Haf Sir Ddinbych,cyfres o ddigwyddiadau CerddoriaethGeiriau yn Rhuthun, gweithdy ysgrifennugeiriau caneuon gyda Steve Swindon asesiwn meic agored yn Nantclwyd y Dre. Ary cyd â Goleuo, prosiect yn Llanrwst i geisioysgogi'r economi lleol trwy ddigwyddiadaudiwylliannol, cynhaliodd y canwr a'rcyfansoddwr caneuon, Gwilym Morusweithdy ysgrifennu creadigol gyda disgyblionchweched dosbarth yn Ysgol Dyffryn Conwy.HyrwyddwrLlenyddiaeth GwyneddMae Gwen Lasarus James yn parhau iweithio fel Hyrwyddwr Llenyddiaeth Gwynedd,gan weithio i'r Academi a Chyngor Gwynedddri diwrnod yr wythnos o'r Llyfrgellyng Nghaernarfon.Roedd uchafbwyntiau rhaglen y flwyddynyn cynnwys Stomp Gŵyl Ddewi yn y Galeri,Caernarfon a Gŵyl yr Ardd Goll a oedd yncynnwys Eurig Salisbury, Guto Dafydd, OsianJones, Mei Mac ac Iwan Llwyd. Parhauwnaeth Hei Hogia, cynllun wedi'i aneluat ddarllenwyr amharod mewn ysgolion,ac felly hefyd y gyfres o ddosbarthiadaucynghanedd. Mae Hyrwyddo LlenyddiaethGwynedd ar hyn o bryd yn darparu pumcyfres o ddosbarthiadau ar y cyd âphartneriaid ar draws y sir.


Yr Academi GymreigAdroddiad Blynyddol13CynlluniauGweinyddir cynlluniau cefnogi llenyddiaethyr Academi yn syml ac yn gyflym. Mae mwya mwy o geisiadau'n ein cyrraedd bellachtrwy gyfrwng y ffurflen gais ar lein o wefanyr Academi a chânt eu trafod yn ddi-oed.Caiff rhestri Awduron Cymru eu monitroa'u haddasu bob dydd wrth i lenorionychwanegu llyfrau at eu llyfryddiaeth, anewid manylion yn eu CV neu aildrefnu eumanylion cysylltu. Erbyn hyn mae cannoeddo awduron sy'n Gymry neu'n gweithio yngNghymru yn cynnig dewis eang i drefnwyrsy'n trefnu ymweliadau ag ysgolion, grwpiaullenorion, prifysgolion, cymdeithasaudiwylliannol, llyfrgelloedd, canolfannaugofal, gwyliau, cynadleddau, teithiau bws,siopau llyfrau, amgueddfeydd ac unrhyw lelle mae'r gair ysgrifenedig yn ychwanegu atddealltwriaeth o'r byd. Cyflwynodd cannoeddo wahanol lenorion ddarlleniadau, gweithdaiysgrifennu a darlithoedd llenyddol yn ystod yflwyddyn. Mae'r gweithgaredd wedi'i rannu'ngyfartal rhwng y Gymraeg a'r Saesneg acmae gwaith yn datblygu mewn Wrdw,Arabeg a Somalieg. Mae cynulleidfaoeddnewydd a chymunedau newydd yn dechraucynnwys cyfleoedd yr Academi yn eugweithgareddau diwylliannol.Fel arfer, ariannodd yr Academi ymhelldros fil o ddigwyddiadau llenyddiaeth trwyei chynlluniau cyllido a chyrhaeddodd droswyth deg mil o bobl.Mae cynllun Awduron ar Daith yr Academi'ncefnogi digwyddiadau unigol - diwrnod mewnysgol efallai, darlith i grŵp diwylliannol, neuweithdy ysgrifennu i grwpiau'n gweithio areu deunyddiau eu hunain. Cymerodd llawero awduron blaenllaw Cymru ran yn ystod yflwyddyn: Twm Morys (Bardd Plant Cymru2009-10), Gillian Clarke y Bardd Cenedlaethol,Dannie Abse, Mererid Hopwood, GwynThomas, Daniel Morden, Caryl Lewis,Bethan Gwanas,Owen Sheers, Philip Gross - ac mae'r dorethhon o fedrau llenyddol ar gael i grwpiauledled Cymru. Mae'r cynllun AwduronPreswyl yn cefnogi prosiectau hirach sy'ncaniatáu cyswllt dros gyfnod hwy ag awdura'r cyfle i ddatblygu cyfnod estynedigo waith. Hyrwyddodd grwpiau fel ClwbCriced Morgannwg, Llyfrgell Wrecsam,Ysgol Gynradd Sant Thomas yn Abertawe,Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Spirit ofAneurin Bevan, Gŵyl Condry, AmgueddfaWlân Cymru a'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol- ymhlith llu o rai eraill - amrywiaeth obrosiectau llawn dychymyg gan eu cyflwynoeu hunain a'u gwaith trwy gyfrwng ysgrifennucreadigol. Cymerodd awduron fel MeirionMacIntyre Huws, Niall Griffiths, Phil Carradice,Patrick Jones, Cynan Jones, Aled LewisEvans, Francesca Kay a Graham Hartill ranyn y gwaith.Datblygwyd Sgwadiau `Sgwennu’r Ifainctrwy Wobr Cwmni Disglair yr Academi ac maeadroddiad arnynt yn yr adran honno o'rAdroddiad hwn.Mae Cynllun Cefnogi Rhaglen yr Academiyn rhoi cymorth i ddigwyddiadau agweithgareddau amlwg. Ymhlith y cynlluniaua gefnogwyd yn ystod y flwyddyn yr oeddgweithgareddau a drefnwyd gan Bazm-e-Adab, y Gymdeithas Integreiddio Somaliaida'r Gymdeithas Ddiwylliannol Arabaidd. Ceirmanylion llawnach yn yr adran ar IeithoeddEraill yn yr adroddiad hwn. Cychwynnoddrhaglen sylweddol newydd o ddarlleniadauOn the Border yng Nghas-gwent ac roeddy gwahoddedigion yn cynnwys Carol AnnDuffy, George Szirtes, Don Paterson aSimon Armitage. Rhoddwyd cefnogaethhefyd i'r Green Man Festival ac i ddarlithflynyddol Prifysgol Cymru Casnewydd gydagIan McMillan. Cyflwynwyd digwyddiadcanmlwyddiant Margiad Evans CREW ganKatie Gramich, Andrew Latimer, CeridwenLloyd Morgan, Jim Pratt a Daniel Williams.


