07.01.2015 Views

Sgiliau Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu - Learning Wales

Sgiliau Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu - Learning Wales

Sgiliau Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu - Learning Wales

SHOW MORE
SHOW LESS

Create successful ePaper yourself

Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.

Sgiliau Iaith, Llythrennedd

a Chyfathrebu

Yr Adran Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Department for Children, Education, Lifelong Learning and Skills

Sgiliau Iaith, Llythrennedd

a Chyfathrebu

Cynulleidfa

Penaethiaid, athrawon, ymarferwyr, cyrff llywodraethu ysgolion a

gynhelir a phwyllgorau rheoli yn y sector nas cynhelir yng Nghymru;

awdurdodau addysg lleol; undebau athrawon a chyrff cynrychioli

ysgolion; awdurdodau esgobaethol eglwysi; cyrff cenedlaethol yng

Nghymru sydd â diddordeb mewn addysg.

Trosolwg

Mae’r canllawiau hyn yn cefnogi Maes Dysgu Sgiliau Iaith,

Llythrennedd a Chyfathrebu yn y ddogfen Cyfnod Sylfaen: Fframwaith

ar gyfer Dysgu Plant 3 i 7 oed yng Nghymru. Mae’r ddogfen hon

yn darparu canllawiau ar y sgiliau a’r wybodaeth y bydd plant yn eu

caffael, ynghyd ag astudiaethau achos sy’n ymdrin â rhoi hyn ar waith

mewn lleoliadau ac ysgolion. Ni ddylid edrych ar y canllawiau hyn na’r

Maes Dysgu na’u cyflwyno heb ystyried meysydd eraill; dylid cynllunio

ar ei gyfer ar draws y cwricwlwm.

Rhagor o

wybodaeth

Dylid cyfeirio ymholiadau am y ddogfen hon at:

Yr Is-adran Cwricwlwm ac Asesu 3–14

Yr Adran Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Llywodraeth Cynulliad Cymru

Llawr 10, Tŷ Southgate

Wood Street

Caerdydd

CF10 1EW

Ffôn: 0800 083 6003

Ffacs: 029 2037 5496

e-bost: C&A3-14.C&A3-14@cymru.gsi.gov.uk

Copïau

ychwanegol

Ar gael drwy gysylltu:

Ffôn: 029 2037 5427

Ffacs: 029 2037 5494

Neu drwy ymweld â gwefan Llywodraeth Cynulliad Cymru

www.cymru.gov.uk

Cyf: AC/GM/0845

ISBN: 9780750446471

Mai

A-EAC-02-01-qA673007/1/AB © Hawlfraint y Goron 2008

Cynnwys

Cefndir 3

Cyflwyniad 5

Llafaredd 6

Siarad

Astudiaeth achos: Deialog

Astudiaeth achos: Jean-Paul

Astudiaeth achos: Deialog am ffilm sy’n cynnwys allfydolyn

Gwrando

Astudiaeth achos: Y gadair goch

Darllen 14

Astudiaeth achos: Gwneud geiriau gan ddefnyddio

clai modelu lliw

Astudiaeth achos: Helfa eiriau

Ysgrifennu 18

Enghraifft o wneud marciau/ymgais i ysgrifennu llythrennau

Enghraifft o sgriblo di-eglurhad

Enghraifft o sgriblo ag eglurhad

Enghraifft o ymgais i ysgrifennu llythrennau

Astudiaeth achos: Ffurfio llythrennau

Enghraifft o wneud rhestrau/nodiadau

Astudiaeth achos: Bwydlen

Enghraifft o’u hymgais eu hunain i ysgrifennu brawddegau syml

Astudiaeth achos: Hwyl wrth chwarae

Enghraifft o ddefnyddio cardiau stori i’w helpu i roi trefn ar eu stori

Astudiaeth achos: Dyna Beth Dwl!

Sgiliau cyfathrebu 28

Cynllunio 30

Cynnydd mewn dysgu 32

Llafaredd

Darllen

Ysgrifennu

Sgiliau Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu 38

ar draws y cwricwlwm

Gwybodaeth a chysylltiadau defnyddiol 40

Geirfa’r Cyfnod Sylfaen 42

Cydnabyddiaethau 48

Sgiliau Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu

Cefndir

Roedd y cynigion yn nogfen Llywodraeth Cynulliad Cymru

Y Wlad sy’n Dysgu: Cyfnod Sylfaen 3–7 oed yn cynnwys datblygu

cwricwlwm a oedd yn cryfhau ac yn cysylltu’r egwyddorion a’r arfer

yn nogfen ACCAC Canlyniadau Dymunol i Ddysgu Plant Cyn Oedran

Addysg Orfodol (2000) â’r rhaglenni astudio a’r datganiadau ffocws

yng Nghyfnod Allweddol 1 y cwricwlwm cenedlaethol, a hynny er

mwyn creu cwricwlwm cyfoethog dan saith Maes Dysgu i blant yn y

Cyfnod Sylfaen. Mae cwricwlwm y Cyfnod Sylfaen yn dadlau o blaid

meithrin a hybu cysylltiadau cadarnhaol rhwng y cartref a darparwyr

gofal ac addysg.

Mae ymagwedd Llywodraeth Cynulliad Cymru at addysg a dysgu

gydol oes wedi’i nodi yng nghyd-destun ehangach ein gweledigaeth

ar gyfer plant a phobl ifanc yn gyffredinol.

Mae gennym saith nod craidd ar gyfer plant a phobl ifanc sy’n

seiliedig ar Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.

Y nodau hyn fydd yn sail i holl weithgareddau’r Adran Plant, Addysg,

Dysgu Gydol Oes a Sgiliau (APADGOS).

Rydym yn anelu at sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc:

• yn cael dechrau da, ynghyd â’r seiliau gorau posibl ar gyfer tyfu

a datblygu yn y dyfodol

• yn cael cyfle i fanteisio ar amrywiaeth eang o gyfleoedd addysg,

hyfforddiant a dysgu, gan gynnwys cyfleoedd i feithrin sgiliau

personol a chymdeithasol hanfodol

• yn cael mwynhau’r iechyd corfforol a meddyliol, cymdeithasol ac

emosiynol gorau posibl, gan sicrhau hefyd nad ydyn nhw yn cael

eu cam-drin na’u herlid ac nad oes unrhyw un yn camfanteisio

arnyn nhw

• yn cael manteisio ar amrediad o weithgareddau chwarae,

gweithgareddau hamdden, chwaraeon a gweithgareddau

diwylliannol

• yn cael gwrandawiad, yn cael eu trin â pharch, a bod eu hil a’u

hunaniaeth ddiwylliannol yn cael eu cydnabod

• yn cael cartref diogel a chymuned sy’n cefnogi eu lles corfforol

ac emosiynol

• heb fod o dan anfantais o ganlyniad i unrhyw fath o dlodi.

Sgiliau Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu

Mae’r canllawiau hyn yn cefnogi Maes Dysgu Sgiliau Iaith,

Llythrennedd a Chyfathrebu yn y ddogfen Cyfnod Sylfaen: Fframwaith

ar gyfer Dysgu Plant 3 i 7 oed yng Nghymru. Mae’r ddogfen hon

yn darparu canllawiau ar y sgiliau a’r wybodaeth y bydd plant yn eu

caffael, ynghyd ag astudiaethau achos sy’n ymdrin â rhoi hyn ar waith

mewn lleoliadau ac ysgolion. Ni ddylid edrych ar y canllawiau hyn na’r

Maes Dysgu na’u cyflwyno heb ystyried meysydd eraill; dylid cynllunio

ar ei gyfer ar draws y cwricwlwm.

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi ymrwymo i ddatblygu a

hybu’r iaith Gymraeg. Bydd pob lleoliad/ysgol yn gweithredu rhaglen

addysg Gymraeg yn y Cyfnod Sylfaen i blant 3 i 7 oed.

Dylai’r lleoliadau a’r ysgolion hynny a ddiffinnir fel darparwyr

cyfrwng Cymraeg ddilyn rhaglen addysg y Maes Dysgu Sgiliau Iaith,

Llythrennedd a Chyfathrebu. Ni fydd angen iddyn nhw addysgu’r

Maes Dysgu Datblygu’r Gymraeg.

Mewn lleoliadau ac ysgolion lle mae’r Saesneg yn brif gyfrwng

cyfathrebu,dylid datblygu sgiliau Cymraeg plant yn raddol drwy’r

Cyfnod Sylfaen drwy weithredu’r Maes Dysgu Datblygu’r Gymraeg.

Mewn lleoliadau cyfrwng Cymraeg a’r rhai lle y defnyddir y Gymraeg

fel cyfrwng addysgu am o leiaf ran o’r diwrnod, bydd rhai (ac mewn

rhai achosion y rhan fwyaf) o’r plant yn datblygu sgiliau ieithyddol

mewn iaith sy’n wahanol i iaith y cartref. Mewn lleoliadau trochi, mae

angen hyd yn oed mwy o bwyslais cynnar ar weithgareddau siarad a

gwrando er mwyn gosod seiliau cadarn ar gyfer datblygiad ieithyddol

plant. Dylai lleoliadau sy’n defnyddio’r Gymraeg fel cyfrwng addysgu

am ran o’r diwrnod roi pwyslais arbennig hefyd ar weithgareddau

siarad a gwrando er mwyn i blant ymgyfarwyddo’n gynyddol â

phatrymau iaith yn Gymraeg.

Sgiliau Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu

Cyflwyniad

Mae iaith, llythrennedd a chyfathrebu yn ffactorau hanfodol bwysig

yn natblygiad plant.

Ffurf ar gyfathrebu yw iaith sy’n mynegi meddyliau, syniadau,

teimladau, emosiynau a gwybodaeth. Gall ffurfiau eraill ar gyfathrebu

gynnwys arwyddion di-eiriau a gweithredoedd megis:

• mynegiant yr wyneb

• osgo a symudiad y corff

• goslef y llais.

Gall plant hefyd fynegi eu hunain a chyfathrebu trwy ddefnyddio

TGCh, chwarae rôl/chwarae dychmygus, drama, dawns a symud,

a hefyd mewn gweithgareddau creadigol eraill megis celf a

cherddoriaeth. Yn ogystal â bod yn offeryn cyfathrebu, mae iaith

hefyd yn offeryn a ddefnyddir i feddwl, ac mae wedi’i chysylltu’n agos

â datblygiad gwybyddol plant.

Mae’n bwysig ystyried gwahanol elfennau iaith a llythrennedd yn

ffactorau cysylltiedig sydd â diben iddyn nhw. Bydd sgiliau iaith, darllen

ac ysgrifennu yn datblygu gyda’i gilydd, ac mae cysylltiad rhyngddyn

nhw. Ni ddylid eu haddysgu ar wahân. Datblygir y sgiliau llythrennedd

hyn trwy fywyd go iawn a phrofiadau sy’n ystyrlon i’r plant.

Mae iaith yn fodd i blant ddysgu am y byd a chyfathrebu â’u

cyfoedion ac ymarferwyr. Mae’n gwbl hanfodol wrth wella eu

datblygiad gwybyddol ac i’r dull y byddan nhw’n mynd ati i ddatrys

problemau a ffurfio perthnasoedd.

Mae Sgiliau Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu yn cynnwys datblygiad

cynyddol sgiliau plant mewn:

• siarad

• gwrando

• darllen

• ysgrifennu

• cyfathrebu.

