ASTUDIAETH 8 MEDRAU DARLLEN AR GOEDD Y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 1 Rhaglen Astudio Darllen Sgiliau: 7. darllen ar goedd eu gwaith eu hunain a thestunau eraill Cyfnod Allweddol 2 Rhaglen Astudio Darllen Sgiliau: 7. darllen ar goedd eu gwaith eu hunain ac adnoddau printiedig eraill yn hyderus, yn ystyrlon ac yn rhugl a chyda mynegiant priodol 95
96 Medrau Darllen ar Goedd Ceir rhai sefyllfaoedd lle mae darllen ar goedd yn sgil angenrheidiol boed yn blentyn neu’n oedolyn. Fel arfer mae natur gyhoeddus i’r sefyllfaoedd hyn. Prin yw’r achosion lle rydym yn darllen yn uchel i ni’n hunain, yn hytrach rydym yn darllen yn uchel pan ydym mewn cwmni o ryw fath, boed hwnnw’n gwmni ffurfiol neu’n anffurfiol. Felly, mae sicrhau cynulleidfaoedd amrywiol eu natur yn angenrheidiol wrth annog disgyblion i ddarllen ar goedd. Mae darllen ar goedd felly yn gofyn am baratoi. Golyga’r paratoad: ● adnabyddiaeth drylwyr o’r testun er mwyn ei ddarllen mor rhugl â phosibl, ● defnydd priodol o oslef, lliw, ynganiad, tempo’r dweud a mynegiant wyneb, ● ymwybyddiaeth o gywair priodol ar gyfer y gynulleidfa sy’n gwrando. Sefyllfaoedd darllen ar goedd ● darllen i ffrind, grwˆ p, dosbarth ● darllen neges o un dosbarth i’r llall ● darllen mewn gwasanaeth boreol ● darllen i ddosbarthiadau eraill ● darllen i oedolion gwadd ● darllen i aelodau’r gymuned, e.e. plant mewn ysbytai, cartre’r henoed, mewn llyfrgell ● darllen ar dâp ● darllen o flaen camera fideo ● tros-ddarllen storïau ar gyfrifiadur (e.e. CD-Rom Storïau 3D ac ati) ● darllen fel pâr, grwˆ p, corws. Beth a ddarllenir? ● Storïau cyfan a rhannol, hwiangerddi, cerddi a chaneuon cyfarwydd a deunydd a grëwyd gan ddisgyblion. ● Perfformiad o ddrama, cerdd, deialog… ● Pytiau diddorol, ffeithiol a ffuglennol yn llythyrau, adroddiadau, ffeithiau difyr ac ati. ● Areithiau, protestiadau, datganiadau a baratowyd mewn gwaith ar draws y cwricwlwm. ● Posteri, print ar arddangosfeydd, rhaghysbysiadau rhaglenni teledu, papurau newydd, papurau bro, broliannau llyfrau a chryno ddisgiau. ● Gwaith y disgyblion ar draws y cwricwlwm.