Twristiaeth DdiwylliannolYm mis Mawrth 2009, lansiodd yr Academigyfres Awduron a'u Cynefin o deithiau bwsllenyddol yng Nghymru. Roedd y teithiau'ncanolbwyntio ar Waldo Williams yn Sir Benfro,Roland Mathias yn Nhal-y-bont ar Wysg,Gillian Clarke a Dic Jones yng Ngheredigion,Lewis Jones yng Nghwm Clydach a Dafyddap Gwilym yng Ngheredigion. Croesodd yteithiau Gymru gyfan, gyda dwy yn cychwyno Gaerdydd, dwy o Aberystwyth ac un oGaerfyrddin. Fel yr awgryma'r teitl, Awdurona'u Cynefin, roedd pob taith yn canolbwyntioar fywydau'r llenorion a'u gwaith yng nghyddestunpenodol y dirwedd a'u hysbrydolodd.Denodd y teithiau lawer o bobl nadoeddent wedi cymryd rhan cyn hynny ynnigwyddiadau'r Academi. Teimlai llawer o'rcyfranogwyr fod y daith ddwyieithog ar GillianClarke a Dic Jones wedi 'ysbrydoli’ ac roeddyr ymateb yn gyffredinol yn gadarnhaol.Mae'r teithiau bws llwyddiannus, ynghyd âgwybodaeth am leoliad placiau i ddathluawduron a'r wybodaeth am eu bywyd a'ugwaith ar wefan yr Academi, wedi ysgogillawer o ddiddordeb gan gynulleidfaoeddnewydd. Mae nifer o ddarpar bartneriaidcydweithredol wedi cysylltu â'r Academiynglŷn â phrosiectau twristiaeth ddiwylliannolyn y dyfodol.Taith fws lenyddol Gillian Clarke a Dic Jones
Yr Academi GymreigAdroddiad Blynyddol 19Y Bardd CenedlaetholAdeiladodd ail flwyddyn Gillian Clarke felBardd Cenedlaethol ar lwyddiant y gyntaf.Derbyniodd nifer o gomisiynau nodedig, gangynnwys cerdd i Harry Patch, The Plumber,ar gyfer rhaglen Today ar Radio 4; cerdd argyfer tudalen Bardd Llawryfog y Guardian ofeirdd benywaidd, ac un arall i'r un papur arAfghanistan; cerdd ar gyfer Ystafell Ddarllennewydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru; cerddar gyfer adeilad newydd y Cynulliad ynAberystwyth; cerdd yn dathlu degfed penblwyddy Senedd a phumed pen-blwyddCanolfan Mileniwm Cymru. A phrosiect y BarddCenedlaethol yn ei bumed flwyddyn yn unig,mae'r swydd eisoes wedi'i phrofi'i hun yn uno brif swyddi llysgenhadol diwylliannol Cymru.Yn ôl y disgwyl, ymddangosodd y BarddCenedlaethol nifer o weithiau'n gyhoeddushefyd. Roedd yr uchafbwyntiau'n cynnwysdarllen yng Nghas-gwent gyda Carol AnnDuffy; cymryd rhan yn Wordfest Aberdeen;darllen o'i chyfieithiadau o Kate Roberts iGymdeithas Cae’r Gors; cymryd rhan yngngwyliau'r Gelli a Chaeredin; darllen ymMhalas Lambeth gyda Rowan Williams;cymryd rhan yng Ngŵyl Cheltenham a GŵylCondry, Machynlleth - yn ogystal â throsddeugain o ddigwyddiadau gyda Poetry Live, igyfanswm o 100,000 o blant ysgol. Aeth gwaithrhyngwladol Gillian â hi i Ŵyl yr Alhambra ynSbaen, Gŵyl Dubai a Gŵyl Werin y Smithsonianyn Washington DC. Cymerodd ran yn SeremoniWobrwyo Cystadleuaeth FarddoniaethRyngwladol Caerdydd yr Academi ac ynnhaith fws lenyddol yr Academi yn ei chynefinhi a Dic Jones yng Ngheredigion.Ymhlith rhai o ddigwyddiadau mwyaf nodedigGillian yr oedd cyngherddau elusen hynodlwyddiannus Poetry Live ar gyfer Haiti ynLlundain a Chaeredin yn ogystal â darllencerdd gomisiwn ar gyfer dathliadau'rGymanwlad yn San Steffan.Roedd ymddangosiadau'r BarddCenedlaethol ar y cyfryngau yn cynnwyscomisiynau ar gyfer Radio 4 a'r Guardian(gweler uchod), cymryd rhan yn rhaglen Radio3, The Essay, On Being a Laureate; cyfweliadar BBC Front Row am A Recipe for Water; athrafodaeth ar raglen Woman’s Hour y BBCgyda Margaret Drabble ar A Writer’s Britain.Mae datblygu Prosiect y Bardd Cenedlaetholwedi helpu'r Academi mewn llawer ffordd.Mae wedi helpu i ddod â mwy o amlygrwyddi’r Gymdeithas y tu allan i Gymru, a hynny yn yDU ac yn rhyngwladol. Roedd gweinyddiaetheffeithlon yr Academi o'r prosiect yn amlwgi'r Palas ac i'r Adran dros Ddiwylliant, yCyfryngau a Chwaraeon, a ofynnodd i'rAcademi am gyngor ar reoli penodiad newyddy Bardd Llawryfog. Mae sefyllfa amlycachyr Academi wedi caniatáu iddi ddatblygupartneriaethau newydd ag asiantaethaua sefydliadau y tu allan i sector traddodiadoly celfyddydau. Mae'r rhain yn cynnwysSefydliad Bevan, yr RIBA (Sefydliad BrenhinolPenseiri Prydain) a'r Comisiwn HenebionBrenhinol.Cafodd Cymru fudd mawr o benodiadGillian Clarke.MamiaithPrin mai nyth ydyw,dim ond clais rhwng cerrig,eto, pendilio a wna;siarsio’r gwynt a’r awyrâ’i chrychlais blin.Os camwn o’r golwg,daw adre’n dawel,i’r garreg lefn, gynnes,cargo’n llawn gwaed a gwanca’r yfory’n llawn glesni.A churiadau’r môryw pyls y gawell dywyll,ei bru uwch y lli,yn wawr o wysy’n iro’r iaith i’w sain.Cyfieithiad Menna Elfyn o ‘Mother Tongue’gan Gillian Clarke, Bardd Cenedlaethol Cymru