DatblyguLlenyddiaethyn y CymoeddDdiwedd 2007-2008, lansiodd yr Academibrosiect tair-blynedd i annog creu ysgrifennunewydd yn saith o awdurdodau de Cymru:Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr,Caerffili, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, RhonddaCynon Taf a Thor-faen. Y prif dargedau ywgrwpiau ac unigolion nad ydynt wedi bodyn rhan o brif ffrwd y byd ysgrifennu. Er panddechreuodd y prosiect, mae'r Academiwedi cydweithio ag ysgolion, llyfrgelloedd,swyddogion datblygu'r celfyddydau, grwpiaudarllen, grwpiau ysgrifennu, prifysgolion,ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf, grwpiauo ddysgwyr mewn oed, Gŵyl Fwyd y Fenni,cyhoeddwyr, grwpiau cynorthwyo iechydmeddwl a chlybiau a chyrff chwaraeon.Ariennir y prosiect gan Gyngor y Celfyddydaua chyfraniadau gan bob awdurdod lleol sy'ncymryd rhan.Mae gweithio gyda phobl ifanc ac ysgolion ynhanfodol i hyrwyddo llenyddiaeth ac yn amlmae prosiectau wedi defnyddio chwaraeonyn gyfrwng i gael pobl ifanc i gymryd rhan.Yn dilyn prosiectau peilot yn Nhor-faen aBlaenau Gwent yn gynnar yn 2009, sicrhaoddy prosiect All Skilled Up ar y cyd â Chlwb PêldroedCaerdydd gyllid gan y Gynghrair Bêldroedi gyflwyno'r prosiect fesul cam i ddegysgol ar hugain mewn tri awdurdod dros dairblynedd. Mae'r disgyblion yn gweithio gydagenillydd Gwobr John Tripp, Peter Read, igreu cerdd newydd am bêl-droed. Maent ynastudio amrywiaeth o dechnegau pêl-droedfel rhan o'r rhaglen chwe-wythnos yn ogystalâ mwynhau taith dywys o amgylch stadiwmnewydd Clwb pêl-droed Cardiff City. Mae'rprosiect yn cysylltu sgiliau pêl-droed a sgiliauiaith mewn ffyrdd newydd a chyffrous ac maehefyd wedi'i fabwysiadu gan awdurdodaulleol Caerffili a Rhondda Cynon Taf.Roedd Boxing Beats yn rhaglen arloesol ary cyd â WNO MAX, a ddechreuodd yn gynnaryn 2009 ac a gyrhaeddodd uchafbwyntmewn cyfres o berfformiadau yn y gampfayn y Gelli-gaer ac yng Nghanolfan MileniwmCymru. Bu'r awdur Louise Walsh yn gweithiogydag aelodau o gampfa Gelli-gaer i greucyfres o gylchgronau ar sail eu profiadaubocsio. Dros gyfnod o dri mis, cafodd yrhain eu saernïo’n ganeuon, eu gosod igerddoriaeth gan Peter Swaffer Reynolds a'uperfformio gan Andy Morton, Katy Trehearnea Laura Pooley gyda Dave Danford ar yrofferynnau taro.Ym mis Ebrill 2009 bu'r awdur Anita Flowersa'r darlunydd Dom Williams yn gweithiogyda phlant yn Llyfrgell y Sarn i greu cyfreso storïau a cherddi am eu cymuned leol.Troswyd y rhain yn gyfres o dri murlun, syddbellach yn addurno adran blant y llyfrgell.Ariannodd partneriaeth Cymunedau ynGyntaf y Sarn gynhyrchu llyfryn a DVD saino waith y plant fel dathliad o'r prosiect ibara dros amser. Ariannodd Prosiect E3+Ysgol Gyfun Treorci raglen chwe-wythnosyn seiliedig ar enwau torfol. A Paradox ofPlatypus oedd enw'r cynllun lle bu disgybliono Dreorci'n creu cyfres o gerddi a murluniauwedi'u hysbrydoli gan enwau torfol. Bellachmae'r rhain yn cael eu harddangos ynbarhaol yn yr adran newydd o'r llyfrgell argyfer yr arddegau.Bu'r chwedleuwr Michael Harvey'n gweithiogyda thros fil o blant fel rhan o ŴylLenyddiaeth gyntaf Gartholwg ym misoeddMedi a Hydref 2009. Daeth deg ysgol iGanolfan Ddysgu Gydol Oes Gartholwgddiwedd mis Medi i glywed detholiad eang ochwedlau traddodiadol ac amlddiwylliannolar y thema Taith. Yna ymwelodd MichaelHarvey â phob ysgol a chynnal sesiynauysgrifennu creadigol ar sail y storïau.Arddangoswyd cerddi grwpiau'r plant felrhan o ddathliad Nadolig Gartholwg ym misRhagfyr 2009.


Yr Academi GymreigAdroddiad Blynyddol 15Prosiect ‘All Skilled Up’ mewn partneriaeth gyda Chlwb Pêl-droed CaerdyddMurlun y plant yn Llyfrgell Sarn


Cynhaliwyd dwy gynhadledd a oedd ynymestyn allan ar draws y rhanbarthau i gyd.Ym mis Hydref 2009 gweithiodd yr Academiar y cyd â Parthian i ddathlu lansio dau olyfrau Llyfrgell Cymru gan yr awduron Glyna Jack Jones o Ferthyr. Roedd DiwrnodLlenyddol Merthyr yn cynnwys anerchiadi gyflwyno'r digwyddiad gan yr Athro DaiSmith, darlith gan Dr John Pikoulis, taithgerdded o amgylch Merthyr gan Mario Basinia phanel trafod a oedd yn cynnwys MarioBasini, Rachel Trezise ac Anthony Bunko.Cynhaliwyd Cynhadledd ar Ysgrifennuam Droseddau i'r Cymoedd, yn y Fenniym mis Tachwedd 2009 a bu'n ddathliado boblogrwydd Ysgrifennu am Droseddaufel genre. Cyflwynydd y diwrnod oedd SyrTrefor Morris ac ymhlith y siaradwyr yr oeddKatherine John, Bernard Knight, Glen Peters,Simon Lewis, Graham Hartill, Lindsay Ashford,Caspar Walsh, Simon Hall, Anita Flowers aPhil Forder.Partneriaeth oedd y prosiect Healing Wordsrhwng GARTH (Gwent Arts in Health), yrAcademi, Head4Arts ac Arts Alive. Bu'ngweithio gyda thri sefydliad sy'n darparugwasanaethau iechyd meddwl ym MlaenauGwent gan gynnwys Ysbyty’r Tri Chwm, HAFALa Mentro Allan. Bu'r grwpiau'n gweithio gyda'rbeirdd Mike Church, Anita Flowers a GrahamHartill i greu barddoniaeth. Defnyddiwyd ycerddi i ysbrydoli delweddau gan gydweithioâ'r artistiaid Tim Rossiter, Tessa Waite aKate Raggett. Deilliodd cyfres o ddeunawo gerddi poster o'r prosiect, a chawsant euharddangos yn Ysbyty Nevill Hall, y Fenni.Mwynhaodd yr Academi ail flwyddyn yngNgŵyl Fwyd y Fenni gyda'r bardd Ric Hool.Denodd bwrdd hysbysu Cerdd Gŵyl Fwyd yFenni, prosiect gan yr Academi, geisiadaugan dros ddeugain o bobl, gan gynnwysenwogion fel Monty Don, Scott Quinnell,Levi Roots a Maer y Fenni. Yna creodd RicHool gerdd o'r ceisiadau hynny a gaiff eidefnyddio yn y deunydd i hysbysebu GŵylFwyd y Fenni 2010.Bu gweithio mewn partneriaeth yn un obrif lwyddiannau'r prosiect ac yn ystod haf2009, cyflwynodd y Global Poetry System(GPS), ynghyd â Chanolfan South Bank,brosiect llenyddiaeth ddigidol newydd acarloesol tuag at Gemau Olympaidd 2012.Olrheiniodd y bardd Ric Hool hanes y Fennigan ddefnyddio gwybodaeth leol, Llyfrgell yFenni, Waterstone’s a gweithdai gyda phlanto Ysgol Gynradd Ystruth.Ar ôl cais llwyddiannus Reach the Heightsgan Datblygu'r Celfyddydau ym MlaenauGwent, cyfrannodd y Swyddog DatblyguLlenyddiaeth yn y Cymoedd at drefnu i bumpo awduron - Patrick Jones, Anita Flowers,Mike Church, Peter Read a Francesca Kay -gynnal deg o sesiynau ysgrifennu creadigolyr un mewn pum ysgol gyfun ym MlaenauGwent. Mae'r gweithdai'n targedu disgyblion11-14 oed y mae arnynt angen ysgogiadychwanegol i ymwneud â phrosiectaullenyddiaeth newydd a chyffrous gangynnwys ystyried hunaniaeth, ysgrifennusgriptiau a barddoniaeth.Mae'r prosiect hefyd wedi cefnogi cyfreso ddosbarthiadau meistr, sesiynau profia darlleniadau gyda grwpiau ysgrifennucreadigol a grwpiau darllen. Ymhlith yrawduron yr oedd Tony Curtis, Roger Granelli,Paul Henry, Robert Minhinnick, Zillah Bethell,Cat Weatherill, Dave Thomas a Mike Jenkins.GwobrCwmni DisglairYm mis Tachwedd 2007, dyfarnoddLlywodraeth Cynulliad Cymru £4.5m i'wddefnyddio gan Gyngor Celfyddydau Cymrui wobrwyo cwmnïau neu unigolion am arloesineu ragori yn y celfyddydau. Roedd yn frainti'r Academi ym mis Hydref 2008 dderbyn un o'r22 o Wobrau Cwmni Disglair. Sicrhaodd hynnygyllid i ddatblygu Sgwadiau Sgwennu’r Ifainc,rhaglen o dwristiaeth lenyddol ddiwylliannola chynllun y Bardd Cenedlaethol. At hynny,defnyddiwyd arian y wobr i ddatblygu systemgronfa ddata newydd a chreu dwy swyddam gyfnodau penodol. 2009-2010 oedd ailflwyddyn a blwyddyn olaf arian y Wobr,er i beth arian sy'n weddill gael ei neilltuofel bod modd cynnal y galw a grëwyd gany Wobr yn 2010-2011.


