03.09.2015 Views

A FUOCH CHI YN NOLGFJ J AU?

Rhifyn 03 Yr Eisteddfod 1990 - Cyd

Rhifyn 03 Yr Eisteddfod 1990 - Cyd

SHOW MORE
SHOW LESS

You also want an ePaper? Increase the reach of your titles

YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.

CYD

PAPUR NEWYDD CYD AM DDIM (5c yn y siopau) RHIFYNYR EISTEDDFOD1990

A FUOCH CHI

YN NOLGFJ J AU?

Newyddion o'r Wyf Haf

Trowch i'r canol!

EISTEDDFOD GENEDLAETHOL

CWM RHYMNI

WYTHNOS O GWIS!

Eleni, derbyniodd CYD gais oddi wrth yr Eisteddfod Genedlaethol

i drefnu cwis dyddiol ym Mhabell y Dysgwyr o'r dydd Llun i'r dydd

Gwener. Cynhelir y cwis rhwng 1.30 a 2.30 y prynhawn gyda dwy

gangen CYD yn cystadlu bob dydd. Er nad yw manylion llawn y

timoedd a fyddyn cystadlu wedi'u cadarnhau hyd yn hyn, y cwisfeistri

a fydd yn holi'r cwestiynau yw:-

Dydd Llun - Ray Gravel

Dydd Mawrth - Y Brodyr Gregory

Dydd Mercher - Hywel Teifì Edwards

Dydd Iau - Dafydd Iwan

Dydd Gwener - Gwyn Elfyn (Denzil - Pobl y Cwm)

Felly, os fyddwch chi'n crwydro maes yr Eisteddfod am 1.30 y

prynhawn, galwch ym Mhabell y Dysgwyr - bydd digon o hwyl i'w gael

yno!

Bydd gan CYD stondin ym Mhabell y Dysgwyr, ac yn uned S4C yn

rhannu gyda Acen. Dewch draw i'n gweld ni er mwyn cael gwybodaeth

am weithgareddau, a phrynu nwyddau diweddaraf CYD!

Hefyd bydd angen help ar y ddwy stondin felly os gallwch chi roi awr

neu ddwy o'ch amser, byddem yn ddiolchgar iawn.

1Hv

A

Dafydd Elis Thomas, A.S.

Meirionydd, Nant Conwy. Gwr gwadd

yr Wyl Haf yn Nolgellau.

Am fwy o luniau - trowch i'r canol

Hoffai'r Golygydd ddiolch

i bawb sydd wedi cyfrannu

erthyglau a lluniau at

CADWYN CYD.

CYD

Llywyddion Anrhydeddus: Dan

Lynn James, Yr Athro Bobi Jones

Cadeirydd: Mary Davies

Is-gadeirydd: Felicity Roberts

Ysgrifennydd: Michelle Davies

Trysorydd: Arthur Burt

Swyddog Marchnata: Jaci Taylor

Swyddog yr Is-lywyddion: Elinor

Reynolds

Swyddog Cynhaliaeth: Llinos

Dafis

Swyddog Cyhoeddiadau: Emyr

Williams

Ysgrifennydd Aelodaeth: Janet

Meredith

Trefnydd: Siôn Meredith

Adran y Gymraeg

Yr Hen Goleg

Heol y Brenin

Aberystwyth SY23 2AX

0970 623111 Est 4052

Noddir swydd Siôn Meredith gan

Fwrdd Datblygu Cymru Wledig

Mae CYD yn elusen gofrestredig (rhif

518371)

Golygydd: Cadwyn CYD':

Les Williams 83 New Ifton, St.

Martins, Croesoswallt,

(Oswesùy), SYll 3AB.

0691 772324

Bwrdd Golygyddol: Dave

Goodman (Is-Olygydd), Hilary

Smith, Hafwen Dorldns, Tony

Hughes, Pauline Randles.

LLYTHYRAU: GOLYGYDD "CADWYN CYD"

83New Ifton, St. Martins, Croesoswallt, (Oswestty), SYll 3AB

Annwyl Olygydd

Yn ddiweddar, es i i mewn siopâ sticer "Siaredir Cymraegyma" ar y ffenestr. Ond,

ces i siom achos yn anffodus doedd neb ar gael i'm gweini yn y Gymraeg.

Eglurodd rheolwr y siop fod dim ond un aelod o'r staff sy'n gallu siarad Cymraeg

ac roedd hi i ffwrdd ar y diwrnod yna.

