Y Naturiaethwr
Haf 2004 - Cymdeithas Edward Llwyd
Haf 2004 - Cymdeithas Edward Llwyd
Create successful ePaper yourself
Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.
Norman Heatley y Biocemegydd

Elfed H Evans

Agorlys, Licswm, Sir y Fflint

Ymddengys bod ffawd yn ffafrio’r blêr

a’r diffygiol weithiau. Onibai i Alexander

Fleming fynd am wythnos o wyliau yn

1928 a gadael llanast ar ei ôl yn ei labordy,

digon o waith y byddai fawr neb wedi

clywed amdano erbyn heddiw. Bu Ernst

Chain yn ffodus dros ben pan ddaeth,

ddeng mlynedd yn ddiweddarach, ar draws

erthygl Fleming ar penisilin yn hel llwch yn

llyfrgell Ysgol Patholeg William Dunn yn

Rhydychen. Ffoadur o’r Almaen oedd

Chain a oedd yn gweithio ar y pryd o dan

yr Athro Howard Florey yn Rhydychen.

Gwelodd yn syth fod yna bosibilrwydd y

gallai penisilin ladd rhai o’r bacteria mwyaf

mileinig a oedd wedi poeni meddygon ers

canrifoedd.

Cytunodd Florey â Chain yngl ^yn â

photensial penisilin ac aethant ati yn syth i

geisio profi ei werth meddygol. Ond nid

gwaith hawdd oedd hynny, oherwydd

roedd yn rhaid cael digon o benisilin pur ar

gyfer yr arbrofion. Gwyddent, fodd

bynnag, fod yna fiocemegydd disglair yng

Nghaergrawnt a allai eu helpu i baratoi

cyflenwad ohono. Ei enw oedd Norman

Heatley a gwahoddwyd ef yn y flwyddyn

1939 i ymuno â hwy yn y fenter fawr yn

Rhydychen.

Ganwyd Heatley yn Woodbridge,

Suffolk, yn fab i filfeddyg. Aeth i ysgol

Tonbridge ac yna ymlaen i Goleg Ioan yng

Nghaergrawnt lle enillodd radd PhD.

Arhosodd yn yr adran ymchwil yno i

astudio sut i ddefnyddio dulliau

meicrocemegol i ddatrys problemau

biolegol.

Y broblem gyntaf a wynebodd y tîm yn

Rhydychen oedd ail ddarganfod y llwydni

prin a ddarganfu Fleming. Ar ben hynny,

roedd wedyn yn anodd iawn gwahanu’r

penisilin o’r hylif a gynhyrchwyd gan y

ffwng. Dim ond 1ppm o’r hylif oedd yn

benisilin! Ond ar ôl llwyddo i wahanu

ychydig o’r penisilin, magwyd digon ohono

i wneud arbrofion ym mis Mai 1940 ar

wyth llygoden fach. Heintiwyd yr wyth â’r

bacteria Streptococcus a chafodd pedair

ohonynt bigiad o benisilin hefyd. Bu’r

pedair a gafodd y penisilin fyw ond bu

farw’r lleill ymhen ychydig ddyddiau.

Un peth yw gwella llygoden, peth arall

yw gwella dyn oherwydd ei fod dair mil

gwaith trymach. Arwyddocâd hynny yw

bod yn rhaid gweithio ar raddfa llawer

ehangach i baratoi’r penisilin. Yr unig

gyfarpar y gallai Heatley gael gafael ynddo

at y gwaith oedd pymtheg padell-wely a

gafodd gan ysbyty lleol. Ymddengys eu

bod yn reit addas hefyd, oherwydd cafodd

gant a hanner o rai tebyg eu gwneud gan

grochendy yn Stoke. Erbyn y diwedd,

roedd wedi troi ei labordy’n ffatri fechan.

Er hynny, cymerodd flwyddyn gron i

baratoi digon o benisilin i drin y claf

cyntaf.

Plismon 43 oed oedd hwnnw a oedd ar

fin marw o septisemia pan ddechreuwyd ei

drin gyda phenisilin. Dechreuodd wella’n

syth ac roedd y rhagolygon yn addawol

dros ben. Yn drist iawn, fodd bynnag, cyn

y gellid ei wella’n llwyr, darfu’r penisilin a

chollodd y claf y dydd yn y diwedd. Er

hynny, roeddent wedi llwyddo i ddangos,

heb unrhyw amheuaeth, bod penisilin yn

hynod o effeithiol yn erbyn y bacteria

Streptococcus pan fydd wedi heintio

person.

Sylweddolodd Florey a’i dîm y gallai

penisilin fod o anrhaethol werth wrth drin

clwyfau ar faes y gâd ac felly, rhaid oedd

edrych yn ddiymdroi am ffordd o

gynhyrchu penisilin ar raddfa eang. Mae’n

anodd credu, ond methodd ag ennyn

17