Yr Academi GymreigAdroddiad Blynyddol 17Sgwadiau `Sgwennu’r IfaincDatblygwyd Sgwadiau `Sgwennu’r Ifainc drosy degawd a aeth heibio gan yr Academi mewncysylltiad â'r awdurdodau lleol yng Nghymru.Nod y Sgwadiau yw cael hyd i ysgrifenwyrdawnus - sy'n gweithio trwy gyfrwng y Gymraega'r Saesneg fel ei gilydd - yn ardal pobawdurdod lleol, a'u cyflwyno i rai o awduronac athrawon ysgrifennu blaenllaw Cymru.Cefnogwyd 80 o Sgwadiau ‘Sgwennu’r Ifaincar y cyd â'r awdurdodau lleol. Roedd y rhainyn cynnwys sesiynau gyda'r awduron PascalePetit, Robert Minhinnick, Gillian Clarke,Elinor Wyn Reynolds, Matthew David Scotta Francesca Kay.Sefydlwyd Sgwadiau `Sgwennu newyddmewn nifer o awdurdodau lleol gan gynnwysCaerdydd, Castell-nedd Port Talbot, Tor-faen,Sir Gaerfyrddin, Sir y Fflint, Wrecsam a Pheny-bontar Ogwr. Mae Rhondda Cynon Taf acYnys Môn wrthi'n sefydlu Sgwadiau newydd.Ar wahân i'r ddau ranbarth hyn, mae gan bobawdurdod lleol yng Nghymru bellach o leiaf unSgwad `Sgwennu.Ym mis Mai 2009, cynhaliwyd y gyntaf o ddwyGynhadledd Sgwadiau `Sgwennu’r Ifainc ynWrecsam, ac fe'i dilynwyd gan ail gynhadleddym mis Mehefin yn Abertawe.Fel rhan o Ŵyl y Gelli 2009, gwahoddwyd pobaelod o'r Sgwadiau `Sgwennu i ymweldSgwad ‘Sgwennu’r Ifainc yn y SeneddFfotograffydd: John Briggsa chymryd rhan, a threfnodd yr Academisesiynau gweithdy gyda Cat Weatherill, TwmMorys a Daniel Morden.Yn Eisteddfod yr Urdd, Caerdydd gweithioddSgwad Cymraeg newydd y brifddinas gydaBardd Plant newydd Cymru, Twm Morys.Trefnwyd cyfres o weithdai gydag aelodauSgwadiau Gwynedd i gyd-fynd ag EisteddfodGenedlaethol y Bala, 2009. Bu aelodau'rSgwadiau'n gweithio gyda'r awdur EurigSalisbury.Lansiwyd gwefan newydd ddwyieithog i'rSgwadiau `Sgwennu ym mis Gorffennaf2009 (www.sgwadiausgwennu.org), ynghydâ thaflen a ddosbarthwyd i bob awdurdodlleol ac i ysgolion a mudiadau penodol yngNghymru.Ym mis Medi 2009, cynhaliwyd digwyddiadi ddathlu degfed pen-blwydd y CynulliadCenedlaethol yn Senedd y Cynulliad acadeiladau Tŷ Hywel ym Mae Caerdydd.Cyhoeddwyd llyfryn yn coffáu'r digwyddiadac yn cynnwys dros hanner cant o gerddi agynhyrchwyd gan y plant ar y diwrnod ym misMawrth 2010.Ym mis Tachwedd 2009, gwahoddwyd Sgwad`Sgwennu Bro Morgannwg (y grŵp Cymraeg)i gymryd rhan mewn prosiect ar y cyd â WNOMAX a Tŷ Cerdd i ddathlu pumed pen-blwyddCanolfan Mileniwm Cymru.


Twristiaeth DdiwylliannolYm mis Mawrth 2009, lansiodd yr Academigyfres Awduron a'u Cynefin o deithiau bwsllenyddol yng Nghymru. Roedd y teithiau'ncanolbwyntio ar Waldo Williams yn Sir Benfro,Roland Mathias yn Nhal-y-bont ar Wysg,Gillian Clarke a Dic Jones yng Ngheredigion,Lewis Jones yng Nghwm Clydach a Dafyddap Gwilym yng Ngheredigion. Croesodd yteithiau Gymru gyfan, gyda dwy yn cychwyno Gaerdydd, dwy o Aberystwyth ac un oGaerfyrddin. Fel yr awgryma'r teitl, Awdurona'u Cynefin, roedd pob taith yn canolbwyntioar fywydau'r llenorion a'u gwaith yng nghyddestunpenodol y dirwedd a'u hysbrydolodd.Denodd y teithiau lawer o bobl nadoeddent wedi cymryd rhan cyn hynny ynnigwyddiadau'r Academi. Teimlai llawer o'rcyfranogwyr fod y daith ddwyieithog ar GillianClarke a Dic Jones wedi 'ysbrydoli’ ac roeddyr ymateb yn gyffredinol yn gadarnhaol.Mae'r teithiau bws llwyddiannus, ynghyd âgwybodaeth am leoliad placiau i ddathluawduron a'r wybodaeth am eu bywyd a'ugwaith ar wefan yr Academi, wedi ysgogillawer o ddiddordeb gan gynulleidfaoeddnewydd. Mae nifer o ddarpar bartneriaidcydweithredol wedi cysylltu â'r Academiynglŷn â phrosiectau twristiaeth ddiwylliannolyn y dyfodol.Taith fws lenyddol Gillian Clarke a Dic Jones