Mae hyn yn codi cwestiwn. 'Roedd 4 yn gweitho yn y siop a dim ond un yn siarad

Cymraeg. Sut felly, roeddwn i fod i wybod p'un o'r staff sy'n gallu cynnig gwasanaeth

yn y Gymraeg?

Hoffwn i awgrymu buasai'n syniad i CYD gynhyrchu bathodynnau â'r slogan "Dw

i'n siarad Cymraeg" arnon nhw i gydfynd â'r sticeri.

Llongyfarchiadau ar eich papur ardderchog.

Wil Davies Lawson Road, Bae Colwyn

DYSGWYL

ABERYST YTH

Uchafbwynt Dysgwyl

Aberystwyth eleni oedd

seremoni'r Cadeirio. Rhoddwyd

y gadair i'r bardd buddugol a

gyfansoddodd gerdd ar y testun,

T Castell', a'r enillydd y tro hwn

oedd Beth Phillips Brown,

myfyriwr yng Ngholeg Prify sgol

Cymru, Aberystwyth sy'n dod

o'r Unol Daleithiau.

BETH PHILLIPS BROWN

yn siarad â Alun Thomas - Cadeiiydd CYD

CPC ABERYSTWYTH

Dyma sgwrs gyda Beth a ddarlledwyd ar y rfiaglen

"Ar Nos Sadwm, ar Radio Ysbyty Bronglais

Alun:- Pryd wnaethoch chi ddechrau

dysgu Cymraeg?

Beth:- Wel, ar ôl i mi ddod yma ddwy

flynedd a hanner yn ôl roeddwn i

eisiau dysgu Cymraeg.

Alun:- Oeddech chi'n ei ffeindio hi'n

anodd dysgu Cymraeg?

Beth:- Pan ôn i yn America roedd

hi'n anodd iawn achos does dim

llawer o bobl i siarad â nhw bob dydd

— dim ond unwaith yr wythnos. Ond

mae'n haws achos dwi'n byw gyda

phobl sy'n siarad Cymraeg trwy'r

amser nawr.

Alun:- Mae'n amlwg pan yr ydych chi'n

siarad eich bodyn dod o'r America, ond

o ble yn union rydych chi'n dod?

Beth:- Dwi'n byw ym maestref bach o'r

enw Media y tu allan i Philadelphia.

Alun:- Pam daethoch chi draw yma i

Gymru?

Beth:- Wel, pan mae pobl eisiau dysgu

Ffrangeg maen nhw'n mynd i Ffrainc,

Felly des i i Gymru achos dwi eisiau

dysgu Cymraeg a siarad yn rhugl.

Alun:- Ydych chi'n mwynhau bod yma

yn Aberystwyth?

Beth:- 0 ydw! Dwi'n hoffi

Aberystwyth, mae llawer o deimladau

annwyl am Aberystwyth gyda fi.

Alun:- Am beth oedd eich cerdd chi'n

son?

Beth:- Welyn Hanes Cymru roeddwn

i'n astudio hanes Edward y Cyntaf ac

roeddwn i'n meddwl am ei gastell, a

phwnc y gystadleuaeth oedd *Y

Castell' ac felly fe gefais i'r syniad am

y gerdd.

Alun:- Llongyfarchiadau i chi ar ennill

y gystadleuaeth a diolch am ddod i

siarad â mi.

EISTEDDFOD CROESOSWALLT

Cafwyd Eisteddfod Iwyddiannus yng Nghroesoswallt ar Fai 5ed pan

ddaeth nifer o Gymiy Cymraeg a dysgwyr ynghyd ar gyfer y diydedd

Eisteddfod CYD i'w chynnal yn y dre. Trefnwyd yr yl gan gangen

CYD Croesoswallt a'r clwb Cymraeg lleol "Clwb 3C".

'Helen Rrasner o Froncysyllte a enillodd

y teitl "Dysgwr yr Eisteddfod" eleni yn

Eisteddfod CYD Croesoswallt

Dawns ddisgo "Parti Ysbrydion"gan Barti Ysgol MaelorPenley Wrecsam a ddaeth

yn gyntafyn Eisteddfod CYD Croesoswallt.

Hysbysebwch yn

CADWYN CYD!

Rhifyn nesa - YrHydref

CYD üanf llin agipioddy wobrgyntafam eu sgets 'YDeintydd:

yn Eisteddfod CYD Croesoswallt.

y ddolen gyswllt

genedlaethol

Dítn adnoddau dysgu ar gyfer y

flwyddyn ysgol newydd? Beth

am gysylltu fi'r Ganolfan

Astudiaethau Addysg? Mae'r

Ganolfan yn cynnig gwasanaeth

cyflawn i athrawon, disgyblion a

rhieni o'r hyn sydd ar gael ar

gyfer dysgu drwy gyfrwng y

Gymraeg.