Sgiliau Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu

Llafaredd

Mae siarad a gwrando yn sgiliau sy’n hanfodol i ddatblygiad

gwybyddol plant ac i sicrhau cynnydd yn y sgiliau llythrennedd eraill,

sef darllen ac ysgrifennu. Mae angen llawer o gyfleoedd ar blant

i siarad a gwrando gydag ymarferwyr a phlant. Pan fydd hynny’n

briodol, mae hefyd yn bwysig bod plant yn cael eu hannog i edrych ar

y sawl maen nhw’n siarad ag ef neu’n gwrando arno.

Siarad

Er mwyn siarad, mae angen i blant gynhyrchu seiniau, deall

datblygiad iaith a datblygu’r gallu i siarad at wahanol ddibenion a

chyda gwahanol gynulleidfaoedd. Trwy siarad bydd plant yn dysgu ac

yn gwneud synnwyr o’u byd.

Bydd plant yn cael eu derbyn i leoliadau/ysgolion gydag amrywiaeth

o brofiadau a sgiliau iaith, o ganlyniad i’w gwahanol brofiadau

ieithyddol a diwylliannol. Gall y rhain gael effaith ar eu cyflawniadau

cyfredol a’u dealltwriaeth o rym sgiliau siarad, gwrando a

chyfathrebu.

Bydd delfrydau ymddwyn da yn annog plant i fod yn rhan o

drafodaeth er mwyn iddyn nhw allu datblygu eu meddwl a’u

dealltwriaeth o’u profiadau ynghyd â geirfa eang ac amrywiol.

Ymhellach ymlaen yn eu datblygiad, bydd y rhan fwyaf o blant a fydd

wedi cael cyfle i gyfoethogi eu profiadau iaith yn gallu cynhyrchu

geiriau a brawddegau syml.

Sgiliau Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu

Mae’r astudiaeth

achos hon yn

disgrifio sut

roedd plentyn

oedd yn siarad yn

arbennig o dda

wedi rhannu’r

mwynhad

roedd yn ei gael

o ddarllen ei

hoff lyfr gydag

ymarferwyr a

phlant, a’r effaith

a gafodd hyn ar

y plant.

Deialog

Mae Ethan yn siarad yn arbennig o dda ac yn hoff iawn o

lyfrau. Ar un adeg roedd ei hoff lyfr yn ymwneud â’r Sacsoniaid,

y Normaniaid a’r Llychlynwyr. Am gyfnod byddai Ethan yn

dod â’r llyfr i’r ysgol bob dydd, ac yn mynnu ei drafod gyda’r

ymarferwyr. Roedd hyn wedi arwain at sgyrsiau amrywiol

am Gwilym Orchfygwr, Brenin Harold, Ffrainc, tywysogion,

helmedau ac arfwisg, llongau hirion, creulondeb a brwydrau.

Datblygodd y drafodaeth i sôn am ‘gerdded y planc’ ac roedd

Ethan wedi dangos beth oedd hyn yn ei olygu. Roedd ystod

eang o allu gan y plant yn y feithrinfa ond roedd diddordeb

Ethan yn y pwnc yn eu hysbrydoli ac wedi arwain at chwarae rôl

ac estyn iaith.

Sgiliau Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu

Er mwyn gwneud cynnydd yn eu datblygiad bydd angen i blant fod

wedi cael profiad o weithgareddau siarad a gwrando o ansawdd

da, yn brofiadau digymell ac yn rhai wedi’u cynllunio, trwy gydol

y Cyfnod Sylfaen. Trwy’r profiadau hyn y dylai plant ddod yn fwy

hyderus a pharod i gyfrannu.

Bydd y profiadau hyn hefyd yn datblygu’r sgìl o reoli eu llais i gyfateb

â’r gynulleidfa a’r gweithgaredd; er enghraifft, bydd lefel y sŵn a’r

lleisiau a ddefnyddir mewn cornel ddarllen neu yn ystod amser cylch

yn wahanol iawn i’r lleisiau sydd eu hangen mewn gemau tîm yn yr

awyr agored neu wrth chwarae’n gydweithredol yn y gornel chwarae

rôl/chwarae dychmygus.

Bydd siarad yn rhoi cyfleoedd i blant:

• chwarae’n weithredol

• gofyn ac ateb cwestiynau

• rhannu syniadau a phrofiadau

• trafod gwahanol emosiynau a theimladau

• datblygu eu syniadau eu hunain a rhai pobl eraill

• dysgu sut i aros eu tro, bod yn amyneddgar ac yn oddefgar

tuag at eraill

• datrys problemau a chreu atebion ar eu pennau eu hunain,

fesul pâr ac mewn grwpiau bach

• cyfrannu at drafodaethau/dadleuon

• myfyrio ar yr hyn maen nhw wedi’i ddysgu

• dadlau’n adeiladol ar faterion moesol a phenderfynu a ydyn nhw’n

gywir neu’n anghywir

• cyfleu nad ydyn nhw’n deall

• gofyn am wybodaeth ac egluro eu meddwl a’u dealltwriaeth

• cael hwyl gyda seiniau, geiriau, rhigymau a chaneuon.

Sgiliau Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu

Mae’r astudiaeth

achos hon yn

esbonio beth

ddigwyddodd pan

gafodd Jean-Paul

(doli a brynwyd yn

Ffrainc yn ystod

y gwyliau) ei

chyflwyno i’r

cylch chwarae.

Jean-Paul

Roedden ni wedi sylwi yn ystod amser cylch mai dim ond rhai

o’r plant fyddai’n siarad yn unigol ac yn teimlo y byddai ‘prop’

efallai’n annog y plant i gyd i gymryd rhan mewn trafodaethau

amser cylch.

Cyflwynwyd Jean-Paul i’r cylch chwarae fel rhywun oedd yn

dod o Ffrainc ac yn byw yn fy nhŷ. Ond, ar y penwythnos doedd

ganddo fe neb i chwarae ag e oherwydd does dim plant ifanc

yn fy nhŷ i. Gofynnon ni i’r plant a fyddai ots ganddyn nhw

pe byddai Jean-Paul yn cael aros gydag un ohonyn nhw ar y

penwythnos, i chwarae a chael hwyl.

Felly bob dydd Iau bydd Jean-Paul yn mynd adref gyda phlentyn

gwahanol ac yn dod yn ôl ar ddydd Llun, ac yn ystod amser

cylch bydd yn dweud wrth y plant eraill beth mae Jean-Paul

wedi bod yn ei wneud, beth mae e wedi bwyta, ac ati yn ystod

y penwythnos. Y tro cyntaf y defnyddion ni Jean-Paul gofynnon

ni i un o’r plant yr oedden ni’n gwybod y byddai’n hapus i siarad

am ei benwythnos yn ystod yr amser cylch nesaf. Ers hynny mae

amrywiaeth o blant, gan gynnwys un sydd â phroblem lleferydd,

wedi bod yn hapus i fynd ag e adref a dweud wrthyn ni beth

maen nhw wedi bod yn ei wneud gydag e. Erbyn hyn mae’r

plant hynny a fu’n anfodlon siarad yn ystod amser cylch yr un

mor awyddus â’n plant mwy allblyg i fynd â Jean-Paul adref ac

yr un mor hapus i adrodd eu stori am y penwythnos.

Pan fydd Jean-Paul yn mynd i gartref plentyn rydym yn anfon

llythyr gydag e i esbonio i rieni/gofalwyr y plentyn pwy yw

Jean-Paul, pam mae’r plentyn yn dod ag e adref a beth ddylen

nhw ei wneud gydag e dros y penwythnos. Pan fydd yn

dychwelyd ar ddydd Llun rydyn ni’n tueddu i ofyn i’r rhiant/

gofalwr beth mae Jean-Paul wedi bod yn ei wneud dros y

penwythnos, felly os yw’r plentyn yn ei chael hi’n anodd i gofio

gallwn roi ychydig o gymorth.

Sgiliau Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu

Gallai rhai o’r gweithgareddau i gefnogi datblygiad sgiliau siarad

gynnwys y canlynol:

• ymuno â hwiangerddi, caneuon â symudiadau a chanu

• adrodd straeon, rhannu ac ailadrodd gwybodaeth, dathliadau ac

achlysuron sy’n bwysig i blant

• amser cylch i roi cyfleoedd i blant drafod, siarad a gwrando ar

syniadau, teimladau, emosiynau ac achlysuron plant eraill

• cyfleu negeseuon, rhannu cyfarchion fel rhan o drefn ddyddiol a

rhoi cyfarwyddiadau i eraill

• trafod a disgrifio gwrthrychau ac arteffactau

• defnyddio ysgogiadau i siarad ac ymateb, megis basgedi trysor

a phypedau

• gweithgareddau chwarae rôl/chwarae dychmygus a drama sy’n

annog plant i siarad/cyfathrebu â’i gilydd

• cydweithio i geisio cyflawni pwrpas/nod penodol

• holi ymwelwyr ynghylch eu rôl yn y gymuned

• dadlau ynghylch materion cyfredol neu foesol

• adolygu eu gwaith

• defnyddio TGCh, er enghraifft recordio lleisiau/sgyrsiau’r plant a’u

chwarae yn ôl i’w trafod.

Mae’r astudiaeth

achos hon yn

disgrifio beth

ddigwyddodd

pan gafodd

amser cylch ei

ddefnyddio i roi

cyfle i un plentyn

ailadrodd stori

ffilm yr oedd

wedi’i gwylio’n

ddiweddar.

Deialog am ffilm sy’n cynnwys allfydolyn

Yn ystod ‘newyddion amser cylch’ roedd bachgen sy’n ddistaw

fel rheol wedi dechrau ailadrodd stori ffilm yr oedd wedi’i

gwylio. Roedd y ffilm yn amlwg wedi cael effaith emosiynol arno

oherwydd roedd yn siarad yn fywiog am y stori a’r cymeriadau

yr oedd wedi’u gweld. Roedd ei frwdfrydedd wedi ysgogi’r plant

eraill i gynnig sylwadau perthnasol ac empatheiddio â’r stori.

Roedd un plentyn yn amlwg wedi uniaethu â’i deimladau a’i

emosiynau a gofynnodd “Oeddet ti wedi crïo ar y diwedd

Ro’n i wedi.”

10 Sgiliau Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu

Gwrando

Mae gwrando yn sgìl dyrys a chymhleth y mae angen i blant ei

ddatblygu a’i ymarfer. Nid yw gwrando yn rhywbeth naturiol i bob

plentyn, ac felly mae’n rhaid i ymarferwyr ddarparu cyfleoedd i

blant ddatblygu eu sgiliau gwrando. Mae’n bosibl y bydd angen i

rai plant ddysgu sut i wrando. Fel yn achos sgiliau eraill, bydd rhai

plant yn mynd i mewn i’r lleoliad/ysgol â sgiliau gwrando sy’n eithaf

soffistigedig a datblygedig.

Mae rhai plant yn byw mewn amgylchoedd swnllyd heddiw gyda

llawer o seiniau cefndir, megis teledu, cerddoriaeth a gemau

electronig swnllyd, felly mae angen penodol i sicrhau bod pob plentyn

yn cael cyfle i ddatblygu a gwella ei sgiliau gwrando, canolbwyntio a

meddwl.

Mae sawl gweithgaredd yn cefnogi datblygiad sgiliau gwrando.

