12.07.2015 Views

Untitled - Literature Wales

Untitled - Literature Wales

Untitled - Literature Wales

SHOW MORE
SHOW LESS
  • No tags were found...

You also want an ePaper? Increase the reach of your titles

YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.

Llenyddiaeth -Gwreichion, Goleunia Rhu TaranauA'r dirwasgiad yn brathu'n ddyfnach,byddech wedi disgwyl blwyddyn gynnil.Diflannodd cytundebau, caeodd busnesau,a chynyddodd nifer y di-waith. Maecyfraddau llog yn ffitio bellach ar flaen pin.Ers dros flwyddyn ni chamodd yr un gweithiwradeiladu ar fframiau concrid gwag y fflatiaunewydd sy'n wynebu Canolfan MileniwmCymru ym Mae Caerdydd. Mae geiriaueiconaidd Gwyneth Lewis yn rhythuar anghyfannedd. Arafodd camau Cymru.Dylai fod wedi bod yn flwyddyn wael iawduron hefyd. Dim cyhoeddi llyfrau;canslo darlleniadau. Ond ar adegauanodd, at ddiwylliant y try pobl yn amliawn. A bu hynny’n sicr yn wir yn achosllenyddiaeth. Yn hytrach nag arafu, bu'nflwyddyn o brysuro. Mae mwy o ddarllenwyr,gwrandawyr, defnyddwyr, sgriblwyr,crafwyr, gwneuthurwyr, ffugwyr, adeiladwyr,ysgrifenwyr, a chyfranwyr wedi ymwneud âllenyddiaeth yng Nghymru nag ar unrhywadeg o fewn cof. Mae’n amhosibl dilyn ycyfan, meddai rhywun. Rwy'n gwybod sutmae'n teimlo.Mae llawer yn dychmygu, wrth gwrs, ygall llenyddiaeth ffynnu heb ddim cymorthariannol o fath yn y byd. Daw llenorion iben â byw mewn garet. Dim ond iddynt gaelpapur a phensil. Caiff eu llyfrau eu cyhoeddi,rywsut neu'i gilydd, waeth beth fo'r amodaumasnachol yn Llundain. Os oes unrhyw werthynddynt, mi werthant. Diwedd y stori.Ond mae'r darlun hwnnw o'r byd mor henffasiwn bellach fel bod hyd yn oed eigoleddwyr yn dechrau amau y gallai fod ynanghywir. Hen hanes. Yng Nghymru heddiw,mae llenyddiaeth yn ganolog i'r diwylliantac yn rhan mor annatod o'n ffordd o fyw fely bydd hyd yn oed y mwyaf annarllengar yngwybod rhywbeth amdani.Yn y deuddeg mis diwethaf treiddioddysgrifennu i mewn i brosiectau’n ymwneudâ bocswyr benywaidd ifanc o'r Gelli-gaer,cleifion yn y system iechyd, i bum carcharCymru, i brosiectau ar y palmant y tu allani John Lewis, i lwybrau ar draws Ynys Môn, iglybiau, ysgolion, tafarndai a chanolfannaucymunedol ym mhobman o Fangor i'r Barri aco Wrecsam i Dyddewi.Yn ôl rhai, mae llenyddiaeth bellach wediymuno â'r diwydiant adloniant ac mewnmannau mae hynny'n sicr yn bosibl. Ond ambob pennill a noddir o gerdd dafarn hwyliogmae llinell o arysgrif ddiamser a nofel sy'ntroi'r byd ar ei ben. Mae llenyddiaeth ynrhywbeth i bawb.Mae tystiolaeth wedi dangos bod gwobrauLlyfr y Flwyddyn yn gwneud llawer i gynyddugwerthiant. Darllenwyd llyfrau arobryn 2009,sef cyfrol Deborah Kay Davies, Grace, Tamarand Laszlo the Beautiful a nofel WiliamOwen Roberts, Petrograd, gan filoedd,yng Nghymru a'r tu hwnt. Mae ein BarddCenedlaethol, Gillian Clarke wedi mynd âbarddoniaeth i fannau yr oeddwn i hyd ynoed yn amau y gallai eu cyrraedd. Hi bellachyw pennaf llysgennad barddoniaeth Cymru:mae'n teithio'n ddiddiwedd ar draws yDeyrnas Unedig a'r byd, yn ei fersiwn ei huno'r Rolling Thunder Revue.O'n blaenau yn 2010-2011, sef ‘Blwyddyn Un’yn ôl enw creadigol Cyngor CelfyddydauCymru (CCC) arni, y mae deubeth a allainewid wyneb popeth ym myd celfyddydolCymru. Y cyntaf fydd y toriadau trwy'rDeyrnas Unedig ar wariant cyhoeddus, tonddisgwyliedig o newid a fydd yn treiddioi bopeth a wnawn. Yr ail yw canlyniadauadolygiad Cyngor y Celfyddydau ei hun o'iholl fuddsoddi. Diau y bydd y rhain yn newidtirwedd gelfyddydol Cymru mewn ffyrddnad oedd neb hyd yma wedi'u dychmygu;byddant hefyd yn gwneud hynny yn erbyncefndir o leihad sylweddol mewn cronfeyddcanolog ac adnoddau cyfatebol.Blwyddyn dau – honno fydd yr un i gadwllygad arni.

Hooray! Your file is uploaded and ready to be published.

Saved successfully!

Ooh no, something went wrong!