Ffoniwch Glyn Saunders Jones ar 0970 622121.

The Welsh InternationaJist

Dysgwry! Dysgwragedd!

Nid pawb sy'n barod eto i ddarllen erthylau hir yn

Gymraeg. Ond fe allwch ddysgu llawer am Gymru a'r

diwylliant Cymraeg drwy'r Saesneg ar dudalennau

Planet.

Yn rhiíýn mis Awst.

* Tyfu'n Cymro yn Nhrofforest - hunangofiant gan

Meic Stephens.

* Effaith y ty gwydr ar Gymru - adroddiad llawn gan

yr arbenigwr Tony Jones

* Ney Bevan, Macmillan a'r ddadl ynglyn â datganoli

- Gwyn Jenldns

* Tlodi yn ein cefn gwlad

*Polisi celf yr Amgueddfa Genedlaethol -

dadansoddiad beirniadol gan Peter Lord

Gymraeg yn ysgolion Gwent: Esiampl Gwlad y

Basg.

Nid darlun cysurus o Gymru a gewch chi yn Planet,

ond darlun cyfan cyfoes, cysylltu Cymru â'r byd tu

allan.

£10.00 yw pris tanysgrifiad blwyddyn (6 rhifyn)

drwy'r post. Pris copiau unigol (120 tudalen) yn y

siopau ym £2.00 (1.45 drwy'r post).

'Sgriîennwch at Planet, Blwch Post 44, Aberystwyth,

Dyfed. Neu ffoniwch 0970 611255.

ANDREA JONES

Yn ddiweddar, penodwyd

Andrea Jones o

Gefnbrynbrain, Dyffryn

Aman, yn swyddog

Datblygu CYD yn ardal

Llanelli, Cwmtawe a Dyffryn

Lliw. Derbyniodd ei

haddysg yn Ysgol Gyfun

Dyffryn Aman a bu'n

fyfyrwraig yng Ngholeg

Abertawe cyn gweithio gyda

Mudiad y Ffermwyr Ifainc

yng Nghymru.

Bu CADWYN CYD yn

siarad ag Andrea er mwyn

ffeindio allan mwy amdani.

C.C.:- Ar ôl gadael Ysgol Dyffryn

Aman fuesttiyn Ngholeg Abertawe?

Andrea:- Do. Wedyn, bues i'n

gweithio gyda'r Ffermwyr Ifainc yn

Llanelwedd.

C.C.:- Fwynheuest ti'r gwaith?

Andrea:- Do, yn fawr iawn. Ces i

amser da iawn. Cefais ddwy flynedd

blesurus gyda nhw.

C.C.:- Beth oedd natur dy waith

gyda nhw?

Andrea:- Gwaith cyfieithu yn

bennaf. Mae polisi dwyieithog

gyda'r Ffermwyr Ifainc a phopeth

yn cael ei wneud yn ddwyieithog.

Felly Swyddog Dwyieithrwydd

oeddwn i. Roeddwn i'n gyfrifol am

gyfíeithu y tu mewn a'r tu allan i'r

swyddfa.

C.C.:-Oeddetti'ngwneudgwaith

arall?

Andrea:- Roeddwn i hefyd yn

gyfrifol am drefnu Eisteddfod

Flynyddol y Ffermwyr Ifainc.

C.C.:- Wyt ti'n meddwl bydd

profíad o weithio gyda Mudiad y

Ffermwyr Ifainc yn help iti yn dy

waith gyda CYD?

Andrea:- Dw i'n siwr bydd y

profiad o gymorth. Wrth weithio

gyda'r Ffermwyr Ifainc dw i wedi

cyfarwyddo â chrwdd â phobl.

Roedd rhaid cysylltu â phob math o

bobl, yn arbennig wrth drefnu'r

Eisteddfod Flynyddol.

C.C.:- Rwyt ti wedi bod yn

gweithio gyda CYD ers mis Mehefin.

Beth sy gen ti ar y gweill ar hyn o

bryd?

Andrea:- Ar hyn o bryd, dw i'n

dechrau trefnu ar gyfer

penwythnosau. Dw i'n gobeithio cael

penwythnos dawnsio gwerin ym mis

Tachwedd a phenwythnos actio/

drama ym mis Ionawr.

C.C.:- Oes diddordeb yn nawnsio

gwerin yn yr ardal?