Trwy gymryd rhan mewn gweithgareddau gwrando, dylai plant allu

gwahaniaethu rhwng seiniau a nodi’r gwahaniaeth rhwng un sain a’r

llall. Dylid gwahaniaethu’r gweithgareddau i sicrhau bod y plant yn

gwneud cynnydd.

Gallai rhai o’r gweithgareddau sy’n cefnogi datblygiad sgiliau

gwrando gynnwys y canlynol:

• gwrando ar ganeuon â symudiadau a rhigymau ac ymuno yn

y rhain

• teithiau sain dan do ac yn yr awyr agored, er mwyn i blant gael

cyfle i wrando ar ystod/amrywiaeth eang o seiniau a’u hadnabod

• annog plant i wrando ar ddarnau byr o gerddoriaeth o’r presennol

a’r gorffennol, yn glasurol ac yn gyfoes, ac mewn amrywiaeth o

arddulliau

• ymarferwyr neu blant yn curo/clapio rhythm a’r plant yn

ei ailadrodd

• defnyddio blychau trefnu, er enghraifft gofyn i blant ddidoli

lluniau/geiriau sy’n cychwyn â’r un sain gychwynnol, geiriau sy’n

odli, neu drwy ddefnyddio ffurf fwy soffistigedig ar ddosbarthu

• chwarae loto sain

• plant yn gorfod adnabod y sain sy’n wahanol i’r lleill

• chwarae’r gêm, ‘Es i i’r siop ac fe brynes i…’ (enwi eitem), pob

plentyn i ailadrodd y gwrthrych diwethaf ac ychwanegu un arall

sy’n dechrau gyda’r un sain gychwynnol

Sgiliau Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu

11

• defnyddio canolfan wrando, y plant yn cael cyfle i wrando ar

straeon cyfarwydd ac anghyfarwydd

• defnyddio cerddoriaeth yn y lleoliad/ystafell ddosbarth tra bydd

y plant wrthi’n cyflawni gweithgareddau, fel ysgogiad neu i nodi

rhywbeth, megis diwedd y sesiwn

• defnyddio amser cylch i ddarparu cyfleoedd i blant wrando ar eraill,

ymarferwyr a’u cyfoedion

• gwrando ar ymwelwyr

• gweithgareddau cydweithredol sy’n annog plant i wrando ar

ei gilydd.

Mae’r astudiaeth

achos hon yn

disgrifio sut

mae un ysgol

wedi gwella

sgiliau siarad a

gwrando gwael

yn y feithrinfa a’r

dosbarth derbyn.

Y gadair goch

Dros y blynyddoedd diwethaf rydym wedi gweld bod iaith lafar

y plant sy’n dod i mewn i’r feithrinfa a’r dosbarth derbyn yn

llawer gwaeth nag yr arferai fod. Mae grŵp o blant gennym

ym mhob dosbarth sydd â phroblemau lleferydd ac iaith ac mae

datblygu sgiliau siarad a gwrando yn flaenoriaeth i ni. Felly bob

wythnos, yn ogystal â gweithgareddau megis chwarae rôl, ac

ati, byddwn yn paratoi gweithgaredd grŵp sy’n targedu siarad a

gwrando yn benodol.

Rydym yn cyfuno amser cylch mewn grwpiau bach a

gweithgareddau cadair goch ar amryw o bynciau, weithiau

byddwn ni’n arwain ac weithiau bydd y plant yn arwain (e.e.

genedigaeth brawd neu chwaer, symud tŷ). Mae ‘clustog/cadair

siarad’ arbennig gan y plant ac mae eu hyder wrth siarad

â’r grŵp wedi datblygu’n dda gyda sesiynau rheolaidd. Trwy

gyfyngu maint y grŵp, nid yw’r plant yn teimlo’n rhwystredig

wrth aros yn rhy hir am eu tro i siarad, ac felly mae eu sgiliau

gwrando wedi gwella hefyd.

12 Sgiliau Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu

Sgiliau Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu

13

Darllen

Y ffordd orau o hybu llythrennedd cynnar yw trwy gyd-destunau

ystyrlon go iawn ac amgylchedd lle ceir digon o ddeunydd printiedig.

Ni fydd plant yn dysgu darllen ar wahân i sgiliau eraill megis siarad,

gwrando ac ysgrifennu. Dylai dysgu darllen fod yn hwyl i bob plentyn,

ac ni ddylid ei ruthro gan fod ‘dysgu darllen’ yn rhywbeth arbennig

sy’n unigryw i bob plentyn.

Gall sawl ffactor ddylanwadu ar pryd y mae plant yn barod i ddarllen,

gan gynnwys:

• eu profiadau ieithyddol a chymdeithasol blaenorol

• parodrwydd datblygiadol, gan gynnwys, o bosibl, datblygiad

clybodol, gweledol a llafar

• datblygiad deallusol ac emosiynol.

Gallai’r gweithgareddau sy’n cefnogi sgiliau darllen cynnar mewn

lleoliadau/ysgolion gynnwys y canlynol:

• rhoi digon o gyfleoedd i blant fwynhau, trin ac edrych ar

amrywiaeth o lyfrau mewn cornel dawel

• defnyddio llyfrau’r plant eu hunain (fel unigolion, grŵp neu

ddosbarth) fel llyfrau darllen cyntaf

• defnyddio canolfan wrando/recordydd tâp i wrando ar stori a’i

dilyn, gan ddefnyddio tapiau a llyfrau

• defnyddio sachau stori/blychau stori i annog cyfraniad y rhieni/

gofalwyr yn y cartref

• rhannu straeon a rhigymau mewn ffordd sy’n hwyl ac yn bleser

• defnyddio chwarae rôl a gweithgareddau drama i ‘actio’r’ rhannau

a’r cymeriadau mewn straeon cyfarwydd

• adnabod geiriau a’u cysylltu â’r darluniau perthnasol

• rhannu geiriau yn llythrennau – addysgu ffoneg mewn dull

strwythuredig a dychmygus i sicrhau datblygiad ffonig mewn

continwwm cynyddol

• gwybod mai cornel chwith uchaf y testun yw’r man cychwyn, ac

mai o’r chwith i’r dde y bydd rhywun yn darllen

• gweithgareddau sy’n annog datblygiad clybodol a gweledol, deall

mai o’r chwith i’r dde y bydd rhywun yn darllen a chael hwyl gyda

llythrennau a geiriau

14 Sgiliau Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu

• gosod darluniau, achlysuron a dathliadau yn eu trefn, er enghraifft,

setiau o gardiau a darluniau ynghyd â rhaglenni TGCh

• diwrnodau llyfrau pan fydd plant yn gwisgo i fyny fel eu hoff

gymeriad mewn llyfr

• ffeiriau llyfrau a bws llyfrau.

Wrth i blant wneud cynnydd trwy’r camau cynnar hyn yn eu darllen,

fel rhan o raglen ddarllen gynhwysfawr dylen nhw gael profiad o:

• wylio ymarferydd yn darllen

• darllen ar y cyd/darllen dan arweiniad

• cyfateb darluniau i eiriau

• gosod darluniau yn eu trefn i greu stori

• edrych ar batrymau mewn geiriau a’u trafod

• siapiau llythrennau a geiriau

• defnyddio ac edrych ar eiriau cyffredin

• cyfateb geiriau

• rhannu geiriau yn llythrennau

• creu brawddegau syml, mewn grwpiau ac fel unigolion

• camau cynnar atalnodi.

Gwneud geiriau gan ddefnyddio clai

modelu lliw

Mae’r astudiaeth

achos hon yn

dangos plant

(tair i bedair oed)

yn cael hwyl yn

gwneud geiriau

allan o glai

modelu lliw. Mae’r

gweithgaredd

hefyd yn darparu

cyfle i blant

ddefnyddio sgiliau

llawdrin manwl.

Sgiliau Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu

15

Gallai rhai o’r gweithgareddau sy’n cefnogi datblygiad sgiliau darllen

cynnar gynnwys y canlynol:

• chwarae â jig-sos a gosod cardiau yn eu trefn

• gwrando ar straeon ar ganolfannau gwrando

• llunio llyfrau grŵp/dosbarth a llyfrau unigol ar gyfer cynulleidfa

benodol (e.e. gwneud llyfr i ymwelwyr, neu ar gyfer plant iau neu

blant hŷn)

• bod mewn amgylchedd rhyngweithiol, cyd-destunol â digon o

ddeunydd printiedig, lle gall plant ddefnyddio ac adnabod geiriau a

brawddegau, ac ati, yn eu gweithgareddau

• defnyddio cornel ddarllen a bod â deunydd darllen ar gael yn yr

awyr agored

• ymateb i straeon trwy chwarae rôl/gweithgareddau drama

• defnyddio pypedau i greu straeon gan unigolion, grwpiau

neu’r dosbarth

• chwarae gemau megis loto, chwilio am yr un sy’n wahanol, dod o

hyd i’r gwahaniaeth

• ailadrodd straeon maen nhw wedi’u clywed a thrafod

gweithredoedd, cymhellion a golwg y gwahanol gymeriadau, ac ati

• adrodd straeon o gardiau lluniau a chartwnau

• treulio amser mewn ‘cornel ddarllen’ dawel i drin llyfrau maen

nhw’n eu mwynhau, edrych arnyn nhw a’u darllen iddyn nhw eu

hunain (llyfrau ffuglen a llyfrau ffeithiol)

• gweithgareddau darllen gyda’i gilydd, er enghraifft rhestrau siopa

ar gyfer gweithgareddau coginio neu restr o adnoddau y mae eu

hangen ar gyfer prosiect

• gwrando ar feirdd, awduron ac ymwelwyr yn darllen iddyn nhw

• cyfleoedd i chwarae â llythrennau a geiriau, megis rhoi geiriau sydd

wedi cael eu torri i fyny yn ôl at ei gilydd.

Bydd plant yn symud ymlaen o edrych ar lyfrau a dangos diddordeb

ynddyn nhw i ddarllen amrywiaeth o destunau ffuglen a ffeithiol a

dangos dealltwriaeth o’r prif syniadau neu ddigwyddiadau. Dylen

nhw fod wedi cael cyfle i brofi darllen ar draws y cwricwlwm, at

amrywiaeth o ddibenion.

Dylai darllen fod yn weithgaredd llawn hwyl a phleser i blant bob

amser, p’un a ydyn nhw’n darllen i ymarferydd, iddyn nhw eu hunain,

neu’n ceisio darganfod gwybodaeth ar gyfer tasg benodol. Dylen nhw

gael cyfle i ddarllen o lyfrau sy’n ystyrlon iddyn nhw, ac nid darllen

trwy gynllun darllen masnachol yn unig.

16 Sgiliau Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu

Bydd amgylchedd ag ynddo ddigon o ddeunydd printiedig ac

arddangosfeydd lliwgar, a chyfle i siarad a gwrando (ynghyd â darllen

ac ysgrifennu) yn annog cariad y plant tuag at eiriau, llyfrau a darllen.

Mae’r astudiaeth

achos hon yn

disgrifio sut y

cafodd y plant eu

hannog i wneud

brawddegau

gwirion gan

ddefnyddio

geiriau lliw a

geiriau cytsainllafariad-cytsain.