Yr Academi GymreigAdroddiad Blynyddol 19Y Bardd CenedlaetholAdeiladodd ail flwyddyn Gillian Clarke felBardd Cenedlaethol ar lwyddiant y gyntaf.Derbyniodd nifer o gomisiynau nodedig, gangynnwys cerdd i Harry Patch, The Plumber,ar gyfer rhaglen Today ar Radio 4; cerdd argyfer tudalen Bardd Llawryfog y Guardian ofeirdd benywaidd, ac un arall i'r un papur arAfghanistan; cerdd ar gyfer Ystafell Ddarllennewydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru; cerddar gyfer adeilad newydd y Cynulliad ynAberystwyth; cerdd yn dathlu degfed penblwyddy Senedd a phumed pen-blwyddCanolfan Mileniwm Cymru. A phrosiect y BarddCenedlaethol yn ei bumed flwyddyn yn unig,mae'r swydd eisoes wedi'i phrofi'i hun yn uno brif swyddi llysgenhadol diwylliannol Cymru.Yn ôl y disgwyl, ymddangosodd y BarddCenedlaethol nifer o weithiau'n gyhoeddushefyd. Roedd yr uchafbwyntiau'n cynnwysdarllen yng Nghas-gwent gyda Carol AnnDuffy; cymryd rhan yn Wordfest Aberdeen;darllen o'i chyfieithiadau o Kate Roberts iGymdeithas Cae’r Gors; cymryd rhan yngngwyliau'r Gelli a Chaeredin; darllen ymMhalas Lambeth gyda Rowan Williams;cymryd rhan yng Ngŵyl Cheltenham a GŵylCondry, Machynlleth - yn ogystal â throsddeugain o ddigwyddiadau gyda Poetry Live, igyfanswm o 100,000 o blant ysgol. Aeth gwaithrhyngwladol Gillian â hi i Ŵyl yr Alhambra ynSbaen, Gŵyl Dubai a Gŵyl Werin y Smithsonianyn Washington DC. Cymerodd ran yn SeremoniWobrwyo Cystadleuaeth FarddoniaethRyngwladol Caerdydd yr Academi ac ynnhaith fws lenyddol yr Academi yn ei chynefinhi a Dic Jones yng Ngheredigion.Ymhlith rhai o ddigwyddiadau mwyaf nodedigGillian yr oedd cyngherddau elusen hynodlwyddiannus Poetry Live ar gyfer Haiti ynLlundain a Chaeredin yn ogystal â darllencerdd gomisiwn ar gyfer dathliadau'rGymanwlad yn San Steffan.Roedd ymddangosiadau'r BarddCenedlaethol ar y cyfryngau yn cynnwyscomisiynau ar gyfer Radio 4 a'r Guardian(gweler uchod), cymryd rhan yn rhaglen Radio3, The Essay, On Being a Laureate; cyfweliadar BBC Front Row am A Recipe for Water; athrafodaeth ar raglen Woman’s Hour y BBCgyda Margaret Drabble ar A Writer’s Britain.Mae datblygu Prosiect y Bardd Cenedlaetholwedi helpu'r Academi mewn llawer ffordd.Mae wedi helpu i ddod â mwy o amlygrwyddi’r Gymdeithas y tu allan i Gymru, a hynny yn yDU ac yn rhyngwladol. Roedd gweinyddiaetheffeithlon yr Academi o'r prosiect yn amlwgi'r Palas ac i'r Adran dros Ddiwylliant, yCyfryngau a Chwaraeon, a ofynnodd i'rAcademi am gyngor ar reoli penodiad newyddy Bardd Llawryfog. Mae sefyllfa amlycachyr Academi wedi caniatáu iddi ddatblygupartneriaethau newydd ag asiantaethaua sefydliadau y tu allan i sector traddodiadoly celfyddydau. Mae'r rhain yn cynnwysSefydliad Bevan, yr RIBA (Sefydliad BrenhinolPenseiri Prydain) a'r Comisiwn HenebionBrenhinol.Cafodd Cymru fudd mawr o benodiadGillian Clarke.MamiaithPrin mai nyth ydyw,dim ond clais rhwng cerrig,eto, pendilio a wna;siarsio’r gwynt a’r awyrâ’i chrychlais blin.Os camwn o’r golwg,daw adre’n dawel,i’r garreg lefn, gynnes,cargo’n llawn gwaed a gwanca’r yfory’n llawn glesni.A churiadau’r môryw pyls y gawell dywyll,ei bru uwch y lli,yn wawr o wysy’n iro’r iaith i’w sain.Cyfieithiad Menna Elfyn o ‘Mother Tongue’gan Gillian Clarke, Bardd Cenedlaethol Cymru


Bardd Plant CymruTrosglwyddwyd mantell Bardd Plant Cymruoddi wrth Ifor ap Glyn i'r bardd a'r cerddorTwm Morys yn 2009 mewn seremoni ar briflwyfan Eisteddfod yr Urdd yng Nghaerdydd.Mae Bardd Plant Cymru yn brosiect ar y cydrhwng yr Academi, S4C, Cyngor Llyfrau Cymruac Urdd Gobaith Cymru.Ymwelodd Twm â thros 45 o ysgolion -record i'r prosiect - gan gynnwys niferyn y de-ddwyrain lle nad yw'r Gymraego anghenraid yn iaith gyntaf i'r plant.Defnyddiodd gerddoriaeth a gwybodaeth amhanes a diwylliant lleol i'w helpu i gyfathrebu.Cydweithiodd hefyd ag ysgolion ar brosiectgydag Opera Cymru, gan gyfieithu ac addasu'Carmen' Bizet i'r Gymraeg.Yn Eisteddfod yr Urdd yn Llanerchaeron ymmis Mehefin 2010 cyhoeddwyd mai'r comedïwr,y bardd a'r cerddor Dewi Pws Morris fyddaiolynydd Twm.CystadlaethauCystadleuaeth Farddoniaeth RyngwladolCaerdydd yr Academi - Cyhoeddwydcanlyniadau cystadleuaeth 2009, afeirniadwyd gan Ian McMillan a KurtHeinzelman, ym Mae Caerdydd ar fwrddy bad Seren-y-Bae. Darllenodd BarddCenedlaethol Cymru, Gillian Clarke,ddetholiad o'i gwaith ei hun o'i blwyddyngyntaf fel Bardd Cenedlaethol cyn cyhoeddi'renillwyr. Aeth y wobr gyntaf o £5000 i JaneRouth o Gaerhirfryn am ei cherdd The Giftof Boats. Aeth yr ail wobr (£500) i'r barddChristopher Simons o Brydain a Chanada, acEmily Berry o Lundain a enillodd y drydeddwobr (£250). Dyfarnwyd £50 yr un hefyd ibump arall: Marianne Burton o Lundain;Laila Farnes o Nittedal, Norwy; StephenMoore o Lerpwl; Philip Tomkins o Gaerdydda Pat Winslow o swydd Rydychen. Cafwyddiweddglo addas i'r digwyddiad wrth i'r barddIfor Thomas, wedi'i wisgo ar gyfer yr achlysurmewn siwt, tei a het wellt, ddiddanu'rgwahoddedigion â pherfformiad bywiogo beth o'i waith a ysbrydolwyd gan Gaerdydda'r Bae.Cystadleuaeth Stori Fer Rhys Davies -Siân Preece o Gaerdydd a ddewiswydgan y beirniaid, Niall Griffiths a StevieDavies yn enillydd 2009 am ei stori GettingUp. Derbyniodd y wobr gyntaf o £1000.Cyhoeddwyd enwau’r enillwyr mewn seremoniyn Bar One, Canolfan Mileniwm Cymru ym misChwefror 2010. Derbyniodd deg arall a ddaethyn agos i'r brig £100 yr un.Eu henwau oedd: Angela Graham oGaerdydd; Robert Hunt o Gaerffili; ClementineHollister o Newcastle Upon Tyne; Craig Haweso Gastell-nedd Port Talbot; Mike Jenkins oFerthyr Tudful; Samantha Kemp o Blackwood;Dave Lewis o Bontypridd; Joâo Morais oGaerdydd; Jeb Loy Nichols o'r Trallwng aSarah Wishart o Lundain.Yn ystod y seremoni, cyhoeddodd Kate McAll,Uwch Gynhyrchydd Drama Radio BBC <strong>Wales</strong>,y byddai tri o'r storïau arobryn, Getting Upgan Sian Preece, Dammed gan Sarah Wisharta Zeina gan Craig Hawes, yn cael eu darlleduar BBC Radio 4 ym mis Mawrth. Darllenwyd ystorïau gan seren Torchwood, Gareth DavidLloyd; yr actores, Caryl Morgan; a'r actor,Steffan Rhodri o Gavin and Stacey a ConPassionate. Cyhoeddir casgliad o'r storïauarobryn gan Leaf Books yn ddiweddarachyn 2010.Gwobr John Tripp am Farddoniaeth Lafar -Dychwelodd y wobr yn 2009 gyda phedairrownd ar draws Cymru yn Sefydliad yGlowyr Llanhiledd yng Ngwent, CanolfanGelfyddydau Pontardawe, The Gate yngNghaerdydd a Venue Cymru yn Llandudno.Dewiswyd pedwar bardd o bob rowndragbrofol i fynd i'r rownd derfynol ynThe Wharf ym Mae Caerdydd. O'r 16 hyn,dewiswyd Dafydd Wyn o Rydaman ynfuddugwr gan feirniaid y rownd derfynol,Deborah Kay Davies, Kathryn Gray a WiardSterk. Enillodd Dafydd £500, ac enillodd ymyfyriwr Liam Johnson yr ail wobr ynghydâ gwobr y gynulleidfa o £100 yr un.