Andrea:- Oes, mae diddordeb

eithaf cryf yn y De. Mae rhai timau

efallai sy'n codi trwy amser ar lefel

Cymru. Mae dawnswyr Trefforest

yn enwog ac mae dawnswyrTalog/

HafodWenyneithafenwog.Acwrth

gwrs, mae Ysgol Dyffryn Aman yn

weddol adnabyddus trwy Gymru ar

gyfer dawnsio gwerin.

C.C.:- Rwyt ti'n gyfarwydd â

gweithio gyda phobl ifainc. Wyt ti'n

meddwl ei bod yn bwysig i dynnu

mwy o bobl ifainc at fudiad CYD?

Andrea:-Ydw, achosyn anffodus,

mae lot o bobl ifainc yn meddwl bod

unrhywbeth sy'n cael ei wneud yn y

Gymraeg yn boring. Felly, dw i'n

meddwl ei bod yn bwysig i geisio eu

denu nhw. Beth dw i am drio gwneud

yw dangos nad ydy pethau CYD

ddim yn boring o bell ffordd.

C.C.:- Aeth Gwyl Ffwl Ebrill A yn

dda yn ôl pob son. Oes gen ti yl

arall mewn golwg?

Andrea:- Dw i'n bwriadu cael

rhywbeth tebyg argyfer yr un amser

blwyddyn nesa.

C.C.:- Ydy Gwyl Ffwl Ebrill wedi

ei sefydlu fel rhywbeth sy'n mynd i

gario ymlaen yn y De o flwyddyn i

flwyddyn felly?

Andrea- Dw i ddim yn siwr iawn

ifodyn onest. Fel dwi'n deall cafodd

pawb dipyn o hwyl yng Ngwyl Ffwl

Ebrill. Byddai'n syniad felly i gadw

at yr un fath o syniad neu yr un fath

0 fframwaith ac ehangu fe efallai.

C.C.:- Rwyt ti'n bwriadu sefydlu

rhagor o ganghennau. Sut wyt ti'n

mynd i wneud hynny?

Andrea:- Yn barod, dw i wedi

drafftio llythyr ar gyfer y dysgwyr

oedd ar gofrestri Gorllewein

Morgannwgy llynedd a dw i'n mynd

1 gysylltu â thiwtoriaid trwy'r Cyd

Bwyllgor Addysg.

Dw i'n meddwl ei bod yn bwysig

i egluro beth yw CYD.

Hefyd, dw i wedi paratoi holiadur

i geisio barn pobl yr ardal — Beth

hoffen nhw weld CYD yn ei wneud?

— Pa fath o weithgareddau hoffen

nhw gael? — Ble hoffen nhw weld

CYD yn cwrdd? Y cam nesa íydd

gweithredu ar sail yr atebion i'r

holiadur er mwyn sefydlu

canghennau newyddyn nghyffiniau

Cwmtawe.

PENWYTHNOS DAWNSIO GWERIN

YN ABERTAWE 16eg - 18ed Tachwedd 1990

Cynhelir y penwythnos dawnsio gwerin o'r 16eg i'r 18ed Tachwedd 1990 yng Ngwesty'r Langrove

Lodge, Parkmill, Gwyr (tua 7 milltir y tu allan i Abertawe). Pris y penwythnos fydd £50 y person

(ystafelloedd i ddau yn unig) a bydd hyn yn cynnwys cinio gyda'r hwyr nos Wener a nos Sadwrn a Sul

a phryd canol dydd Sadwrn. Ceir cyfleusterau "en suite" ym mhob ystafell yn ogystal â gwres canolog,

teledu lliw, ffôn a chufleusterau gwneud tê/coffi. Bwríedir cynnal gweithdai dawnsio ar ddydd Sadwrn

a bore Sul gan roi cyfle i bawb ddysgu ac arbrofi gwahanol dawnsfeydd yn ogystal â chael ychydig o

hanes y gwahanol ddawnsfeydd. Gobeithir hefÿd y gellir cynnal o leiaf un sesiwn clocsio (i'r rhai mwyaf

anturus!) yn ogystal a threfnu arddangosfa ddawnsio a chlocsio ar eich cyfer. Yna cynhelir twmpath

dawns gyda'r grwp Jac-y-do ar y nos Sadwrn, er mwyn rhoi'r cyfle i chi ymarfer a rhannu'r hyn y

byddwch wedi'i ddysgu. Felly, am ddigon o hwyl a sbri - dewch i Abertawe ar yr 16 eg Tachweddl

CABAN CADER IDRIS

ISLAWRDREF, DOLGELLAU

MEDI 21 - 23, 1990

Dyma gyfle i chi gerdded rhai o fryniau mwyaf piydferth Cymru, gan

gynnwys Cader Idris os bydd y tywydd yn caniatau. Bydd taith gerdded

trwy dydd Sadwrn a thaith fyrrach ddydd Sul.