Helfa eiriau

Cafodd y geiriau eu pegio yn y coed a’r llwyni. Roedd peg pren

gan y geiriau oedd yn dechrau brawddegau. Roedd peg coch gan

y geiriau lliw a pheg gwyrdd gan y geiriau cytsain-llafariad-cytsain.

Pan oedd y plant wedi cael hyd i un o bob un, roedden nhw’n

mynd ‘nôl i’r patio i wneud brawddeg gwirion.

Roedd mynd ar helfa eiriau wedi gwneud gweithgaredd darllen

arferol yn fwy o hwyl, ac wedi rhoi cyfle i’r plant symud o

gwmpas yn yr awyr agored.

Sgiliau Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu

17

Ysgrifennu

Dylai plant gael digon o gyfleoedd i wneud marciau ac ysgrifennu

mewn gweithgareddau ystyrlon. Trwy gymryd rhan mewn tasgau

ysgrifennu â phwrpas penodol, bydd plant yn datblygu ac yn

gwella eu sgiliau ysgrifennu wrth iddyn nhw symud ar hyd y

continwwm dysgu. Er bod camau penodol y bydd plant yn mynd

trwyddyn nhw wrth ddysgu ysgrifennu, hyd yn oed os ydyn nhw

ar y cam gwneud marciau, mae’n bwysig sylweddoli y gallan nhw

ysgrifennu at amrywiaeth o ddibenion. Ar bob cam o’u datblygiad

dylid gwerthfawrogi ac arddangos gwaith y plant. Dyma fanylion y

gwahanol gamau y bydd plant yn mynd trwyddyn nhw wrth ddysgu

sut i ysgrifennu yn hyderus ac yn fedrus:

• gwneud marciau

• sgriblo di-eglurhad

• sgriblo ag eglurhad

• ymgais i ysgrifennu llythrennau

• gweithio o’r chwith i’r dde

• ysgrifennu gan ddefnyddio model

• llunio rhestrau/nodiadau, ac ati

• ymdrechion i ysgrifennu brawddegau syml

• ysgrifennu brawddegau syml gan ddefnyddio llyfrau geiriau/

geiriaduron

• ysgrifennu brawddegau syml gyda phriflythrennau, atalnodau

llawn, gofynodau

• ysgrifennu straeon byrion/adroddiadau gan ddefnyddio llyfrau

geiriau/geiriaduron yn fwyfwy annibynnol

• ysgrifennu at amrywiaeth o ddibenion, yn ddigymorth ar y cyfan,

gyda thystiolaeth o gynllunio/llunio.

Dylai plant gael cyfleoedd i ysgrifennu mewn amrywiaeth o arddulliau

a genres ac at amrywiaeth o ddibenion. Gall y rhain gynnwys:

• ailadrodd, er enghraifft achlysuron sydd wedi digwydd,

ymweliadau, ac ati

• mynegi teimladau personol, meddyliau a syniadau, er

enghraifft, rhywbeth doniol neu ddifrifol

• ysgrifennu disgrifiadol, er enghraifft disgrifio gwrthrychau,

pobl, yr amgylchedd awyr agored, anifeiliaid, bwystfilod bach ac

arteffactau

18 Sgiliau Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu

• ysgrifennu rhagfynegiadol, er enghraifft beth y credan nhw

fydd yn digwydd nesaf mewn stori neu arbrawf

• llythyrau/gwahoddiadau, er enghraifft ysgrifennu at sefydliad i

gael gwybodaeth am ryw bwnc

• ysgrifennu dychmygol, er enghraifft ysgrifennu sut y byddai’r

Babi Arth wedi teimlo yn y stori Elen Benfelen a’r Tair Arth

• gwybodaeth, er enghraifft ymchwilio, trefnu gwybodaeth ac

ysgrifennu am rywun enwog neu gymeriad lleol, neu ddatblygu

holiadur

• cyfarwyddiadau, er enghraifft sut i wneud salad ffrwythau

• barddoniaeth/rhigymau, er enghraifft llunio nifer o gerddi gwirion

• ysgrifennu darbwyllol, er enghraifft ceisio perswadio rhywun i

ddewis yn iach wrth ddewis byrbryd neu ginio

• eglurhad, er enghraifft esbonio pam eu bod yn teimlo bod

rhywun wedi ymddwyn mewn ffordd arbennig, neu ysgrifennu i

esbonio beth oedd ystyr stori

• adroddiadau/deunydd ffeithiol, er enghraifft ysgrifennu’n

ffeithiol am ymweliad neu weithgaredd sydd wedi digwydd ar

gyfer cylchgrawn y lleoliad/dosbarth/ysgol

• hanes/stori, er enghraifft defnyddio tri chiwb stori i nodi

cymeriad, amgylchiadau, lleoliad.

Sgiliau Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu

19

Enghraifft o wneud marciau/ymgais i ysgrifennu

llythrennau

Mae’r enghraifft isod yn dangos ymdrech un plentyn i ysgrifennu’r

llythrennau ‘Ca’ ar ddau wahanol achlysur; unwaith wrth weithio yn y

man celf a nes ymlaen wrth weithio y tu allan.

20 Sgiliau Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu

Enghraifft o sgriblo di-eglurhad

Enghraifft o sgriblo ag eglurhad

Roedd Rhys yn teimlo’n gyffrous iawn am y llun roedd e wedi ei

wneud. Dyma ei lun. Fel y gwelwch, mae ynddo dalcen, gwallt,

dwylo a chorff. Rwy’n cytuno gyda Rhys; rwy’n meddwl ei fod yn lun

arbennig o dda.

Sgiliau Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu

21

Enghraifft o ymgais i ysgrifennu llythrennau

Mae’r astudiaeth

achos hon yn

dangos sut y

cafodd y plant

gyfleoedd yn

yr awyr agored

i ddatblygu

sgiliau ffurfio

llythrennau cywir

gan ddefnyddio

amrywiaeth

o gyfryngau

a defnyddiau

naturiol.

Ffurfio llythrennau

Dechreuon ni’r gweithgaredd trwy gyflwyno’r llythyren ‘c’

i’r dosbarth cyfan. Yna cafodd y plant eu hannog i ffurfio’r

llythyren ‘c’ gan ddefnyddio amrywiaeth o wahanol ddefnyddiau

gan gynnwys dail a chonau pinwydden. Yna dewison nhw

ddefnyddio ffyn paent i beintio’r llythyren ‘c’ a gwneud marciau

yn yr ‘hambwrdd reis a phys’.

22 Sgiliau Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu

Enghraifft o wneud rhestrau/nodiadau

Mae’r astudiaeth

achos hon yn

rhoi enghraifft

o ddilyniant

mewn ysgrifennu

ymddangosol o

fewn un topig

sef ‘Yn y bwyty’.

Mae’n nodi sut

y gwnaeth un

plentyn greu ei

fwydlen ei hun.

Bwydlen

Mae’r plant yn aml yn

cymryd rhan mewn

gweithgareddau coginio

lle maen nhw’n mwynhau

dewis y cynhwysion, eu

torri a’u cymysgu, ac arllwys

mewn i ddysglau neu

fowlenni i’w coginio, neu

rholio allan a’u torri mewn

i ddarnau yn barod i’w

coginio.

Yn ddiweddar fe aethom ni

i’r pizzeria lleol. Gwelsom

ni’r pobyddion yn gweithio’n

brysur yn y gegin a chawsom

ein synnu gyda faint o

gynhwysion oedd rhaid torri

neu sleisio er mwyn gwneud

wyneb y pitsas. Yna aethom ni i’r bwyty ei hun a dewisodd y

plant eitemau o’r fwydlen.

Ers hynny mae’r plant yn aml yn chwarae ‘yn y bwyty’. Mae’n

well gan rai o’r plant wneud y bwyd, ond mae eraill, fel Megan,

yn dewis dyfeisio’r fwydlen.

Yn yr enghraifft yma mae Megan wedi cynnwys y teitl ‘Bwydlen’

ac wedi rhestri amrywiaeth o eitemau gan gynnwys bisgedi,

cacennau a dewis o ddiodydd. Mae hi wedi bod yn ofalus

i ddechrau llinell newydd ar gyfer pob eitem o fwyd ac i

ddefnyddio priflythyren ar gyfer pob gair cyntaf ymhob llinell

newydd.

Yn y llinell olaf mae Megan wedi newid yr arddull ac yn cynnig

dewis o ddiodydd, sydd i gyd yn dechrau gyda phriflythyren.

Mae’r darluniadau ar y fwydlen yn adlewyrchiad da o’r hyn

sydd ar gael ynddi ac yn dangos bod Megan yn ymwybodol o’r

cysylltiad sydd yna rhwng lluniau a geiriau.

Sgiliau Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu

23

Enghraifft o’u hymgais eu hunain i ysgrifennu

brawddegau syml

Hwyl wrth chwarae

Mae’r straeon darluniadol hyn yn dangos sut roedd dau

blentyn wedi gwneud eu hymdrechion eu hunain i ysgrifennu

brawddegau syml yn eu straeon.

24 Sgiliau Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu

Sgiliau Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu

25

Enghraifft o ddefnyddio cardiau stori i’w helpu i roi

trefn ar eu stori

Mae’r plant yn ein dosbarth Blwyddyn 2 wedi bod yn defnyddio cardiau

stori i’w helpu i roi trefn ar eu stori. Ar gyfer y stori hon gofynnwyd

iddyn nhw ddewis cymeriad, ei ddisgrifio, ysgrifennu am ble roedd y

cymeriad, y broblem oedd gan y cymeriad a diweddariad addas.

Dyna Beth Dwl!

26 Sgiliau Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu

Er mwyn cefnogi datblygiad sgiliau ysgrifenedig plant, mae’n

hanfodol darparu digon o gyfleoedd i’r plant ddatblygu, defnyddio

a gwella’r cydsymud llaw–llygad, eu sgiliau echddygol bras a’u

sgiliau llawdrin manwl. Dylen nhw drin a thrafod defnyddiau yn yr

amgylcheddau dysgu, gan gynnwys adnoddau naturiol a rhai sydd

wedi’u prynu’n fasnachol. Dyma rai gweithgareddau sy’n gallu

cefnogi cydsymud llaw–llygad a sgiliau ysgrifennu cynnar plant:

• gosod gleiniau ar linyn, careio, gan ddechrau gydag adnoddau

mwy/mwy talpiog

• jig-sos a phosau

• tynnu llun, peintio ac ysgrifennu gan ddefnyddio amrywiaeth o

adnoddau a chyfryngau, megis brwshys paent/creonau mawr yng

nghamau cynnar datblygiad plentyn, a symud ymlaen i ddefnyddio

rhai llai/mwy tenau wrth i’w sgiliau ddod yn fwy soffistigedig

• gwneud patrymau gan ddefnyddio gweithgareddau celf a chrefft

• defnyddio siswrn i wneud patrymau ac i dorri allan lluniau

• defnyddio blychau golau i gefnogi ffurfio patrymau/llythrennau

• chwarae gyda bagiau ffa, peli bach a mawr i’w taflu a’u dal

• dilyn llwybrau ac uno’r dotiau

• gweithgareddau dargopïo priodol

• gweithgareddau cynnar i ffurfio llythrennau, gan ddefnyddio

defnyddiau sy’n gwneud marciau, dan do ac yn yr awyr agored

• ffurfio llythrennau, patrymau ac enwau mewn byrddau tywod, neu

ddefnyddio ewyn eillio, reis, ac ati.