Yr Academi GymreigAdroddiad Blynyddol 21Twm MorysFfotograffydd: S4C


Gweithgareddau'r AelodauAr 6 Mawrth 2010 cynhaliodd yr Academiginio yng Ngwesty'r Conrah yn Aberystwythi ddathlu hanner can mlwyddiant yGymdeithas yng nghwmni un o'i sylfaenwyr,Bobi Jones. Sefydlwyd yr Academi Gymreigym 1959 yn dilyn trafodaethau rhwng BobiJones a Waldo Williams. Cynhaliwyd ycyfarfod swyddogol cyntaf yng Nghaerdyddym 1960. Rhoddodd Bobi Jones anerchiadbywiog am ddechreuadau’r Gymdeithas.Croesawyd Bobi hefyd yn swyddogol ynLlywydd Anrhydeddus newydd y Gymdeithas.Yn ei anerchiad, talodd deyrnged i'wragflaenydd, y diweddar T. Llew Jones.Dydd y Farn - Cynhaliwyd ysgol undyddar feirniadaeth yng Ngwesty'r Cambria,Aberystwyth ym mis Mawrth. Roedd ypwnc yn amserol ac yn berthnasol i sawlprosiect a dadl sydd ar y gweill ar gyflwrbeirniadaeth gelfyddydol yng Nghymruheddiw. Traddododd Gareth Miles y brifddarlith, ar sail ei bapur ar gyfer yr adrandrafodaeth ar wefan Cyngor CelfyddydauCymru, a Jon Gower oedd cyflwynydd ydydd. Trafododd Karen Owen, Siân MelangellDafydd a Menna Machreth eu cyfraniad iGyfnewidfa Feirniaid Washington a Chymruy llynedd, a drefnwyd gan Visiting Arts igyd-fynd â phresenoldeb Cymru yng Ngŵyly Smithsonian. Trafododd Alan Llwyd a CeriWyn Jones y broses o feirniadu'r prif wobraullenyddol yn yr Eisteddfod Genedlaethol, aphoblogrwydd parhaus y Cyfansoddiadaua Beirniadaethau. Daeth y diwrnod i ben âchyflwyniadau gan dri beirniad ar ddetholiado weithiau diweddar: Dafydd Morgan Lewisar nofel Llwyd Owen, Mr Blaidd; adolygiadgan Sioned Williams o gynhyrchiad cyfredol yTheatr Genedlaethol, Y Gofalwr ac adolygiadgan Dr Kate Woodward o ddwy ddramaNadolig ar S4C, Ar y Tracs a Ryan a Ronnie.New Narratives - cynhaliodd yr Academigynhadledd 2010 yr Adran Saesneg yngNgwesty a Bythynnod Gelli-fawr yng NghwmGwaun yn Sir Benfro. Cyflwynwyd digwyddiadpreswyl un noson o'r enw New Narrativesgyda Tom Anderson yn archwilio byd lledffuglennolysgrifennu am deithio; sesiwn arlên meicro a ffurf y stori fer gyda DeborahKay Davies, Holly Howitt a Kathryn Gray;Joe Dunthorne ar addasu ei nofel gyntaf,Submarine, yn ffilm; trafododd MalcolmPryce a Niall Griffiths y newidiadau a weliryn Aberystwyth a chafwyd cwis llenyddolynghyd â barddoniaeth gan Kathryn Gray,Carrie Etter a Joe Dunthorne. Ar draethtrawiadol Parrog gerllaw cyflwynwyd sgwrsgan Damian Walford Davies ar fersiwnnewydd o chwedl Pwyll, Pendefig Dyfedgan Russell Celyn Jones.


Yr Academi GymreigAdroddiad Blynyddol 23Bobi JonesFfotograffydd: Celf Calon


YstadegauAelodaethCroesawyd y canlynol yn Aelodau Llawn o'rAcademi (yr Adran Gymraeg) yn ystod2009-2010:Simon Brooks, Siân Melangell Dafydd, MariEmlyn, Eirwyn George, Jerry Hunter, Gwynforab Ifor, Cyril Jones, John Gwilym Jones,Geraint Lewis, Hefin WynCroesawyd y canlynol yn Gymrodyr o'rAcademi (yr Adran Gymraeg) yn ystod2009-2010:Manon Rhys, Christine JamesCroesawyd y canlynol yn Aelodau Llawno'r Academi (yr Adran Saesneg) yn ystod2009-2010:Tom Anderson, Gaynor Arnold, Zillah Bethell,Alan Bilton, Jim Bowen, Horatio Clare, RichardCook, Peter Dale, Bethan Darwin, NicolaDavies, Jackie Davies, J.D. Davies, ThomasEmson, Keri Finlayson, Angela Gardner,Vanessa Gebbie, Grey Gowrie, Diane Green,John Lee Grenfell, Dan Healy, Josie Henley-Einion, Laurence James, Matthew Jarvis,Marianne Jones, Meirion Jordan, Jayne Joso,Carole Llewellyn, Phil Maillard, Kathy Miles,Kevin Mills, Ruth Morgan, Sue Moules, KateNorth, Pascale Petit, Sarah Prescott, JohnLlewellyn Probert, Margaret Redfern, AlastairReynolds, Harri Garrod Roberts, CarolineRoss, Anita Rowe, Edward Storey, MariStrachan, Rhys Thomas, William Vaughan,Jo Verity, Sheelagh Weeks, Jeni Williams,Terri WiltshireNi chroesawyd neb yn Gymrawd o'r Academi(yr Adran Saesneg) yn ystod 2009-2010.Bu farw'r Aelodau canlynol:Yr Adran Gymraeg: J. Geraint Jenkins,Angharad Jones, Dic Jones, John RoderickReesYr Adran Saesneg: Ian Arthur Bell, DavidBerry, Jacob Bush, Patrick Hannan, SimonPowellBu farw'r Cymrodyr canlynol:Yr Adran Gymraeg: Hywel Teifi EdwardsYr Adran Saesneg: nebYstadegau Aelodaeth ar 31.03.2010 -(Ystadegau'r flwyddyn flaenorolar 31.03.2009 mewn cromfachau)Aelodau Cymraeg: 236 (241)Cymrodyr: 18 (17)Aelodau Saesneg: 433 (391)Cymrodyr: 49 (49)


