Yr Academi yw'r AsiantaethGenedlaethol er HyrwyddoLlenyddiaeth a ChymdeithasLlenorion Cymru.Prif Weithredwr: Peter FinchAcademiTŷ Mount StuartSgwâr Mount StuartCaerdydd CF10 5FQCanolfan Glyn JonesCanolfan Mileniwm CymruBae Caerdyddpost@academi.orgwww.academi.orgwww.sgwadiausgwennu.orghttp://taliesin.academi.org/029 2047 2266Elusen Gofrestredig Rhif 506402dylunio | design Hoffi.comhybu llênliterature promotion
Yr Academi GymreigAdroddiad Blynyddol1RhagairHarri Pritchard JonesJohn PikoulisDoes dim byd fel yr Academi. Dros ydeuddeng mlynedd diwethaf, y mae weditrawsnewid darpariaeth lenyddol Cymru,fel y dengys y tudalennau canlynol. Danarweiniad y Prif Weithredwr, Peter Finch, maewedi creu rhaglen sy'n hyrwyddo pob ffurfar lenyddiaeth - rhai ohonynt yn drawiadolo newydd, a hynny o ran cynnwys ac oran cyfraniad y gynulleidfa, yn enwedigpaffwragedd y Gelli-gaer.Un o ffigurau allweddol yr adroddiad yw'r1,000,000fed person i fod yn bresennol yn uno ddigwyddiadau'r Academi ers ei hailwampioym 1998. Mewn gwlad nad yw ei phoblogaethfawr mwy na phedair gwaith y nifer hwnnw,mae'n gamp ryfeddol. Ffigur allweddolarall: y llynedd noddodd yr Academi 1,000 oddigwyddiadau cyhoeddus a mynychwydy rheiny gan dros 80,000 o bobl. Heb fedr,dyfeisgarwch ac effeithlonrwydd rhyfeddol niellid bod wedi cyflawni dim o'r fath.Effeithlonrwydd yw ein harwyddair o hyd.Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wediaddo ail-drefnu trylwyr ar ei glientiaid, a'rllywodraeth newydd wedi addo lleihaunawdd o'r flwyddyn nesaf. Oherwydd hynny,bydd yn anodd iawn inni gynnal ein rhaglennicraidd. Mae'r angen am arian o ffynonellaueraill yn fwyfwy taer.Bydd darllenwyr yn gweld tabl yn yradroddiad hwn yn rhifo gweithgareddau'rAcademi yn ôl ardal, digwyddiad achyfanswm gwariant. Mae'n anorfod bod rhaiardaloedd yn gwneud yn well nag eraill ondbwriadwn sicrhau cyn deced cydbwysedd agy bo modd, gan gofio cyfraniad y ffactorauhanesyddol, ieithyddol a demograffig niferus.Cofnodir hefyd nad yw'r Academi'n gwariofawr ddim y tu allan i Gymru. Go brin mai fellyy dylai fod, ond adnoddau – ac angen – sy'ngorfodi hynny.John PikoulisCyd-gadeiryddMae ystod a rhychwant gweithgarwch yrAcademi Gymreig yn rhyfeddu rhywun:hybu llên ym mhob twll a chongl o’r wlad,er bod diffyg cyllid yn golygu nad yw’rddarpariaeth yn gyfwerth ym mhob man.Ond rhaid pwysleisio nad bwydo llwysy’n digwydd, gyda’r Academi yn gwthiogweithgarwch llenyddol ar unigolion achymdeithasau ac ati. Na, cynorthwyo pobla chymdeithasau i helpu’u hunain mae’rAcademi, ac mae hynny’n cael ei adlewyrchuyn y ffaith fod mwy o weithgareddau’ndigwydd mewn rhai ardaloedd nag mewnrhanbarthau eraill. Tristwch yw gorfodcofnodi fod llai o weithgareddau mewnardaloedd difreintiedig, a hynny yn yrhanbarthau diwydiannol yn bennaf. A’rrheswm am hynny bron yn ddieithriad ywdiffyg adnoddau, a bod hen draddodiadauo gynnal gweithgareddau celfyddydol wediedwino. Mae hyn yn cynnig her i ni yn yrAcademi i helpu pobl yn yr ardaloedd dansylw i allu gwerthfawrogi a chyfrannu i’r bydllenyddol, ac adeiladu ar hen draddodiadaua chyfraniadau awduron o’r llefydd hyn.Diolch i’r drefn, mae’r Academi hefydyn cynnig cymorth i aelodau difreintiedigarbennig megis carcharorion a chleifioni elwa ar y budd a ddaw wrth ymwneudâ llenyddiaeth, ac rydyn ni’n cael cefnogaethariannol i hyn oddi wrth y llywodraeth ynuniongyrchol y tro hwn, nid trwy’rCyngor Celfyddydau.Wrth i’r pwrs cyhoeddus grebachu yn yblynyddoedd nesaf hyn, onid oes lle i raio gyrff masnachol Cymru gynnig cymorth i’rcelfyddydau? Buasai’n lles i enaid ambellgyfoethogyn i wneud hynny.Ond, yn gyffredinol, rhaid inni ddal i ddibynnuar bwrs y wlad, a gobeithio y bydd pawbfel unigolion a chynrychiolwyr cymunedaua chymdeithasau yn pwyso ar y llywodraethyma ac yn San Steffan i ochel rhag troi’nPhilistiaid yn enw darbodaeth cyllid.Harri Pritchard JonesCyd-gadeirydd