Y Naturiaethwr
Haf 2004 - Cymdeithas Edward Llwyd
Haf 2004 - Cymdeithas Edward Llwyd
You also want an ePaper? Increase the reach of your titles
YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.
Llyn newydd ger y degfed twll sydd eisoes yn nodwedd drawiadol.

Rhwng twll 16 a thwll 18, plannwyd

planhigfa o binwydd (Pinus sylvestris), ac

ymhen 8 mlynedd mae’n fwriad i deneuo

30% a phlannu mwy ohonynt. Yn union

fel y gwneir gyda phlanigfeydd o goed

collddail, ail blennir eto ymhen 8 mlynedd

arall er mwyn creu coetir cynaladwy tymor

hir.

Ger yr unfed lawnt ar bymtheg, mae

glaswelltir sy’n llawn ysgall a dail tafol.

Mae’r rhain yn chwyn ardystiedig ac felly,

mae’r clwb yn gyfrifol am eu rheoli. Ar y

llaw arall, fodd bynnag, mae’n rhaid

sylweddoli eu bod yn bwysig fel bwyd i

adar megis y bras melyn (Emberiza

citronella), pila gwyrdd (Carduelis spinus),

llinos werdd (Carduelis chloris), nico

(Carduelis carduelis) a’r ji-binc (Fringilla

coelebs). Felly, ceisir cadw ardaloedd eraill

tebyg i’r rhain oddi mewn i’r cwrs ond gan

fod tir amaethyddol gerllaw, cânt eu rheoli

unwaith y flwyddyn – gan gofio am

bresenoldeb y madfall gribog!

Gan fod cymaint o laswelltir garw oddi

mewn i’r cwrs, mae’n anodd rheoli pob

ardal yn ystod un flwyddyn. O’u

hesgeuluso am gyfnodau hir, gall yr

ardaloedd hyn ddangos patrwm o olyniaeth

naturiol. Yn gyntaf, daw’r ysgall, dail tafol

a chwyn dail llydan; yna, daw’r mieri a

phrysgwydd eraill cyn troi yn goetir o fedw

a masarn. Mae’r clwb yn ceisio eu rheoli o

leiaf unwaith bob tair blynedd.

Ar ôl tocio, mae’n hanfodol clirio’r

toriadau i’w rhwystro rhag dadelfennu yn y

fan a’r lle gan arwain at ffrwythlonni’r

pridd ac o ganlyniad, ffafrio tyfiant

gweiriau bras megis maswellt (Holcus

lanatus), byswellt (Dactylis glomerata) a

rhonwellt (Phleum pratense). Er bod iddynt

werth ecolegol, mae natur eu dail yn

dueddol o ddal y peli golff hynny sy’n

crwydro oddi ar y llwybr cul ac o

ganlyniad, yn arwain at arafu’r chwarae.

Mae cadw cydbwysedd yn bwysig wrth

chwarae golff ond yr un mor bwysig yw

cadw cydbwysedd rhwng hwyl y chwarae a

dyfodol y bywyd gwyllt sydd o gwmpas.

7