Sgiliau Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu

27

Sgiliau cyfathrebu

Gall plant gyfathrebu trwy weithredoedd ac ystumiau yn ogystal â

thrwy iaith. Gall ymarferwyr sy’n gweithio gyda phlant godi nifer

o arwyddion gan y plant. Gallai’r rhain ymwneud â’u dysgu, eu

perthynas â chyfoedion, ymarferwyr a’r amgylchedd, a sut maen

nhw’n teimlo amdanyn nhw eu hunain a’r rheiny sydd o’u cwmpas.

Trwy eu chwarae a’u gweithgareddau strwythuredig, bydd plant yn

defnyddio ac yn cyfathrebu trwy ryngweithiadau geiriol a di-eiriau.

Dylai plant gael digon o gyfleoedd trwy gydol y Cyfnod Sylfaen ac ar

draws y cwricwlwm i:

• fynegi eu hunain, eu hanghenion, eu teimladau, eu hemosiynau

a’u dyheadau

• defnyddio mynegiant yr wyneb, gan gynnwys cyswllt llygad

• defnyddio ystumiau’r corff

• dilyn cyfarwyddiadau

• deall iaith lafar a gwahaniaethu rhwng gwahanol seiniau

• ymarfer defnyddio geiriau a brawddegau.

Dylai cwricwlwm dysgu priodol, gweithredol, yn seiliedig ar brofiadau

ddarparu digon o gyfleoedd i blant fynegi eu hunain. Trwy gymryd

rhan mewn gweithgareddau celf a chrefft, symudiadau, dawns,

drama a cherddoriaeth, dylai plant allu gweld canlyniadau ar unwaith,

darlunio agweddau ar eu byd, a dilyn trywydd eu profiadau eu hunain.

Bydd gweithgareddau celf a chrefft yn caniatáu i blant wasgu,

mowldio a chyffwrdd â defnyddiau sy’n gallu darparu cyfleoedd iddyn

nhw arbrofi, darganfod a chyfleu gwahanol emosiynau. Bydd gwneud

marciau gan ddefnyddio amrywiaeth o gyfryngau yn cynnig modd i

blant gyfleu gwahanol deimladau ac agweddau ar eu bywydau a’u

profiadau, yn ogystal â chyfathrebu syniadau newydd i eraill.

Mae gweithgareddau symud, dawns a drama yn ddelfrydol i roi cyfle i

blant ddefnyddio’u dychymyg a chymryd gwahanol rolau, wrth iddyn

nhw symud ac ymateb i wahanol ysgogiadau. Gallan nhw fynegi eu

hunain a rhyddhau eu hemosiynau a’u teimladau trwy ddefnyddio’u

cyrff mewn amrywiol ffyrdd. Mae gweithgareddau cerdd a symud

wedi’u cysylltu â’i gilydd yn aml yn rhoi cyfle i blant fynegi’u hunain.

28 Sgiliau Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu

Bydd y rhan fwyaf o blant yn ymateb i gerddoriaeth, ac mae’n

gyfrwng ardderchog iddyn nhw fynegi eu hemosiynau a’u teimladau.

Gall cerddoriaeth roi teimlad o ryddhad yn ogystal â chynnig modd

iddyn nhw archwilio seiniau trwy wneud eu seiniau eu hunain gydag

offerynnau maen nhw wedi’u gwneud, neu rai sydd wedi’u prynu’n

fasnachol. Bydd amrywiaeth o weithgareddau cerddoriaeth yn

ogystal â chyfleoedd i wrando ar wahanol fathau o gerddoriaeth ac

ymateb iddyn nhw’n darparu cyfleoedd i blant ddysgu am wahanol

ddiwylliannau a’r gerddoriaeth arbennig sy’n chwarae rhan bwysig o

fewn eu harferion diwylliannol nhw.

Sgiliau Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu

29

Cynllunio

Wrth i blant symud ar hyd y continwwm dysgu ar wahanol gyflymder,

mae’n bwysig arsylwi ar sgiliau’r plant, ystyried anghenion unigol

ac ystod y sgiliau iaith, llythrennedd a chyfathrebu wrth gynllunio

gweithgareddau. Bydd profiadau dysgu perthnasol sy’n annog plant

i gymryd rhan yn eu galluogi i wneud cynnydd cyson sy’n briodol i’w

cam datblygiadol. Bydd ymwneud plant â chynllunio a phenderfynu

yn gwella eu profiadau dysgu.

Gellir cefnogi dilyniant yn sgiliau iaith, llythrennedd a chyfathrebu

plant trwy ddarparu cyfleoedd ar gyfer:

• chwarae

• arbrofi

• siarad/trafod

• rhagfynegi/amcangyfrif

• ymarfer

• adolygu

• cymhwyso

• gwerthuso.

Enghreifftiau o gynllunio

• Datganiad polisi ar gyfer Sgiliau Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu

ac, o bosibl, map cwricwlwm a chynllun gwaith.

• Cynllun ar gyfer thema drawsgwricwlaidd sy’n cyfannu sawl Maes

Dysgu.

30 Sgiliau Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu

Sgiliau Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu

31

Cynnydd mewn dysgu

Llafaredd

Trwy gymryd rhan mewn gweithgareddau siarad, gwrando a gwylio,

dylai’r Cyfnod Sylfaen alluogi plant i wneud cynnydd o ran eu gallu i:

• ddefnyddio iaith syml wrth chwarae, a dangos eu bod yn deall

cyfarwyddiadau sylfaenol

• gwrando ar rigymau, caneuon a straeon syml, ac ymuno

• sicrhau bod eraill yn eu deall, bod ganddyn nhw rywbeth i’w ddweud;

trafod materion o ddiddordeb uniongyrchol a phersonol iddyn nhw;

cyfleu ystyr mewn modd syml; gwrando ar eraill ac ymateb yn briodol;

gwrando ar gyfarwyddiadau ac ufuddhau iddyn nhw

• adrodd straeon, boed yn rhai gwir neu’n rhai o’r dychymyg;

cymryd rhan mewn chwarae dychmygus a drama; darllen

hwiangerddi a cherddi a gwrando arnyn nhw, gan gynnwys

ailadrodd rhai o’r cof; gallu ailadrodd straeon yn weddol fanwl yn

eu trefn

• cyfleu teimladau, hoffterau, casbethau ac anghenion

• cyfleu rhai meddyliau, syniadau a theimladau trwy weithgareddau

strwythuredig; gwrando, gwylio ac ymateb gan roi sylw cynyddol

i amrediad o symbyliadau, gan gynnwys cyfryngau a thestunau

TGCh, megis rhaglenni teledu i blant a straeon animeiddiedig ar

DVD a chanolbwyntio fwyfwy arnyn nhw

• cysylltu eu cyfraniad at drafodaeth â’r hyn sydd wedi digwydd cynt,

gan ystyried safbwyntiau tebyg/safbwyntiau gwahanol; defnyddio

arferion trafodaeth a sgwrs

• gweithio fesul unigolion a grwpiau o wahanol faint, siarad â

gwahanol gynulleidfaoedd, gan gynnwys cyfeillion, y dosbarth,

athrawon ac oedolion cyfarwydd eraill

• mabwysiadu rôl, gan ddefnyddio symudiadau, ystumiau’r corff

a lleferydd yn ymwybodol; cymryd rhan mewn gweithgareddau

drama, addasiadau ar y pryd a gwahanol fathau o berfformiadau,

gan ddefnyddio iaith sy’n briodol i rôl neu sefyllfa; ymateb i

ddramâu maen nhw wedi’u gwylio, yn ogystal ag i ddramâu maen

nhw wedi cymryd rhan ynddyn nhw

• rhagfynegi canlyniadau a thrafod posibiliadau, gan roi rhesymau

dros farn; esbonio dewisiadau yn syml ac yn eglur gan gynnig

rhesymau dros farn a gweithredoedd

32 Sgiliau Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu

• siarad yn hyderus, gan fynegi’u hunain yn eglur trwy drefnu’r hyn

maen nhw’n ei ddweud a dewis geiriau’n fanwl gywir, ac adeiladu

ar eu profiadau blaenorol; siarad yn eglur ac ynganu’n briodol,

yn eu hacenion nhw eu hunain, gan addasu’r hyn maen nhw’n ei

ddweud yn ôl gofynion y gynulleidfa

• deall bod amrywiaeth yn yr iaith maen nhw’n ei glywed o’u

hamgylch

• ymgorffori manylion perthnasol mewn esboniadau, disgrifiadau

a hanesion, a gwahaniaethu rhwng yr hanfodol a’r llai pwysig;

adnabod pwysigrwydd iaith eglur, rhugl a diddorol er mwyn

cyfathrebu’n effeithiol

• ymateb yn briodol ac yn effeithiol i’r hyn maen nhw wedi’i glywed

• gofyn ac ateb cwestiynau sy’n egluro’u dealltwriaeth ac yn dangos

eu bod yn meddwl am yr hyn sy’n cael ei drafod.

Darllen

Dylai’r Cyfnod Sylfaen alluogi plant i fwynhau llyfrau a gwneud

cynnydd o ran eu gallu i:

• ddilyn straeon sy’n cael eu darllen iddyn nhw ac ymateb fel y bo’n

briodol; edrych ar lyfrau gydag oedolyn neu heb oedolyn, a dangos

diddordeb yn eu cynnwys a’i fwynhau; trin llyfr fel petaen nhw’n ei

ddarllen; gallu dilyn straeon o edrych ar y lluniau

• dod yn fwyfwy ymwybodol o wahanol fathau o lyfrau:

– llyfrau lluniau, dramâu, cerddi a straeon mewn gosodiad

cyfarwydd a’r rhai sydd wedi’u seilio ar fydoedd dychmygol neu

ffantasïol

– straeon, cerddi a siantiau yn cynnwys geiriau sy’n dilyn patrwm

penodol neu eiriau y gellir eu rhagfynegi

– ailadrodd straeon gwerin traddodiadol a straeon tylwyth teg

– straeon a cherddi o Gymru ac amrywiaeth o ddiwylliannau eraill

– llyfrau a cherddi gan awduron plant poblogaidd

– addasiadau a chyfieithiadau

– straeon a cherddi sy’n cynnig her sylweddol o ran hyd neu eirfa

• darllen gwybodaeth, ar bapur ac ar sgrîn, a defnyddio amrywiaeth

o ffynonellau gwybodaeth, gan gynnwys geiriaduron, deunyddiau

cyfeirio seiliedig ar TGCh, gwyddoniaduron a gwybodaeth wedi’i

chyflwyno ar ffurf ffuglen

Sgiliau Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu

33

• darllen gyda mwynhad a rhuglder, cywirdeb, dealltwriaeth ac

annibyniaeth gynyddol, gan adeiladu ar yr hyn maen nhw’n ei

wybod eisoes gan gynnwys:

– seiniau ac enwau llythrennau’r wyddor

– ymwybyddiaeth o seiniau’r iaith lafar er mwyn datblygu

ymwybyddiaeth ffonolegol

– defnyddio amrywiol ddulliau o adnabod gair

– defnyddio dealltwriaeth o strwythur gramadegol ac ystyr y testun

yn ei gyfanrwydd i wneud synnwyr o’r hyn sydd wedi ei argraffu

• darllen eu gwaith eu hunain a thestunau eraill yn uchel

• deall straeon a cherddi ac ymateb iddyn nhw, ac yn anad dim:

– siarad am y cymeriadau, y digwyddiadau a’r iaith yn y llyfrau, gan

ddechrau defnyddio’r derminoleg briodol

– dweud beth allai ddigwydd nesaf yn yr hanes

– ailadrodd straeon

– esbonio cynnwys dyfyniad neu’r testun cyfan

– dewis llyfrau i’w darllen ar eu pennau eu hunain, ac yng

nghwmni eraill

– adolygu eu darllen gydag ymarferydd

– darllen testunau byrion cyfan, gan gynnwys sgriptiau drama

– ailddarllen hoff straeon a cherddi, adrodd rhai ar eu cof

– gwrando ar rywun yn darllen straeon a cherddi yn fynych ac yn

rheolaidd, gan gynnwys rhai darnau hwy sy’n cynnig mwy o her

– paratoi, cyflwyno ac actio straeon a cherddi maen nhw wedi’u

darllen

• archwilio ystyr llyfr fel cyfanwaith:

– defnyddio’u gwybodaeth o gonfensiynau llyfr, strwythur stori,

patrymau iaith a dyfeisiau cyflwyno, a’u gwybodaeth a’u

dealltwriaeth o gefndir a chynnwys llyfr

– cadw mewn cof synnwyr y darn yn gyffredinol fel dull o wirio

– adnabod y dyfeisiau strwythurol ar gyfer trefnu gwybodaeth,

er enghraifft cynnwys, penawdau, capsiynau.

