Y Naturiaethwr
Haf 2004 - Cymdeithas Edward Llwyd
Haf 2004 - Cymdeithas Edward Llwyd
You also want an ePaper? Increase the reach of your titles
YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.
Adolygiadau

Adroddiad gwyfynod gogledd orllewin Cymru 2002

John Harold ac Andrew Graham

Cyhoeddir yn breifat gan yr awduron

142 tud. £5.00

Dyma naturiaetha gonest, syml a thrwyadl. Mae angen mwy ohono yng Nghymru ac

mae’r adroddiad hwn yn cynnig dogn gwerth chweil i ni, er nad cyfrol i’w chadw ar

erchwyn y gwely mohoni efallai. Rhestr sydd yma o’r holl wyfynod gafodd eu cofnodi yng

Ngwynedd a Môn yn y flwyddyn 2002, rhestr a fydd o’i hail adrodd yn flynyddol (dyma’r

ail) yn gaffaeliad aruthrol i’r sawl sy’n rhwydo pryfed, casglu dail wedi’u mwyngloddio

gan gynrhon, neu’n gosod trapiau golau i hudo pryfed o’r gwyll a’r nos.

Cefais y pleser o gyfrannu gwybodaeth i’r ddwy gyfrol hon a minnau’n drapiwr golau

selog yn yr ardd acw a hefyd yn fy ngwaith bob dydd mewn coed gwern yng ngwarchodfa

natur Coedydd Aber. Da yw i ddyn weld ffrwyth ei waith mewn cyd-destun ehangach ond

eto yn lleol. A oedd fy nghofnod o ddagr tywyll Acronicta tridens yn fy ngardd yn gywir?

Sawl ehediad o’r cydyn gwelw Pterostoma palpina a geir yng Ngwynedd a Môn bob

blwyddyn (gan fod y gwerslyfrau’n honni mai dwy sy’n ‘ne Prydain’ ac un yn y

‘gogledd’)? Yn lle y cafwyd nid un ond tri unigolyn o Diasemiopsys ramburialis yn 2002

(rhywogaeth na chafwyd yng Nghymru erioed o’r blaen – ac sydd angen enw Cymraeg

gyda llaw)? Mae’r adroddiad yn codi, neu’n ateb, pob math o gwestiynau.

Ond pa werth i ganmoliaeth heb awgrymu gwelliannau? Mae’r mynor cilgant Drymonia

ruficornis yn amlwg yn ei absenoldeb o Adroddiad 2002 er i nifer ymddangos yn yr ardal

yn ystod y flwyddyn flaenorol yn ôl Adroddiad 2001. Oni fyddai’n ychwanegiad buddiol i

werth y cyfrolau i dynnu sylw at wahaniaethau rhwng blynyddoedd (fel y gwnaethpwyd

mae’n rhaid dweud gyda’r mewnfudwyr)? Gyda llaw, rhoddwyd mwy nag un cynnig ar

enwi’r gwyfyn hwn dros y blynyddoedd diwethaf. Y ‘brown cleisiog lloerol’ yw un arall;

cyfieithiad llythrennol ond derbyniol o’i enw Saesneg lunar marbled brown. Mae’n bryd

bwrw ati i greu enwau safonol ar fyrder i’r gwyfynod, fel y gwnaeth arloeswyr Oes Fictoria

a fathodd yr enwau Saesneg bron ddwy ganrif yn ôl, enwau sydd wedi aros yn

ddigyfnewid yn y cyfamser er i’r enwau gwyddonol newid gyda’r gwynt.

Gwnaethpwyd ymdrech lew i roi teilyngdod i’r Gymraeg yn y gyfrol ddiweddaraf trwy

gyfieithu’r rhagymadroddion, a defnyddiwyd enwau Cymraeg y rhywogaethau drwyddi

draw lle roeddent ar gael. Mae’n anodd gweld sut y gellid gwella ar hynny mewn cyfrol

sy’n amlwg yn ceisio ennyn, bodloni a chynnal diddordeb yn y maes hwn yn y ddau

draddodiad ieithyddol. Prysured y dydd pan fydd mudiad fel Cymdeithas Edward Llwyd

yn cynnal gweithgareddau naturiaethol tebyg yn y Gymraeg, ac yn denu eraill atynt, yn

hytrach na bod y Gymraeg, fel mewn cynifer o feysydd eraill, yn gynffon barhaol i’r ci

Saesneg.

Ni chynhwyswyd enwau Cymraeg ar nifer o’r rhywogaethau yr ymdriniwyd â hwy gan

nad oedd unrhyw un wedi mynd i’r drafferth i’w bathu. Ein Llywydd, Dafydd Dafis,

wnaeth y gwaith helaethaf hyd yma a’i waith ef sy’n ymddangos yn yr adroddiadau hyn.

Gwaith Cymdeithas Edward Llwyd yw parhau i fathu a safoni’r enwau, fel y

gwnaethpwyd eisoes gyda chreaduriaid asgwrn cefn a phlanhigion blodeuol, rhedyn a

choed conwydd.

33