Yr Academi GymreigAdroddiad Blynyddol 25TaliesinCyhoeddir cylchgrawn llenyddol Cymraegyr Academi, Taliesin, â chymorth ariannolCyngor Llyfrau Cymru (CLlC). Yn 2009llwyddodd yr Academi yn ei chais i sicrhaurhyddfraint tair-blynedd newydd o 2009 hyd2012. Un o amodau'r cymorth ariannol oeddy byddai'r Academi yn codi pris clawr pobrhifyn ynghyd â’r gyfradd danysgrifio.Ar ddiwedd 2009 daeth Manon Rhys aChristine James â'u cyfnod tra llwyddiannusfel cyd-olygyddion i ben. Roedd y ddwy wedicyd-olygu'r cylchgrawn am ddeng mlynedd.Is-deitl eu rhifyn terfynol, Taliesin 138: Gaeaf2009, oedd Dathlu’r Deg, i ddathlu degawdo bartneriaeth lwyddiannus.Penodwyd golygyddion newydd ycylchgrawn, Angharad Elen a Siân MelangellDafydd, ym mis Rhagfyr 2009. Cyhoeddwydeu rhifyn cyntaf, Taliesin 139: Gwanwyn 2010,ddiwedd Mawrth 2010. Ei thema oedd Egin.Mae'r cylchgrawn wedi'i ail-ddylunio agawgrym soffistigedig o arddull rhifynnaucynnar Taliesin. Mae'r cyfraniadau i rifyncyntaf y tîm newydd yn cynnwys ysgrifaugan Gwyn Thomas, Jon Gower a Dewi Prysor,barddoniaeth gan Gerallt Lloyd Owen,Nici Beech a Hywel Griffiths a storïaumeicro gan Ceri Elen.Siân Melangell Dafydd ac Angharad ElenFfotograffydd: John Briggs


Gwasanaethaui Awduron –YsgoloriaethauDyma'r seithfed flwyddyn i'r Academiddyfarnu Ysgoloriaethau i Awduron.Trosglwyddwyd y ddarpariaeth hon i'rAcademi gan Gyngor Celfyddydau Cymru yn2003. Parhaodd Gwen Davies yn ei swydd felCadeirydd y Panel Ysgoloriaethau. Parhaoddei chyd-aelodau ar y Panel, Idris Reynolds,Catherine Fisher ac Amanda Hopkinson ynddarllenwyr ac ymunodd aelod newydd o'rPanel, Carolyn Jess Cooke â nhw. Simon Reeso'r Society of Authors oedd ein sylwedyddannibynnol. Wedi ymgyrch hysbysebugymharol dawel, ystyriwyd 101 o geisiadaugan y Panel. Dyfarnwyd ysgoloriaethau i 18o awduron, dau ohonynt yn awduron nadoeddent wedi cyhoeddi eu gwaith. Roeddcyfanswm gwerth yr ysgoloriaethau yn£95,000. Dyma'r enwau: Ivy Alvarez, DafyddApolloni, Tiffany Atkinson, Mario Basini,Jim Bowen, Daniel Davies, Damian WalfordDavies, Robat Gruffudd, Alex Keegan, EurosLewis, Christopher Lloyd, Jane MacNamee,Ann McManus, Eiry Miles, Karen Owen, DafyddJohn Pritchard, Samantha Wynne Rhydderch,a Byron Rogers.Meddai Gwen Davies, Cadeirydd PanelYsgoloriaethau’r Academi: ‘Rwyf wrth fymodd bod y blaenoriaethau eleni wedigolygu osgoi capio. Mae hynny wedi eingalluogi i ddyfarnu ysgoloriaethau sydd moragos ag y bo modd at ofynion yr awduron ynachos 18 o ymgeiswyr haeddiannol iawn.’Gwasanaethau iAwduron - Mentoraa GwasanaethBeirniadol i AwduronDyfarnwyd lleoedd mentora i saith o awdurongan Banel Ysgoloriaethau'r Academi yn2009-10: Huw Lawrence, Emily Hinshelwood,Emma Musty, Craig Hawes, James Vilares,Tim Rhys a William Muir. Roedd y galw am yGwasanaeth Beirniadol sy'n cynnig sylwadaudiduedd ar waith awduron yn parhau.Gwasanaethaui Awduron - GwybodaethBu cynnydd nodedig yn yr ymholiadaucyffredinol ynglŷn â busnes ysgrifennu.Er comisiynu a darparu cronfa ddatagwybodaeth a chyngor helaeth ar lein, maenifer yr ymholiadau wedi mwy na dyblu yny flwyddyn a aeth heibio.


Yr Academi GymreigAdroddiad Blynyddol 27Damian Walford DaviesFfotograffydd: Peter Finch


Llyfr y FlwyddynLlyfr y Flwyddyn, menter ar y cyd rhwng yrAcademi a Chyngor Celfyddydau Cymru, ywgwobr lenyddol fwyaf nodedig Cymru. Dyferniry wobr bob blwyddyn am y llyfr Cymraega'r llyfr Saesneg gorau a gyhoeddwyd yny flwyddyn flaenorol. I fod yn gymwys maeangen i lyfrau fod wedi eu hysgrifennu ganawdur sy'n gweithio yng Nghymru neu a anedyng Nghymru, neu fod yn ymwneud â Chymruneu fod yn llyfrau Cymraeg. Mae'r Gwobrauwedi eu datblygu yn rhywbeth llawer mwy nagwobr ariannol syml sy'n anrhydeddu awdur.Y llyfr a ysgrifennwyd orau (yn hytrach na'run a werthodd orau neu sy'n edrych orau)yw’r dehongliad o'r llyfr gorau. Dehonglwydysgrifennu creadigol fel barddoniaeth,beirniadaeth a rhyddiaith greadigol (yn hytrachna llyfrau coginio, llyfrau chwaraeon, a llyfrauhanes pur). Ceisiwyd cyhoeddusrwydd. Ynsgil hynny cynyddodd ymwybyddiaeth olenyddiaeth Cymru ynghyd â gwerthiant.Ymhlith yr enillwyr blaenorol bu rhai o enwaumawr ein llenyddiaeth. Yr enillwyr y llynedd- Llyfr y Flwyddyn 2009 - oedd Deborah KayDavies am Grace, Tamar and Laszlo theBeautiful (Parthian, 2008) a Wiliam Owen Robertsam Petrograd (Cyhoeddiadau Barddas, 2008).Erbyn i chi ddarllen yr adroddiad hwn, byddSeremoni Llyfr y Flwyddyn wedi ei chynnal yngNgwesty a Sba Dewi Sant, Caerdydd. Beirniaid ygwobrau Cymraeg yw John Gwilym Jones, AledLewis Evans a Branwen Gwyn. A'r beirniaid ar ypanel Saesneg yn 2010 yw Ian Gregson, JamesHawes a Sara Edwards. Bydd y ddau enillydd –y naill am lyfr Cymraeg a'r llall am lyfr Saesneg- yn cael £10,000 yr un. Bydd y pedwar awdurarall ar y rhestr fer – dau yn y ddwy iaith – yncael £1,000 yr un.Rhan gyntaf y broses yw lansio Rhestr Hir Llyfry Flwyddyn o ddeg llyfr ym mhob iaith, sy'nlleihau'n Rhestr Fer o dri llyfr yn y naill iaith a'rllall yng Ngŵyl y Guardian yn y Gelli. Ar gyfer2010, yr awduron ar y Rhestr Fer Saesnegoedd: Philip Gross, Terri Wiltshire a NikolaiTolstoy. Yn Gymraeg: Hywel Griffiths, Caryl Lewisa John Davies.Cefnogir ymgyrch Rhestr Hir y Wobr gan GyngorLlyfrau Cymru a llyfrwerthwyr ledled Cymru.