34 Sgiliau Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu

Ar yr un pryd, bydd plant yn datblygu eu gallu i:

• ddeall bod gan symbolau ysgrifenedig sain ac ystyr; adnabod

cyflythrennedd, patrymau sain ac odl, a gweld y berthynas rhwng

y rhain a phatrymau llythrennau; ystyried y sillafau mewn geiriau

hwy; adnabod seiniau cychwynnol a therfynol geiriau; adnabod a

defnyddio amrywiaeth gynhwysfawr o lythrennau a seiniau, gan

gynnwys cyfuniadau o lythrennau, cytseiniaid clwm a deugraffau,

a rhoi sylw penodol i’r defnydd a wneir ohonyn nhw wrth ffurfio

geiriau; adnabod anghysonderau mewn patrymau seiniol; gweld

nad yw rhai llythrennau bob amser yn cynhyrchu eu sain unigryw

eu hunain, ond eu bod yn dylanwadu ar seiniau llythrennau eraill

• datblygu cronfa o eiriau mae’r plant yn eu hadnabod a’u deall sy’n

defnyddio patrymau’r eirfa maen nhw’n gyfarwydd â hi i’w helpu i

ddarllen geiriau sydd â nodweddion tebyg; trafod ystyron amgen i

eiriau ac ymadroddion

• canolbwyntio ar yr hyn y gellir ei ddysgu o batrymau llythrennau

cyson am ystyron geiriau a rhannau o eiriau

• gweld y ffordd y mae iaith yn cael ei threfnu yn frawddegau:

– defnyddio’u gwybodaeth o drefn geiriau a strwythur iaith

ysgrifenedig i gadarnhau neu wirio ystyr

– cydnabod gwerth y testun o amgylch wrth ddod o hyd i air

anghyfarwydd

– gwirio cywirdeb eu darllen, gan roi sylw i p’un a yw’r sain yn

iawn ai peidio a/neu a yw’n gwneud synnwyr yn ramadegol

– ailddarllen/neu ddarllen ymlaen yn achos darnau lle collwyd

y synnwyr.

Sgiliau Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu

35

Ysgrifennu

Dylai’r Cyfnod Sylfaen alluogi plant i fwynhau arbrofi â chyfathrebu

ysgrifenedig a gwneud cynnydd o ran eu gallu i:

• wneud marciau a chyfathrebu trwy ddefnyddio amrywiaeth o

gyfryngau

• dechrau cynhyrchu darnau o ysgrifennu ymddangosol, gan

ddatblygu rhai llythrennau’n gywir

• deall bod ysgrifennu’n fodd o gyfathrebu; deall y cysylltiadau

rhwng llefaru ac iaith; gwahaniaethu rhwng testun a lluniau; deall

gwahanol ddibenion a swyddogaethau iaith ysgrifenedig fel dull o

gofio, cyfathrebu, trefnu a datblygu syniadau a gwybodaeth

• deall y gall ysgrifennu fod yn ffynhonnell fwynhad

• arbrofi â gwneud marciau; cyfleu syniadau i sgrifellwr ei ysgrifennu;

dechrau ysgrifennu mewn ffordd gonfensiynol; adnabod natur

alffabetig ysgrifennu, a gwahaniaethu rhwng llythrennau

• ysgrifennu’n annibynnol ar bynciau sydd o ddiddordeb a

phwysigrwydd iddyn nhw, gan gynnwys straeon, cerddi,

gweithgareddau dosbarth a phrofiadau personol; adnabod diben

eu hysgrifennu, ac ysgrifennu ar gyfer amrywiaeth o ddarllenwyr;

trefnu a chyflwyno ysgrifennu mewn gwahanol ffyrdd, sy’n

ddefnyddiol i’r diben, y dasg a’r darllenydd, gan ddefnyddio TGCh

yn ôl y galw; ysgrifennu yn fwyfwy hyderus, rhugl a chywir

• ysgrifennu mewn amrywiaeth o genres, gan ymgorffori rhai o

wahanol nodweddion y ffurfiau hynny – dylai’r amrediad gynnwys

amrywiaeth o hanesion (e.e. straeon, dyddiaduron), cerddi,

nodiadau (e.e. rhestrau, capsiynau), cofnodion (e.e. arsylwadau) a

negeseuon (e.e. hysbysiadau, gwahoddiadau, cyfarwyddiadau)

• cynllunio ac adolygu eu hysgrifennu, gan gyfuno a datblygu eu

syniadau ar bapur, gan ddefnyddio TGCh yn ôl y galw

• cydweithio i ddarllen eu gwaith yn uchel a thrafod ansawdd yr hyn

a ysgrifennir, i annog hyder ac annibyniaeth

• dewis geirfa a threfnu ysgrifennu dychmygus ac ysgrifennu ffeithiol

mewn gwahanol ffyrdd

• gweld bod atalnodi’n hanfodol i helpu darllenwr i ddeall yr hyn

sy’n cael ei ddarllen; darllen eu gwaith yn uchel er mwyn deall y

cysylltiadau rhwng yr atalnodi a geir mewn brawddeg a goslef a

phwyslais; atalnodi eu gwaith ysgrifenedig, bod yn gyson wrth

ddefnyddio priflythrennau, atalnodau llawn a gofynodau, a

dechrau defnyddio comas

36 Sgiliau Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu

• sillafu geiriau cyffredin a chyfarwydd mewn modd hawdd ei

adnabod:

– ysgrifennu pob llythyren yn yr wyddor

– defnyddio’u gwybodaeth o’r berthynas rhwng sain a symbol a

phatrymau ffonolegol

– adnabod a defnyddio patrymau sillafu syml; ysgrifennu cadwyni

llythrennau cyffredin mewn geiriau cyfarwydd a chyffredin

– sillafu geiriau syml cyffredin sy’n codi’n aml

– sillafu geiriau â rhagddodiaid ac ôl-ddodiaid cyffredin

– gwirio cywirdeb eu sillafu a defnyddio llyfrau geiriau a

geiriaduron, adnabod llythrennau cychwynnol fel modd o ddod o

hyd i eiriau

– arbrofi â sillafu geiriau cymhleth a thrafod camgymhwyso

cyffredinoliadau a rhesymau eraill dros gamsillafu

– archwilio teuluoedd geiriau

• datblygu eu llawysgrifen, dal pensil yn gyfforddus er mwyn

datblygu arddull ddarllenadwy sy’n dilyn confensiynau Cymraeg a

Saesneg ysgrifenedig, gan gynnwys:

– ysgrifennu o’r chwith i’r dde ac o frig y dudalen i’w gwaelod

– dechrau a gorffen llythrennau yn gywir

– sicrhau cysondeb o ran maint a siâp llythrennau

– sicrhau cysondeb o ran y gofod rhwng llythrennau a rhwng

geiriau

– dulliau confensiynol o ffurfio llythrennau, yn llythrennau bach ac

yn briflythrennau

– adeiladu ar eu gwybodaeth o ffurfiant llythrennau wrth uno

llythrennau â’i gilydd yn eiriau

– cyflwyno’u gwaith ysgrifenedig yn eglur ac yn ddestlus er mwyn

cyfleu’r ystyr yn effeithiol.

Sgiliau Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu

37

Sgiliau Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu

ar draws y cwricwlwm

Er mwyn darparu’n effeithiol ar gyfer datblygiad Sgiliau Iaith,

Llythrennedd a Chyfathrebu, mae angen cynllunio gofalus ar draws

pob Maes Dysgu i sicrhau bod plant yn cael cyfleoedd i ddatblygu,

cymhwyso ac ymestyn eu sgiliau cyfathrebu, siarad, gwrando,

darllen ac ysgrifennu trwy amrywiaeth o gyfryngau. Mae yna lawer o

gyfleoedd i ddatblygu’r rhain o fewn Meysydd Dysgu eraill ac o fewn

y gwahanol feysydd addysgu yn y lleoliad/ysgol, er enghraifft:

Datblygiad Personol a Chymdeithasol, Lles ac Amrywiaeth

Ddiwylliannol

• trwy chwarae rôl/chwarae dychmygus, bydd plant yn cael cyfle

i drafod a chyfathrebu gwahanol emosiynau ag eraill er mwyn

datblygu eu sgiliau personol a chymdeithasol

• trwy wrando ar ddigwyddiadau (hapus a thrist) sydd wedi digwydd

i eraill, gallai plant drafod neu gofnodi sut y bydden nhw eu

hunain wedi teimlo yn yr un sefyllfa

Datblygiad Mathemategol

• trwy drin siapau 3-D a 2-D, gellid datblygu iaith fathemategol plant

trwy ddisgrifio priodweddau’r siapiau hyn

• trwy weithgareddau datrys problemau a chwestiynau perthnasol

megis ‘Beth ydych chi’n meddwl allai ddigwydd nesaf’, gellir

datblygu sgiliau meddwl a siarad plant trwy ddarparu atebion/

datrysiadau perthnasol a phosibl

Datblygu’r Gymraeg

• cyfleoedd i blant wrando ar rigymau/caneuon/straeon syml

yn Gymraeg ac ysgrifennu brawddegau am eu hoff straeon,

gweithgareddau neu ymweliadau yn y gymuned

• gwrando ar straeon o grefyddau gwahanol a’u trafod ac

ysgrifennu ryseitiau ar gyfer bwyd o wahanol ddiwylliannau

38 Sgiliau Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu

Gwybodaeth a Dealltwriaeth o’r Byd

• plant i gadw cofnod o luniau ac yna cofnod ysgrifenedig o

ymchwiliadau a gynhaliwyd yn yr amgylcheddau dan do ac yn yr

awyr agored

• plant i roi cyfarwyddiadau ar eu taith i’r ysgol ar lafar, ar ffurf

darlun, neu yn ysgrifenedig

Datblygiad Corfforol

• gwrando ar gyfarwyddiadau mewn gweithgareddau symud

• llunio rhestrau a rheolau ynghylch cadw’n iach ac yn ddiogel yn

eu hamgylchedd uniongyrchol a lleol

Datblygiad Creadigol

• siarad, gwrando ac ysgrifennu am eu gwaith celf a chrefft eu

hunain a gwaith pobl eraill

• gwrando ar rythmau sy’n cael eu clapio/curo gan ymarferwyr a

phlant eraill a’u copïo, a chreu eu darnau cerddorol eu hunain ar

y cyfrifiadur neu drwy ddefnyddio offerynnau.

