12.07.2015 Views

Untitled - Literature Wales

Untitled - Literature Wales

Untitled - Literature Wales

SHOW MORE
SHOW LESS
  • No tags were found...

You also want an ePaper? Increase the reach of your titles

YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.

Ieithoedd eraillDaliodd yr Academi i weithio gyda grwpiaumewn ieithoedd ar wahân i'r Gymraega'r Saesneg. Bu rhaglen Bazm-e-Adab onosweithiau barddoniaeth Wrdw yn rhedegyn fisol am dros ugain mlynedd; mae'n myndati'n fwriadol i wahodd llenorion Cymraegamlwg i gyd-ddathlu barddoniaeth ynGymraeg ac Wrdw. Y darllenwyr gwaddeleni oedd Eurig Salisbury a Jon Gower.Cynrychiolwyd yr Academi gan Mian Majeed,sy'n aelod o Fwrdd yr Academi ac yn trefnuBazm-e-Adab, yn seremoni nodedig yGwobrau i Lenorion Mwslimaidd yn Llundain.Mae'r Gymdeithas Ddiwylliannol Arabaidddan arweiniad Dr Amer Jafar yn parhau igynnal rhaglen lawn o ddigwyddiadausy'n cynnwys seminarau a thrafodaethauynglŷn â llenyddiaeth Arabeg. ArweinioddSuhaib Hashim Al-Rajeb sesiwn arfarddoniaeth Arabeg a chyflwynodd Sa’adAl-Fattal seminar ar lenyddiaeth Baghdad.Mae'r grŵp yn datblygu gwefan ihyrwyddo ysgrifennu Arabeg.Bu Cymdeithas Addysg ac AdloniantHorne yn dathlu Eid â darlleniadau mewnSomalieg gan Halwad Hersi, Abi Chiye aHoodeyfi. Yn ystod y flwyddyn, cefnogodd yrAcademi hefyd ddwy noson o ddarlleniadaumewn Eidaleg, Cymraeg a Saesneg yngNghaerdydd ac yn y Fenni.Gwaith maesyn y GorllewinMae amrywiaeth o drefnwyr yng ngorllewinCymru - i'r gorllewin o linell ddychmygolo Abertawe i Aberystwyth – sy’n gweithiomewn lleoliadau cymunedol a chanolfannauawdurdodau lleol ledled y rhanbarth. Bu'rAcademi'n cynorthwyo â rhaglenni o waithmewn nifer o ganolfannau, er enghraifftCartref Dylan Thomas yn Nhalacharn, NeuaddTysul, Llandysul, Bar y Seler yn Aberteifi,Canolfan Ceridwen, Neuadd y Frenhinesyn Arberth a Theatr Mwldan. Cyflwynoddamrywiaeth o lenorion, yn cynnwys TiffanyAtkinson, Paul Henry, Damian Walford Davies,Caryl Lewis, Fflur Dafydd, Patrick Jones,Gillian Clarke a Gwyn Thomas, ddarlleniadaua chymryd rhan mewn digwyddiadau. DalioddGŵyl Talacharn i ehangu a chafodd nawddariannol gan Gyngor Celfyddydau Cymruyn 2009. Nodwyd marwolaeth merch DylanThomas, Aeronwy, a fu'n siarad ac yn darllenyn rheolaidd yng nghyfres y Boathouse,â thristwch.Swyddog MaesGogledd CymruDechreuodd Sioned Mair Jones ar ei swyddfel Swyddog Maes Gogledd Cymru ym misTachwedd gan olynu Llio Prydderch Huws.Mae Sioned yn gweithio bedwar diwrnodyr wythnos o swyddfa'r Academi yn NhŷNewydd. Caiff ei chyflogi hefyd am ddiwrnodyr wythnos fel Uwch Weinyddwr gan yGanolfan Ysgrifennu GenedlaetholRoedd uchafbwyntiau 2009-2010 yn cynnwystaith gerdded lenyddol ar Ynys Môn,stompiau barddoniaeth Cymraeg a Saesnegar y cyd â Gŵyl Canol Haf Sir Ddinbych,cyfres o ddigwyddiadau CerddoriaethGeiriau yn Rhuthun, gweithdy ysgrifennugeiriau caneuon gyda Steve Swindon asesiwn meic agored yn Nantclwyd y Dre. Ary cyd â Goleuo, prosiect yn Llanrwst i geisioysgogi'r economi lleol trwy ddigwyddiadaudiwylliannol, cynhaliodd y canwr a'rcyfansoddwr caneuon, Gwilym Morusweithdy ysgrifennu creadigol gyda disgyblionchweched dosbarth yn Ysgol Dyffryn Conwy.HyrwyddwrLlenyddiaeth GwyneddMae Gwen Lasarus James yn parhau iweithio fel Hyrwyddwr Llenyddiaeth Gwynedd,gan weithio i'r Academi a Chyngor Gwynedddri diwrnod yr wythnos o'r Llyfrgellyng Nghaernarfon.Roedd uchafbwyntiau rhaglen y flwyddynyn cynnwys Stomp Gŵyl Ddewi yn y Galeri,Caernarfon a Gŵyl yr Ardd Goll a oedd yncynnwys Eurig Salisbury, Guto Dafydd, OsianJones, Mei Mac ac Iwan Llwyd. Parhauwnaeth Hei Hogia, cynllun wedi'i aneluat ddarllenwyr amharod mewn ysgolion,ac felly hefyd y gyfres o ddosbarthiadaucynghanedd. Mae Hyrwyddo LlenyddiaethGwynedd ar hyn o bryd yn darparu pumcyfres o ddosbarthiadau ar y cyd âphartneriaid ar draws y sir.

Hooray! Your file is uploaded and ready to be published.

Saved successfully!

Ooh no, something went wrong!