Create successful ePaper yourself
Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.
н

Ⴄ нн

Mae cryn ansicrwydd pa bryd y cyrhaeddodd y Celtiaid neu eu

hiaith a’u diwylliant ynysoedd Prydain. Nid oedd arysgrifau yn

cael eu hysgrifennu ar henebion y pryd hynny ym Mhrydain,

heblaw am arysgrifau’r Pictiaid [3]. Ymhlith y niferoedd lawer o

ddamcaniaethau hawlia rhai arbenigwyr fod y Celtiaid wedi

cyrraedd tua 2000 CC. Dadleua eraill iddynt gyrraedd Prydain ac

Iwerddon ynghynt fyth gyda lledaeniad amaethyddiaeth ar draws

Ewrop. Dadleua eraill bod goresgynwyr Celtaidd wedi dod â’u

diwylliant a’u hiaith ganddynt wedi 700 CC, gan ddisodli’r

brodorion, er bod tystiolaeth enetig erbyn hyn i wrthddweud y

syniad hwn. Y ddamcaniaeth a gaiff y gefnogaeth fwyaf ar hyn o

bryd yw’r ddamcaniaeth mai'r iaith Geltaidd a'i diwylliant a

ymledodd yn hytrach na'r bobl. Ymledodd yn raddol ar draws

rhannau helaeth o Ewrop o’r tiroedd rhwng afonydd Donaw a

Rhein, gan gael ei gymathu gan y brodorion. Tybir y gallasai

masnachwyr yr Ewrop Atlantig yng nghanrifoedd olaf Oes y Pres

fod yn ffactor bwysig yn y lledu hwn, gan iddynt efallai

ddefnyddio Celteg yn 'lingua franca'.

Ni wyddys faint o olion yr ieithoedd cyn-Geltaidd a erys yn y

Gymraeg. Prin yw’r geiriau cyn-Geltaidd y tybir iddynt oroesi yn

Gymraeg heblaw am ambell i enw lle. Awgrymir gan rai fod

treigladau'r ieithoedd Celtaidd yn tarddu o’r ieithoedd cyn-

Geltaidd, ond nid oes prawf o hyn.

Gwyddys mai tafodieithoedd y Frythoneg a siaredid dros

fwyafrif Ynys Prydain pan gyrhaeddodd y Rhufeiniaid yn ystod y

ganrif gyntaf. Daeth newidiadau dirfawr yn sgil dyfodiad y

Rhufeiniaid.

Aa, Bb, Cc, Ch ch, Dd, Dd dd, Ee, Ff, Ff ff, Gg, Ng ng, Hh, Ii,

Ll, Ll ll, Mm, Nn, Oo, Pp, Ph, ph, Rr, Rh, rh, Ss, Tt, Th th, Uu,

Ww, Yy.

н нн 1 . нש. н-

н н нн н .

Ⴇ Ⴋнн 95 Ⴃнн нн

Ⴄვროპული ვროპული ვროპული დამწერლობები

დამწერლობები