Sgiliau Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu

39

Gwybodaeth a chysylltiadau defnyddiol

A Process-Oriented Child Monitoring System (gwaith ymchmil a

ddechreuwyd 1976) gan F Laevers (Cyfres Addysg trwy brofiadau,

Canolfan Addysg Brofiadol, Gwlad Belg). Rhaglen ar gyfer asesu ac

arsylwi ar les plant a’r rhan maen nhw’n ei chwarae yw hon. Gellir

gweld adran deunyddiau dysgu Saesneg a deunyddiau perthnasol

eraill drwy ymweld â www.cego.be

Communication, Language and Literacy gan I Yates

(Brilliant Publications) ISBN: 9781897675960

Foundations of Literacy: A balanced approach to language, listening

and literacy skills in the early years gan S Palmer ac R Bayley (Network

Educational Press Ltd) ISBN: 9781855390935

How to Teach Story Writing at Key Stage 1 gan P Corbett

(David Fulton Publishers Ltd) ISBN: 9781853469169

How to Teach Writing Across the Curriculum at Key Stage 1 gan

S Palmer (David Fulton Publishers Ltd) ISBN: 9781853469190

Supporting Language and Literacy Development in the Early Years

– Supporting Early Learning gan M R Whitehead (Open University

Press) ISBN: 9780335199310

Teach them to Speak (a language development programme in 200

lessons) gan S G McGregor (Ward Lock, 1972) ISBN: 0706230906

The Early Years Handbook: Support for Practitioners in the Foundation

Stage golygwyd gan M de Boo (The Curriculum Partnership)

ISBN: 184377115 2

The First Reading and Writing Book gan M Hooton

(Shepheard-Walwyn, 1976) ISBN: 9780856830082

The Little Book of Language Fun gan C Beswick, K Ingham ac

S Featherstone (Featherstone Education Ltd, 2004)

ISBN: 9781904187882

The Phonics Handbook gan S Lloyd (Jolly Learning Ltd)

ISBN: 9781870946070

40 Sgiliau Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu

Using Picture Books gan H White (Step Forward Publishing, 2001)

ISBN: 1902438442

Cyn defnyddio unrhyw wefan gyda phlant mae’n hanfodol bod yr

ymarferydd yn mynd i’r wefan ymlaen llaw. Dylai wneud hyn i sicrhau

bod yr wybodaeth/deunydd y mae’n bwriadu eu defnyddio yn:

• ategu dysgu’r plant

• perthnasol i’r gwaith a gaiff ei archwilio

• priodol i’r plant.

Mae Learning through Landscapes yn helpu lleoliadau/ysgolion a

lleoliadau blynyddoedd cynnar i fanteisio ar eu mannau awyr agored

ar gyfer chwarae a dysgu.

www.ltl.org.uk

Mae Early Childhood Research and Practice (ECRP) yn gyfnodolyn

electronig sy’n cwmpasu pynciau sy’n ymwneud â datblygiad, gofal

ac addysg plant o’u genedigaeth i 8 oed.

www.ecrp.uiuc.edu

Mae Toe by Toe yn gynllun sy’n meithrin hyder plant wrth ddarllen

cam wrth gam drwy ddefnyddio ffonemau a geiriau gwirion, rheolau

y gellir wedyn eu cymhwyso i bob gair aml-syll, gan agor y drws i fyd

cwbl newydd o ddarllen.

www.toe-by-toe.co.uk

Mae gwefan gydweithredol Early Childhood and Parenting (ECAP)

yn lleoliad i fwy na dwsin o brosiectau sy’n canolbwyntio ar addysgu

a magu plant ifanc. Mae ECAP yn lleoliad i waith ymchwil, cymorth

technegol, a phrosiectau gwasanaeth, ac mae ei ysgrifenwyr a’i

olygyddion profiadol yn ymateb i gwestiynau sy’n ymwneud yn

benodol â’r cynnwys, gan baratoi cyhoeddiadau yn ogystal â darparu

hyfforddiant a chyflwyniadau.

ecap.crc.uiuc.edu/

Nod Growing Schools, sy’n un o raglenni’r llywodraeth, yw annog ac

ysbrydoli’r defnydd o’r ystafell ddosbarth awyr agored, ar safle’r ysgol

ac oddi arno, fel cyd-destun ar gyfer dysgu ar draws y cwricwlwm.

www.teachernet.gov.uk/growingschools

Sgiliau Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu

41

Geirfa’r Cyfnod Sylfaen

Addysgeg

Mae addysgeg yn cyfeirio at y berthynas rhwng dysgu ac addysgu.

Mae’n cynnwys y cysyniad o’r ymarferydd fel hwylusydd dysgu, gan

ymateb i anghenion unigolion, parodrwydd i ddysgu ochr yn ochr â’r

plant, defnyddio dulliau priodol i reoli’r broses ddysgu a myfyrio’n

barhaus ar arfer a’i gwella.

Amrywiaeth ddiwylliannol

Mae’r Cyfnod Sylfaen yn cefnogi hunaniaeth ddiwylliannol pob

plentyn, yn dathlu gwahanol ddiwylliannau ac yn helpu plant i

adnabod a chael ymwybyddiaeth gadarnhaol o’u diwylliant nhw eu

hunain a diwylliant pobl eraill. Dylid datblygu agweddau cadarnhaol

er mwyn cynnig modd i blant fod yn fwy ymwybodol o werth yr

amrywiaeth o ddiwylliannau ac ieithoedd sy’n bodoli yng Nghymru,

a’u gwerthfawrogi.

Annibyniaeth

Mae annibyniaeth yn cyfeirio at gael y gallu a’r sgìl i fod yn llai

dibynnol ar eraill. Dylai sgiliau rheoli ac ymdopi gael eu datblygu’n

raddol trwy’r Cyfnod Sylfaen.

Asesu statudol

O fewn y Cyfnod Sylfaen mae dau asesiad statudol y mae’n rhaid

eu cyflawni: asesu sylfaenol ac asesiad statudol athrawon diwedd

cyfnod.

Cof

Y cof yw rhan o’r ymennydd lle mae gwybodaeth yn cael ei chasglu,

ei chadw a’i hadalw yn ddiweddarach. I gychwyn rhaid cymryd

gwybodaeth a’i deall; yna caiff ei chadw a’i hadalw pan fydd ei hangen.

Mae angen pob un o’r prosesau hyn er mwyn i ddysgu ddigwydd.

Cwricwlwm

Mae saith Maes Dysgu wedi cael eu nodi i ddisgrifio cwricwlwm

priodol ar gyfer plant 3 i 7 oed sy’n cefnogi datblygiad plant a’u

sgiliau. Maen nhw’n ategu ei gilydd ac yn cydweithio i ddarparu

cwricwlwm sy’n gyfannol. Mae’r cynnwys (sgiliau ac ystod) addysg

statudol y mae angen ei ddilyn i’w gweld ym mhob Maes Dysgu.

Cwricwlwm cyfannol

Mae’r cwricwlwm cyfannol yn gwricwlwm lle mae Meysydd Dysgu

wedi’u cydgysylltu ac mae dysgu ac addysgu yn cynnal sawl agwedd

42 Sgiliau Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu

ar ddatblygiad y plentyn yn hytrach na chanolbwyntio ar un cyfnod

neu angen penodol. Mae’r cwricwlwm yn cael ei ystyried a’i gyflwyno

fel un cwricwlwm.

Cwricwlwm Cymreig

Mae’r Cyfnod Sylfaen yn cyfrannu at y Cwricwlwm Cymreig trwy

ddatblygu dealltwriaeth plant o’r hunaniaeth ddiwylliannol sy’n

unigryw i Gymru ar draws pob Maes Dysgu trwy ymagwedd

integredig. Dylai plant werthfawrogi’r gwahanol ieithoedd,

delweddau, gwrthrychau, seiniau a blasau sy’n rhan annatod o

Gymru heddiw, a chael syniad o berthyn i Gymru, a deall treftadaeth,

llenyddiaeth a chelfyddydau Cymru yn ogystal â’r iaith.

Cyfathrebu/datblygu iaith

Mae iaith yn gyfuniad o wahanol ffurfiau a sgiliau sy’n cynnwys siarad

a gwrando, darllen, ysgrifennu, meddwl ac arsylwi. Mae tôn y llais yn

ffurf bwerus o gyfleu ystyr. Gall rhai plant ddefnyddio systemau eraill

heblaw’r llais, megis arwyddo.

Mae gwahanol fathau o gyfathrebu di-eiriau hefyd, megis mynegiant

yr wyneb (gwenu), ystumiau/symudiadau’r corff (ysgwyddau yn

gwargrymu a chysylltiad â’r llygad).

Chwarae addysgol strwythuredig

Mae deilliannau wedi’u cynllunio’n benodol yn deillio o brofiadau

chwarae strwythuredig i estyn dysgu, sgiliau a datblygiad plant. Dylai

chwarae strwythuredig gael ei gynllunio mewn ffordd hyblyg er mwyn

caniatáu i blant gael cyfleoedd i ddewis ac ehangu’r gweithgaredd yn

ôl eu diddordebau a’u gwybodaeth.

Chwarae ar eu pennau eu hunain

Mae plant yn chwarae’n hapus ar eu pennau eu hunain. Byddan

nhw’n ymwneud â’u chwarae eu hunain ac yn symud o weithgaredd

i weithgaredd heb ystyried unrhyw blant eraill. Yn aml yn y cyfnod

chwarae hwn bydd plant yn mwynhau efelychu gweithgareddau

bob dydd.

Chwarae cydweithredol/grŵp

Pan fydd plant yn dechrau chwarae gyda’i gilydd, byddan nhw’n

rhannu eu chwarae. Daw plant yn fwy cymdeithasol, byddan nhw’n

derbyn rolau yn y chwarae ac yn ystyried rolau plant eraill. Maen

nhw’n dechrau dod yn ymwybodol o anghenion a dymuniadau eu

cyfoedion, ac felly yn raddol bydd y chwarae yn dod yn fwy cymhleth.

Weithiau byddan nhw’n dyfeisio rheolau, a byddan nhw’n mynd yn ôl

at y chwarae cydweithredol dros sawl diwrnod.

Sgiliau Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu

43

Chwarae paralel

Gall ymddangos fod plant yn chwarae gyda’i gilydd ond trwy

arsylwi’n fwy manwl gwelir bod y plant yn chwarae ar eu pennau eu

hunain ac nid yn rhyngweithio â’i gilydd. Gall plant fod yn defnyddio’r

un cyfarpar neu’n eistedd neu’n sefyll nesaf at ei gilydd, ond eto

yn gweithio’n annibynnol ar ei gilydd; nid oes unrhyw ryngweithio

cadarnhaol na negyddol rhyngddyn nhw yn eu chwarae.

