Y Naturiaethwr
Haf 2004 - Cymdeithas Edward Llwyd
Haf 2004 - Cymdeithas Edward Llwyd
You also want an ePaper? Increase the reach of your titles
YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.
Tarddiad yr enwau

Yn gytras ag ysbyddad, ceir spethas, spethes

‘mieri’ mewn Cernyweg Canol a spezod

‘eirin Mair’ yn y Llydaweg. Cytras arall yw

scë ‘draenen wen’ mewn Hen Wyddeleg;

mae p yr ieithoedd Brythonaidd yn cyfateb i

c yn yr iaith honno.

Weithiau ceir bod ogfaen â’r ystyr egroes,

sef ffrwythau’r rhosyn gwyllt. Mae’n gytras

â’r amrywiadau Llydaweg, hog, hueg a

hogan, sy’n enwau ar ffrwyth y ddraenen

wen a hefyd, yn y ffurf luosog hogin yn

“Ogfaenllwyn a gaf unlliw”

golygu ‘tonsiliau’. Yn ôl dihareb Lydaweg:

‘Blwyddyn ogfaen, blwyddyn yd / Blwyddyn

eirin tagu, ni fydd’. Diddorol sylwi y ceir

hefyd hogan ‘haw’ yn Saesneg tafodieithol

Cernyw.

Gelwid hi yn ddraenen wen er mwyn

gwrthgyferbynnu rhyngddi hi a’r ddraenen

ddu Prunus spinosa gan fod rhisgl pren ifanc

y naill yn llwyd golau a’r llall yn frown

tywyll. Nid oes cofnod o ddefnyddio drain

gwynion cyn 1722 na drain duon cyn 1604.

Mae’n debyg y gelwir y ffrwythau yn

criafol y moch am eu bod yn debyg, yn

arwynebol, i aeron y criafol ac yn rhoi’r un

olwg danbaid yn yr hydref.

Tybir y daw’r enw pren bara a chaws o

arferiad plant o fwyta’r dail a’r aeron yn yr

hydref. Hwyrach, yn ôl dychymyg plentyn

bod cnawd yr aeron yn debyg i gaws

maidd.

Enwau lleoedd

Draenen Wen Amhosibl efallai yw

gwahaniaethu rhwng cyfeiriadau at ddrain

gwynion, drain duon a mieri mewn enwau

lleoedd. Mae Cefn Dreiniog yn Llanfrothen,

Rhyd y Drain yn Llanuwchllyn, Erddreiniog

ym Môn, Draenogan Talsarnau (drain

ogfaen tybed?) yn bosibiliadau i’w

hystyried. Gallai enwau o’r fath gyfeirio yn

ogystal at unrhyw wrthrych, planhigyn neu

greadur pigog gan gynnwys mamaliaid a

physgod. Ceir hefyd Tyddyn Drain

(Llanaelhaearn) Beudy Adwy’r Drain (Rhyd

Ddu) a Llwyn Drain (Licswm).

Ysbyddad Yng nghronfa Melville

Richards, cofnodir y gair (neu ffurf arno)

mewn tua 20 o enghreifftiau o enwau lleol

drwy Gymru benbaladr. Ceir Bryn

Ysbyddaden ym Môn, yng Ngheredigion ac

yn Sir Gaerfyrddin, Cae’r Ysbyddaden

(Llanfaelog), Clun Ysbyddyd (Llwynyrebol),

Cwm Nant Ysbyddaden (Penderyn), Erw’r

Sbyddyd (Bre), Erw’r Ysbyddadog (Trefor,

Dinbych), Ffos Ysbydded (Llangynnwr),

Gwaun Ysbydden (Llanfair ar y Bryn),

Maesysbyddaden (Corris), Maesysbyddadog

(Llandysilio, Trefaldwyn), Nant

Ysbyddaden (Nedd), Pant Ysbyddyd a

P.Sbydded (Pennal) a Perth Ysbyddaden

(Persaeddfed, Môn). Mae’r cysylltiadau â

chae, erw, gwaun, pant a pherth oll yn

gyson â chynefin naturiol y goeden.

Ceir cyfeiriadau cynnar at y goeden

mewn enwau lleoedd, megis Trespethed

(Llandyrnog, 1550), Ysbydwr

(Llandyfrydog, 1349), Ysbyddadog (Trefor,

1498), Y Spaddadog Ddrylliog (Cefn, Dinb.

1638). Dylem ochel rhag camgymryd rhai

o’r enwau hyn am rai sy’n cyfeirio at eiriau

tebyg. Er enghraifft, oni allai Erw’r

Sbyddyd olygu ‘erw dihysbydd’ yn gymaint

ag ‘erw’r ysbyddad’. Ystyr ysbyddawd yw

hospitium a hospitalitas gan John Davies o

Fallwyd ym 1632 a cheir ysbydhod â’r ystyr

a dairy gan Edward Llwyd (AB 221a). Er

mwyn dangos sut yr ystumiwyd y gair

ambell dro, ceir dwy ffurf ar yr enw

Ysbyddadog yn Rhiwedog, Llanfor,

Dinbych sef Tyddyn Spethadog (1592) ac

Ysbrydhavog (c. 1700).

Defnydd

Impio Yn Llawlyfr y Llafurwr (1711)

gan Moses Williams, ceir y cyfeiriad hwn:

20