Hen ysgol gynradd wledig yw'r Caban, sydd wedi cael ei haddasu 'n

ganolfan breswyl ar gyfer gweithgareddau awyr agored. Mae'r Caban yn

sefyll mewn cwm coediog tawel bedair milltir o Ddolgellau.

Nid oes rhaid i chi fod yn gerddwr profiadol, ond mae'n rhaid i chi fod yn

weddol heini.

Lle i 16 yn unig

Pris: £27 (yn cynnwys bwyd a llety)

A Welsh weekend for walkers where you can enjoy the splendour of

Snowdonia and practise your Welsh for the whole weekend.

Glynne & Co.,

CYFREITHWYR

10 Süyd Fawr,

Poithaethwy 0248 713300

CROESAIR CYFLYM

f

z

1

••Ës

= Eb

•1 T•

7

më

- I

MÊÊ_

• • i

w

n

Un llythyren ydy LL, TH, CH, FF, RH & DD

ARDRAWS

1. Arian parod. 5. Sain. 6. Rhan o'r ty.

8. Haws dweud na .

10. Maen nhw'n dod mewn amlenni!

ILAWR

1. Mae tím pêl-droed yn gwisgo 11 ohonon nhw!

2. Trydedd noson yr wythnos. 3. gwelwch

1 • •

chi'n dda. 4. Mae gan bob gwraig briod un.

7. Drws nesa i'r Wlad hon. 9. Pâr.

CYLCHGRAWN

Cyfaill y dysgwyr ...

CATCHPHRASE

RADIO WALES 882

Medium Wave Wave khz

9.45 nightly, 5 mins a day

CATCHPHRASE 2: with new learner

Mollie Staffer for beginers - 9.45 pm

CATCHPHRASE 2: with Frank Henessy - 9.55 pm

m

1

Erthyglau arbennig

bob wythnos

Ar gael yn eich siop

bapur leol

"Dan ni wedi mwynhau'r diwrnod - mae

llawero bobl, llawero weithgareddau, llawer

o sgyrsiau gyda phawb." Hazel a Derek

Eagers. CYD Y Bala

"Mae lot o hwyl - ac dych chi'n gallu

siarad efopobl eraillsy'n dysgu'riaith."

Carol Clarke, CYD Wrecsam.

"Es i ardaith ogwmpas

cartrefi'r crynwyr -

diddorol dros ben."

Meiyl Gover.

Y Drenewydd.

CYD Llanidloes.

"Dw i wedi cael amser

da. yy

Lawrence Manns.

CYD Llanidloes.

"Cyjie i bobl o bob rhan o Gymru

gyfarfod ei gilydd a chyfnewid

syniadau - ddaru fi fwynhau'r

sesiwn gemau iaith ar

gyfrifiadur."

Stephen Taylor. CYD

Wrecsam.

Swyddogion CYD yn nghwmni Tecwyn Owen a Dafydd Elis

Thomas. Siôn Meredith yn y canol. Felicity Roberts (Is-

Gadeirydd) a Mary Davies(Cadeirydd) ar y dde.

Daeth dros 100 o bobl o bob rhan o Gymru i Goleg

Meirionydd yn Nolgellau i diydedd Wyl Haf

Genedlaethol CYD ar Fehefin 30 ain eleni.

'Roedd yr holl weithgareddau a gafodd eu cynnal yn

y Gymraeg.

Dafydd Elis Thomas oedd yn agor yr Wyl eleni, a

phwysliesiodd o wrth agor yr Wyl bod angen i'r

Swy ddfa Gymreig gynyddu'n sylweddol y grantiau ar

gyfer dysgu'r Gymraeg i Oedolion.

Un o'r atyniadau mwyaf oedd rownd derfynol y cwis

genedlaethol, allan o 40 o dimau oedd yn y rownd

gyntaf daeth 4 i Ddolgellau.

- CYD WRECSAM, Tîm Merched y Wawr

GOGLEDD CEREDIGION, CYD ABERTAWE, Tîm

Merched y Wawr DE CEREDIGION.

Enillodd CYD ABERTAWE y brif wobr o £100 ar ôl

awr o gystadlu biwd dan ofal y cwisfeistr Bleddyn

Huws.

'Roedd rhaglen o weithgareddau drwy'r dydd i

ddysgwyr a Chymiy Cymraeg - Twmpath dawns

gyda'r giwp GWERINOS a Chlwb Ffermwyr Ifainc

Biyncrug - Gemau Iaith ar Gyfrifiadur - Ysgrifennu

creadigol - a llawer mwy.

