Y Naturiaethwr
Haf 2004 - Cymdeithas Edward Llwyd
Haf 2004 - Cymdeithas Edward Llwyd
Create successful ePaper yourself
Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.
Cefn Bere

Dolgellau

Chwefror 2004

Annwyl Goronwy

‘Roedd llythyr Beti Hughes yn Y Naturiaethwr-Rhagfyr 2003 am y goeden cas gan fwnci

yn deffro atgofion am fy magwraeth innau. Er mai pentre o chwarelwyr a thyddynnwyr

oedd y Garreg, Llanfrothen, Sir Feirionnydd yn fy mhlentyndod i, roedd yno amryw o

arwyddion o gysylltiadau morwrol. Enw llyn yn y pentre ar yr afon Gaseg, sy’n cysylltu

efo’r Glaslyn a Phorthmadog, oedd Pwll Llong. Ar siliau ffenestri aml un o’r tai roedd

sypiau o gwrel llwyd a chregyn tro (conch shell), rhai ohonynt efo’r pig wedi’i dorri i

ffwrdd i wneud ceg cragen ginio a ddefnyddid cynt i alw’r dynion o’r caeau i’w pryd

bwyd. Tyfai dwy goeden fawr cas gan fwnci wrth ymyl Capel Siloam yng ngheg y ceunant

sy’n dod i lawr o’r Rhyd. Ys gwn i ble mae’r cwbl wedi mynd?

Golwg ddieithr a chyn-hanesyddol sydd i’r goeden. Hawdd credu bod olion perthnasau

agos iddi wedi’u darganfod wedi’u ffosileiddio mewn creigiau a ffurfiwyd yn y cyfnod

Jwrasig, 225 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Yn ifanc, mae’r canghennau pigog yn ei dilladu

i’r llawr, ond yn hen, (gallant fyw am tua 2,000 o flynyddoedd), yn fwy fel ymbarel gyda

boncyff noeth, perffaith syth, rhwng 60 a

100 troedfedd o uchder. Un arall o’r teulu

Araucaria sy’n cyflenwi’r pren defnyddiol

i’r farchnad goed yw’r Pîn Parana. Maent

wedi prinhau yn arw yn eu cynefin gwyllt

ar lethrau folcanig Cordilerau’r Andes yn

Chile ac yn cael eu gwarchod rhag

coedwigwyr gan ymdrechion llwyth

brodorol y Pehuenche sy’n dibynnu

arnynt am gynhaliaeth. Mae eu henw’n

golygu pobl y cas gan fwnci a’u ffordd o

fyw a’u diwylliant â chysylltiad annatod

â’r coed. Yn ystod yr hydref, maent yn

byw fel casglwyr bwyd gan gywain y cnau

maethlon, y piones, sydd yn y moch coed

Llythyrau

Rhes o’r goeden ‘Cas gan Fwnci’: Ucheldir Sir Ddinbych,

Ionawr 2001

benywaidd. Gall un teulu hel cymaint ag 8,000 pwys o had ar flwyddyn dda. Cânt eu

rhostio i’w bwyta ar y pryd neu eu cadw dan y ddaear at y gaeaf, eu malu’n flawd bras, eu

gwneud yn ddiod a’u porthi i’r anifeiliaid. Crêd y bobl wydn yma bod gan y goedwig ei

hysbryd ei hun, bod y coed yn sanctaidd a’u bod yn cael eu bendithio’n feunyddiol.

Cesglir y pren marw fel tanwydd ond ni fydd coeden byth yn cael ei chwympo.

Ym Mhrydain, daeth y cas gan fwnci yn boblogaidd ar ôl 1844 pan ddaeth un o’r

casglwyr planhigion, William Lobb, â had hyfyw yn ôl o’i daith gyntaf i Chile. Erbyn hyn,

roedd llif o blanhigion newydd yn dod i mewn i’r wlad a pherchnogion y plasdai yn

cystadlu â’i gilydd am y casgliad mwyaf a gorau o goed a phlanhigion. Efelychu’r ffasiwn

hwn oedd y bobl gyffredin, goelia i. Prin iawn y byddai morwr yn trafferthu i ddod â

choed ifanc o Dde America gan y byddai angen gofal yn ystod y fordaith hir ond ni fyddai

hyn yn amhosibl, wrth gwrs, yn enwedig i’r capteniaid. Mae’n haws gen i feddwl mai

31