Yr Academi GymreigAdroddiad Blynyddol 29Beirniaid Llyfr y Flwyddyn 2009: Gwyn Thomas, Derec Llwyd Morgan a Luned AaronFfotograffydd: John BriggsWiliam Owen RobertsFfotograffydd: Euron Jones


Gwyddoniadur Cymruyr Academi GymreigWrth i werthiant copïau caled GwyddoniadurCymru yr Academi Gymreig barhau'n uwchna'r disgwyl, mae dau ddatblygiad newyddwedi tynnu'r cyhoeddiad nodedig hwn i'roes ddigidol. Trwy bartneriaeth â BBC Cymrubydd cofnodau detholedig o'r Gwyddoniadurar gael ar lein trwy wefan BBC Cymru.Mae'r Academi wedi cydweithio â CredoReference, cwmni cyfryngau a llyfrgellgyfeirlyfrau ar lein o America, i gynnigfersiwn ddigidol o'r Gwyddoniadur trwydanysgrifiadau ar lein i'r farchnadacademaidd ryngwladol. Fel un o gasgliadCredo o dros 480 o deitlau, bydd cynnwys yGwyddoniadur ar gael i ymchwilwyr ledledy byd.Llenyddiaetha ChymdeithasMae'r Academi'n gweithio gyda phartneriaidyn y sectorau iechyd, gwirfoddol, addysga chyfiawnder cymdeithasol i sicrhaubod llenyddiaeth ar gael i bob aelod o'rgymdeithas. Mae ysgrifennu creadigol yncynnig cyfle i fynegi pethau sydd weithiau'nanodd eu dweud ar lafar. Mae cynlluniauariannu llenyddiaeth yr Academi yncynorthwyo grwpiau fel Mind a Cymorth iFenywod y mae eu haelodau wedi gweithioar ddarnau o farddoniaeth a rhyddiaithgydag awdur-diwtoriaid profiadol fel AnitaFlowers a Graham Hartill. Aeth cynllun yrAcademi, Prosiect yr Eglwys Newydd, danarweiniad y llenorion Briony Goffin a PhilCarradice, ymlaen â'r gwaith o gofnodi adiogelu hanesion a phrofiadau personolcysylltiedig ag Ysbyty’r Eglwys Newydda'i hanes maith.Bydd ysgolion i ddisgyblion ag anawsteraudysgu ac ymddygiad yn defnyddio llenorioni helpu i ddatgloi meddyliau a theimladaudisgyblion nad yw addysg bob amser ynhawdd iddynt. Gall bydoedd cyfochrogbarddoniaeth a ffuglen helpu i wneudsynnwyr o'r byd y mae'n rhaid inniymwneud ag ef.At hynny, mae perthynas barhaus yrAcademi ag addysg yn y carchar yn caelsylw ar wahân yn y nodiadau ar y prosiectYsgrifennu mewn Carchardai yn yradroddiad hwn.


Yr Academi GymreigAdroddiad Blynyddol 31Hyrwyddo aMarchnata chymorth Gwobr Cwmni Disglair CCC,mae'r Academi wedi creu gwefannaunewydd. Crëwyd un ar gyfer SgwadiauSgwennu’r Ifainc a'r llall ar gyfer TwristiaethDdiwylliannol a Phlaciau Awduron.Dyluniwyd gwefan y Sgwadiau `Sgwennuar gyfer aelodau'r sgwadiau a threfnwyrac mae'n weledol drawiadol a diddorol.Mae cylchlythyr yn cael ei ddatblygu hefydar gyfer aelodau’r Sgwadiau Sgwennu.Mae gwefan y Placiau Awduron yn cyfeirioymwelwyr at y mannau yng Nghymru sy'ncoffáu rhai o'n llenorion gorau. Mae'nwefan aml-haen sy'n defnyddio mapiaurhyngweithiol a bywgraffiadau llenorion acyn galluogi defnyddwyr i nodi ac awgrymumannau newydd o ddiddordeb.Mae Gwobr Cwmni Disglair CCC hefyd wedigalluogi'r Academi i ddatblygu cronfa ddatanewydd o gysylltiadau ar gyfer y sefydliadcyfan. Bydd yn rheoli grwpiau diddordeb,cysylltiadau â'r cyfryngau, aelodaeth,tanysgrifiadau, data cystadlaethau agwybodaeth farchnata.Erbyn hyn mae e-gylchlythyr yr Academi yncyrraedd dros 5000 o bobl yn Gymraeg aSaesneg ddwywaith y mis. Dyma'r cyfrwng ymae'r Academi'n ei ddefnyddio i hysbysebu'ramrywiaeth cynyddol o weithgareddausy'n digwydd ledled y Gymru lenyddol. Ynychwanegol at raglen helaeth yr Academi,mae'r galw am hyrwyddo digwyddiadau,cystadlaethau a gweithgareddau a reolirgan eraill yn tyfu - arwydd gwirioneddol osîn lenyddol iach yng Nghymru.Bob chwarter cyhoeddir A470, y cylchgrawncynhwysfawr sy'n rhestru digwyddiadaua gwybodaeth, ac fe’i ddosberthir amddim i aelodau, cefnogwyr, canolfannaucelfyddydau a llyfrgelloedd ar drawsCymru. Mae'r Academi'n cyflogi dylunwyrproffesiynol i greu deunydd hyrwyddotrawiadol ac yn defnyddio arbenigwyrcysylltiadau cyhoeddus ar gyfer prifddigwyddiadau fel Llyfr y Flwyddyn.HyfforddiantMae'r Academi'n sicrhau bod ei staff yncael yr wybodaeth ddiweddaraf am faterionyn ymwneud â thechnoleg y rhyngrwyd,iechyd a diogelwch, cymorth cyntaf,sgiliau ariannol a gweinyddol a defnyddiodatblygiadau cyfoes ym maes cyfathrebumewn ffordd effeithiol. Gall yr hyfforddiantgael ei gyflwyno gan gymheiriaid neu ganddarparwyr allanol. Mae'r Academi'n derbyndisgyblion a myfyrwyr ysgolion a cholegau arbrofiad gwaith er mwyn helpu'r genhedlaethnesaf o weinyddwyr y celfyddydau iddechrau dysgu'r sgiliau angenrheidioli'w gyrfaoedd. Yn ogystal â hynny, mae'rAcademi wedi galluogi staff i ddatblygusgiliau Cymraeg lle bo hynny'n briodol.Trwy gydweithredu ag asiantaethau allanolallweddol fel Celfyddydau AnableddCymru, y gwasanaeth carchardai a'npartneriaid sy'n gweithio mewn Wrdw,Arabeg a Somalieg, gall yr Academi roicymorth effeithiol mewn meysydd lle nad oesgweithwyr proffesiynol sydd wedi'u hyfforddiar y staff.Mae'r Academi wedi ymuno â literaturetraining, cydgysylltydd hyfforddiant y DUar gyfer y byd llenyddol.Polisi Arian Wrth GefnMae gan yr Academi bolisi o geisio cadwcronfeydd digyfyngiad, sef arian rhydd wrthgefn y Gymdeithas, ar lefel sy'n gyfwerth agoddeutu chwe mis o wariant digyfyngiad.Nod hyn yw ceisio darparu digon o arian idalu costau rheoli a gweinyddu ynghyd âchostau cefnogi, ac i ymateb i geisiadau brysam gymorth i brosiectau a chymorth arall addaw o bryd i'w gilydd.