'Roedd nifer o blant yn yr Wyl Haf hefyd, ac roedd

Meithrinfa yn cael ei chynnal drwy'r dydd wedi ei

threfnu gan y Mudiad Ysgolion Meithrin.

Enillwyr y cwis a chant o

bunnoedd! CYD Abertawe

RHAGLEN CYD

CRYMYCH

Medi20 Lolfa,CanolfanAddysg

Gymunedol y Preseli am

7.30pm

Tachwedd 29 Parti Nadolig

Lolfa Canolfan Addysg

Gymunedol y Preseli am

7.30pm.

Nikki Rabjohns, Llwyndrain 696

neuJudyMillican,Boncath611.

Gwen Mared o Drawsfynydd

a Dylan Wyn Rowlands o

Flaenau Ffestiniog.

MWY O LUNIAU'R

YL HAF

Coleg Prifysgol Gogledd

Cymni, Bangor

Adran Efrydiau Allanol

Cyrsiau i ddysgwyr o bob

safon

Dechreuwyr

LefelO

Tystysgrif/Lefel A

Gweithdy Trin Gwallt

Mae Siân Bell o Fryncrug yn patatoi ar gyfer rhoi 'Blow Dry' i Nan Brocklebank,

myfyrwraig yng Ngholeg Harlech.

Ym mhob rhan o Wynedd a

Chlwyd o ddiwedd Medi

Manylion: Elwyn Hughes

0248 351151

Mae'r holl lyfrau a

thapiau

ar gyfer dysgwyr

ar gael yn

SIOP Y PETHE

ABERYSTWYTH

(0970)671120

Gwasanaeth post.

Gweithdy Garddio gyda Llew Huxley

'Beth ydy'r Gymraeg am 'gravel?' gofynnodd Llew - a'r ateb? - GRAEAN

Un o'r gweithgareddau i blant.

Plant a'u mamau yn mwynhau sesiwn canu gyda Ben Riddler aTony Hodgson

o Ddolgellau.

Os ydych chi'n siarad

tipyn bach o Gymraeg

ond eisiau gwella

(irnprove), mae

dosbarthiadau o bob lefel

yn Nwyrain Dyfed a

Gorllewin Morgannwg.

Am fanylion pellach,

cysylltwch â -

Helen Prosser, Adran

Addysg Oedolion, T

Hendrefoelan, Sgeti,

Abertawe SA2 7NB

(0792) 20231

PENWYTHNOS GWEITHGAREDDAU

Ar ôl llwyddiant y penwy th no s y n

Niffwys ger Tregaron y llynedd,

roedd dau gyfle i ymweld â 'r

ganolfan eleni, - mis Mai a mis

Mehefin.

Daeth 25 o bobl i'r penwythnos

ym mis Mai. Cawson ni groeso

cynnesganAlun ajan, aoeddyn

gyfrifol am drefnu rhai o'r

gweithgareddau.

AWYR AGORED

Doeddwn i ddim wedi bod yn

dringo o'r blaen, ond dan

arweiniad Alun, teimlaisyn hollol

ddiogel. Hyd yn oed pan oedd

rhaid i mi abseilio i lawr!

Cawson ni adloniant anffurfíol

gyda'r nos, ac roedd cyfle i bawb

ymuno i mewn - canu, dweud

Jocs, ac adrodd, wrth gymryd

rhan mewn 'Eisteddfod'.

'Roedd amrywiaeth o

weithgareddau ar gael ar y ddau

benwythnos - canwio, cerdded,

dringo ac abseilio, cyfeiriannu a

saethyddiaeth. Dw i'n siwr bod

pawb yn edrych ymlaen at

benwythnos yn nghanolfan

Difí ys y flwyddyn nesa.

Robert Davies

Crughywel

Aelodau anturiaethus GYD yn barod i fyndam dro gyda Siôn Meredith, Mis Mehefin

YSGOLORIAETH CYD 1990

Mae £480 wedi cael ei rannu rhwng

12 o bobl ar gyfer ysgoloriaethau

CYD hyd yn hyn eleni.

Er mai £150 oedd yn cael ei gynnig

yn wreiddol, daeth rhagor o arian i

law ac fe gafodd yr arian i ei rannu

i bobl sy'n mynd ar gyrsiau haf a

chyrsiau dwys yn y gaeaf, ac i bobl

sydd yn mynd i brynu llyfrau

Cymraeg.

Bydd rhagor o fanylion yn y rhifyn

nesaf o Cadwyn CYD.