Dan arweiniad ymarferydd/oedolyn

Mae angen i ymarferwyr gynllunio cwricwlwm priodol sy’n cadw

diddordeb plant yn eu dysgu. Mae angen iddyn nhw annog, cymell

a datblygu agweddau. Mae angen i ymarferwyr fod yn ymwybodol

o bryd y mae’n briodol i ymyrryd yn sensitif i estyn dysgu’r plant,

herio’u sgiliau datrys problemau a’u sgiliau meddwl, a phryd i

ganiatáu i’r plant gyrraedd diweddglo boddhaol ar eu pennau eu

hunain. Dylai ymarferwyr gefnogi/cynnal dysgu’r plant, trwy arsylwi,

monitro ac asesu dilyniant plant er mwyn sicrhau eu bod yn symud

ymlaen i gyfnodau nesaf eu datblygiad a bod eu sgiliau yn cael eu

hestyn.

Datblygiad corfforol

Mae datblygiad corfforol yn canolbwyntio ar gynyddu sgiliau a

pherfformiad y corff. Mae cysylltiad agos rhwng datblygiad corfforol

a gwybyddol, yn enwedig yn ystod y blynyddoedd cynnar. Gellir

rhannu datblygiad corfforol yn sgiliau echddygol bras a sgiliau

llawdrin manwl.

Datblygiad cymdeithasol

Mae datblygiad cymdeithasol yn canolbwyntio ar ryngweithiadau

cymdeithasol plant a’u perthynas â’u cyfoedion, ymarferwyr ac

oedolion.

Datblygiad gwybyddol

Ystyr datblygiad gwybyddol yw datblygu’r meddwl. Mae’n

canolbwyntio ar feddwl a dealltwriaeth, dychymyg a chreadigrwydd y

plentyn (gan gynnwys datrys problemau/rhesymu/canolbwyntio a chof).

Datblygiad personol

Mae datblygiad personol yn canolbwyntio ar ymwybyddiaeth plant

o’u hunain a datblygu eu sgiliau hunangymorth.

44 Sgiliau Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu

Datrys problemau

Mae datrys problemau yn canolbwyntio ar ddatblygu’r gallu i asesu

problem/sefyllfa yna casglu gwybodaeth a chael hyd i ateb. Pan fydd

sgiliau’r plant yn cynyddu byddan nhw’n gallu tynnu ar brofiadau

blaenorol wrth roi cynnig ar weithgareddau newydd a datrys

problemau.

Deilliannau

Mae Deilliannau’r Cyfnod Sylfaen yn cynnwys graddfeydd a

disgrifiadau asesu sylfaenol a disgrifiadau lefel y cwricwlwm

cenedlaethol. Cawsant eu datblygu i ategu asesiad statudol athrawon

diwedd cyfnod. Mae chwe Deilliant gan bob Maes Dysgu ac at

ddibenion gwybodaeth mae Deilliannau 4–6 yn croesgyfeirio’n fras i’r

disgrifiadau cyfredol am Lefelau 1–3.

Dulliau dysgu

Mae gwahanol ddulliau dysgu neu ddulliau rhyngweithio o ddewis.

Y dulliau dysgu yw: gweledol, clybodol a chinesthetig. Pan fydd

dulliau dysgu yn cael eu hystyried gellir gwella dysgu. Bydd rhai plant

yn dysgu orau os oes ysgogiad gweledol ganddyn nhw, ond bydd

eraill yn dysgu orau trwy ysgogiad clybodol neu dasg ginesthetig

(ymarferol). Mae ymchwil i ddatblygiad yr ymennydd wedi dangos

bod dulliau dysgu unigol yn cael eu heffeithio gan yr amgylchedd, y

math o weithgaredd dysgu a gweithio’n annibynnol neu mewn grŵp.

Dychymyg

Ystyr dychymyg yw cael y sgiliau a’r gallu i ffurfio delweddau,

syniadau a chysyniadau sydd naill ai’n bodoli ond nid ydyn nhw’n

bresennol neu nad ydyn nhw’n bodoli o gwbl.

Dysgu gweithredol

Mae’r term hwn yn cyfeirio at blant yn dysgu’n weithredol ac yn

cael rhan yn eu dysgu. Mae plant yn dysgu orau trwy brofiadau

uniongyrchol. Mae’n hanfodol bod plant yn cael profiadau gweithredol

dan do ac yn yr awyr agored sy’n meithrin eu sgiliau, eu gwybodaeth

a’u dealltwriaeth ac a fydd yn cynnal eu dysgu yn y dyfodol.

Pwrpas chwarae/dysgu gweithredol yw ei fod yn cymell, yn ysgogi ac

yn cynnal plant wrth iddyn nhw ddatblygu sgiliau, cysyniadau, caffael

iaith/sgiliau cyfathrebu a chanolbwyntio. Hefyd, mae’n rhoi cyfle i

blant ddatblygu agweddau cadarnhaol a dangos ymwybyddiaeth/

defnydd o ddysgu diweddar, sgiliau a chymwyseddau, ac mae’n

cyfnerthu dysgu.

Sgiliau Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu

45

Dysgu yn yr awyr agored

Mae pwyslais cryf ar ddysgu yn yr awyr agored yn y Cyfnod Sylfaen.

Dylai’r amgylchedd dysgu yn yr awyr agored fod yn estyniad i’r

amgylchedd dan do. Dylid cynllunio gweithgareddau strwythuredig

yn seiliedig ar brofiad ar gyfer y diwrnod cyfan a chyn belled ag y bo

modd, dylai plant gael symud yn rhwydd rhwng y tu mewn a’r tu

allan (gan gadw mewn cof faterion iechyd a diogelwch).

Fframwaith sgiliau

Mae’r Fframwaith sgiliau ar gyfer plant 3 i 19 oed yng Nghymru

anstatudol yn disgrifio dilyniant mewn datblygu meddwl, cyfathrebu,

rhif a thechnoleg gwybodaeth a chyfathrebu (TGCh).

Gwahaniaethu

Dylai’r cwricwlwm fod yn hyblyg er mwyn cyfateb â galluoedd, sgiliau

ac anghenion datblygiadol plant.

Gwylio chwarae

Bydd plant yn arsylwi ar blant eraill ond nid ydyn nhw’n ymuno.

Byddan nhw’n hoffi gwylio plant eraill yn chwarae. Yn aml gellir eu

gweld yn sefyll/eistedd ar ymylon y mannau lle mae’r plant eraill yn

chwarae. Er y gall ymddangos eu bod yn unig neu’n ddihyder, yn aml

gallan nhw fod yn canolbwyntio tra eu bod yn arsylwi ar y chwarae er

mwyn datblygu dealltwriaeth o’r hyn sydd i’w wneud.

Hunan-barch

Mae hyn yn cyfeirio at y ffordd y mae plant yn teimlo amdanyn nhw

eu hunain. Mae teimladau cadarnhaol yn dynodi hunan-barch uchel a

theimladau negyddol yn dynodi hunan-barch isel.

Lles emosiynol

Mae datblygiad emosiynol yn canolbwyntio ar ddatblygu hunan-barch

plant, eu teimladau a’u hymwybyddiaeth o deimladau eraill.

Partneriaeth/chwarae cysylltiadol

Bydd plant sy’n gweithio yn y cyfnod partneriaeth/chwarae cysylltiadol

yn dechrau dod yn ymwybodol o blant eraill. Byddan nhw’n dechrau

cyfathrebu â’i gilydd ac yn fwy ymwybodol o’r chwarae/gemau y

mae’r plant eraill yn cymryd rhan ynddyn nhw. Maen nhw’n dechrau

esbonio i’w gilydd beth maen nhw’n ei wneud. Yn raddol bydd un

plentyn yn dechrau ymwneud â chwarae’r llall.

46 Sgiliau Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu

Proffil asesu

Mae’r proffil asesu yn cynnig arweiniad ar gyfnodau datblygu

allweddol plant a’r sgiliau y gall plant eu datblygu a’u caffael o tua

18 mis i 84 mis.

Sgiliau echddygol bras

Mae datblygiad sgiliau echddygol bras yn dechrau gyda’r baban ifanc

yn rheoli symudiadau’r pen ac yna’n, symud i lawr y corff, rheoli

rhannau eraill o’r corff. Mae datblygiad echddygol bras yn cynnwys

defnyddio symudiadau’r corff cyfan, cydsymud a chydbwysedd.

Sgiliau llawdrin manwl

Mae datblygu sgiliau llawdrin manwl/echddygol plant yn dechrau

yng nghanol eu cyrff ac yn symud allan. Trwy ddatblygiad priodol,

bydd plant yn gallu cyflawni symudiadau manwl a chymhleth. Mae

sgiliau llawdrin manwl yn cynnwys defnyddio symudiadau’r bysedd a

chydsymud llaw–llygad.

Wedi’u cychwyn gan blant/canolbwyntio ar blant

Dylai cwricwlwm y Cyfnod Sylfaen ganolbwyntio mwy ar

ddiddordebau, datblygiad a dysgu plant yn hytrach na’r cwricwlwm

a deilliannau rhagderfynedig. Mae’n bwysig nodi bod rhaid i’r

cwricwlwm a gynlluniwyd gael strwythur ac amcanion dysgu clir ond

bod yn ddigon hyblyg i alluogi plant i ddilyn eu diddordebau a diwallu

eu hanghenion.

Dylai arsylwi’n ofalus ar y cwricwlwm a gynlluniwyd a sut mae’r

plant yn ymateb iddo ddarparu tystiolaeth i ddangos a yw’r plant

yn canolbwyntio ar eu dysgu ac nid yn chwarae’n ddibwrpas. Mae

dealltwriaeth o ddatblygiad y plentyn yn hanfodol er mwyn sicrhau

bod plant yn cael eu hestyn yn eu dysgu.

Ymarferwyr

Mae’r term generig hwn yn cyfeirio at yr oedolion sy’n gweithio

gyda phlant yn y Cyfnod Sylfaen. Mae’n cynnwys athrawon a

chynorthwywyr ystafell ddosbarth yn y sector a gynhelir, a staff sy’n

gweithio yn y lleoliadau addysg a ariennir yn y sector nas cynhelir.

Sgiliau Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu

47

Cydnabyddiaethau

Hoffai Is-adran Cwricwlwm ac Asesu 3–14 yr Adran Plant, Addysg,

Dysgu Gydol Oes a Sgiliau (APADGOS) ddiolch i’r holl blant,

ymarferwyr, rhieni, gofalwyr, lleoliadau, ysgolion a sefydliadau eraill

sydd wedi helpu i gynhyrchu’r ddogfen hon, gan gynnwys:

Cylch Chwarae Bodnant, Prestatyn

Cylch Chwarae Llanfyllin, Powys

Ysgol Fabanod Duffryn, Casnewydd

Ysgol Fabanod Troedyrhiw, Merthyr Tudful

Ysgol Feithrin Parc Caia, Wrecsam

Ysgol Gymraeg Gwaun y Nant, Y Barri

Ysgol Gynradd Cadle, Abertawe

Ysgol Gynradd Holton, Y Barri

Ysgol Gynradd Kitchener, Caerdydd

Ysgol Gynradd Llanilltud Faerdref, Pontypridd

Ysgol Rhiw Bechan, Y Drenewydd.

Y cyfeiriad at Dyna Beth Dwl! ar dudalen 26 trwy garedigrwydd

Gwasg Gomer.

48 Sgiliau Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu

Hooray! Your file is uploaded and ready to be published.

Saved successfully!

Ooh no, something went wrong!