Staff yr Academi- Peter Finch, Prif Weithredwr- Lleucu Siencyn, Dirprwy- Elinor Robson, Rheolwr Busnes- R T Mole, Swyddog Cynlluniau- Gwennan Evans, Swyddog Llenyddiaeth(tan fis Gorffennaf 2009)- Meleri Thomas, Swyddog Llenyddiaeth(o fis Gorffennaf 2009)- Hollie Aldridge, Swyddog Llenyddiaeth- Petra Bennett, Swyddog Llenyddiaeth- Peter Hill, Swyddog Gweinyddol(tan fis Awst 2009)- Bethan Lloyd, Swyddog Gweinyddol(o fis Mehefin 2009)- Elin Williams, Cynorthwy-ydd Personol i'rPrif Weithredwr- Bronwen Price, Cynorthwy-ydd Gweinyddol(rhan-amser)- Mary Cassar, Swyddog Cyfrifon(rhan-amser)- Louise Richards, Swyddog DatblyguLlenyddiaeth yn y Cymoedd- Elena Schmitz, Rheolwr Prosiect,Gwobr Cwmni Disglair- Branwen Williams, Swyddog CymorthProsiectau, Gwobr Cwmni Disglair- Llio Huws, Swyddog Maes Gogledd Cymru(tan fis Gorffennaf 2009)- Sioned Jones, Swyddog Maes GogleddCymru (o fis Tachwedd 2009)- Gwen Lasarus James,Hyrwyddwr Llenyddiaeth Gwynedd- Johanne Maggs, Swyddog ProsiectYsgrifennu mewn CarchardaiAelodau o FwrddRheoli'r Academiar 31 Mawrth 2010- John Pikoulis (Cyd-gadeirydd)- Harri Pritchard Jones (Cyd-gadeirydd)- Phil Carradice (Adran Saesneg yr Academi)- Gareth Miles (Adran Gymraeg yr Academi)- Sally Baker (Tŷ Newydd)- Ned Thomas (Mercator)- David Woolley (Canolfan Dylan Thomas)- Hedd ap Emlyn (enwebai CLlLC)- Geraint James (enwebai CLlLC)- Mian Majeed (Bazm-e-Adab)- Grahame Davies (BBC)- Kathryn Gray (New Welsh Review)- Hazel Walford Davies (Academi)- Luned Aaron (Academi)- David Newland (CCC) yn rhinwedd ei swydd


Yr Academi GymreigAdroddiad Blynyddol 33Aelodau ois-bwyllgor Aelodau'rAcademi ar31 Mawrth 2010- Catherine Merriman (Cyd-gadeirydd)- Gillian Clarke- Ifor Thomas (cyfetholedig)- Ann Drysdale- Diana Griffiths- Cary Archard- Matthew Jarvis- Rocet Arwel Jones (Cyd-gadeirydd)- Dylan Foster Evans- Damian Walford Davies- Dafydd John Pritchard- Aled Lewis Evans- Delyth GeorgeBeirniaidLlyfr y Flwyddyn2009-2010- Ian Gregson- James Hawes- Sara Edwards- John Gwilym Jones- Aled Lewis Evans- Branwen GwynCyfrifwyr acArchwilyddyr Academi- Partneriaeth Clifton House(gan gynnwys Susan J Arthur a'i Chwmni)Aelodau o BanelYsgoloriaethau'rAcademi ar31 Mawrth 2010- Gwen Davies (Cadeirydd)- Idris Reynolds- Catherine Fisher- Amanda Hopkinson- Carolyn Jess-Cooke


Gweithgarwch Llenyddolyr Academi 2009-2010Ardal awdurdod lleolDigwyddiadauSaesnegDigwyddiadauCymraeg Ieithoedd eraillCyfanswmdigwyddiadauGwariant arddigwyddiadauSaesnegGwariant arddigwyddiadauCymraegCyfanswmgwariant yrAcademiAmcangyfrif ogyfanswm costdigwyddiadauo Gyfanswm yDigwyddiadau %o Gyfanswm yGwariant %Ynys Môn 11 67 0 78 £1115 £3277 £4392 £7159 4% 1%Blaenau Gwent 42 1 0 43 £10485 £100 £10585 £17254 2% 3%Pen-y-bont ar Ogwr 38 2 0 40 £6998 £120 £7118 £11602 2% 2%Caerffili 22 6 0 28 £3882 £505 £4387 £7151 2% 1%Caerdydd 179 30 11 220 £42959 £3851 £46810 £76300 13% 14%Caerfyrddin 55 42 0 97 £15417 £4188 £19605 £31956 6% 6%Ceredigion 18 46 0 64 £17605 £36179 £53784 £87668 4% 16%Conwy 17 22 0 39 £2137 £1557 £3694 £6021 2% 1%Sir Ddinbych 27 41 0 68 £2922 £2542 £5464 £8906 4% 2%Sir y Fflint 53 13 0 66 £5305 £958 £6263 £10209 4% 2%Gwynedd 49 244 0 293 £20544 £41307 £61851 £100817 17% 19%Merthyr Tudful 17 4 0 21 £1149 £390 £1539 £2509 1% 0%Sir Fynwy 78 1 1 80 £23063 £100 £23163 £37756 5% 7%Castell-nedd Port26 4 0 30 £2684 £275 £2959 £4823 2% 1%TalbotCasnewydd 64 1 0 65 £5674 £100 £5774 £9412 4% 2%Sir Benfro 20 10 0 30 £6104 £1279 £7384 £12036 2% 2%Powys 143 55 0 198 £15084 £4203 £19287 £31438 11% 6%Rhondda Cynon Taf 46 9 0 55 £9470 £968 £10438 £17014 3% 3%Abertawe 89 10 0 99 £13988 £4612 £18600 £30318 6% 6%Torfaen 11 1 0 12 £1583 £100 £1683 £2743 1% 1%Bro Morgannwg 39 3 0 42 £5275 £220 £5495 £8957 2% 2%Wrecsam 21 37 0 58 £3014 £2583 £5597 £9123 3% 2%Y tu allan i Gymru 0 8 0 8 £442 £442 £884 £1441 0% 0%Cyfansymiau 2009 2010 1065 657 12 1734 £216,900 £109,856 £326,756 £532,612 - -Cyfansymiau 2008 2009 910 591 23 1524 £234,218 £101,703 £335,921 £547,551 - -61% 38% 1% 100% 66% 34% 100% - 100% 100%% o’r Cyfansymiauar gyfer 2009-2010Rhanbarth:Ardal awdurdod lleolDigwyddiadauSaesnegDigwyddiadauCymraeg Ieithoedd eraillCyfanswmdigwyddiadauGwariant arddigwyddiadauSaesnegGwariant arddigwyddiadauCymraegCyfanswmgwariant yrAcademiAmcangyfrif ogyfanswm costdigwyddiadauGyfanswm yDigwyddiadau %Gyfanswm yGwariant &De 536 58 12 606 £110,539 £6,454 £116,993 £190699 35% 36%Gogledd 157 387 - 544 £32,023 £49,641 £81,664 £133112 31% 25%Gorllewin 372 204 - 576 £73,897 £53,319 £127,216 £207362 33% 39%Y tu allan i Gymru 0 8 - 8 £442 £442 £884 £1441 0% 0%Cyfansymiau 1065 657 12 1734 £216,900 £109,856 £326,756 £532,612 100% 100%

Hooray! Your file is uploaded and ready to be published.

Saved successfully!

Ooh no, something went wrong!