Jà e n

Y dîfyr a'r diddorol a'r doniol

o bob cwr o Gymru

mewn Cymraeg clir a syml

NOS IAU AM 7.30 AR S4C

Ail ddarllediad amser cinio dydd Sul

10

DAYID GOODMAN

GREGYNOG. Y DRENEWYDD, POWYS

Saif plasty Fictorianaidd Gregynogynghanol stad hardd

0 750 o aceri, rhyw bum milltir i'r gogledd o'r Drenewydd

1 gyfeiriad Llanfair Caereinion. Yn eiddo i Briíýsgol Cymru,

caiff ei ddefnyddio'n helaeth trwy gydol y flwyddyn ar

gyfer amrywiol gynadleddau dyddiol a phreswyl, ac ar

gyfer gwaith ymchwil unigol. Ceir yma heíyd nifer o

gyfleusterau hamdden a digon o rodfeydd natur diddorol

i'w darganfod o gwmpasy stad. Os hoffech ddod i aros yng

Ngregynogyn ystod misoedd yr haf, i astudio neu ymlacio,

mae croeso i chi gysylltu â'r Warden ar 0686 650224.

YNSICRHAU

DYFODOL

I'R IAITH

Hwyl fawr i Eisteddfod

Genedlaethol Cwm Rhymni

Diolch i'r dysgwyr am eu

diwydiwydd. Daliwch at i!

Bwrdd yr Iaith Gymraeg

Cwrl y Groes Hir

47 Heol Casnewydd

Caerdydd CF2 ÎAD

Ffôn: (0222) 488745

Ffacs: (0222) 492252

STORIAU - POSAU - LLIWIO

CWISIAU - DYSGU CYMRAEG

BLE?

YNG NGHYLCHGRONAU'R

URDD

Archebwch eich copi personol nawr o

Adran Cylchgronau, Swyddfa'r Urdd, Aberystwyth,

Dyfed

Dymunaf archebu lOrhifynamflwyddynac

amgaeaf y tâl priodol.

bOc

hüc

(Dodwch

ENW

CYFEIRIAD

BORE DA (£7.00 yn cynnwys

pacio phostio) Dysgwyr Cynradd

MYND (£7.00 yn cynnwys pacio

a phostio) Dysgwyr

Uwchradd/Myfyrwyr TGAU

yn y lle priodol).

TRIP I LYDAW?

Byddwn yn cyhoeddi

manylion yn y rhifyn nesaf o

Cadwyn CYD ynglyn â thrip

CYD i Iwerddon yn y

gwanwyn. Ond mae nifer o

aelodau wedi galw yn

ddiweddar ar CYD i drefnu

trip i Lydaw. Beth yw eich

barn chi ynglyn â hynny? Os

oes gennych chi syniadau

yngl n â llefýdd i aros

ynddyn, llefydd i'w ymweld

â hwy, a phobol yn Llydaw y

dylid cysylltn â hwy, ac

unrhyw awgrymiadau eraill

ar gyfer trip i Lydaw,

cysylltwch a Mary Davies

Cadeirydd CYD yn y

Swyddfa yn Aberystwyth.

ABER

REMOVALS

Perchennog: MIKE SMITH

Dodrefn T a

Masnachol

Clirio Tai

AMCAMGYFRIF AM DDIM —

7DIWRN0D

Ffôn: Crosswood (09743) 447

ABERYSTWYTH

BYW YN NYFED?

TREFNU NOSON?

Os ydych am help i drefnu noson yn rhaglen y

gaeaf, yna cysylltwch ag Adran Gwasanaethau

Diwylliannol Dyfed!. Yn ogystal â threfnu

gweithgareddau mewn ysgolion a llyfrgelloedd mae

Llyfrgellwyr Gweithgareddau Dyfed yn barod iawn

i gynorthwyo canghennau lleol CYD. Gallwn drefnu

Cwis Llyfrau; Cwis Gwybodaeth Gyffredinol; Cwis

ar Gymru; Cwis S4C a Radio Cymru; Cwis ar y Beibl

neu Gwis Chwaraeon ar eich cyfer. Yr ydym yn

noddi ymweliad gan siaradwr, gan gynorthwyo

gyda'r trefniadau a thalu cydnabyddiaeth i'r person

gwadd.

Am fwy o wybodaeth yngl n â'r cynllun hwn

cysylltwch â:

Mrs. Elonwy Phillips,

Uwch Lyfrgellydd Gweithgareddau,

Llyfrgell Dyfed,

Stryd San Pedr,

Caerfyrddin,

Dyfed. SA31 1LN

Ffon; (0267) 233333 Est. 4856

Dyma Rai o Gyhoeddladau Sain

Learn Welsh the Catchphrase way:-

CATCHPHRASE1.

