Y Naturiaethwr
Haf 2004 - Cymdeithas Edward Llwyd
Haf 2004 - Cymdeithas Edward Llwyd
Create successful ePaper yourself
Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.
unrhyw ddiddordeb gan y cwmniau

cyffuriau ym Mhrydain a bu’n rhaid mynd

dros fôr yr Iwerydd am gymorth. Aethant i

Illinois lle’r oedd labordy a godwyd yno yn

ystod y dirwasgiad mawr er mwyn

defnyddio gwastraff o’r diwydiant

amaethyddol. Roedd y cwmni

Americanaidd eisoes yn gyfarwydd â thyfu

gwahanol fathau o lwydni ar wastraff yd

drwy ddefnyddio dulliau eplesu’r diwydiant

bragu.

Dychwelodd Florey i’w labordy yn

Rhydychen er mwyn paratoi digon o

benisilin i gwblhau treialon clinigol.

Llwyddodd i wneud hynny ac aeth i

Ogledd Affrica ym 1943 i drin clwyfau

milwyr. Roedd y canlyniadau’n wyrthiol.

Arhosodd Heatley yn Illinois am sawl

mis yn gweithio ar y prosiect gydag

Andrew Moyer o’r cwmni Americanaidd.

Roeddent yn edrych ar lwydni o bob rhan

o’r byd ond y gorau oedd hwnnw wrth eu

traed, sef y llwydni a dyfai ar y melon

cyffredin.

Er i Heatley a Florey rannu eu holl

wybodaeth am benisilin gyda’r

Americanwyr heb ddal dim yn ôl, daeth yn

amlwg bod yr Americanwyr wedi

sylweddoli’n fuan iawn bod gwerth

masnachol iddo. Credai Heatley a Florey

y byddai ceisio am batent ar benisilin yn

rhywbeth hollol anfoesol. Ar ôl dod adref,

roedd amryw’n gweld bai ar Florey am fod

yn llawer rhy hael ond, yn ei amddiffyniad,

dywedodd nad oedd ganddo ddewis

oherwydd yr angen am gyflenwi digon o

benisilin mor gyflym â phosibl.

Ni chafodd Heatley, yn wahanol i

Fleming, Florey a Chain, y wobr Nobel,

ond cafodd radd Doethur mewn

Meddygaeth gan brifysgol Rhydychen.

Dim ond unwaith o’r blaen y cafodd y

radd hon ei rhoi i berson nad oedd yn

feddyg. Etholwyd ef yn Gymrawd Ymchwil

Nuffield a gweithiodd ym maes

gwrthfiotigau nes iddo ymddeol.

Ar ôl ymddeol, daliodd i ddyfeisio ac

ymchwilio i bethau, hyd yn oed yn ystod ei

flynyddoedd olaf pan ballodd ei gof a’i

iechyd. Roedd yn wr annwyl iawn ac yn

uchel ei barch yn y gymdeithas yn Old

Marston lle roedd yn byw ers 1948.

Mae ei wraig Mercy a thri o’u pedwar

plentyn yn dal yn fyw. Bu ef farw ar 6

Ionawr 2004 yn 93 oed.

Tlws Coffa Robina Elis-Gruffydd

Sefydlwyd y Tlws er mwyn hyrwyddo a

gwobrwyo cyfraniadau i’r meusydd hynny

yr oedd Robina yn ymddiddori ynddynt ac

poeni amdanynt.

Enillydd y tlws yw Dilys Parry,

Hwlffordd. Llongyfarchiadau i Dilys, aelod

gweithgar o Gymdeithas Edward Llwyd,

sy’n enillydd haeddiannol yn dilyn ei

gwaith diflino dros y Gymraeg yn Sir

Benfro a thu hwnt.

(Diolch i Eluned Mai, aelod o’r

Pwyllgor Gwaith, am yr uchod).

Dilys Parry, gyda’r Tlws o dderw a haearn y Preselau

18