Packoftwocassettes

pluscoursebookfor

beginners

£29.50

(P4P£2)

SAYITINWELSH

Cassette and booklet of

simple Welsh phrases and

pronunciation

£3.99

(P4P50p)

Sain, Uandwrog,

CATCHPHRASE2.

Packoftwocassettes

pluscoursebook.

Advanced course

£29.50

(P&PE2)

ABCOFWELSH

Pack of four cassettes plus

coursebook.Anexcellent

collection of exercises

basedontheCatchphrase

method

£24.50

(P&PE2)

Caernarfon 0288 831111

GWASANAETH POST/MAIL ORDER SERVICE

I would like to order

I enclose a cheque/postal order for

Please debit my access/visa number

to the sum of I saw your advertisement in

Name

Address

expiry date

Pob lefel

CLWYD

Ym mhob cwr o'r Sir

Manylion pellach: IoanTalfryn, Y Rhyl 331609,

ac Eira Davies, Wrecsam 290390

CANOLFAN IAITH CLWYD

Y ganolfan iaith sirol gyntaf yng Ngymru.

Yn agor ym mis Medi

Mae angen cymorth arnom i addurno, hel

defnyddiau, achodiarían. Oshoffech einhelpu,

ffoniwch David Jones (Cadeirydd), Dinbych

3402 neu Ioan Talfryn.

CYD

CASTELL NEDD

RHAGLEN 1990/91

11

4ydd Awst (dydd Sadwrn) Tro i Eisteddfod Cwm

Rhymni.Cwrdd ym

Mhabell y Dysgwr am

2 o'r gloch.

8fed Medi (Dydd Sadwrn) TaithCerdded dan arwainaii

MaryGalpin. Cwrdd ym

Maes Parcio Craig y Nos

am 10.30 a.m.

Dewch â bwyd am bicnic.

3ydd Hydref (Nos Fercher) Whist Drive yn y Ddraig

Cadoxton. Cwrdd am 8 o'r

gloch.

7fed Tachwedd (Nos Fercher) Ymweliad â'r Orsaf Dân,

Abertawe yng nghwmni

Owen. Cwrddam6.30p.m.

tu allan yr Orsaf Dân, Heol

Alexandra, Abertawe.

Mae croeso i chi ddod a'ch teulu i unrhyw un o'r cyfarfodydd

uchod. Ar wahân i'r cyfarfodydd ar y rhaglen hon, mae criw

yn cwrdd am sgwrs yn y Ddraig Werdd bob Nos Lun tua

8.30p.m. Mae croeso i chi ymuno â nhw.

12

CYD

MUDIAD SY'N DOD A

CHYMRY CYMRAEG A

DYSGWYR YNGHYD

YN Y GYMRAEG

CANOLFAN IAITH GENEDLAETHOL

NANT GWRTHEYRN

Llithfaen

Pwllheli

Gwynedd LL53 6PA

Cyrsiau aml-lefel trwy'r flwyddyn

Croeso i unigolion, grwpiau a

theuluoedd (tiwtoriad am ddim)

Gofynnwch am gopi o'r rhaglan

newydd.

YMUNWCH AG

m

PRIF SWYODFA

üCAC. ?sn Roc. Rhodfa r Môr. Aberystwyth

DROS

GYFUNDREFN

ADDYSG

ANNIBYNNOL I

*Gweithgaredd difyr a chyffrous...

*Ar gyfer clybiau a chymdeithasau

sy'n cyfarfod yn Gymraeg...

*Cyfle i lanw noson i'ch gr p

neu'ch cymdeithas chi...

*Ar gael trwy Gymru...

*Di-Dâl... Am wybod mwy?

Llenwch y ffurflen isod a'i danfon at:

Menter a Busnes, Parc Gwyddoniaeth

Aberystwyth,Dyfed. SY23 3AH

Swyddl»

T r Cymry. 11 Heol Gorcton, Caerdydd

Enw:

Cymdeithas:.

Cyfeiriad:

Rhif Ffôn:.

Cefhogwyd gan: Awdurdod Datblygu Cymru a Bwrdd Datblygu Cymru Wledig

Argreffìr "Cadwyn CYD" gan Argraff yr Y Waun, Y Waun, Wrecsam, Clwyd. Ffôn 0691 773911

Hooray! Your file is uploaded and ready to be published.

Saved successfully!

Ooh no, something went wrong!